|
3 RHAGLEN RHESYMOLI YSGOLION
CYNRADD
|
|
|
|
|
Dywedodd Arweinydd y Cyngor a'r Cynghorydd G. O. Parry
MBE, sef yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg a Hamdden, y byddai
cyfle heddiw i gynrychiolwyr yr ysgolion dan sylw fynegi eu
safbwyntiau i'r Pwyllgor Gwaith ynghylch y cynigion. Byddai'r
Pwyllgor Gwaith wedyn yn ystyried y sylwadau hynny ac yn dod i
benderfyniad mewn cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Gwaith a gynhelir
ar 30 Tachwedd 2009. Diolchwyd i'r ysgolion dan sylw am eu
presenoldeb a'u cyfraniad heddiw.
|
|
|
|
|
|
(a) Cyflwynwyd - Cyflwyniad gan y Cydgysylltydd
Strategol ynghylch yr ymgynghori anffurfiol a oedd wedi digwydd
ynghylch rhaglen Rhesymoli Ysgolion Cynradd a’r ymatebion a
gafwyd gan yr amryfal Bwyllgorau mewn perthynas â'r ysgolion
unigol a restrwyd. Cyfeiriodd at y meini prawf a fabwysiadwyd
gan y Pwyllgor Gwaith ar gyfer nodi ysgolion yn amodol ar
ymgynghoriad ac amlinellodd y sefyllfa hyd yma ym mhob ysgol unigol
yn erbyn yr 8 maen prawf a fyddai'n brif ystyriaethau wrth
benderfynu pa opsiwn i ddilyn.
|
|
|
|
|
|
Ar ôl pob cyflwyniad, rhoddwyd cyfle i'r aelodau
godi unrhyw gwestiynau gyda'r ysgolion unigol dan sylw.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Bethan Wyn Jones (Pennaeth) Ysgol Llanddona:-
|
|
|
|
|
Ÿ
|
ysgol hapus a chartrefol iawn lle mae'r plant yn hyderus
ac yn gyfforddus ym mhresenoldeb plant eraill ac
oedolion.
|
|
|
Ÿ
|
yr ysgol oedd calon y gymuned. Soniwyd am yr amryfal
sefydliadau a oedd yn defnyddio cyfleusterau'r ysgol a’r
rheini a oedd yn cynorthwyo gyda'r amryfal weithgareddau yn yr
ysgol.
|
|
|
Ÿ
|
roedd y plant wedi cael eu dysgu i werthfawrogi eu cymuned
leol.
|
|
|
Ÿ
|
roedd gan yr ysgol dystiolaeth y byddai cynnydd yn nifer y
disgyblion unwaith yr oedd yr ansicrwydd ynghylch dyfodol yr ysgol
wedi mynd.
|
|
|
Ÿ
|
roedd y plant yn cyfrannu at benderfyniadau a wneir gan yr
ysgol.
|
|
|
Ÿ
|
roedd yr ysgol wedi llwyddo i ddatblygu plant a chanddynt
broblemau addysgol neu emosiynol ac roedd y plant hyn wedi datblygu
ac wedi blodeuo mewn amgylchedd cefnogol.
|
|
|
Ÿ
|
roedd y staff yn cyd-dynnu'n dda ac roeddent oll yn
cyfrannu tuag at ddatblygiad yr ysgol i'r dyfodol.
|
|
|
Ÿ
|
perthynas ardderchog rhwng y rhieni a'r staff gyda phob
teulu yn cyfrannu tuag at lwyddiant yr ysgol.
|
|
|
Ÿ
|
roedd Llanddona yn ysgol unigryw a hebddi, byddai calon y
pentref ac addysg ei phlant yn diflannu.
|
|
|
|
|
Mr. Edward Evans (Cadeirydd y
Llywodraethwyr)
|
|
|
|
Ÿ
|
safonau addysgiadol yn ardderchog.
|
|
|
Ÿ
|
yn gwerthfawrogi ymweliad Mr. Geraint Elis â'r
ysgol.
|
|
|
Ÿ
|
arweinyddiaeth a rheolaeth ardderchog yn yr
ysgol
|
|
|
Ÿ
|
cafwyd graddfeydd ardderchog yn dilyn arolygiad Estyn yn
Ionawr 2006.
|
|
|
Ÿ
|
roedd Llywodraethwyr yr Ysgol yn dymuno cadw'r status
quo.
|
|
|
Ÿ
|
roedd y plant yn cael eu trin fel unigolion ac roeddent yn
cael cyfle i fod yn ddinasyddion cyflawn.
|
|
|
Ÿ
|
roedd yr adeiladau yn fwy na digonol i ddarparu'r addysg
orau ar gyfer yr 21ain ganrif.
|
|
|
Ÿ
|
roedd y gefnogaeth gan y gymuned i'r llywodraethwyr wedi
bod yn anghredadwy ac yn gefnogol iawn.
|
|
|
Ÿ
|
dylai addysg barhau o fewn y gymuned. Heb yr ysgol,
ni fyddai'r ardal ond yn bentref noswylio, heb galon i'r
pentref.
|
|
|
|
|
Y Cynghorydd H. W. Thomas (Aelod
Lleol)
|
|
|
|
Ÿ
|
roedd yr addysg a ddarperir a chefnogaeth Llywodraethwyr
yr Ysgol heb eu hail.
|
|
|
Ÿ
|
roedd Llanddona yn gymuned unigryw. Estyniad i'r
teulu fel petai. Roedd y bobl yn agos iawn. Byddai
cau'r ysgol yn dinistrio bywyd cymdeithasol y gymuned.
|
|
|
Ÿ
|
roedd plant yn gallu cerdded neu feicio i'r ysgol o'u
cartrefi - byddai cau'r ysgol yn golygu plant yn gorfod mynd ar fws
i'r ysgol gyda goblygiadau i iechyd yn sgil hynny.
|
|
|
Ÿ
|
yr ysgol oedd yr unig gyfleuster yn Llanddona lle gallai
pobl gyfarfod.
|
|
|
Ÿ
|
allan o'r 30 o ddisgyblion a oedd yn yr ysgol, roedd 22 yn
mynd i'r clwb brecwast.
|
|
|
Ÿ
|
nid oedd siop na swyddfa bost ar ôl yn y
pentref.
