Pwyllgor Trwyddedu dogfennau , 9 Hydref 2007

Pwyllgor Trwyddedu
Dydd Mawrth, 9fed Hydref, 2007

PWYLLGOR TRWYDDEDU

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Hydref, 2007 

 

PRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J.Arthur Jones (Cadeirydd)

 

Y Cynghorwyr J.Byast; J.A.Edwards; R.Ll.Hughes;

R.Ll.Jones; John Williams

 

 

 

WRTH LAW:

 

Prif Swyddog Safonau Masnach;

Uwch Swyddog Safonau Masnach;

Swyddog Gwasanaethau Pwyllgor (JMA)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr P.J.Dunning; O.Glyn Jones; G.O.Parry MBE;

J.Arwel Roberts; W.T.Roberts;

 

 

 

 

 

 

 

 

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb gan nac Aelod na Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y Rhaglen.

 

2

COFNODION

 

2.1      Cadarnhawyd a llofnodwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2007.

        (Cofnodion y Cyngor 01.05.2007, tud 59 - 60)

 

2.2      Cadarnhawyd a llofnodwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Mai 2007.

         (Cofnodion y Cyngor 18.09.2007, tud 35)

 

3

DEDDF TRWYDDEDU 2003

 

Cyflwynwyd er gwybodaeth, adroddiad yn rhoi gwybod i’r Pwyllgor am yr ymgynghori cyfredol ar yr adolygiad tair blynedd statudol o Ddatganiad y Cyngor o Bolisi Trwyddedu.

 

Dywedodd yr Uwch Swyddog Safonau Masnach bod raid i’r Cyngor baratoi a chyhoeddi datganiad o’i bolisi trwyddedu bob tair blynedd.  Daw’r polisi cyfredol i ben ym mis Ionawr 2008 ac o’r herwydd, rhaid ei adolygu.

 

 

Mae nifer o fân newidiadau wedi cael eu gwneud i’r polisi cyfredol yn wyneb newidiadau i’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau statudol ac mae’r rhain wedi cael eu cynnwys mewn datganiad diwygiedig drafft o bolisi trwyddedu.  Mae’r Awdurdod ar hyn o bryd wrthi’n ymgynghori gyda nifer o bartïon yn seiliedig ar y ddogfen ddrafft a’r dyddiad cau ar gyfer derbyn sylwadau yw 29ain Hydref  2007.  Yn dilyn hyn, bydd adroddiad a dogfen ddiwygiedig yn cael eu cyflwyno i Bwyllgor Gwaith y Cyngor ac yna i’r Cyngor Sir yn Rhagfyr 2007.

 

 

 

Cafodd yr Aelodau’r cyfle i ofyn cwestiynau i’r Uwch Swyddog Safonau Masnach i bwrpas cael eglurhad ar y polisi.  Diolchodd yr Aelod Portffolio i’r Swyddog am y modd effeithlon a llwyddiannus y mae o wedi delio gyda’r holl faterion Trwyddedu.

 

 

 

PENDERFYNWYD:

 

 

 

3.1

nodi bod y cyfnod ymgynghori’n mynd yn ei flaen;

 

3.2

bod y Pwyllgor yn derbyn y Polisi diwygiedig fel rhan o’r broses ymgynghori.

 

 

 

4

DEDDF TRWYDDEDU 2003 - CANLLAWIAU DIWYGIEDIG

 

 

 

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Safonau Masnach adroddiad er gwybodaeth ar y canllawiau diwygiedig a ryddhawyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dan Adran 182 Deddf Trwyddedu 2003 a dygodd sylw at y ffaith ei bod hi’n bwysig i Aelodau gymryd y canllawiau hyn i ystyriaeth wrth wneud penderfyniadau dan Ddeddf Trwyddedu 2003.

 

 

 

Rhyddhawyd y canllawiau gwreiddiol ym mis Gorffennaf 2004 ac roedd y rhain, ynghyd â ddeddfwriaeth, yn sylfaen i weithredu a chynghori dan y Ddeddf.  Cafwyd sawl beiriniadaeth yn cynnwys y casgliad bod gormod o bwyslais ar bwysigrwydd ymestyn oriau ac nad oedd digon o sylw’n cael ei roddi i sylwadau’r cymunedau lleol mewn achosion o’r fath.  O ganlyniad, gwnaeth y Llywodraeth ymrwymiad i adolygu’r canllawiau yn fuan a chyhoeddwyd canllawiau diwygiedig yn haf 2006 a mis Mehefin 2007.  Dywedodd y Cadeirydd bod y Panelau Trwyddedu, yn ei farn o, wedi rhoddi sylw teg i’r holl faterion gan roddi ystyriaeth i’r ddwy ochr a hynny’n unol â’r pedwar amcan trwyddedu.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn y canllawiau diwygiedig a chyfredol a nodi mewn achosion lle mae paragraffau penodol yn y canllawiau yn berthnasol i geisiadau unigol sy’n cael eu hystyried mewn Gwrandawiadau o’r Panel, bydd manylion am y canllawiau perthnasol hynny yn cael eu hanfon allan fel rhan o’r Adroddiad ym mhob achos.

 

 

 

5

DEDDF HAPCHWARAE 2005

 

 

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Safonau Masnach ei adroddiad yn rhoi i’r Aelodau y manylion diweddaraf ar gynnydd yr Awdurdod mewn perthynas â’r cyfnod trosiannol a gweithredu Deddf Hapchwarae 2005 a ddaeth i rym yn llawn ym mis Medi 2007.

 

 

 

Cafwyd amlinelliad yn yr adroddiad o’r mathau o drwyddedau adeiladau sydd wedi eu cynnwys yn y Ddeddf ynghyd â mater rhyddhau trwyddedau a chofrestriadau.  Hyd yn hyn, mae’r adran wedi derbyn ceisiadau trosiannol ar gyfer 6 o siopau betio ac un drwydded adeilad bingo. Mae’r Adran hefyd yn derbyn nifer o geisiadau am drwyddedau ar gyfer peiriannau betio mewn tafarndai a cheisiadau i gofrestru lotrïau newydd.  Bydd angen gwneud ychwaneg o waith ar y lotrïau bychain ym mis Rhagyr oherwydd bydd rhaid addasu’r holl gofrestriadau lotri.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r cynnwys.

 

 

 

6      DEDDF HAPCHWARAE 2005 - TREFNIADAU AR GYFER GWRANDAWIADAU

 

 

 

Cyflwynwyd i’w hystyried, y trefniadau arfaethedig ar gyfer Gwrandawiadau dan Ddeddf Hapchwarae 2005.

 

 

 

Dywedodd yr Uwch Swyddog Safonau Masnach er bod y Rheoliadau’n seiliedig ar yr un egwyddorion â’r rheiny a ddefnyddiwyd ar gyfer Deddf Trwyddedu 2003, mae yna fân wahaniaethau ac o’r herwydd, datblygwyd set newydd o drefniadau.  Mae’r rhan fwyaf o’r newidiadau’n rhai gweinyddol ond y newid mwyaf penodol ydy’r hawl a roddir i bob parti ofyn cwestiynau i bartïon eraill yn y Gwrandawiad lle mae hynny’n rhesymol.  Cydnabuwyd y byddai’n rhaid i’r Cadeirydd oruchwylio’n ofalus y trefniadau mewn unrhyw Wrandawiad.

 

 

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’n ffurfiol y set o drefniadau ar gyfer Gwrandawiadau dan Ddeddf Hapchwarae 2005.

 

 

 

 

 

Y CYNGHORYDD JOHN ARTHUR JONES

 

CADEIRYDD