Pwyllgor Trwyddedu dogfennau , 17 Mehefin 2008

Pwyllgor Trwyddedu
Dydd Mawrth, 17eg Mehefin, 2008

PWYLLGOR TRWYDDEDU

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Mehefin, 2008

 

PRESENNOL:

 

Y Cynghorydd K.Hughes (Cadeirydd);

 

Y Cynghorwyr Lewis Davies; T.Ll.Hughes; W.I.Hughes; R. Dylan Jones; T.H.Jones; R.L.Owen; G.O.Parry MBE; Eric Roberts; E.Schofield;

 

 

 

WRTH LAW:

 

Prif Swyddog Safonau Masnach (DO);

Swyddog Pwyllgor (JMA);

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr H.Eifion Jones; John Williams;

 

 

 

 

 

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb gan nac Aelod na Swyddog.

 

2

COFNODION

 

Cadarnhawyd a llofnodwyd cofnodion y cyfarfodydd isod:-

 

2.1      Y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Hydref 2007.

(Cyfrol Cofnodion Chwarterol 13 Rhagfyr 2007 Tudalennau 77/78)

 

2.2      Y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mai 2008.

 

3      DEDDF TRWYDDEDU 2003

 

Cyflwynwyd er gwybodaeth, gopi o adroddiad gan y Prif Swyddog Safonau Masnach yn rhoi i’r aelodau y diweddaraf ar y sefyllfa gyfredol mewn perthynas â Deddf Trwyddedu 2003 ynghyd â chopi o Bolisi Trwyddedu’r Cyngor a Threfniadau Gwrandawiadau’r Pwyllgor Trwyddedu.

 

  Yn yr adroddiad, amlinellwyd y cefndir i’r Ddeddf a ddaeth i rym ar 24ain Tachwedd 2005.  O’r dyddiad hwnnw, daeth Cyngor Sir Ynys Môn yn gyfrifol am weinyddu’n llawn y broses o drwyddedu gwerthu a chyflenwi alcohol, adloniant wedi’i reoleiddio a darparu lluniaeth yn hwyr y nos gan gynnwys rhyddhau trwyddedau eiddo (hefo a heb alcohol), tystysgrifau clwb (eto, hefo neu heb alcohol), trwyddedau personol a rhybuddion digwyddiadau dros dro.  Roedd Trwyddedau Adeilad a Chlwb bellach yn caniatáu i berchenogion ddewis gweithgareddau ac amseroedd ac mewn gwirionedd, nid oedd yn awr wahaniaeth rhwng tafarndai, siopau sy’n gwerthu alcohol neu westyau er bod y termau’n cael eu defnyddio o hyd.  Roedd Rhybuddion Digwyddiadau Dros Dro (RhDDD) wedi dod yn boblogaidd ar gyfer trwyddedu digwyddiadau dros dro neu achlysurol.

 

Yn yr adroddiad hefyd, dygwyd sylw at y pedair Egwyddor Trwyddedu, sef Atal Trosedd ac Anhrefn, Diogelwch y Cyhoedd, Atal Niwsans ac Amddiffyn Plant rhag Niwed.  Nododd yr Aelodau bod y Ddeddf yn rhoi mwy o gydnabyddiaeth i rai asiantaethau a elwir yn “gyrff cyfrifol” megis yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân a rhai o Adrannau’r Cyngor ynghyd â phobl leol a sefydliadau yng nghyffiniau’r eiddo.

 

 

 

Yn ôl Data Trwyddedu cyfredol, dyma nifer y trwyddedau a ryddhawyd :-

 

 

 

*      Trwyddedau Personol - 512

 

*      Trwyddedau Eiddo :-

 

 

 

     *     Gydag alcohol - 308

 

       *     Heb alcohol - 112

 

 

 

*     Tystysgrifau Eiddo Clwb:-

 

*     Gydag alcohol - 19

 

*     Heb alcohol - 0

 

 

 

*     Rhybuddion Digwyddiadau Dros Dro:-

 

     *     Derbyniwyd 56 yn 2006

 

     *     Derbyniwyd 78 yn 2007

 

     *     Derbyniwyd 21 hyd yma yn 2008

 

 

 

Yn unol â’r rheidrwydd cyfreithiol i ymgynghori ynghylch a pharatoi Polisi Trwyddedu yn amlinellu sut y byddai’r Cyngor yn gweinyddu’r broses yn ei ardal, cytunodd y Cyngor ar ei Bolisi Trwyddedu ym mis Rhagfyr 2004 ac fe’i cyhoeddwyd ym mis Ionawr 2005.  Ymhellach, roedd hi’n ofynnol dan y gyfraith i bob Awdurdod adolygu ei Bolisi Trwyddedu bob tair blynedd ac o’r herwydd, adolygwyd y Polisi llynedd ac aethpwyd allan i ymgynghori eto cyn i’r Cyngor ei gymeradwyo ym mis Rhagfyr 2007 a’i gyhoeddi ym mis Ionawr 2008.

 

 

 

Y swyddogion sy’n gwneud llawer o’r penderfyniadau gweinyddol mewn perthynas â’r broses drwyddedu ond mewn achosion lle derbynnir sylwadau dilys, rhaid i’r Aelodau  wrando ar yr achos mewn proses lled-farnwrol.  Mae ar y Panel Gwrandawiadau 3 aelod o’r Pwyllgor Trwyddedu sy’n gwrando ar y ddwy ochr o’r ddadl ac yna’n gwneud penderfyniad. Hyd yma, cafwyd 38 o Wrandawiadau a 4 Adolygiad.  