|
|
|
Ÿ
|
byddai cau’r ysgol yn niweidio’r iaith Gymraeg
yn y gymuned.
|
|
|
Ÿ
|
byddai unrhyw drosglwyddiad disgyblion i Ysgol Llangoed yn
golygu teithio ar ffordd is-safonol.
|
|
|
Ÿ
|
roedd posibilrwydd, pe bai'r ysgol yn cau, y byddai'r
disgyblion yn mynd i ysgolion ym Mangor.
|
|
|
Ÿ
|
nid oedd niferoedd y disgyblion wedi gostwng ac roeddent
yn debygol o godi pe bai'r ysgol yn aros ar agor.
|
|
|
|
|
Roedd yr aelodau yn ystyried y dylid cyflwyno
adroddiad i'r Pwyllgor Gwaith ar 30 Tachwedd 2009 ynghylch cyflwr y
ffordd rhwng Ysgol Llanddona ac Ysgol Llangoed.
|
|
|
|
PENDERFYNWYD gofyn i'r Cyfarwyddwr
Corfforaethol (yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol) adrodd yn
ôl i gyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Gwaith ar 30 Tachwedd,
2009, mewn perthynas â chyflwr y ffordd rhwng Ysgol Llanddona
ac Ysgol Llangoed.
|
|
|
|
|
|
Ysgol Talwrn
|
|
|
|
Gwilym Bennett (Cadeirydd y
Llywodraethwyr)
|
|
|
|
Ÿ
|
roedd ardal Talwrn a'r Llywodraethwyr yn erbyn cau'r
ysgol.
|
|
|
Ÿ
|
roedd yr ardal yn gymuned agos ac roedd safonau'r ysgol yn
uchel.
|
|
|
Ÿ
|
yr unig opsiwn oedd ffederaleiddio Ysgol Talwrn gydag
Ysgol y Graig yn amodol ar yr isod:-
|
|
|
|
|
|
bod Ysgol Talwrn yn aros ar yr un safle;
|
|
|
|
|
|
|
|
bod gweithgareddau allgwricwlaidd yn parhau ar y
safle;
|
|
|
|
bod y llywodraethwyr yn cael llais cryf yn y trefniadau
newydd i ddiogelu budd yr ysgol a’r disgyblion;
|
|
|
|
bod staff yn cael eu trin yn deg mewn unrhyw ad-drefnu,
oherwydd bod gan yr ysgol staff ardderchog a byddai'n resyn pe bai
hynny'n cael ei anwybyddu.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
trwy gadw Ysgol Talwrn, gallai'r Awdurdod gynnig i rieni
yn ardal Cefni y math ysgol yr oeddent yn dymuno anfon eu plant
iddi. Nid yw pob plentyn yn gallu ymdopi mewn ysgol fawr ac
yn aml maent yn elwa o gael eu haddysg mewn ysgol
fechan.
|
|
|
Ÿ
|
roedd ystadegau ieithyddol yn dangos bod y plant, erbyn
Blwyddyn Allweddol 2, yn rhugl yn y Gymraeg er eu bod yn dod o
deuluoedd di-Gymraeg;
|
|
|
Ÿ
|
roedd y plant yn llwyddo pan oeddent yn symud i'r sector
uwchradd.
|
|
|
|
|
|
|
Gwyneth Mon Hughes (Pennaeth)
|
|
|
|
Ÿ
|
roedd yr adroddiad cynhwysfawr gan yr Awdurdod yn
adlewyrchu brwdfrydedd a safonau uchel yr addysgu yn Ysgol
Talwrn.
|
|
|
Ÿ
|
roedd pawb yn yr ardal leol yn gwrthwynebu cau Ysgol
Talwrn. Fodd bynnag, nid oedd rhieni wedi mynd i banig a
symud eu plant i ysgolion eraill. Roeddent yn gwbl gefnogol i
gadw'r ysgol.
|
|
|
Ÿ
|
roedd niferoedd y disgyblion yn yr ysgol wedi codi ac
roedd 37 o ddisgyblion yno ar hyn o bryd.
|
|
|
Ÿ
|
roedd yr ysgol yn cytuno gyda sylwadau'r adroddiad ac yn
sylweddoli nad oedd cadw'r status quo yn opsiwn.
|
|
|
Ÿ
|
cafodd yr ysgol ei chanmol gan y Gweinidog Addysg, Jane
Hutt yn 2008 - ysgol a oedd wedi ennill y safon Buddsoddi mewn
Pobl.
|
|
|
Ÿ
|
roedd disgyblion yn Ysgol Talwrn yn cael cyfle i ragori yn
yr ysgol, roedd amgylchedd diogel yn yr ysgol ac roedd y plant yn
awyddus i fynd iddi.
|
|
|
Ÿ
|
gellid ystyried ffederaleiddio Ysgol Talwrn ac Ysgol y
Graig cyn dod i unrhyw benderfyniad ynghylch cau.
|
|
|
Ÿ
|
roedd y ddwy ysgol yn agos iawn i'w gilydd. Roedd
manteision dau safle a oedd yn agos i'w gilydd yn cynnwys
hyblygrwydd a defnydd effeithiol o adnoddau cyfredol.
|
|
|
|
|
Cyfeiriodd y Cydgysylltydd Strategol at
ddau opsiwn posib mewn perthynas â chydweithredu
gydag
Ysgol y Graig. h.y. ffederaleiddio neu ysgol ar fwy nag un safle a
byddai modd trafod
mwy ar yr ddau opsiwn hyn gyda’r ddau
Gorff Llywodraethu.
|
|
|
|
|
|
Ysgol Ty Mawr
|
|
|
|
Richard Jones (Pennaeth), Sharon Jones
(Cadeirydd Llywodraethwyr) a Miss Bronwen Smith
(Athrawes):
|
|
|
|
Ÿ
|
yn gwrthwynebu'n gryf unrhyw fwriad i gau.
|
|
|
Ÿ
|
roedd straeon ynghylch cau'r ysgol yn y wasg wedi arwain
at ansicrwydd yn lleol ac roedd rhieni eisoes wedi symud eu plant i
ysgolion eraill. O ganlyniad, roedd y nifer o ddisgyblion yn
yr ysgol wedi disgyn o 29 i 12. Er gwaethaf hyn, roedd yr
ysgol wedi derbyn dau o blant i'r dosbarth meithrin ac un i'r
dosbarth derbyn eleni.
|
|
|
Ÿ
|
roedd gan yr ysgol draddodiad hir o wasanaethu fel
canolbwynt y gymuned leol ac roedd yn annwyl iawn i
gyn-ddisgyblion. Dathlwyd pen blwydd yr ysgol yn 90 oed ddwy
flynedd yn ôl.
|
|
|
Ÿ
|
roedd y gymuned yn gwneud llawer gyda'r ysgol ac vice
versa.
|
|
|
Ÿ
|
roedd arolwg Estyn dyddiedig Ionawr 2007 yn dweud bod y
plant yn hapus yn yr ysgol a bod pwyslais ar ddangos parch i bawb.
