Pwyllgor Gwaith dogfennau , 16 Tachwedd 2009

Pwyllgor Gwaith
Dydd Llun, 16eg Tachwedd, 2009

Pwyllgor Gwaith

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd, 2009 

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd C. McGregor ( Arweinydd) (Cadeirydd)

Y Cynghorydd Bob Parry OBE (Dirprwy Arweinydd)

 

Y Cynghorydd E. G. Davies

Y Cynghorydd R. Ll. Hughes

Y Cynghorydd W. I. Hughes

Y Cynghorydd T. Jones

Y Cynghorydd Bryan Owen

Y Cynghorydd G. O. Parry MBE

 

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden)

Cydgysylltydd Strategol (GE)

Cyfreithiwr i'r Swyddog Monitro

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor

 

YMDDIHEURIAD:

 

Y Cynghorydd Ieuan Williams

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorwyr K. P. Hughes, E. Schofield, H. W. Thomas (Aelodau Lleol)

 

1

DATGANIADAU O DDIDDORDEB

 

Gwnaeth y Cynghorydd B. Owen ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw fater sy'n ymwneud ag Ysgol Bodorgan ac Ysgol Llandrygarn ac yn arbennig â chyflogaeth ei wraig fel athrawes lanw.

 

Gwnaeth y Cynghorydd R. G. Parry OBE ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw fater yn ymwneud ag Ysgol Bryngwran.

 

Gwnaeth y Cynghorydd R. Ll. Hughes ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw fater yn ymwneud ag Ysgol Bodorgan.

 

Gwnaeth y Cynghorydd C. McGregor ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw fater yn ymwneud ag Ysgol Ty Mawr ac Ysgol Talwrn.

 

Gwnaeth y Cynghorydd W. I. Hughes ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw fater yn ymwneud ag Ysgol Llandrygarn, Ysgol Bodffordd ac Ysgol Llanrhuddlad.

 

(Roedd y 5 aelod uchod wedi cael caniatâd arbennig i siarad ac i bleidleisio gan y Pwyllgor Safonau yn ei gyfarfodydd ar 10/11 Tachwed 2009).

 

Gwnaeth y Cynghorydd K. P. Hughes ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw fater yn ymwneud ag Ysgol Cylch y Garn ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth arni.

 

2   MATERION BRYS A ARDYSTIWYD GAN Y RHEOLWR-GYFARWYDDWR - (NEU SWYDDOG A

     BENODWYD GANDDO)

 

Dim i'w datgan.

 

 

 

3    RHAGLEN RHESYMOLI YSGOLION CYNRADD

 

 

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor a'r Cynghorydd G. O. Parry MBE, sef yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg a Hamdden, y byddai cyfle heddiw i gynrychiolwyr yr ysgolion dan sylw fynegi eu safbwyntiau i'r Pwyllgor Gwaith ynghylch y cynigion.  Byddai'r Pwyllgor Gwaith wedyn yn ystyried y sylwadau hynny ac yn dod i benderfyniad mewn cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Gwaith a gynhelir ar 30 Tachwedd 2009.  Diolchwyd i'r ysgolion dan sylw am eu presenoldeb a'u cyfraniad heddiw.

 

 

 

(a)  Cyflwynwyd - Cyflwyniad gan y Cydgysylltydd Strategol ynghylch yr ymgynghori anffurfiol a oedd wedi digwydd ynghylch rhaglen Rhesymoli Ysgolion Cynradd a’r ymatebion a gafwyd gan yr amryfal Bwyllgorau mewn perthynas â'r ysgolion unigol a restrwyd.  Cyfeiriodd at y meini prawf a fabwysiadwyd gan y Pwyllgor Gwaith ar gyfer nodi ysgolion yn amodol ar ymgynghoriad ac amlinellodd y sefyllfa hyd yma ym mhob ysgol unigol yn erbyn yr 8 maen prawf a fyddai'n brif ystyriaethau wrth benderfynu pa opsiwn i ddilyn.

 

 

 

Ar ôl pob cyflwyniad, rhoddwyd cyfle i'r aelodau godi unrhyw gwestiynau gyda'r ysgolion unigol dan sylw.

 

 

 

 

 

Ysgol Llanddona

 

 

 

Bethan Wyn Jones (Pennaeth) Ysgol Llanddona:-

 

 

 

Ÿ

ysgol hapus a chartrefol iawn lle mae'r plant yn hyderus ac yn gyfforddus ym mhresenoldeb plant eraill ac oedolion.

