Pwyllgor Trwyddedu dogfennau , 16 Ionawr 2006

Pwyllgor Trwyddedu
Dydd Llun, 16eg Ionawr, 2006

PWYLLGOR TRWYDDEDU

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Ionawr, 2006

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd John Arthur Jones (Cadeirydd)

 

Y Cynghorwyr P J Dunning, J Arwel Edwards, R L Owen,

G O Parry MBE, W T Roberts, H Noel Thomas.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol (RJ)

Cyfreithiwr (JGR)

Prif Swyddog Safonau Masnach (DR)

Uwch Swyddog Safonau Masnach (DO)

Swyddog Pwyllgor (JMA)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr O Glyn Jones, Bryan Owen, John Williams.

 

 

 

 

Rhoes y Cadeirydd groeso i'r Aelodau a'r Swyddogion i'r cyfarfod cyntaf o'r Pwyllgor Trwyddedu yn 2006 a manteisiodd ar y cyfle i groesawu'r Cyfreithiwr sydd newydd ei benodi, Mr John Gwynedd Roberts, i'w gyfarfod cyntaf o'r Pwyllgor.  Bydd Mr Roberts yn ymgynghorydd i'r Pwyllgor hwn.  Hefyd, diolchodd y Cadeirydd i Reolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol am ei arweiniad a'i gyfraniad ardderchog fel ymgynghorydd i'r Panelau Trwyddedu.

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb gan nac Aelod na Swyddog.

 

2

COFNODION

 

Cadarnhawyd a llofnodwyd cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 10 Mai, 2005 fel rhai cywir o'r cyfarfod.  (Cyfrol y Cyngor 20.09.2005, tudalennau 89 - 91).

 

3

MATERION TRWYDDEDU

 

Cyflwynwyd i'w ystyried - adroddiad gan yr Uwch Swyddog Safonau Masnach yn rhoi gwybod i'r Pwyllgor Trwyddedu am y gwaith a wnaed gan y Cyngor mewn perthynas â Deddf Drwyddedu 2003.

 

Yn yr adroddiad, cafwyd manylion ynghylch y cefndir a'r prosesau yr ymgymerwyd â nhw mewn perthynas â Deddf Drwyddedu 2003.  Nododd yr aelodau mai ychydig iawn o geisiadau a dderbyniwyd tan yr ychydig wythnosau diwethaf o'r cyfnod trawsnewidiol er bod y broses wedi cychwyn ar 7 Chwefror 2005.  Rhoddodd hyn straen anferthol ar bawb fu'n ymwneud â'r broses.  Cafwyd rhuthr tebyg o geisiadau yn yr wythnosau'n arwain at y dyddiad cychwyn o 24 Tachwedd 2005 wrth i berchenogion sefydliadau trwyddedu geisio sicrhau eu bod yn cydymffurfio gyda'r holl ofynion.

 

Dyma'r manylion am y trwyddedau eiddo:

 

I.   Addasu eiddo yn unig                                            150

 

II.  Addasu ac amrywio'r trwyddedu eiddo                    92

 

III. Ceisiadau newydd am drwyddedau eiddo               33

 

 

 

Cyfanswm y Trwyddedau Eiddo                                  275

 

 

 

IV. Addasu Trwyddedu Clwb yn unig                                 11

 

V.  Addasu ac Amrywio Trwydded Clwb                        10

 

VI. Ceisiadau am Drwyddedau Eiddo Clwb Newydd       0

 

 

 

 

 

 

 

Cyfanswm y Trwyddedau Eiddo Clwb                        21

 

 

 

Manylion am Drwyddedau Personol:-

 

 

 

VII.  Addasu Trwyddedau Personol yn unig                     300

 

VII. Trwyddedau Personol Newydd                                  33

 

 

 

Cyfanswm y Trwyddedau Personol                            333

 

 

 

O dan 24 Tachwedd, daeth system newydd o drwyddedu digwyddiadau achlysurol i rym.  Gellir rhyddhau Rhybuddion o Ddigwyddiadau Dros Dro hyd leiafswm o 10 niwrnod ymlaen llaw a rhaid i'r asiantaethau sy'n gysylltiedig weithio i amserlen dynn iawn.  Hyd yma, mae'r Cyngor wedi derbyn 14 o rybuddion - ar gyfer cyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd yn bennaf.

 

 

 

Daethpwyd i'r casgliad yn yr adroddiad bod y rhan fwyaf o'r tafarndai ar Ynys Môn wedi ychwanegu at eu horiau i raddau ond dim ond un ty tafarn ac un siop gwerthu alcohol sydd wedi cael trwyddedau 24 awr.  Parheir i dderbyn ceisiadau am drwyddedau amrywio wrth i bobl a busnesau altro ac adolygu eu hymarferion busnes dan y ddeddfwriaeth newydd.  Mynegwyd pryderon gan y diwydiant bod y broses yn rhy fiwrocrataidd tra bod cymunedau yn dadlau nad oedd digon o sylw'n cael ei roddi i'w pryderon.  Disgwylir am adolygiadau'r Llywodraeth gyda diddordeb.