Roedd y safonau yn cymharu'n ffafriol gydag ysgolion cynradd
eraill, roedd y sgiliau yn y cyfnod sylfaen yn dda, ac roedd y
sgiliau yn dda o ran rhifedd a thechnoleg gwybodaeth. Roedd y
datblygiad ysbrydol yn ardderchog ac roedd y rhieni yn cyfrannu'n
da i waith yr ysgol.
|
|
|
Ÿ
|
‘roedd llwyddiant fel Ysgol Beilot Cyfnod Sylfaen
rhwng 2004-09, statws Ysgol Iach ac Ysgol Werdd, Marc Ansawdd 1
& 2, gweithio gyda Chyngor Cefn Gwlad, ennill Eisteddfodau ar
lefelau lleol, sirol a chenedlaethol. Cyrraedd rownd derfynol
y gystadleuaeth carolau cenedlaethol.
|
|
|
Ÿ
|
nid oedd y plant na'r staff yn colli allan nac yn cael
anfantais mewn unrhyw ffordd trwy fod mewn ysgol fechan.
|
|
|
Ÿ
|
Ni fyddai’n gwneud synnwyr i gau ysgol lle
‘roedd y Cyfnod Sylfaen wedi ei sefydlu'n dda a gallai'r
Awdurdod ddefnyddio'r arbenigedd yn yr ysgol i gynorthwyo ysgolion
eraill yn y cyswllt hwn.
|
|
|
Ÿ
|
gallai cau'r ysgol gael effaith negyddol ar brisiau tai
lleol. Roedd 82% o bobl yn yr ardal yn siarad
Cymraeg.
|
|
|
Ÿ
|
gallai cau'r ysgol arwain at golli swyddi. Beth oedd
yr Awdurdod yn ei wneud i leddfu pryderon o'r fath?
|
|
|
|
|
|
|
Ysgol Llandrygarn
|
|
|
|
Cadi Roberts (Cadeirydd
Llywodraethwyr)
|
|
|
|
Ÿ
|
roedd y gymuned gyfan yn ystyried y dylid cadw'r ysgol
oherwydd yr addysg ardderchog a roddir yno.
|
|
|
Ÿ
|
roedd arolwg Estyn yn 2007 yn cadarnhau bod safon yr
addysg yn dda iawn, ac yn ardderchog mewn rhai achosion.
Roedd safonau llythrennedd a mathemateg yn uchel. Yr
ysgol gyntaf yn Ynys Môn i ennill y gydnabyddiaeth Masnach
Deg.
|
|
|
Ÿ
|
roedd adeiladau'r ysgol mewn cyflwr eithriadol o dda - y
tu mewn a'r tu allan. Cegin ac ystafell fwyta gyfleus.
Roedd asesiad yr Adran Eiddo wedi ei rhestru yng Nghategori
B.
|
|
|
Ÿ
|
nid oedd yr ysgol a'r Llywodraethwyr yn gallu derbyn yr
argymhelliad yn yr adroddiad y dylai'r ysgol gyfuno gydag Ysgol
Bodffordd fel ysgol ardal. Roedd lleoliad Ysgol Llandrygarn
heb ei ail.
|
|
|
Ÿ
|
er nad oedd gan yr ysgol neuadd ysgol fel y cyfryw, roedd
dau ddosbarth wedi eu cyfuno i greu ystafell fawr i’w
defnyddio fel ystafell ddosbarth a neuadd ysgol.
|
|
|
Ÿ
|
roedd gan yr ysgol lecyn galed ar gyfer chwarae ynghyd
â chae chwarae ac ardal o flaen yr ysgol i'r staff barcio eu
ceir ac i rieni dynnu i mewn oddi ar y ffordd i fynd a'u plant i'r
ysgol ac yn ôl adref.
|
|
|
Ÿ
|
er bod yr ysgol wedi colli dau ddisgybl i ysgolion eraill
yn yr ardal, roedd dau o blant newydd wedi cofrestru - plant yr
oedd eu teulu wedi symud i'r ardal i fyw.
|
|
|
Ÿ
|
roedd yr ysgol yn cyfrannu i'r gymuned trwy gefnogi
gweithgareddau'r Urdd a digwyddiadau lleol fel boreau coffi a
chyngherddau.
|
|
|
Ÿ
|
roedd disgyblion ysgol yn cymryd rhan mewn cyngherddau
lleol ac yn cefnogi Eisteddfod Môn ac Eisteddfod Bodffordd.
Roedd y gymuned gyfan yn cefnogi gweithgareddau ysgol fel
Ffeiriau Nadolig, arwerthiannau, teithiau cerdded noddedig ac ati
ac roedd pob un o'r digwyddiadau hyn yn codi dros £1,000 i
gronfa'r ysgol.
|
|
|
Ÿ
|
er ei bod yn ysgol fechan, roedd yn ymddangos fod nifer y
disgyblion yn Ysgol Llandrygarn yn gyson.
|
|
|
Ÿ
|
roedd digon o le ar gyfer estyniadau pe bai ysgol ardal yn
cael ei ddatblygu.
|
|
|
Ÿ
|
roedd posibilrwydd y gallai'r gymuned weld datblygiadau yn
y dyfodol.
|
|
|
Ÿ
|
roedd yr ysgol yn rhoi i'r disgyblion hunanbarch,
disgyblaeth, parch tuag at eraill ac eiddo, gwerthfawrogiad o'r
amgylchedd a chyfraniad cymunedol a oedd, yn y pen draw, yn eu
datblygu i fod yn ddinasyddion da.