 

Ÿ

yr ysgol oedd calon y gymuned.  Soniwyd am yr amryfal sefydliadau a oedd yn defnyddio cyfleusterau'r ysgol a’r rheini a oedd yn cynorthwyo gyda'r amryfal weithgareddau yn yr ysgol.

 

Ÿ

roedd y plant wedi cael eu dysgu i werthfawrogi eu cymuned leol.

 

Ÿ

roedd gan yr ysgol dystiolaeth y byddai cynnydd yn nifer y disgyblion unwaith yr oedd yr ansicrwydd ynghylch dyfodol yr ysgol wedi mynd.

 

Ÿ

roedd y plant yn cyfrannu at benderfyniadau a wneir gan yr ysgol.

 

Ÿ

roedd yr ysgol wedi llwyddo i ddatblygu plant a chanddynt broblemau addysgol neu emosiynol ac roedd y plant hyn wedi datblygu ac wedi blodeuo mewn amgylchedd cefnogol.

 

Ÿ

roedd y staff yn cyd-dynnu'n dda ac roeddent oll yn cyfrannu tuag at ddatblygiad yr ysgol i'r dyfodol.

 

Ÿ

perthynas ardderchog rhwng y rhieni a'r staff gyda phob teulu yn cyfrannu tuag at lwyddiant yr ysgol.

 

Ÿ

roedd Llanddona yn ysgol unigryw a hebddi, byddai calon y pentref ac addysg ei phlant yn diflannu.

 

 

 

Mr. Edward Evans (Cadeirydd y Llywodraethwyr)

 

 

 

Ÿ

safonau addysgiadol yn ardderchog.

 

Ÿ

yn gwerthfawrogi ymweliad Mr. Geraint Elis â'r ysgol.

 

Ÿ

arweinyddiaeth a rheolaeth ardderchog yn yr ysgol

 

Ÿ

cafwyd graddfeydd ardderchog yn dilyn arolygiad Estyn yn Ionawr 2006.

 

Ÿ

roedd Llywodraethwyr yr Ysgol yn dymuno cadw'r status quo.

 

Ÿ

roedd y plant yn cael eu trin fel unigolion ac roeddent yn cael cyfle i fod yn ddinasyddion cyflawn.

 

Ÿ

roedd yr adeiladau yn fwy na digonol i ddarparu'r addysg orau ar gyfer yr 21ain ganrif.

 

Ÿ

roedd y gefnogaeth gan y gymuned i'r llywodraethwyr wedi bod yn anghredadwy ac yn gefnogol iawn.

 

Ÿ

dylai addysg barhau o fewn y gymuned.  Heb yr ysgol, ni fyddai'r ardal ond yn bentref noswylio,  heb galon i'r pentref.

 

 

 

Y Cynghorydd H. W. Thomas (Aelod Lleol)

 

 

 

Ÿ

roedd yr addysg a ddarperir a chefnogaeth Llywodraethwyr yr Ysgol heb eu hail.

 

Ÿ

roedd Llanddona yn gymuned unigryw.  Estyniad i'r teulu fel petai.  Roedd y bobl yn agos iawn.  Byddai cau'r ysgol yn dinistrio bywyd cymdeithasol y gymuned.

 

Ÿ

roedd plant yn gallu cerdded neu feicio i'r ysgol o'u cartrefi - byddai cau'r ysgol yn golygu plant yn gorfod mynd ar fws i'r ysgol gyda goblygiadau i iechyd yn sgil hynny.

 

Ÿ

yr ysgol oedd yr unig gyfleuster yn Llanddona lle gallai pobl gyfarfod.

 

Ÿ

allan o'r 30 o ddisgyblion a oedd yn yr ysgol, roedd 22 yn mynd i'r clwb brecwast.

 

Ÿ

nid oedd siop na swyddfa bost ar ôl yn y pentref.

 

Ÿ

byddai cau’r ysgol yn niweidio’r iaith Gymraeg yn y gymuned.

 

Ÿ

byddai unrhyw drosglwyddiad disgyblion i Ysgol Llangoed yn golygu teithio ar ffordd is-safonol.

 

Ÿ

roedd posibilrwydd, pe bai'r ysgol yn cau, y byddai'r disgyblion yn mynd i ysgolion ym Mangor.

 

Ÿ

nid oedd niferoedd y disgyblion wedi gostwng ac roeddent yn debygol o godi pe bai'r ysgol yn aros ar agor.

