Pwyllgor Trwyddedu dogfennau , 9 Mai 2006

Pwyllgor Trwyddedu
Dydd Mawrth, 9fed Mai, 2006

PWYLLGOR TRWYDDEDU

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mai 2006

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd John Arthur Jones (Cadeirydd)

 

Y Cynghorwyr J. Arwel Edwards, R. L. Owen, H. Noel Thomas, John Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Uwch Swyddog Safonau Masnach (DR);

Prif Swyddog Safonau Masnach (DO);

Swyddog Pwyllgor (JMA);

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr John Byast, Dennis Hadley, O. Glyn Jones, Bryan Owen, G. O. Parry MBE, W. T. Roberts.

 

 

 

 

1

DATGANIADAU O DDIDDORDEB

 

Ni wnaed yr un datganiad o ddiddordeb gan nac Aelod na Swyddog.

 

2

COFNODION

 

Cadarnhawyd a llofnodwyd cofnodion y cyfarfodydd isod fel rhai cywir :-

 

2.1

Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2006

(Cyfrol y Cyngor 02.03.2006, tudalennau 63-65)

 

2.2

Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 2 Mai 2006 (tudalen 53 y Gyfrol hon) - yn amodol ar newid, sef na fu pleidlais fwrw gan y Cadeirydd a bod y Cynghorydd John Arthur Jones wedi ei ethol fel Cadeirydd o 8 pleidlais i 7.

 

3

GWEITHGAREDDAU TRWYDDEDU

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Safonau Masnach adroddiad i'r Aelodau ar faich gwaith a pherfformiad yr Adain Drwyddedu.  'Roedd yr adroddiad yn dwyn sylw at y ffaith bod yr Awdurdod wedi bod yn brysur yn gweinyddu gofynion Deddf Trwyddedu 2003 ers canol 2004 pryd cychwynnodd y gwaith ymgynghori ar Ddatganiad yr Awdurdod o'r Polisi Trwyddedu.  Parhaodd y gwaith drwy'r dyddiad cyntaf ar gyfer ceisiadau ar 7 Chwefror 2005 i'r dyddiad ffurfiol pryd y daeth y trwyddedau i rym, sef 24 Tachwedd 2005.  Mae'r gwaith yn parhau hyd heddiw.

 

'Roedd y ffigyrau ar gyfer Ynys Môn am y cyfnod 7 Chwefror 2005 i 31 Mawrth 2006 yn dangos bod 396 o geisiadau wedi cael eu gwneud am amryfal drwyddedau neu amrywiadau ar drwyddedau.  Yn ogystal, 'roedd staff wedi ymweld â 608 o adeiladau.  Oherwydd bod y Panel Apêl wedi delio gydag apeliadau yn erbyn penderfyniadau'r Swyddogion, dim ond un apêl a gyflwynwyd yn erbyn penderfyniadau a wnaed gan y Panel.  'Roedd y mater hwnnw wedi ei gyfeirio'n ôl i'r panel apêl am ragor o drafodaeth ac fe gafodd y mater ei ddatrys yn gyfeillgar.

 

Dywedodd y Swyddog nad oedd yr oriau masnachu wedi newid mewn 50% o'r trwyddedau.  'Roedd eraill wedi gwneud cais i gael estyn eu horiau ar gyfer gwerthu alcohol, darparu bwyd ac/neu adloniant cyhoeddus.  Dim ond tri adeilad ar yr Ynys oedd wedi cael trwydded 24 awr.  'Roedd materion mewn perthynas â thrwyddedu ysgolion ac adeiladau cyhoeddus wedi cael sylw trwy ymgynghoriad eang gyda'r Adran Addysg a chymerwyd camau i sicrhau bod ganddynt y trwyddedau priodol.

 

 

 

Yn ogystal â'r trwyddedau a gyhoeddwyd a'r ymweliadau a wnaed gan swyddogion, 'roedd yr adran wedi delio gyda dros 1,800 o geisiadau am gymorth i lenwi ffurflenni cais.