|
|
|
|
|
|
|
Ysgol Bodorgan
|
|
|
|
Robin Griffiths (Pennaeth)
|
|
|
|
Ÿ
|
roedd yr ysgol yn darparu addysg o'r safon uchaf ac roedd
hyn yn cael ei gefnogi gan adroddiadau Estyn.
|
|
|
Ÿ
|
roedd yr ysgol a'i chyfleusterau cymunedol mewn lle
canolog ac yn gwasanaethu tri o bentrefi.
|
|
|
Ÿ
|
yn ogystal â defnydd cymunedol o adeilad yr ysgol,
roedd nifer o gymdeithasau yn defnyddio'r cae chware a'r llecyn
chwarae caled ar gyfer eu gweithgareddau.
|
|
|
Ÿ
|
byddai cau'r ysgol yn gwanhau sefyllfa'r iaith Gymraeg yn
yr ardal.
|
|
|
Ÿ
|
roedd y plant yn gallu cerdded i'r ysgol ac roedd hyn yn
dda i'w hiechyd ac i'r amgylchedd. Byddai cau'r ysgol yn mynd
yn erbyn nifer o strategaethau'r Cyngor a strategaethau'r Cynulliad
i hyrwyddo ffyrdd iach o fyw.
|
|
|
Ÿ
|
roedd cludo plant ar fws i ardaloedd eraill yn gynnar yn y
bore yn bolisi yr oedd angen rhoi sylw gofalus iawn iddo.
Roedd iechyd a diogelwch plant yn hynod o bwysig.
|
|
|
Ÿ
|
roedd y Cylch Meithrin yn cyfarfod yn yr ysgol.
Oherwydd nad oedd adeilad cymunedol arall ar gael, byddai
cau'r ysgol yn arwain at gau'r Cylch Meithrin.
|
|
|
Ÿ
|
roedd yr ysgol yn pwysleisio pwysigrwydd yr iaith Gymraeg
a thraddodiadau a threftadaeth yr ardal.
|
|
|
Ÿ
|
roedd y berthynas rhwng staff a rhieni yn agos ac yn
hyrwyddo ymddygiad da o fewn y gymuned.
|
|
|
Ÿ
|
roedd adeilad yr ysgol o safon uchel iawn ac ychydig iawn
o waith oedd angen ei wneud arno i wella ei gyflwr. Roedd
iard yr ysgol yn helaeth ac yn un o'r gorau yn y Sir. Roedd
yno neuadd fawr a oedd yn cael ei defnyddio'n helaeth gan y gymuned
a byddai cau'r ysgol yn amddifadu'r gymuned a'r plant o le cyfarfod
pwysig.
|
|
|
Ÿ
|
erbyn 2011 rhagwelwyd y byddai 50 o ddisgyblion yn yr
ysgol.
|
|
|
Ÿ
|
byddai'n drist gweld Ysgol Bodorgan yn cau ym mlwyddyn ei
chanmlwyddiant ac yn amddifadu ardal Cymraeg ei hiaith a oedd yn
ardal ddifreintiedig. Byddai cau'r ysgol yn golygu difreintio
ychwanegol.
|
|
|
|
|
|
|
Myfyr Davies (Cadeirydd y
Llywodraethwyr)
|
|
|
|
Ÿ
|
roedd 15 o sefydliadau yn defnyddio’r cyfleusterau
cymunedol ac nid oedd unman arall yn yr ardal a fedrai gynnal y
gweithgareddau hyn.
|
|
|
Ÿ
|
dim ond ychydig drosodd oedd nifer y lleoedd gweigion ac,
erbyn 2010/11 byddai cynnydd yn nifer y disgyblion.
|
|
|
Ÿ
|
dim ond un disgybl yn is na’r lefel a ddyfynir yn yr
adroddiad.
|
|
|
Ÿ
|
cost fesul pen dim ond ychydig drosodd a byddai'n newid
wrth i nifer y disgyblion godi.
|
|
|
Ÿ
|
roedd safon y ddarpariaeth yn ardderchog yn ôl
arolygiadau Estyn.
|
|
|
Ÿ
|
roedd yr adeiladau mewn cyflwr da.
|
|
|
Ÿ
|
roedd y lleoliad yn ganolog i bentrefi cyfagos.
|
|
|
Ÿ
|
roedd plant a oedd yn mynd i'r ysgol Uwchradd yn gwbl
ddwyieithog.
|
|
|
Ÿ
|
roedd 85 o lythyrau yn gwrthwynebu’r bwriad i gau.
Roedd yr adroddiad rhesymoli yn nodi 24 o resymau dros gadw'r
ysgol.
|
|
|
Ÿ
|
byddai cau'r ysgol yn arwain at ddiboblogeiddio'r ardal
wledig mewn amser.
|
|
|
|
|
Dafydd Jones (Ar ran y Gymuned)
|
|
|
|
Ÿ
|
ardal wledig gyda phoblogaeth wasgaredig, gyda'r mwyafrif
yn byw yn y 3 phrif bentref, sef Hermon, Bethel a
Malltraeth.
|
|
|
Ÿ
|
roedd y ganolfan gymunedol wedi ei chofrestru fel elusen
ac yn cael ei defnyddio er budd y gymuned leol.
|
|
|
Ÿ
|
byddai colli'r ysgol a'r ganolfan gymunedol yn creu gwagle
diwylliannol ac addysgiadol.
|
|
|
Ÿ
|
dros y 10 mlynedd diwethaf. roedd yr adeilad wedi cael ei
ddefnyddio fel canolfan argyfwng.
|
|
|
Ÿ
|
yr ysgol a'r ganolfan oedd yr allwedd i gryfhau'r gymuned
leol a byddai dinistro'r berthynas honno yn arwain at ddinistrio
diwylliant lleol ac yn creu problemau cymdeithasol.
|
|
|
Ÿ
|
yr ysgol oedd yr unig fan cyfarfod y gallai'r cyngor
cymuned lleol ei ddefnyddio.
|
|
|
Ÿ
|
pwy fyddai'n gallu cynnal yr adeilad ar gyfer y gymuned pe
bai'r ysgol yn cau.
|
|
|
Ÿ
|
nid oedd hi'n ymarferol i'r gymuned gymryd yr adeilad
drosodd oherwydd ei faint.