 

 

 

Roedd yr aelodau yn ystyried y dylid cyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Gwaith ar 30 Tachwedd 2009 ynghylch cyflwr y ffordd rhwng Ysgol Llanddona ac Ysgol Llangoed.

 

 

 

PENDERFYNWYD gofyn i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol (yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol) adrodd yn ôl i gyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Gwaith ar 30 Tachwedd, 2009, mewn perthynas â chyflwr y ffordd rhwng Ysgol Llanddona ac Ysgol Llangoed.

 

 

 

 

 

Ysgol Talwrn

 

 

 

Gwilym Bennett (Cadeirydd y Llywodraethwyr)

 

 

 

Ÿ

roedd ardal Talwrn a'r Llywodraethwyr yn erbyn cau'r ysgol.

 

Ÿ

roedd yr ardal yn gymuned agos ac roedd safonau'r ysgol yn uchel.

 

Ÿ

yr unig opsiwn oedd ffederaleiddio Ysgol Talwrn gydag Ysgol y Graig yn amodol ar yr isod:-

 

 

 

bod Ysgol Talwrn yn aros ar yr un safle;

 

cadw enw Ysgol Talwrn;

 

cadw'r wisg ysgol;

 

bod gweithgareddau allgwricwlaidd yn parhau ar y safle;

 

bod y llywodraethwyr yn cael llais cryf yn y trefniadau newydd i ddiogelu budd yr ysgol a’r disgyblion;

 

bod staff yn cael eu trin yn deg mewn unrhyw ad-drefnu, oherwydd bod gan yr ysgol staff ardderchog a byddai'n resyn pe bai hynny'n cael ei anwybyddu.

 

 

 

Ÿ

trwy gadw Ysgol Talwrn, gallai'r Awdurdod gynnig i rieni yn ardal Cefni y math ysgol yr oeddent yn dymuno anfon eu plant iddi.  Nid yw pob plentyn yn gallu ymdopi mewn ysgol fawr ac yn aml maent yn elwa o gael eu haddysg mewn ysgol fechan.

 

Ÿ

roedd ystadegau ieithyddol yn dangos bod y plant, erbyn Blwyddyn Allweddol 2, yn rhugl yn y Gymraeg er eu bod yn dod o deuluoedd di-Gymraeg;

 

Ÿ

roedd y plant yn llwyddo pan oeddent yn symud i'r sector uwchradd.

 

 

 

 

 

Gwyneth Mon Hughes (Pennaeth)

 

 

 

Ÿ

roedd yr adroddiad cynhwysfawr gan yr Awdurdod yn adlewyrchu brwdfrydedd a safonau uchel yr addysgu yn Ysgol Talwrn.

 

Ÿ

roedd pawb yn yr ardal leol yn gwrthwynebu cau Ysgol Talwrn.  Fodd bynnag, nid oedd rhieni wedi mynd i banig a symud eu plant i ysgolion eraill.  Roeddent yn gwbl gefnogol i gadw'r ysgol.

 

Ÿ

roedd niferoedd y disgyblion yn yr ysgol wedi codi ac roedd 37 o ddisgyblion yno ar hyn o bryd.

 

Ÿ

roedd yr ysgol yn cytuno gyda sylwadau'r adroddiad ac yn sylweddoli nad oedd cadw'r status quo yn opsiwn.  

 

Ÿ

cafodd yr ysgol ei chanmol gan y Gweinidog Addysg, Jane Hutt yn 2008 - ysgol a oedd wedi ennill y safon Buddsoddi mewn Pobl.

 

Ÿ

roedd disgyblion yn Ysgol Talwrn yn cael cyfle i ragori yn yr ysgol, roedd amgylchedd diogel yn yr ysgol ac roedd y plant yn awyddus i fynd iddi.

 

Ÿ

gellid ystyried ffederaleiddio Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig cyn dod i unrhyw benderfyniad ynghylch cau.

 

Ÿ

roedd y ddwy ysgol yn agos iawn i'w gilydd.  Roedd manteision dau safle a oedd yn agos i'w gilydd yn cynnwys hyblygrwydd a defnydd effeithiol o adnoddau cyfredol.

 

 

 

     Cyfeiriodd y Cydgysylltydd Strategol at ddau opsiwn posib mewn perthynas â chydweithredu           gydag Ysgol y Graig. h.y. ffederaleiddio neu ysgol ar fwy nag un safle a byddai modd trafod           mwy ar yr ddau opsiwn hyn gyda’r ddau Gorff Llywodraethu.

