Pwyllgor Trwyddedu dogfennau , 8 Mawrth 2010

Pwyllgor Trwyddedu
Dydd Llun, 8fed Mawrth, 2010

PWYLLGOR TRWYDDEDU

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mawrth, 2010

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J V Owen (Cadeirydd)

 

Y Cynghorwyr T Ll Hughes, W i Hughes, G O Jones, R Ll Jones,

Eric Roberts.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Prif Swyddog Safonau Masnach (Trwyddedu)(DMJ)

Swyddog Pwyllgor (JMA)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr John Chorlton, Lewis Davies, Kenneth Hughes,

R Dylan Jones, R L Owen, G O Parry MBE.

 

 

 

 

 

1

DATGANIADAU O DDIDDORDEB

 

Gwnaeth y Cynghorydd J V Owen ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem sy’n delio gyda thrwyddedu faniau hufen iâ (Trwyddedau i Fasnachu ar y Stryd).  Gwnaed datganiad o ddiddordeb hefyd gan y Cynghorydd Eric Roberts ynghylch Sefydliadau Marchogaeth.

 

2

COFNODION

 

Cadarnhawyd a llofnodwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Awst 2009 fel rhai cywir.

 

3

DIWEDDARIAD YNGHYLCH DYLETSWYDDAU’R ADAIN DRWYDDEDU

 

Dywedodd y Cadeirydd ei fod mewn cysylltiad gyda’r Prif Swyddog Safonau Masnach (Trwyddedu) bob mis fel ei fod yn cael gwybod am unrhyw faterion sy’n achosi pryder.  Diolchodd i'r Swyddog am ei gefnogaeth a rhoddodd sicrwydd i’r Aelodau y byddai’n galw cyfarfod brys o’r Pwyllgor hwn yn ddi-oed os cyfyd yr angen.  Estynnodd wahoddiad i’r Swyddog annerch y cyfarfod.  

 

Dywedodd y Prif Swyddog Safonau Masnach (Trwyddedu) bod gan yr Adran gyfrifoldeb ar hyn o bryd am y Trwyddedau isod:-

 

530 o Eiddo Trwyddedig;

619 o Drwyddedau Personol ar gyfer gwerthu alcohol;

110 o Drwyddedau Digwyddiadau Dros Dro;

150 o Dacsis;

250 o Yrwyr Tacsis;

 

130 o Loterïau Bychain;

 

250 o Beiriannau Hapchwarae mewn Clybiau a Thafarndai;

 

    8 o Siopau Betio

 

    2 Arcêd.

 

 

 

Yn ogystal, roedd gan yr adran gyfrifoldeb am drwyddedau fel petroliwm, tân gwyllt, gweithredwyr, hypnotyddion, neuaddau bingo ac ati.  Mae’r adran yn gweithio’n agos gydag Awdurdodau Cyfrifol (h.y. yr heddlu, yr awdurdod tân, safonau masnach, iechyd yr amgylchedd ac ati).  Mae’r Adain Drwyddedu hefyd yn chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o redeg Marchnadoedd ac Arwerthiannau Cist Car ar yr Ynys.

 

 

 

Soniodd y Swyddog am adolygiad posib o drwyddedau tafarndai, sef tafarndai  sy’n cael eu goruchwylio ar hyn o bryd oherwydd cafwyd cwynion gan y cyhoedd yn eu cylch.

 

 

 

Cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf o ran monitro Gwerthiannau i bobl Dan Oed.  Nododd yr Aelodau, bod y canllawiau cyfredol yn dweud bod raid i dafarndai fod yn euog o werthu i bobl dan oed dair gwaith mewn mewn tri mis cyn y gellid cymryd unrhyw gamau yn eu herbyn.  Gwnaed newidiadau i’r Ddeddfwriaeth Drwyddedu ar 29 Ionawr 2010 sy’n dweud y gallai gwerthu alcohol ar ddau achlysur ar wahân i bobl dan oed mewn cyfnod o dri mis arwain, o bosib, at adolygiad ac/neu erlyniad neu gau’r eiddo am 48 awr yn lle hynny.

 

 

 

Cynhaliwyd ymarfer ym mis Chwefror 2010 lle cafodd tri eiddo allan o ddeg eu dal yn gwerthu alcohol i bobl dan oed.  Cynhaliodd yr Heddlu hefyd ddau ymarfer ar wahân lle roedd saith allan o’r deg eiddo yn gwerthu alcohol ond, yn anffodus, ni ddilynwyd y Côd Ymarfer cywir a rhoddwyd rhybudd yn unig i Ddeiliaid y Trwyddedau ynghylch eu hymddygiad i’r dyfodol.  Cynhaliodd yr Adain Safonau Masnach brawf ar gryfder gwiordydd a werthir mewn eiddo trwyddedig a bu dau achos yn y Llys lle rhoddwyd dirwyon mawr ac fe gafodd trwydded bersonol un landlord ei dirymu gan y Llys.

 

 

 

Rhoddodd yr Aelodau enghreifftiau o’u pryderon yn eu hardaloedd ynghylch gwerthu alcohol i bobl dan oed ac ynghylch ymddygiad gwerthgymdeithasol yn sgil yfed dan oed.  Anogodd y Cadeirydd yr Aelodau i gysylltu gyda’r Swyddog i leisio unrhyw bryderon fel bod modd cymryd camau priodol oherwydd bod grymoedd newydd dan y Ddeddf Drwyddedu i aelodau etholedig ofyn am adolygiad o unrhyw eiddo yn yr Awdurdod.  Mae’r Ddeddf hefyd yn ychwanegu tri amod mandadol i Drwydded Eiddo sy’n dod i rym ar 1 Ebrill a bydd amodau eraill yn dod i rym ar 1 Hydref 2010.

 

 

 

Cadarnhaodd y Swyddog bod ei adran yn gweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru mewn ymdrech i roi sylw i bryderon sy’n codi o werthu alcohol i bobl dan oed.

 

 

 

Dywedodd y Swyddog bod adolygiad wedi’i gynnal o’r Ddeddf Hapchwarae ac y bydd y Ddeddf Drwyddedu yn cael ei hadolygu hefyd tuag at ddiwedd hydref 2010, fel sy’n ofynnol dan y Ddeddf, ac efallai bryd hynny byddai’n ddoeth i’r Pwyllgor drafod y Polisi fel bod modd iddo gyflwyno ei sylwadau.  Yn ogystal, nodwyd materion hyfforddiant.  Bydd sesiwn hyfforddi fewnol yn cael ei threfnu ar gyfer Aelodau yn y dyfodol agos.

 

 

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelodau am fynychu ac i’r Swyddog am yr adroddiad.   

 

 

 

 

 

Y CYNGHORYDD J V OWEN

 

CADEIRYDD