|
|
|
Ÿ
|
roedd yr ysgol yn cael ei defnyddio fel gorsaf bleidleisio
leol.
|
|
|
Ÿ
|
cyflwynodd lythyr i'r Cadeirydd gan Stad Bodorgan yn
cefnogi'r ysgol.
|
|
|
|
|
|
|
Sera Jones (Ar ran y Rhieni):
|
|
|
|
Ÿ
|
roedd Ysgol Bodorgan wedi ei thrwytho yn hanes y gymuned
leol ac roedd yn unigryw.
|
|
|
Ÿ
|
roedd yn mwy na bodloni'r safon addysg ac roedd yr addysg
a roddir yn uwch na'r cyfartaledd ar gyfer yr Ynys.
|
|
|
Ÿ
|
yn teimlo ei bod hi'n bwysig i blant gymdeithasu a dysgu
gyda phlant eraill o gefndir tebyg.
|
|
|
Ÿ
|
byddai tynnu ymaith yr opsiwn i gerdded i'r ysgol yn cael
effaith negyddol ar iechyd y plant. Byddai cludo plant i'r
ysgol ar fws yn cynyddu'r ôl-troed carbon.
|
|
|
Ÿ
|
roedd yr adeilad mewn cyflwr da ac wedi cael toiledau
newydd yn ddiweddar. Roedd yna gae chwarae mawr gyda chaeau a
stoc fferm o'i gwmpas.
|
|
|
Ÿ
|
roedd y rhieni wedi cael budd mawr o'r clwb brecwast
poblogaidd.
|
|
|
Ÿ
|
roedd y rhieni yn hyderus, gyda chymorth Ysgol Bodorgan, y
byddai'r plant yn cael eu grymuso i fod yn aelodau positif o
gymuned fwy.
|
|
|
|
|
|
|
Ysgol Aberffraw
|
|
|
|
Dafydd Parry (Llywodraethwr)
|
|
|
|
Ÿ
|
roedd yr ysgol wedi darparu addysg dda dros y
blynyddoedd.
|
|
|
Ÿ
|
mae'n bwysig cadw'r ysgol i gadw'r iaith Gymraeg o fewn
cymuned wledig.
|
|
|
Ÿ
|
adroddiad da gan Estyn yn 2001 a 2007.
|
|
|
Ÿ
|
roedd sôn am gau'r ysgol wedi cael effaith ddrwg ar
ysbryd ac wedi golygu bod rhieni yn symud eu plant i ysgolion
eraill.
|
|
|
Ÿ
|
nid oedd yn deall sut yr oedd modd i ysgolion eraill
'ddwyn' disgyblion, nid oedd unrhyw gyfathrebu rhwng
penaethiaid.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
roedd yr ysgol yn ysgol hanesyddol a phwysig i'r ardal.
Roedd y siop a'r capel yn agos i gael eu cau.
|
|
|
Ÿ
|
dylai Stad Bodorgan ryddhau mwy o dir ar gyfer tai a
sicrhau goroesiad yr ysgol.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Rhian Owen (Pennaeth)
|
|
|
|
Ÿ
|
roedd yr ysgol yn trefnu clybiau ar ôl ysgol ac yn
cymryd rhan mewn gweithgareddau dalgylch a gweithgareddau sirol yr
Urdd ac yn cystadlu yn Eisteddfod Môn.
|
|
|
Ÿ
|
roedd yr adroddiadau yn y papurau newydd yn 2008 wedi bod
yn niweidiol iawn. Roedd rhieni a oedd yn ystyried anfon eu
plant i'r ysgol wedi newid eu meddyliau ar ôl clywed
sibrydion y byddai'r ysgol yn cau.
|
|
|
Ÿ
|
roedd mynd trwy'r broses hon am yr ail dro yn cael effaith
ar iechyd y staff ac roedd yn gyfnod pryderus iawn yn eu bywydau.
Yn yr un modd, roedd yr ansicrwydd yn cael effaith ar
rieni.
|
|
|
Ÿ
|
roedd yr ysgol yn hyrwyddo'r iaith Gymraeg mewn amgylchedd
braf.
|
|
|
Ÿ
|
roedd yr ysgol wedi cael arolwg llwyddiannus gan
Estyn.
|
|
|
Ÿ
|
roedd un o'r athrawon wedi colli ei swydd er gwaethaf yr
addewid yn y dogfennau rhesymoli y byddai'r awdurdod yn rhoi pob
cymorth i'r rheini a oedd yn colli swyddi. Roedd y person
honno yn dal i fod yn ddi-waith.
|
|
|
Ÿ
|
roedd gan Ysgol Aberffraw ac Ysgol Bodorgan berthynas
gweithio agos o ran tripiau addysgiadol, chwaraeon a
nofio.
|
|
|
Ÿ
|
cytuno y dylai ysgolion bychan a fyddai'n cau gael eu cadw
hyd nes y byddai ysgolion ardal wedi eu sefydlu.
|
|
|
|
|
|
|
Ysgol Llanddeusant
|
|
|
|
Eirian Stephen Jones (Athrawes) (yn absenoldeb
y Pennaeth)
|
|
|
|
Ÿ
|
yn ymwybodol nad oedd yn opsiwn i gadw'r ysgol yn agored
fel sefydliad addysgol ar wahân oherwydd ystyriaethau
ariannol.
|
|
|
Ÿ
|
yn derbyn bod y niferoedd yn isel ond roedd y rhagolygon
ar gyfer y tair blynedd nesaf yn gyson.
|
|
|
Ÿ
|
roedd y rhan fwyaf o'r plant yn dod o gartrefi a oedd yn
siarad Cymraeg. Roedd disgyblion uniaith yn gwbl ddwyieithog
erbyn Blwyddyn 6.
|
|
|
Ÿ
|
cydweithrediad agos rhwng ysgolion cyfagos, roeddent yn
cymdeithasu trwy'r Urdd, chwaraeon, cyngherddau ac ati.
|
|
|
Ÿ
|
yr wythnos diwethaf, soniodd Paul Davies y Gweinidog, nad
oedd unrhyw sail dros gau ysgolion am resymau ariannol yn unig ac
na ddylid cau ysgolion da.
|
|
|
Ÿ
|
roedd ardaloedd cyfagos wedi dangos cydweithrediad yn
ystod yr ymgynghoriad cyntaf ac roedd hyn yn argoeli'n dda ar gyfer
ysgol ardal.