 

 

 

 

 

Ysgol Ty Mawr

 

 

 

Richard Jones (Pennaeth), Sharon Jones (Cadeirydd Llywodraethwyr) a Miss Bronwen Smith (Athrawes):

 

 

 

Ÿ

yn gwrthwynebu'n gryf unrhyw fwriad i gau.

 

Ÿ

roedd straeon ynghylch cau'r ysgol yn y wasg wedi arwain at ansicrwydd yn lleol ac roedd rhieni eisoes wedi symud eu plant i ysgolion eraill.  O ganlyniad, roedd y nifer o ddisgyblion yn yr ysgol wedi disgyn o 29 i 12.  Er gwaethaf hyn, roedd yr ysgol wedi derbyn dau o blant i'r dosbarth meithrin ac un i'r dosbarth derbyn eleni.

 

Ÿ

roedd gan yr ysgol draddodiad hir o wasanaethu fel canolbwynt y gymuned leol ac roedd yn annwyl iawn i gyn-ddisgyblion.  Dathlwyd pen blwydd yr ysgol yn 90 oed ddwy flynedd  yn ôl.

 

Ÿ

roedd y gymuned yn gwneud llawer gyda'r ysgol ac vice versa.

 

Ÿ

roedd arolwg Estyn dyddiedig Ionawr 2007 yn dweud bod y plant yn hapus yn yr ysgol a bod pwyslais ar ddangos parch i bawb.  Roedd y safonau yn cymharu'n ffafriol gydag ysgolion cynradd eraill, roedd y sgiliau yn y cyfnod sylfaen yn dda, ac roedd y sgiliau yn dda o ran rhifedd a thechnoleg gwybodaeth.  Roedd y datblygiad ysbrydol yn ardderchog ac roedd y rhieni yn cyfrannu'n da i waith yr ysgol.

 

Ÿ

‘roedd llwyddiant fel Ysgol Beilot Cyfnod Sylfaen rhwng 2004-09, statws Ysgol Iach ac Ysgol Werdd, Marc Ansawdd 1 & 2, gweithio gyda Chyngor Cefn Gwlad, ennill Eisteddfodau ar lefelau lleol, sirol a chenedlaethol.  Cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth carolau cenedlaethol.

 

Ÿ

nid oedd y plant na'r staff yn colli allan nac yn cael anfantais mewn unrhyw ffordd trwy fod mewn ysgol fechan.

 

Ÿ

Ni fyddai’n gwneud synnwyr i gau ysgol lle ‘roedd y Cyfnod Sylfaen wedi ei sefydlu'n dda a gallai'r Awdurdod ddefnyddio'r arbenigedd yn yr ysgol i gynorthwyo ysgolion eraill yn y cyswllt hwn.

 

Ÿ

gallai cau'r ysgol gael effaith negyddol ar brisiau tai lleol.  Roedd 82% o bobl yn yr ardal yn siarad Cymraeg.

 

Ÿ

gallai cau'r ysgol arwain at golli swyddi.  Beth oedd yr Awdurdod yn ei wneud i leddfu pryderon o'r fath?

 

 

 

 

 

Ysgol Llandrygarn

 

 

 

Cadi Roberts (Cadeirydd Llywodraethwyr)

 

 

 

Ÿ

roedd y gymuned gyfan yn ystyried y dylid cadw'r ysgol oherwydd yr addysg ardderchog a roddir yno.

 

Ÿ

roedd arolwg Estyn yn 2007 yn cadarnhau bod safon yr addysg yn dda iawn, ac yn ardderchog mewn rhai achosion.  Roedd safonau llythrennedd a mathemateg yn uchel.  Yr ysgol gyntaf yn Ynys Môn i ennill y gydnabyddiaeth Masnach Deg.

 

Ÿ

roedd adeiladau'r ysgol mewn cyflwr eithriadol o dda - y tu mewn a'r tu allan.  Cegin ac ystafell fwyta gyfleus.  Roedd asesiad yr Adran Eiddo wedi ei rhestru yng Nghategori B.

 

Ÿ

nid oedd yr ysgol a'r Llywodraethwyr yn gallu derbyn yr argymhelliad yn yr adroddiad y dylai'r ysgol gyfuno gydag Ysgol Bodffordd fel ysgol ardal.  Roedd lleoliad Ysgol Llandrygarn heb ei ail.