 

 

 

Hyd yma, mae'n anodd asesu a yw'r oriau trwyddedu newydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol mewn perthynas ag ymyddigad gwrthgymdeithasol.  Fodd bynnag, mae'r arwyddion cychwynnol yn dangos gostyngiad yn nifer y digwyddiadau anhrefn cyhoeddus.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad, nodi'r cynnwys a llongyfarch yr adran ar y modd effeithiol y trosglwyddwyd i'r rheoliadau trwyddedu newydd.

 

 

 

4

PEIRIANNAU DIFYRION GYDA GWOBRAU

 

 

 

Cyflwynwyd i'w ystyried - adroddiad gan y Prif Swyddog Safonau Masnach yn rhoi gwybod bod y cyfrifoldeb am ryddhau trwyddedau Difyrion gyda Gwobrau (DGG) wedi cael ei drosglwyddo o'r Llys Ynadon i'r Awdurdod Trwyddedu yn dilyn cyflwyno Deddf Trwyddedu 2003.  Cyn hynny, nid oedd gan y Cyngor ond y grym i gyhoeddi trwyddedau ar gyfer peiriannau DGG gwerth is mewn arcedau difyrion.  Er bod rhyddhau trwyddedau yn parhau i fod yn swyddogaeth dan Ddeddf Hapchwarae 1968, rhoddir yr awdurdod i'r Pwyllgor Trwyddedu a sefydlwyd dan Ran 7 Deddf Trwyddedu 2003 i ddelio gyda cheisiadau am drwyddedau Adran 34.  Fodd bynnag, nid yw'r Amcanion Trwyddedu yn Neddf Trwyddedu 2003 yn berthnasol i ganiatáu trwyddedau Adran 34.

 

 

 

'Roedd yr adroddiad yn dwyn sylw at sawl math o beiriannau DGG (fe'u gelwir yn gyffredinol yn beiriannau 'fruit' neu 'slot') ac fe bwysleisiwyd, dan y trefniadau newydd, dim ond y sawl sydd â Thrwydded Eiddo ac sydd â bar ar gyfer gweini diod yn yr eiddo h.y. tafarndy, gwesty neu fwyty gyda bar fydd yn gallu gwneud cais am drwydded.

 

 

 

Yr unig amodau fedr yr awdurdod trwyddedu fynnu arnynt mewn trwydded ydy cyfyngu ar nifer y peiriannau neu gyfyngu ar leoliad y peiriannau ar sail achos fesul achos.  NId oes ganddo rym i wahardd peiriannau DGG mewn eiddo gyda thrwydded i werthu alcohol.

 

 

 

Cyn y newidiadau, 'roedd Ynadon yn dewis cyfyngu nifer y peiriannau i ddau fesul eiddo trwyddedig ac mae'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi awgrymu na ddylai'r awdurdod trwyddedu gynnal gwrandawiad mewn achos lle derbynnir cais newydd neu gais i adnewyddu trwydded am ddim rhagor na dau beiriant.

 

 

 

Lle derbynnir cais am ragor na dau beiriant, 'roedd yr adroddiad yn awgrymu y dylid cyfeirio'r cais i wrandawiad o'r Panel Trwyddedu ac arno dri aelod yn unol â'r trefniadau cyfredol dan Ddeddf Trwyddedu 2003.

 

 

 

Dygodd y Swyddog sylw at y ffaith y cafodd Deddf Hapchwarae newydd ei phasio yn Ebrill 2005 ac y daw i rym yn 2007.  Mae'n debygol y caiff y Ddeddf hon effaith ar y darpariaethau hyn a bydd adroddiadau pellach yn cael eu cyflwyno i'r Aelodau fel sy'n briodol.

 

 

 

PENDERFYNWYD

 

 

 

4.1

nodi mai'r Awdurdod Trwyddedu sy'n gyfrifol am ryddhau Trwyddedau DGG i eiddo trwyddedig.

 

 

 

4.2

rhoi awdurdod dirprwyedig i Swyddogion benderfynu ar geisiadau sy'n gofyn am ddim rhagor na dau beiriant.

 

 

 

4.3

rhoi awdurdod i'r Panelau Gwrandawiadau Trwyddedu benderfynu ar geisiadau sy'n gofyn am ragor na dau beiriant.

 

 

 

 

 

Y CYNGHORYDD JOHN ARTHUR JONES

 

CADEIRYDD