|
|
|
Ÿ
|
roedd yn well buddsoddi mewn un adeilad newydd na chynnal
amryw o adeiladau hyn.
|
|
|
Ÿ
|
ni ddylai'r ysgol gau hyd nes y byddai ysgol ardal wedi ei
sefydlu.
|
|
|
Ÿ
|
cadarnhau y dylai’r swyddi cymorth cyfredol gael eu
diogelu oherwydd nad oedd unrhyw gyfleon cyflogaeth eraill yn y
pentref.
|
|
|
Ÿ
|
gofyn i'r Awdurdod sicrhau y byddai'r adeilad yn cael ei
ddefnyddio fel nad oedd yn mynd yn adfail, h.y. ei ddefnyddio fel
canolfan dreftadaeth, canolfan Urdd, gweithdy neu fel swyddfa ar
gyfer y Cyngor.
|
|
|
Ÿ
|
roedd clwb coginio a'r Urdd yn cyfarfod bob yn ail bob
pythefnos. Sefydlwyd Grwp Ti a Fi ac roedd hwnnw'n cwrdd pob
prynhawn dydd Mercher.
|
|
|
|
|
|
|
William Hughes (Cadeirydd y
Llywodraethwyr)
|
|
|
|
Ÿ
|
oherwydd ystyriaethau ariannol ac ystyriaethau ynghylch
nifer y disgyblion, ystyriwyd nad oedd cynnal ysgol Llanddeusant
fel sefydliad ar wahân yn opsiwn ymarferol mwyach.
Roedd y Llywodraethwyr yn cefnogi ysgol ardal ar gyfer y
pedair ysgol. Byddai hynny'n fwy cynaliadwy yn y tymor canol
a'r tymor hir.
|
|
|
Ÿ
|
er yn cefnogi ysgol ardal, pwysleisiodd y Corff
Llywodraethu na fyddant yn cefnogi cau unrhyw ysgol cyn i'r adeilad
ysgol newydd fod yn barod.
|
|
|
Ÿ
|
byddai cynnydd yn nifer y disgyblion yn sgil Wylfa
B.
|
|
|
Ÿ
|
roedd nifer y disgyblion wedi codi rhywfaint, a oedd yn
dangos nad oedd y rheini wedi colli ffydd yn yr ysgol na'r addysg
yr oedd yn ei darparu.
|
|
|
Ÿ
|
rhaid sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg a sicrhau bod yr
arbenigedd yn aros o fewn y cymunedau gwledig.
|
|
|
Ÿ
|
yr ysgol oedd yr unig ffocws dyddiol yn yr ardal a
byddai'r ardal yn dlawd iawn hebddi.
|
|
|
Ÿ
|
dylid cadw'r adeilad fel canolfan ardal neu weithdy os
bydd yr ysgol yn cau.
|
|
|
|
|
Y Cynghorydd Elwyn Schofield (Aelod
Lleol)
|
|
|
|
Ÿ
|
yn galonogol gweld ardal yn ymateb mor bositif i broblem
anodd. Cytuno nad oeddd y status quo yn opsiwn.
|
|
|
Ÿ
|
yn gorfod meddwl am rhywbeth gwell a fyddai'n cwrdd ag
anghenion addysgol ar yr Ynys i'r dyfodol.
|
|
|
Ÿ
|
rhaid ystyried yn ofalus sut y gall y Cyngor ymateb i'r
gwagle yn ein cymunedau gyda dyfodiad rhesymoli.
|
|
|
Ÿ
|
roedd ysgol ardal yn unol ag argymhelliad y swyddog.
Fodd bynnag, a fyddai Llywodraeth Cynulliad Cymru yn fodlon
cyllido ysgol ardal?
|
|
|
Ÿ
|
pwysig bod yr ardal yn cael gwybod am y
datblygiadau.
|
|
|
Ÿ
|
hyd nes y byddai ysgol ardal newydd yn cael ei hadeiladu,
dylai Ysgol Llanddeusant aros ar agor.
|
|
|
|
|
|
|
Ysgol Ffrwd Win, Llanfaethlu
|
|
|
|
Nia Lloyd Thomas (Pennaeth)
|
|
|
|
Ÿ
|
roedd yr adeilad mewn cyflwr ardderchog a gwariwyd yn
sylweddol arno yn y blynyddoedd diwethaf. Roedd wedi cael
dyfarniad Categori A gan yr Adran Addysg. Roedd mewn safle
delfrydol, rhyw 0.8m o'r pentref lle roedd oddeutu hanner y
disgyblion yn byw.
|
|
|
Ÿ
|
yn anghytuno gyda'r dyraniad fesul pen o £4,011, yn
seiliedig ar niferoedd gwirioneddol roedd y dyraniad fesul pen yn
£3,936.
|
|
|
Ÿ
|
roedd iard gefn yr ysgol yn cael ei datblygu ar hyn o bryd
ar gyfer y Cyfnod Sylfaen.
|
|
|
Ÿ
|
dros yr haf, adeiladwyd lle parcio a oedd yn costio
£40k ar gyfer yr ysgol.
|
|
|
Ÿ
|
ym mis Medi 2008, daeth 5 o ddisgyblion newydd i'r ysgol,
4 llawn amser ac 1 yn y dosbarth meithrin.
|
|
|
Ÿ
|
gallai'r ysgol ddal 68 o ddisgyblion. Ar hyn o bryd
roedd yno 48. Roedd hyn yn gweithio allan fel bod 29.4 o leoedd
gweigion.
|
|
|
Ÿ
|
rhwng 2002 a 2004, gwariwyd yn sylweddol ar yr ysgol ac
adeiladwyd 2 ddosbarth newydd ac ystafell adnoddau, neuadd newydd,
a chegin.
|
|
|
|
|
|
|
Steve Rickards (Llywodraethwr a
Rhiant)
|
|
|
|
Ÿ
|
roedd ychydig dros 150 o ddisgyblion yn y 4 ysgol yn y
dalgylch. Pe bai ysgol ardal yn cael ei sefydlu, byddai angen
pennaeth (pennaeth nad oedd yn dysgu o bosib), dirprwy, 6 o
athrawon amser llawn, staff gweinyddol pwrpasol, derbynnydd, nifer
o gymorthyddion dosbarth a staff cegin.