 

Ÿ

er nad oedd gan yr ysgol neuadd ysgol fel y cyfryw, roedd dau ddosbarth wedi eu cyfuno i greu ystafell fawr i’w defnyddio fel ystafell ddosbarth a neuadd ysgol.

 

Ÿ

roedd gan yr ysgol lecyn galed ar gyfer chwarae ynghyd â chae chwarae ac ardal o flaen yr ysgol i'r staff barcio eu ceir ac i rieni dynnu i mewn oddi ar y ffordd i fynd a'u plant i'r ysgol ac yn ôl adref.

 

Ÿ

er bod yr ysgol wedi colli dau ddisgybl i ysgolion eraill yn yr ardal, roedd dau o blant newydd wedi cofrestru - plant yr oedd eu teulu wedi symud i'r ardal i fyw.

 

Ÿ

roedd yr ysgol yn cyfrannu i'r gymuned trwy gefnogi gweithgareddau'r Urdd a digwyddiadau lleol fel boreau coffi a chyngherddau.

 

Ÿ

roedd disgyblion ysgol yn cymryd rhan mewn cyngherddau lleol ac yn cefnogi Eisteddfod Môn ac Eisteddfod Bodffordd.  Roedd y gymuned gyfan yn cefnogi gweithgareddau ysgol fel Ffeiriau Nadolig, arwerthiannau, teithiau cerdded noddedig ac ati ac roedd pob un o'r digwyddiadau hyn yn codi dros £1,000 i gronfa'r ysgol.

 

Ÿ

er ei bod yn ysgol fechan, roedd yn ymddangos fod nifer y disgyblion yn Ysgol Llandrygarn yn gyson.

 

Ÿ

roedd digon o le ar gyfer estyniadau pe bai ysgol ardal yn cael ei ddatblygu.

 

Ÿ

roedd posibilrwydd y gallai'r gymuned weld datblygiadau yn y dyfodol.

 

Ÿ

roedd yr ysgol yn rhoi i'r disgyblion hunanbarch, disgyblaeth, parch tuag at eraill ac eiddo, gwerthfawrogiad o'r amgylchedd a chyfraniad cymunedol a oedd, yn y pen draw, yn eu datblygu i fod yn ddinasyddion da.

 

 

 

 

 

Ysgol Bodorgan

 

 

 

Robin Griffiths (Pennaeth)

 

 

 

Ÿ

roedd yr ysgol yn darparu addysg o'r safon uchaf ac roedd hyn yn cael ei gefnogi gan adroddiadau Estyn.

 

Ÿ

roedd yr ysgol a'i chyfleusterau cymunedol mewn lle canolog ac yn gwasanaethu tri o bentrefi.

 

Ÿ

yn ogystal â defnydd cymunedol o adeilad yr ysgol, roedd nifer o gymdeithasau yn defnyddio'r cae chware a'r llecyn chwarae caled ar gyfer eu gweithgareddau.

 

Ÿ

byddai cau'r ysgol yn gwanhau sefyllfa'r iaith Gymraeg yn yr ardal.

 

Ÿ

roedd y plant yn gallu cerdded i'r ysgol ac roedd hyn yn dda i'w hiechyd ac i'r amgylchedd.  Byddai cau'r ysgol yn mynd yn erbyn nifer o strategaethau'r Cyngor a strategaethau'r Cynulliad i hyrwyddo ffyrdd iach o fyw.

 

Ÿ

roedd cludo plant ar fws i ardaloedd eraill yn gynnar yn y bore yn bolisi yr oedd angen rhoi sylw gofalus iawn iddo.  Roedd iechyd a diogelwch plant yn hynod o bwysig.

 

Ÿ

roedd y Cylch Meithrin yn cyfarfod yn yr ysgol.  Oherwydd nad oedd adeilad cymunedol arall ar gael, byddai cau'r ysgol yn arwain at gau'r Cylch Meithrin.

 

Ÿ

roedd yr ysgol yn pwysleisio pwysigrwydd yr iaith Gymraeg a thraddodiadau a threftadaeth yr ardal.

 

Ÿ

roedd y berthynas rhwng staff a rhieni yn agos ac yn hyrwyddo ymddygiad da o fewn y gymuned.

 

Ÿ

roedd adeilad yr ysgol o safon uchel iawn ac ychydig iawn o waith oedd angen ei wneud arno i wella ei gyflwr.  Roedd iard yr ysgol yn helaeth ac yn un o'r gorau yn y Sir.  Roedd yno neuadd fawr a oedd yn cael ei defnyddio'n helaeth gan y gymuned a byddai cau'r ysgol yn amddifadu'r gymuned a'r plant o le cyfarfod pwysig.