 

 

 

O safbwynt Materion Gorfodaeth, mae'r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth gyda'r Awdurdodau Lleol eraill yng Ngogledd Cymru a chyda'r asiantaethau perthnasol.  Bellach, mae'r Awdurdod wedi paratoi Memorandwm o Ddealltwriaeth ar faterion Gorfodaeth sy'n cynnwys swyddogaeth pob asiantaeth dan y Ddeddf Drwyddedu ynghyd â disgrifio'r dull o drosglwyddo manylion a gwybodaeth i'r holl bartïon.

 

 

 

Ar gyfer y dyfodol, mae'r Adain Drwyddedu yn awr yn gweithio gydag adrannau eraill yn yr Awdurdod e.e. Addysg, gan gynnig cyngor a chymorth mewn perthynas â'r eiddo sydd ym mherchenogaeth y Cyngor a'r gofynion posibl o safbwynt trwyddedu.

 

 

 

Mewn perthynas â goblygiadau ariannol y Swyddogaeth Drwyddedu, mae'r sefyllfa'n cael ei monitro'n agos a bydd adroddiad diwedd blwyddyn yn cael ei gyflwyno yn y man.  

 

 

 

Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn teimlo bod y Pwyllgor Trwyddedu a'r Panelau Trwyddedu wedi cyflawni eu swyddogaethau yn dda iawn.  Roedd y protocol a fabwysiadwyd wedi bod o gymorth i sicrhau bod penderfyniadau teg a rhesymol yn cael eu gwneud.  Roedd yn croesawu'r ffaith nad oedd yr un gwyn wedi dod i law hyd yma ynglyn â'r trwyddedau newydd.  Diolchodd y Cadeirydd i'r holl aelodau, yn arbennig felly'r Cynghorwyr Peter Dunning a Denis Hadley am gadeirio'r Panelau Trwyddedu a oedd yn ymwneud â cheisiadau yn ei ward ef.  Yn ogystal, diolchodd i'r holl Swyddogion am eu gwaith, gan gynnwys staff yr unedau Trwyddedu, Cyfreithiol a Phwyllgorau.

 

 

 

4

PANELAU TRWYDDEDU

 

 

 

Cyflwynwyd i'w ystyried - adroddiad gan y Prif Swyddog Safonau Masnach yn rhoi gwybod i'r Pwyllgor am y gwrandawiadau trwyddedu a gynhaliwyd hyd yma dan Ddeddf Drwyddedu 2003.

 

 

 

Dygodd y Swyddog sylw at y weithdrefn a'r prosesau cysylltiedig a dywedodd, ers 7 Chwefror 2005, bod bron i 50% o'r ceisiadau perthnasol a dderbyniwyd gan y Cyngor wedi arwain at sylwadau gan un neu ragor o'r awdurdodau perthnasol neu'r partïon â diddordeb.  Drwy broses o gyfryngu, cafodd y rhan fwyaf o'r sylwadau naill ai eu tynnu'n ôl drwy ddiwygio'r cais neu drwy gytuno ar amodau i'w pennu ar y Drwydded.  

 

 

 

Fodd bynnag, ni fu modd i'r partïon dan sylw gytuno ar nifer o geisiadau ac arweiniodd hynny at 31 o wrandawiadau ffurfiol a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod rhwng Gorffennaf a Thachwedd.  Yn dilyn y gwrandawiadau, derbyniwyd 5 rhybudd o apêl yn ymwneud â thri chais gwahanol, fodd bynnag, yn y pen draw tynnwyd 4 ohonynt yn ôl a chafodd yr un olaf ei ailgyfeirio i ailwrandawiad gyda chaniatâd yr holl bartïon dan sylw.

 

 

 

Diolchodd y Swyddog i'r Cadeirydd ac Aelodau'r Panel ynghyd â staff yr Adeiniau Pwyllgorau, Cyfieithu a Chyfreithiol am eu gwaith caled a'u cyfraniad i sicrhau bod y broses wedi rhedeg yn llyfn ac yn effeithlon.  

 

 

 

Dygwyd sylw yn yr adroddiad at y ffaith y gallai cwynion yn erbyn gweithgareddau cyfredol mewn eiddo trwyddedig greu'r angen am "adolygiadau" - proses sy'n ymwneud ag adolygu amodau trwyddedu gan yr is-bwyllgor trwyddedau.  Mae'n bosibl hefyd y bydd angen cynnal gwrandawiadau i ddelio gyda Rhybuddion o Achlysuron Dros Dro ac oherwydd yr angen i drefnu Panel mewn cyfnod byr iawn o amser, efallai y bydd raid i aelodau fynychu cyfarfod ar fyr rhybudd.  Diolchodd y Swyddog i'r Aelodau ymlaen llaw am eu cydweithrediad i sicrhau bod y broses yn rhedeg yn llyfn.

 

 

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Aelodau a'r Swyddogion am fod yn bresennol gan ddatgan bod y Pwyllgor ar ben.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

JOHN ARTHUR JONES

 

CADEIRYDD