|
|
|
Ÿ
|
byddai ysgol ardal yn golygu gorfod defnyddio nifer o
fysus.
|
|
|
Ÿ
|
cychwyn cynnar i rai plant gyda thaith o hanner awr mewn
bws o bosib.
|
|
|
Ÿ
|
nid oedd y Llywodraethwyr yn credu ar hyn o bryd mai ysgol
ardal oedd yr opsiwn cywir.
|
|
|
Ÿ
|
goblygiadau iechyd a diogelwch gyda phlant 4-11 oed ar fws
heb oruchwyliaeth.
|
|
|
Ÿ
|
roedd yr holl ysgolion yn yr ardal yn darparu addysg
ardderchog i'w disgyblion ac roedd adroddiadau Estyn yn cadarnhau
hyn. Roedd yn anodd gweld sut y gallai ysgol ardal wella'r
addysg, anghenion unigol a lles y plant. Byddai hefyd yn
golygu costau cyfalaf sylweddol a chostau cludiant
uchel.
|
|
|
Ÿ
|
roedd yr ysgol wedi datblygu arbenigeddau o ran cwrdd ag
anghenion disgyblion gydag anghenion addysgol
ychwanegol.
|
|
|
|
|
Y Cynghorydd K. P. Hughes (Aelod
Lleol)
|
|
|
|
Ÿ
|
cyfrifoldeb yr awdurdod addysg oedd cynnig gwasanaethau o
safon i oedolion yr ynys. Roedd yn anghytuno gyda'r safbwynt
a gyflwynwyd y dylai'r Cyngor gael ei redeg fel busnes. Nid
sefydliad i wneud elw ydoedd.
|
|
|
Ÿ
|
gwir gwerth ysgolion oedd i'r gymuned a diogelu'r iaith
Gymraeg.
|
|
|
Ÿ
|
diolchodd i'r Pwyllgor Gwaith am edrych ar yr Ynys yn ei
chyfanrwydd.
|
|
|
Ÿ
|
roedd y 3 ysgol dan sylw yn ffafrio cadw eu
hysgolion.
|
|
|
Ÿ
|
yn gwerthfawrogi gwaith yr athrawon yn yr ysgol a oedd yn
gweithio fel tîm er budd y disgyblion.
|
|
|
Ÿ
|
yn ei farn ef, dylai cadw ysgolion cynradd fod yn
flaenoriaeth uwch i'r Ynys na chadw canolfannau hamdden.
|
|
|
Ÿ
|
roedd Ysgol Ffrwd Win, Ysgol Cylch y Garn ac Ysgol
Llanfachraeth yn darparu safonau addysgol ardderchog ac roedd
adroddiadau Estyn yn tystio i hyn. Nid oedd adroddiad
rhesymoli yn cynnig dim byd gwell.
|
|
|
|
|
|
|
Ysgol Cylch y Garn,
Llanrhuddlad
|
|
|
|
Idwal Parry (Ar ran y Gymuned)
|
|
|
|
Ÿ
|
roedd yr ysgol yn rhan annatod o'r gymuned ac yn darparu
addysg i ddisgyblion yr ardal. Roedd yn ysgol i'r
gymuned.
|
|
|
Ÿ
|
roedd yr ysgol mewn man canolog iawn, yn agos i'r ffordd
fawr ond yn ddigon pell i ffwrdd i fod yn ddiogel.
|
|
|
Ÿ
|
roedd y ddarpariaeth ar gyfer parcio yn ardderchog ac
roedd tir ar gael yn rhad ac am ddim i estyn y ddarpariaeth
honno.
|
|
|
Ÿ
|
roedd safle'r ysgol yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw estyniad
i'r dyfodol gyda dau gae chwarae mawr.
|
|
|
Ÿ
|
byddai Wylfa B yn denu teuluoedd i'r ardal.
|
|
|
Ÿ
|
roedd yr ardal yn gwerthfawrogi gwaith y staff yn yr ysgol
yn darparu addysg o'r safon uchaf.
|
|
|
Ÿ
|
adeiladwyd estyniad cymunedol yn yr 1980au i ddarparu
neuadd gymunedol, ystafell bwyllgor a thoiledau a oedd yn rhan o
gyfleusterau’r ysgol yn ystod y dydd ac yn cael eu defnyddio
gan y gymuned tu allan i oriau ysgol. Yr estyniad hefyd oedd
neuadd yr ysgol a’r ystafell fwyta.
|
|
|
Ÿ
|
roedd yr unig gofeb i'r rheini a laddwyd yn y ddau ryfel
byd ar dir yr ysgol.
|
|
|
Ÿ
|
roedd mwy o dai yn cael eu hadeiladu yn yr ardal a
fyddai'n sicrhau cyflenwad o blant i'r ysgol yn y
dyfodol.
|
|
|
Ÿ
|
nid oedd gan y pentref siop na swyddfa bost mwyach ac
roedd ymdrechion yn cael eu gwneud i sicrhau bod y Capel yn parhau
i fod ar agor. Byddai cau'r ysgol yn chwalu'r ardal
wledig.
|
|
|
|
|
|
|
Sian Tudor (Llywodraethwraig a
rhiant)
|
|
|
|
Ÿ
|
roedd yr ysgol yn ysgol ardal eisoes gyda disgyblion yn
mynychu o ardal eang.
|
|
|
Ÿ
|
roedd y gymuned yn falch o'r berthynas gyda'r ysgol ac
ymrwymiad y disgyblion i'r gymuned.
|
|
|
Ÿ
|
fel y gwelir yn adroddiadau Estyn, roedd safon yr addysg
yn ardderchog. Roedd yn drist gwrando ar ystadegau am leoedd
gweigion ac adeiladau yn hytrach na safon yr addysg a
ddarperir.
|
|
|
Ÿ
|
roedd yn drist iawn gorfod mynd i gyfarfod a chlywed
aelodau'r Cyngor yn rhedeg ar safon addysg yn ein hysgolion gwledig
bychan, heb unrhyw dystiolaeth i gefnogi datganiadau o'r
fath.
|
|
|
Ÿ
|
dim problemau yn yr ardal gan blant na phobl ifanc.