 

Ÿ

erbyn 2011 rhagwelwyd y byddai 50 o ddisgyblion yn yr ysgol.

 

Ÿ

byddai'n drist gweld Ysgol Bodorgan yn cau ym mlwyddyn ei chanmlwyddiant ac yn amddifadu ardal Cymraeg ei hiaith a oedd yn ardal ddifreintiedig.  Byddai cau'r ysgol yn golygu difreintio ychwanegol.

 

 

 

 

 

Myfyr Davies (Cadeirydd y Llywodraethwyr)

 

 

 

Ÿ

roedd 15 o sefydliadau yn defnyddio’r cyfleusterau cymunedol ac nid oedd unman arall yn yr ardal a fedrai gynnal y gweithgareddau hyn.

 

Ÿ

dim ond ychydig drosodd oedd nifer y lleoedd gweigion ac, erbyn 2010/11 byddai cynnydd yn nifer y disgyblion.  

 

Ÿ

dim ond un disgybl yn is na’r lefel a ddyfynir yn yr adroddiad.

 

Ÿ

cost fesul pen dim ond ychydig drosodd a byddai'n newid wrth i nifer y disgyblion godi.

 

Ÿ

roedd safon y ddarpariaeth yn ardderchog yn ôl arolygiadau Estyn.

 

Ÿ

roedd yr adeiladau mewn cyflwr da.

 

Ÿ

roedd y lleoliad yn ganolog i bentrefi cyfagos.

 

Ÿ

roedd plant a oedd yn mynd i'r ysgol Uwchradd yn gwbl ddwyieithog.

 

Ÿ

roedd 85 o lythyrau yn gwrthwynebu’r bwriad i gau.  Roedd yr adroddiad rhesymoli yn nodi 24 o resymau dros gadw'r ysgol.

 

Ÿ

byddai cau'r ysgol yn arwain at ddiboblogeiddio'r ardal wledig mewn amser.

 

 

 

Dafydd Jones (Ar ran y Gymuned)

 

 

 

Ÿ

ardal wledig gyda phoblogaeth wasgaredig, gyda'r mwyafrif yn byw yn y 3 phrif bentref, sef Hermon, Bethel a Malltraeth.

 

Ÿ

roedd y ganolfan gymunedol wedi ei chofrestru fel elusen ac yn cael ei defnyddio er budd y gymuned leol.

 

Ÿ

byddai colli'r ysgol a'r ganolfan gymunedol yn creu gwagle diwylliannol ac addysgiadol.

 

Ÿ

dros y 10 mlynedd diwethaf. roedd yr adeilad wedi cael ei ddefnyddio fel canolfan argyfwng.

 

Ÿ

yr ysgol a'r ganolfan oedd yr allwedd i gryfhau'r gymuned leol a byddai dinistro'r berthynas honno yn arwain at ddinistrio diwylliant lleol ac yn creu problemau cymdeithasol.

 

Ÿ

yr ysgol oedd yr unig fan cyfarfod y gallai'r cyngor cymuned lleol ei ddefnyddio.

 

Ÿ

pwy fyddai'n gallu cynnal yr adeilad ar gyfer y gymuned pe bai'r ysgol yn cau.

 

Ÿ

nid oedd hi'n ymarferol i'r gymuned gymryd yr adeilad drosodd oherwydd ei faint.

 

Ÿ

roedd yr ysgol yn cael ei defnyddio fel gorsaf bleidleisio leol.

 

Ÿ

cyflwynodd lythyr i'r Cadeirydd gan Stad Bodorgan yn cefnogi'r ysgol.

 

 

 

 

 

Sera Jones (Ar ran y Rhieni):

 

 

 

Ÿ

roedd Ysgol Bodorgan wedi ei thrwytho yn hanes y gymuned leol ac roedd yn unigryw.

 

Ÿ

roedd yn mwy na bodloni'r safon addysg ac roedd yr addysg a roddir yn uwch na'r cyfartaledd ar gyfer yr Ynys.

 

Ÿ

yn teimlo ei bod hi'n bwysig i blant gymdeithasu a dysgu gyda phlant eraill o gefndir tebyg.

 

Ÿ

byddai tynnu ymaith yr opsiwn i gerdded i'r ysgol yn cael effaith negyddol ar iechyd y plant.  Byddai cludo plant i'r ysgol ar fws yn cynyddu'r ôl-troed carbon.

