Pwyllgor Trwyddedu dogfennau , 8 Mawrth 2007

Pwyllgor Trwyddedu
Dydd Iau, 8fed Mawrth, 2007

PWYLLGOR TRWYDDEDU

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mawrth, 2007

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd John Arthur Jones (Cadeirydd)

 

 

 

Y Cynghorwyr John Chorlton, Peter Dunning, J Arwel Edwards, Bryan Owen, R L Owen, G O Parry MBE, J Arwel Roberts,

W T Roberts, John Williams.

 

WRTH LAW:

 

Prif Swyddog Safonau Masnach (DO)

Swyddog Pwyllgor (JMA)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

J Byast, C L Everett, Dennis Hadley, O Glyn Jones.

 

 

 

 

Agorodd y Cadeirydd y cyfarfod trwy groesawu pawb a oedd yn bresennol a derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb fel y cânt eu rhestru uchod.  Dywedodd wrth y Pwyllgor fod y Cynghorydd Keith Thomas wedi'i enwebu i lenwi swydd wag Plaid Cymru ar y Pwyllgor.

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Ni wnaed yr un datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod na Swyddog.

 

2

COFNODION

 

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 10 Hydref 2006 fel rhai cywir. (Cofnodion y Cyngor 14.12.2006, tud 78 - 80)

 

3

DEDDF TRWYDDEDU 2003

 

Cyflwynwyd i'w ystyried - adroddiad gan y Prif Swyddog Safonau Masnach yn rhoi gwybod i'r Cyngor am ddatblygiadau mewn perthynas â Deddf Trwyddedu 2003, gan gynnwys adolygiadau annibynnol o lefelau ffioedd a bennwyd yn genedlaethol a newidiadau i'r Canllawiau Cenedlaethol sy'n mynd gyda'r Ddeddf.

 

Yn dilyn gweithredu Deddf Trwyddedu 2003 yn llawn dechreuodd yr Adran ar gyfer Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon adolygiad dau gam o'r Canllawiau a gyhoeddwyd dan Adran 182 y Ddeddf.

 

Roedd rhan gyntaf yr adolygiad yn canolbwyntio ar egluro neu ychwanegu at y Canllawiau ac roedd yn cynnwys nifer o fân-newidiadau yn ogystal ag eglurhad ar faterion fel rôl Goruchwylwyr Adeiladau Dynodedig, Cynlluniau, Rhybuddion Digwyddiadau Dros Dro a'r angen i gynnal gwrandawiadau yn dilyn cyfryngu.  Daeth y Canllawiau newydd hyn i rym ym Mehefin 2006.

 

Ymghorir yn llawn gyda'r cyhoedd yn awr ynghylch ail gam yr adolygiad ac mae'n rhoi sylw i faterion fel egluro rôl Cynghorwyr yn y broses drwyddedu.  Gellir gweld copi o'r canllawiau diwygiedig yn

 

http://www.culture.gov.uk/Reference_library/Publications/archive_2006/reviseguide_section 182.htm.

 

 

 

Cyhoeddodd Panel Adolygu Annibynnol a benodwyd gan y Llywodraeth i adolygu Ffioedd Trwyddedu ei adroddiad terfynol yn mis Ionawr 2007 ac roedd yn casglu bod Awdurdodau Lleol wedi gwario mwy na'r hyn yr oeddynt wedi'i dderbyn o ffioedd trwyddedu yn ystod y 3 blynedd cyntaf.  Yn ogystal, roedd yn tynnu sylw at y ffaith bod y rheini a oedd yn talu ffi wedi cael costau uwch nag a ragwelwyd.  Roedd y panel ffioedd yn argymell y dylai'r ffioedd godi 7% am y cyfnod tair blynedd o 07/08 ac y dylid mireinio'r holl broses drwyddedu.  Yn ogystal, o'r diffyg cenedlaethol yn y gyllideb i awdurdodau lleol, dylai'r Llywodraeth ysgwyddo 20% neu £43 miliwn gyda'r awdurdodau lleol yn cwrdd â'r gweddill (£54 miliwn).  Mae'r Llywodraeth yn dweud ei bod yn croesawu'r adroddiad ac y byddant yn hystyried ei hymateb.  Mynegodd yr aelodau bryder ynghylch y ffaith bod y Llywodraeth yn rhoi mwy o ddyletswyddau i'r Cyngor i ddarparu gwasanaethau heb ryddhau arian ar eu cyfer.  Cyfeiriwyd at wahaniaeth rhwng y Ddeddf Drwyddedu a'r Rheoliadau Cynllunio ac eglurodd y Swyddog y sefyllfa fel ymateb i gwestiwn a godwyd gan Aelod o'r Pwyllgor ynghylch newid defnydd yn ôl-ddyddiol.