Y rheswm am hynny oedd ymrwymiad y rheini â'r
ysgol.
|
|
|
Ÿ
|
roedd yn ysgol fechan gyda chymeriad arbennig a pharcio
cyfleus. Wrth fynd heibio'r gofeb roedd modd gweld y llyn
pysgod a'r ardd a ddarparwyd ac a sefydlwyd gan y clwb
garddio.
|
|
|
Ÿ
|
yn ffodus iawn o’r athrawon a’r staff
cefnogol.
|
|
|
Ÿ
|
roedd y rheini a oedd yn symud i ysgol uwchradd oll yn
gallu siarad Cymraeg er gwaethaf ffaith fod rhai ohonynt yn dod o
gartrefi nad oedd yn siarad Cymraeg. Roedd hwn yn ffactor
pwysig mewn cymuned wledig.
|
|
|
Ÿ
|
roedd y rhieni yn benderfynol na ddylai'r ysgol gau.
Gan fod y siop a'r swyddfa bost wedi cau, yr ysgol oedd calon
bywyd y gymuned.
|
|
|
Ÿ
|
roedd y rhieni yn bryderus bod y Cyngor yn gwario arian ar
bethau ffôl ledled yr Ynys er anfantais i addysg
plant.
|
|
|
Ÿ
|
Gallai Wylfa B olygu bod mwy o bobl yn dod i fyw i'r ardal
gan arwain at gynnydd yn nifer y disgyblion.
|
|
|
Ÿ
|
roedd adroddiad Estyn yn dangos bod yr ysgol yn darparu
addysg o'r safon uchaf.
|
|
|
Ÿ
|
cysylltiadau cryf rhwng yr ysgol a'r gymuned.
|
|
|
Ÿ
|
rhaid i'r plant deithio am hanner awr pe bai ysgol ardal
yn cael ei hadeiladu. Roedd gwahaniaeth rhwng plentyn 4 oed a
phlentyn 11 oed yn teithio ar fws i'r ysgol heb
oruchwyliaeth.
|
|
|
|
|
Miss Jane Ann Jones (Pennaeth)
|
|
|
|
Ÿ
|
roedd yr ardal wedi bod yn darparu addysg am dros 100
mlynedd.
|
|
|
Ÿ
|
roedd staff wedi eu cadw, ac roedd un o'r staff dysgu wedi
bod yn dysgu am bron i 30 o flynyddoedd, roedd gofalwr wedi bod yno
am 40 o flynyddoedd, cynorthwy-ydd am 15 o flynyddoedd ac roedd hi
fel Pennaeth wedi bod yno ers 10 mlynedd. Roedd hynny'n
gwneud cyfanswm o dros 100 mlynedd o wasanaeth i un
ysgol.
|
|
|
Ÿ
|
roedd yr Ynys yn wynebu problemau diweithdra anferth.
Ni fyddai pob aelod o staff o'r ysgolion dan sylw yn gallu
cael gwaith mewn ardal ysgol.
|
|
|
Ÿ
|
dechreuodd 12 o ddisgyblion newydd yn yr ysgol ym mis
Medi.
|
|
|
Ÿ
|
roedd yr ysgol yn cydweithredu'n llawn gyda'r
gymuned.
|
|
|
Ÿ
|
sefydlwyd clwb ar ôl ysgol. Roedd rhieni yn
cyfarfod yno hefyd i baratoi llythyr newyddion ar gyfer yr ardal yn
gyffredinol.
|
|
|
Ÿ
|
roedd nifer o dai newydd yn cael ei hadeiladu yn yr ardal
ac ni allai'r ysgol ond elwa o ddyfodiad Wylfa B.
|
|
|
Ÿ
|
roedd yr Urdd yn cwrdd ar ôl ysgol bob mis ac roedd
Campau'r Ddraig yn cyfarfod bob wythnos.
|
|
|
Ÿ
|
yn falch nad oedd yr Aelodau yn cyfeirio heddiw at safonau
is - roedd addysg mewn ysgol fechan cystal os nad gwell nag addysg
mewn ysgol fwy. Roedd yr addysg o'r safon uchaf gyda
phwyslais ar barch cymunedol.
|
|
|
Ÿ
|
erfynodd ar y Pwyllgor Gwaith i ystyried ei benderfyniad
yn ofalus iawn a pheidio â dod i benderfyniad y byddai'r Ynys
hon yn ei ddifaru yn y dyfodol.
|
|
|
|
|
Diolchodd Arweinydd y Cyngor a'r Cynghorydd G.
O. Parry MBE, yr Aelod Portffolio, i bawb a oedd wedi cyfrannu i'r
drafodaeth yn y cyfarfod heddiw ac i'r ymgynghori anffurfiol a oedd
eisoes wedi digwydd. Diolchwyd hefyd i Mr. Geraint Elis,
Cydgysylltydd Strategol a'i staff am eu gwaith yn y cyswllt
hwn.
|
|
|
|
Nodwyd ei bod hi'n anodd i'r Awdurdod hwn
wneud cais am gyllid gan y Cynulliad dan y Rhaglen Ysgolion yr
Unfed Ganrif a'r Hugain i adeiladu neu adnewydu ysgolion oherwydd
nad oedd unrhyw gynlluniau rhesymoli wedi eu mabwysiadu. Yn
anffodus, roedd lleoedd gweigion yn ein hysgolion yn achosi
gostyngiad yn yr arian ar gyfer addysg ledled yr ynys.
|
|
|
|
Roedd yr Awdurdod hwn yn wynebu cyfnod anodd
iawn a byddai'n rhaid gwneud penderfyniadau caled ynghylch cwtogi
ar lefel y gwasanaeth a ddarperir. Roedd yr Awdurdod eisoes
wedi gwneud toriadau i'w wasanaethau ar gyfer yr henoed.
Byddai penderfyniad y Pwyllgor Gwaith ynghylch ysgolion yn
seiliedig ar resymau da a, gyda gobaith, byddai penderfyniad doeth
yn cael ei wneud. Roedd yr aelodau yn cydnabod y safonau
uchel yn yr ysgolion fel sydd wedi ei nodi yn adroddiadau Estyn a
dywedwyd nad oedd neb ar y Pwyllgor Gwaith, ar unrhyw adeg, wedi
tanseilio safonau na lefel yr addysg a ddarperir mewn unrhyw
ysgol.
|