 

Ÿ

roedd yr adeilad mewn cyflwr da ac wedi cael toiledau newydd yn ddiweddar.  Roedd yna gae chwarae mawr gyda chaeau a stoc fferm o'i gwmpas.

 

Ÿ

roedd y rhieni wedi cael budd mawr o'r clwb brecwast poblogaidd.

 

Ÿ

roedd y rhieni yn hyderus, gyda chymorth Ysgol Bodorgan, y byddai'r plant yn cael eu grymuso i fod yn aelodau positif o gymuned fwy.

 

 

 

 

 

Ysgol Aberffraw

 

 

 

Dafydd Parry (Llywodraethwr)

 

 

 

Ÿ

roedd yr ysgol wedi darparu addysg dda dros y blynyddoedd.

 

Ÿ

mae'n bwysig cadw'r ysgol i gadw'r iaith Gymraeg o fewn cymuned wledig.

 

Ÿ

adroddiad da gan Estyn yn 2001 a 2007.

 

Ÿ

roedd sôn am gau'r ysgol wedi cael effaith ddrwg ar ysbryd ac wedi golygu bod rhieni yn symud eu plant i ysgolion eraill.

 

Ÿ

nid oedd yn deall sut yr oedd modd i ysgolion eraill 'ddwyn' disgyblion, nid oedd unrhyw gyfathrebu rhwng penaethiaid.

 

 

 

Ÿ

roedd yr ysgol yn ysgol hanesyddol a phwysig i'r ardal.  Roedd y siop a'r capel yn agos i gael eu cau.

 

Ÿ

dylai Stad Bodorgan ryddhau mwy o dir ar gyfer tai a sicrhau goroesiad yr ysgol.

 

 

 

 

 

 

 

Rhian Owen (Pennaeth)

 

 

 

Ÿ

roedd yr ysgol yn trefnu clybiau ar ôl ysgol ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau dalgylch a gweithgareddau sirol yr Urdd ac yn cystadlu yn Eisteddfod Môn.

 

Ÿ

roedd yr adroddiadau yn y papurau newydd yn 2008 wedi bod yn niweidiol iawn.  Roedd rhieni a oedd yn ystyried anfon eu plant i'r ysgol wedi newid eu meddyliau ar ôl clywed sibrydion y byddai'r ysgol yn cau.

 

Ÿ

roedd mynd trwy'r broses hon am yr ail dro yn cael effaith ar iechyd y staff ac roedd yn gyfnod pryderus iawn yn eu bywydau.  Yn yr un modd, roedd yr ansicrwydd yn cael effaith ar rieni.

 

Ÿ

roedd yr ysgol yn hyrwyddo'r iaith Gymraeg mewn amgylchedd braf.

 

Ÿ

roedd yr ysgol wedi cael arolwg llwyddiannus gan Estyn.

 

Ÿ

roedd un o'r athrawon wedi colli ei swydd er gwaethaf yr addewid yn y dogfennau rhesymoli y byddai'r awdurdod yn rhoi pob cymorth i'r rheini a oedd yn colli swyddi.  Roedd y person honno yn dal i fod yn ddi-waith.

 

Ÿ

roedd gan Ysgol Aberffraw ac Ysgol Bodorgan berthynas gweithio agos o ran tripiau addysgiadol, chwaraeon a nofio.

 

Ÿ

cytuno y dylai ysgolion bychan a fyddai'n cau gael eu cadw hyd nes y byddai ysgolion ardal wedi eu sefydlu.

 

 

 

 

 

Ysgol Llanddeusant

 

 

 

Eirian Stephen Jones (Athrawes) (yn absenoldeb y Pennaeth)

 

 

 

Ÿ

yn ymwybodol nad oedd yn opsiwn i gadw'r ysgol yn agored fel sefydliad addysgol ar wahân oherwydd ystyriaethau ariannol.

 

Ÿ

yn derbyn bod y niferoedd yn isel ond roedd y rhagolygon ar gyfer y tair blynedd nesaf yn gyson.

 

Ÿ

roedd y rhan fwyaf o'r plant yn dod o gartrefi a oedd yn siarad Cymraeg.  Roedd disgyblion uniaith yn gwbl ddwyieithog erbyn Blwyddyn 6.

 

Ÿ

cydweithrediad agos rhwng ysgolion cyfagos, roeddent yn cymdeithasu trwy'r Urdd, chwaraeon, cyngherddau ac ati.

