Pwyllgor Trwyddedu dogfennau , 27 Awst 2009

Pwyllgor Trwyddedu
Dydd Iau, 27ain Awst, 2009

PWYLLGOR TRWYDDEDU

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Awst, 2009

 

PRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J.V.Owen (Cadeirydd)

 

Y Cynghorwyr Lewis Davies,  W.I.Hughes, W.T.Hughes,

Gwilym O.Jones, R. Dylan Jones, Eric Roberts.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Prif Swyddog Safonau Masnach (Trwyddedu) (DMJ),

Cyfreithiwr y Cyngor (JGR),

Swyddog Pwyllgor (JMA).

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr H.Eifion Jones, R.L.Owen.

 

 

 

 

 

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog.

 

2

COFNODION

 

Cadarnhawyd a llofnodwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mai, 2009.

 

3      DEDDF TRWYDDEDU 2003/DEDDF HAPCHWARAE 2005

 

Cafwyd cyflwyniad gan y Prif Swyddog Safonau Masnach (Trwyddedu) ar faterion Trwyddedu a’r sialensiau sy’n wynebu awdurdodau lleol.   Rhoes fanylion am gefndir a hanes Trwyddedu ac amlinellodd sut y mae’r system wedi datblygu dros y blynyddoedd.  Rhoddwyd y cyflwyniad yn bennaf er budd Aelodau newydd o’r Pwyllgor Trwyddedu er mwyn eu cynorthwyo mewn unrhyw wrandawiadau/adolygiadau y bydd angen iddynt efallai gymryd rhan ynddynt yn y dyfodol.  Dywedodd bod Trwyddedu erbyn hyn yn cynnwys nifer o faterion gan gynnwys:-

Gemau a Hapchwarae

Trwyddedu a Gwerthu Alcohol

Rheoli Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat

Y Ddeddf Elusennau a Lotrïau Bychain

Hypnotiaeth

Siopau Rhyw

Masnachu ar y Stryd

Cynelau Preswyl

 

Swau

 

Sefydliadau Marchogaeth

 

Trwyddedau Bridio

 

Trwyddedau Petroliwm

 

Trwyddedau Tân Gwyllt

 

Cychod Pleser

 

Anifeiliaid Gwyllt Peryglus

 

Casgliadau o Dy i Dy

 

Ffrwydron

 

Busnesau Metel Sgrap

 

Adloniant wedi’i Reoleiddio

 

Lluniaeth a Werthir yn hwyr y nos

 

Busnesau Adfer Ceir

 

Tyllu Clustiau

 

 

 

Dywedodd mai Hapchwarae a Gemau yw un o’r tri o brif feysydd trwyddedu, y ddau arall yw rheoli alcohol a thacsis/cerbydau hurio preifat.

 

 

 

Cyflwynodd y Swyddog adroddiad ar Ddeddf Trwyddedu 2003 a’i goblygiadau i’r Cyngor ac ar Farchnadoedd ac Arwerthiannau Cist Car.

 

 

 

Roedd ei gyflwyniad yn cynnwys manylion am Rôl y Pwyllgor a’i Banelau.  I bob pwrpas, mae gan y Pwyllgor rôl debyg i’r un a oedd gan yr Ynadon Trwyddedu dan delerau hen Ddeddf Trwyddedu 1964 ac ystyrir ei bod yn swydd lled-farnwrol.  Mae’r Panel Trwyddedu (ac arno 3 Aelod o’r Pwyllgor Trwyddedu bob tro) yn gwrando ar dystiolaeth ac yn gwneud dyfarniad gan orfodi camau gweithredu a all gynnwys, mewn achosion eithafol, cau adeilad am gyfnod dros dro neu hyd yn oed am byth.  

 

 

 

Amlinellwyd y drefn Apelio gan gynnwys rôl y Cadeirydd ac Aelodau’r Panel.  Eglurwyd y byddai Llys Ynadon yn gwrando ar unrhyw apêl yn erbyn penderfyniad y Panel ac ac y gellid dyfarnu costau yno ac roedd hi’n bwysig felly i’r Panel seilio ei benderfyniad ar dystiolaeth gadarn.

 

 

 

Rhoddwyd cyfle i’r Aelodau ofyn cwestiynau i’r Swyddogion i bwrpas cael eglurhad.  Roedd y Cadeirydd yn cydnabod y problemau yr oedd Swyddogion yr Awdurdod yn eu hwynebu wrth ddelio gyda materion trwyddedu a phwysleisiodd ei bod hi’n bwysig i’r awdurdodau cyfrifol a’r Pwyllgor Trwyddedu weithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau nad oedd baich ariannol dianghenraid yn cael ei roddi ar y Cyngor o safbwynt gorfod talu costau mewn sefyllfa apêl.

 

 

 

Wrth gloi, rhoes y Cyfreithiwr sicrwydd i’r Aelodau y byddai’n rhoddi arweiniad a chyngor i’r Aelodau ym mhob gwrandawiad Panel er mwyn sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn ac yn unol â’r Drefn ar gyfer Gwrandawiadau.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Y CYNGHORYDD J.V.OWEN

 

CADEIRYDD