 

 

 

PENDERFYNWYD diolch i'r Swyddog am ei adroddiad a nodi’r cynnwys.

 

 

 

4

DEDDF HAPCHWARAE 2005

 

 

 

Dywedodd y Prif Swyddog Safonau Masnach y daw Deddf Hapchwarae 2005 i rym ar 1 Medi 2007.  Paratowyd datganiad drafft ar gyfer Ynys Môn a bu'n destun ymgynghori trwy gydol Hydref 2006.  Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, cyflwynwyd adroddiad i'r Pwyllgor Gwaith ar 20 Tachwedd a chymeradwywyd y drafft terfynol gan y Cyngor Sir ar 14 Rhagfyr 2006 ac fe gafodd ei gyhoeddi yr wythnos wedyn.   Y dyddiad diweddaraf ar gyfer cychwyn y cyfnod trosglwyddo yw 21 Mai 2007 sy'n rhoi 3 mis o rybudd o’r pryd y gwneir y Rheoliadau fel bod modd rhoi cyngor i'r ymgeiswyr.  Mae copïau o'r drafft terfynol ar gael gan y Prif Swyddog Safonau Masnach.

 

 

 

Er yr ymddengys bod rhywfaint o ddyblygu trefniadau gwrandawiadau rhwng Deddf Trwyddedu 2003 a Deddf Hapchwarae 2005, bwriedir paratoi trefniadau ar wahân dan Ddeddf Hapchwarae 2005.  Cyflwynir y trefniadau i'r Pwyllgor hwn gyda hyn unwaith y bydd y canllawiau wedi'u cynnwys gan LACORS.

 

 

 

Mewn perthynas â phennu ffioedd, nodwyd mai'r Cyngor Sir fyddai'n gwneud y penderfyniad terfynol gan gadw mewn cof gwir gost prosesu a delio gyda cheisiadau.  Mae rhai Cynghorau wedi pennu'r ffi uchaf, fodd bynnag, byddai'n rhaid darparu tystiolaeth i gyfiawnhau gwneud hynny.  Wrth gyhoeddi trwydded, roedd yr aelodau yn teimlo, mewn rhai achosion, y byddai cwmnïau yn gallu elwa'n ariannol i raddau sylweddol iawn a dylid cymryd hynny i ystyriaeth wrth bennu'r ffioedd er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn cael ei ddigolledu'n briodol am ei gostau.

 

 

 

Mynegwyd pryder gan yr Aelodau y gallai'r ffioedd a godir dan y Drwydded Lotrïau Bychan godi a thynnwyd sylw at y ffaith mai gwirfoddolwyr sy'n ceisio codi arian yn lleol ar gyfer achosion da yw lotrïau bychan o'r fath fel arfer.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi'r sylwadau a wnaed gan yr Aelodau.

 

 

 

5

CYFLWYNIAD

 

 

 

Cafwyd cyflwyniad byr gan y Prif Swyddog Safonau Masnach ar y Ddeddf Hapchwarae gan gynnwys gwybodaeth ynghylch Amcanion Trwyddedu, y Drefn Drwyddedu Newydd, Rôl y Comisiwn Hapchwarae a'r Awdurdod Trwyddedu ynglyn â'r manylion ynghylch Trwyddedau Adeiladau, Egwyddorion, Ceisiadau, Sylwadau, Penderfyniadau ac Amodau Trwydded.  Yna cafwyd senario "chwarae rôl" mewn perthynas â gwrandawiad i gais "ffug" am Ganolfan Hapchwarae i Oedolion fel bod modd rhoi cyfle i'r Aelodau ystyried gwahanol agweddau ar gais a phenderfynu arnynt.

 

 

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Aelodau a'r Swyddogion am fod yn bresennol ac fe gaeodd y cyfarfod am 3:35 p.m.

 

 

 

 

 

 

 

Y CYNGHORYDD JOHN ARTHUR JONES

 

CADEIRYDD