 

 

 

Cafodd yr adolygiad cyntaf o effaith Deddf Trwyddedu 2003 yn y Deyrnas Gyfunol ei gwblhau ym Mawrth 2008 gan Adran y Llywodraeth dros Ddiwylliant, y Cyfyryngau a Chwaraeon.  Yn gryno, dyma oedd y casgliadau :-

 

 

 

Ÿ

mae nifer gyffredinol y digwyddiadau o drosedd ac anhrefn wedi aros yn sefydlog, ni welwyd cynnydd

 

Ÿ

nid oes tystiolaeth bod mwy o alcohol yn cael ei yfed

 

Ÿ

ystyrir bod trosglwyddo’r broses trwyddedu alcohol i awdurdodau lleol wedi bod yn llwyddiannus

 

Ÿ

mae’r system trwyddedu alcohol yn fwy atebol o safbwynt democratiadd a gall trigolion ddylanwadu’n well ar benderfyniadau trwyddedu

 

Ÿ

mae yna berthynas weithio well o lawer rhwng awdurdodau lleol, yr Heddlu ac awdurdodau cyfrifol eraill a’r sawl sy’n dal trwydded

 

Ÿ

hyd yma, ni welwyd newid amlwg yn y mathau o lefydd sydd ar agor gyda’r nos ac yn hwyr y nos

 

 

 

Daeth y Swyddog â’i adroddiad i ben drwy ddweud nad oedd yr Heddlu’n credu y bu cynnydd sylweddol yn nifer y digwyddiadau ond dygwyd sylw at y ffaith bod helyntion yn tueddu i ddigwydd yn ddiweddarach yn y dydd. Yn ychwanegol at hyn, roedd yr Heddlu’n croesawu’r broses a fabwysiadwyd gan y Cyngor Sir ar gyfer adolygu a diwygio’r Trwyddedau.  Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod, cytunodd y Swyddog y dylid diwygio pwynt 8.2 i ddarllen “... y Cynllun Datblygu Unedol a stopiwyd.”

 

 

 

PENDERFYNWYD diolch i’r Swyddog am ei adroddiad cynhwysfawr a nodi ei gynnwys.

 

 

 

4      DEDDF HAPCHWARAE 2005

 

 

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Safonau Masnach ei adroddiad a roes i’r Aelodau y diweddaraf ar y sefyllfa gyfredol mewn perthynas â Deddf Hapchwarae 2005 a ddaeth i rym ym mis Medi 2005 pryd daeth y Cyngor yn gyfrifol am weinyddu’r gwaith o ryddhau Trwyddedau Eiddo dan y Ddeddf.  Roedd y broses hon yn cyd-redeg â gwaith y Comisiwn Hapchwarae a oedd newydd gael ei sefydlu ac a oedd gyfrifol am ryddhau trwyddedau i Weithredwyr ac Unigolion.

 

Cyfeiriodd at y tair egwyddor trwyddedu :-

 

 

 

Ÿ

Atal hapchwarae rhag achosi trosedd ac anhrefn, rhag bod yn gysylltiedig gyda throsedd neu anhrefn neu rhag cael ei ddefnyddio i gefnogi trosedd

 

Ÿ

Sicrhau bod hapchwarae’n cael ei gynnal mewn modd teg ac agored

 

Ÿ

Amddiffyn plant a phersonau bregus eraill rhag cael eu niweidio neu eu hecsbloetio gan hapchwarae

 

 

 

Dengys y data Trwyddedu cyfredol:-

 

 

 

Ÿ

Adeiladau Hapchwarae (ac eithrio traciau) - 6

 

Ÿ

Canolfan Gemau i Oedolion - 1

 

Ÿ

Canolfannau Adloniant i’r Teulu heb Drwydded - 1

 

Ÿ

Trwydded Adeilad Bingo  -  0;

 

Ÿ

Trwyddedau Peiriannau Gemau  -  33;

 

Ÿ

Trwyddedau Lotrïau Bychan  -  111;

 

 

 

Yn yr un modd â Deddf Trwyddedu 2003, bu’n rhaid i’r Awdurdod baratoi Polisi Hapchwarae a daeth hwnnw i rym ym mis Ionawr 2007.  Hyd yma, ni chynhaliwyd yr un gwrandawiad ar yr Ynys dan Ddeddf Hapchwarae 2005 ond nid yw’n amhosib y bydd angen gwrandawiad neu adolygiad rhyw dro ac eto, cytunwyd ar broses ar gyfer gwrandawiadau/adolygiadau o’r fath.  Rhoddwyd i’r Aelodau gopi o’r Polisi Hapchwarae ynghyd â chopi o’r Polisi Adolygu Trefniadau ar gyfer Gwrandawiadau.

 

 

 

Diolchodd yr Aelodau i’r Swyddog am ei adroddiad a nodwyd ei gynnwys.

 

 

 

5      MATERION HYFFORDDI

 

 

 

Dywedodd y Prif Swyddog Safonau Masnach ei fod yn ymwybodol o’r newidiadau i Aelodaeth y Pwyllgor Trwyddedu ers yr Etholiadau Lleol a gynhaliwyd ym mis Mai a bod 11 o’r 15 Aelod yn Aelodau newydd ac y byddai angen hyfforddiant arnynt mewn perthynas â Pholisïau Trrwyddedu a Threfniadau Gwrandawiad.  Dywedodd bod trafodaethau wrthi’n cael eu cynnal gyda Chyngor Gwynedd gyda’r bwriad o gynnal hyfforddiant ar y cyd am ddiwrnod cyfan gyda’r Aelodau sydd newydd eu penodi ar Gyngor Gwynedd.  Cadarnhaodd y byddai’n rhoi gwybod i’r Aelodau am y dyddiad ac am fanylion yr hyffoddiant cyn gynted â phosib.

 

 

 

 

 

Y CYNGHORYDD KEN HUGHES

 

CADEIRYDD