|
Gall Pwyllgorau Trwyddedu wedyn ddirprwyo
ymhellach i Is-Bwyllgor Trwyddedu a Swyddogion ac awgrymir cynllun
dirprwyo tebyg i'r un a ddefnyddiwyd mewn perthynas â Deddf
Trwyddedu 2003. Os derbynnir sylwadau ar gais byddai angen
cynnal gwrandawiadau yn debyg i'r rheini a gynhaliwyd dan Ddeddf
Trwyddedu 2003.
|
|
|
|
Bydd Awdurdodau Lleol yn gyfrifol am drwyddedu
adeiladau gamblo, caniatáu categori is o beiriannau gamblo a
chofrestru lotriau cymdeithasau sydd â gwobrau islaw lefel
benodol. Dygodd y Swyddog sylw at dri math o amod y gellir eu
cynnwys ar drwydded adeilad sef :
|
|
|
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Amodau'r awdurdod trwyddedu
|
|
|
Hyd yma, ni dderbyniwyd unrhyw gyllid o gwbl
gan y Llywodraeth ar gyfer gweithredu Deddf Trwyddedu 2005.
Mae hyn yn destun pryder mawr ac roedd y Swyddog yn ofni y
gallai hyn gael ei adael tan y funud olaf. Yn yr un modd, ni
chyhoeddwyd unrhyw ganllawiau mewn perthynas â phennu
ffioedd. Mae'r Llywodraeth yn ystyried y gellir cwrdd
â'r costau parhaus drwy'r ceisiadau cychwynnol a'r ffioedd
blynyddol (ar gyfer trwyddedau adeilad) a ffioedd ar gyfer
trwyddedau a chaniatadau eraill. Bydd ffioedd ar gyfer
trwyddedau adeilad yn cael eu pennu trwy gyfres o fandiau gydag
uchafswm penodedig ym mhob band. Bydd Awdurdodau Trwyddedu
wedyn yn gallu pennu eu ffioedd penodol o fewn y bandiau hyn, wedi
eu cyfyngu i adennill costau. Yr Ysgrifennydd Gwladol fydd yn
pennu'r ffioedd ar gyfer trwyddedau a gwasanaethau
eraill.
|
|
|
|
Dengys profiad a gafwyd o weinyddu Ddeddf
Trwyddedu 2003 bod trosglwyddo i system drwyddedu newydd yn rhoi
pwysau mawr ar adnoddau yn arbennig felly o safbwynt cynghori
busnesau ynghyd â'r broses weinyddol o dderbyn a chynhyrchu
trwyddedau newydd. Cyflwynir adroddiad pellach i'r Pwyllgor
gyda hyn i ddelio gyda materion adnoddau parhaol a dros dro y mae'r
awdurdod yn eu hwynebu ynghyd â materion yn ymwneud â'r
gyllideb pan fydd lefelau'r ffioedd yn hysbys.
|
|
|
|
Roedd yr amserlen a luniwyd yn pennu dyddiad
targed ar gyfer gweithrediad llawn o fis Medi 2007 wedi derbyn
ceisiadau am drwyddedau o Ionawr 2007 ar ôl i'r Cyngor Sir
gwblhau'r broses ymgynghori a mabwysiadu'r polisi yn Rhagfyr
2006.
|
|
|
|
Nid oedd y Swyddog yn gallu ateb cwestiynau
penodol mewn perthynas â Bingo Gwobr, Galwyr Bingo
Gwirfoddol, Ffioedd Loteri ac ati oherwydd na dderbyniwyd y
canllawiau a'r manylion. Dywedodd y bydd y wybodaeth hon ar
gael i'r aelodau unwaith y derbynnir y canllawiau a'r manylion.
Yn ogystal, mynegodd yr aelodau bryder ynghylch costau
gweithredu a rhedeg y gwasanaeth a chynigiwyd y dylid monitro'r
agwedd hon yn ofalus.
|
|
|
|
Diolchodd yr aelodau i'r Swyddog a'i Adran am
y gwaith sydd yn cael ei wneud gan nodi eu bod yn hyderus y byddai
Deddf Gamblo 2005 yn cael ei weithredu'n llyfn.
|
|
|
|
PENDERFYNWYD :
|
|
|
|
Ÿ
|
Nodi cynnwys yr adroddiad hwn gan gynnwys yr amserlen
gyfredol ar gyfer gweithrediad Deddf Gamblo 2005;
|
|
|
Ÿ
|
Gwahodd aelodau i gyflwyno unrhyw sylwadau ar Ddeddf
Gamblo 2005 i'r swyddog.
|
|
|
|
|
4
|
CANLYNIADAU AROLWG BODDHAD A GYNHALIWYD YMYSG
DEFNYDDWYR Y GWASANAETH TRWYDDEDU
|
|
|
|
|
|
Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Safonau Masnach adroddiad yn
amlinellu canlyniadau arolwg boddhad cwsmeriaid a gynhaliwyd gan yr
Adran i fesur lefel boddhad busnesau a oedd wedi defnyddio'r
Gwasanaeth Trwyddedu yn ystod y 12 mis diwethaf.
|
|
|
|
|
|
Ymatebodd 30% i'r holiaduron ac roedd y rhan fwyaf o'r
ymatebion hynny yn dangos bod 90% o'r busnesau yn fodlon gyda'r
gwasanaeth tra bod 100% ohonynt yn cytuno bod y swyddog wedi bod yn
gwrtais. Roedd y lefelau boddhad isaf ynghylch gwybodaeth
busnesau o'r drefn gwyno gorfforaethol a chydnabu'r swyddog bod
angen addysgu pobl ymhellach a ryddhau mwy o wybodaeth ar yr agwedd
hon.
|
|
|
|
|
|
Roedd y Pwyllgor yn croesawu'r ymateb cadarnhaol i'r
holiadur a diolchodd i'r swyddog am waith caled ei Adran ar adeg o
bwysau o ran gweithredu'r deddfwriaeth newydd.
|
|
|
|
|
|
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi'r
cynnwys.
|
|
|
|
|
5
|
Y DIWEDDARAF AR FATERION TRWYDDEDU
|
|
|
|
|
|
Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Safonau Masnach adroddiad byr
yn rhoi amcangyfrif o'r costau i'r Awdurdod o ran gweinyddu'r
Swyddogaethau Trwyddedu newydd. Pwysleisiodd mai
amcangyfrifon yn unig oedd y ffigyrau ac nad oeddynt wedi eu
cadarnhau gan Adran Gyllid y Cyngor.
|
|
|
|
|
|
Cytunodd yr aelodau y dylai'r Cyngor Sir ystyried ffyrdd o
gwrdd â chostau ychwanegol, efallai trwy godi'r ffioedd os
bydd raid.
|
|
|
|
|
|
PENDERFYNWYD nodi'r ffigyrau tybiedig ac annog Adran
Gyllid y Cyngor i un ai gymeradwyo neu newid y ffigyrau cyn gynted
ag y bo modd.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Nodi y cynhelir sesiwn hyfforddi ar gyfer aelodau'r
Pwyllgor hwn ar y cyfrifoldebau dan Ddeddf Gamblo 2005 ar 9
Tachwedd 2006 yn Swyddfeydd Cyngor Sir Gwynedd, Penrallt,
Caernarfon.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Y CYNGHORYDD JOHN ARTHUR JONES
|
|
|
|