 

Ÿ

yr wythnos diwethaf, soniodd Paul Davies y Gweinidog, nad oedd unrhyw sail dros gau ysgolion am resymau ariannol yn unig ac na ddylid cau ysgolion da.

 

Ÿ

roedd ardaloedd cyfagos wedi dangos cydweithrediad yn ystod yr ymgynghoriad cyntaf ac roedd hyn yn argoeli'n dda ar gyfer ysgol ardal.

 

Ÿ

roedd yn well buddsoddi mewn un adeilad newydd na chynnal amryw o adeiladau hyn.

 

Ÿ

ni ddylai'r ysgol gau hyd nes y byddai ysgol ardal wedi ei sefydlu.

 

Ÿ

cadarnhau y dylai’r swyddi cymorth cyfredol gael eu diogelu oherwydd nad oedd unrhyw gyfleon cyflogaeth eraill yn y pentref.

 

Ÿ

gofyn i'r Awdurdod sicrhau y byddai'r adeilad yn cael ei ddefnyddio fel nad oedd yn mynd yn adfail, h.y. ei ddefnyddio fel canolfan dreftadaeth, canolfan Urdd, gweithdy neu fel swyddfa ar gyfer y Cyngor.

 

Ÿ

roedd clwb coginio a'r Urdd yn cyfarfod bob yn ail bob pythefnos.  Sefydlwyd Grwp Ti a Fi ac roedd hwnnw'n cwrdd pob prynhawn dydd Mercher.

 

 

 

 

 

William Hughes (Cadeirydd y Llywodraethwyr)

 

 

 

Ÿ

oherwydd ystyriaethau ariannol ac ystyriaethau ynghylch nifer y disgyblion, ystyriwyd nad oedd cynnal ysgol Llanddeusant fel sefydliad ar wahân yn opsiwn ymarferol mwyach.  Roedd y Llywodraethwyr yn cefnogi ysgol ardal ar gyfer y pedair ysgol.  Byddai hynny'n fwy cynaliadwy yn y tymor canol a'r tymor hir.

 

Ÿ

er yn cefnogi ysgol ardal, pwysleisiodd y Corff Llywodraethu na fyddant yn cefnogi cau unrhyw ysgol cyn i'r adeilad ysgol newydd fod yn barod.

 

Ÿ

byddai cynnydd yn nifer y disgyblion yn sgil Wylfa B.

 

Ÿ

roedd nifer y disgyblion wedi codi rhywfaint, a oedd yn dangos nad oedd y rheini wedi colli ffydd yn yr ysgol na'r addysg yr oedd yn ei darparu.

 

Ÿ

rhaid sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg a sicrhau bod yr arbenigedd yn aros o fewn y cymunedau gwledig.

 

Ÿ

yr ysgol oedd yr unig ffocws dyddiol yn yr ardal a byddai'r ardal yn dlawd iawn hebddi.

 

Ÿ

dylid cadw'r adeilad fel canolfan ardal neu weithdy os bydd yr ysgol yn cau.

 

 

 

Y Cynghorydd Elwyn Schofield (Aelod Lleol)

 

 

 

Ÿ

yn galonogol gweld ardal yn ymateb mor bositif i broblem anodd.  Cytuno nad oeddd y status quo yn opsiwn.

 

Ÿ

yn gorfod meddwl am rhywbeth gwell a fyddai'n cwrdd ag anghenion addysgol ar yr Ynys i'r dyfodol.

 

Ÿ

rhaid ystyried yn ofalus sut y gall y Cyngor ymateb i'r gwagle yn ein cymunedau gyda dyfodiad rhesymoli.

 

Ÿ

roedd ysgol ardal yn unol ag argymhelliad y swyddog.  Fodd bynnag, a fyddai Llywodraeth Cynulliad Cymru yn fodlon cyllido ysgol ardal?

 

Ÿ

pwysig bod yr ardal yn cael gwybod am y datblygiadau.

 

Ÿ

hyd nes y byddai ysgol ardal newydd yn cael ei hadeiladu, dylai Ysgol Llanddeusant aros ar agor.

 

 

 

 

 

Ysgol Ffrwd Win, Llanfaethlu

 

 

 

Nia Lloyd Thomas (Pennaeth)

 

 

 

Ÿ

roedd yr adeilad mewn cyflwr ardderchog a gwariwyd yn sylweddol arno yn y blynyddoedd diwethaf.  Roedd wedi cael dyfarniad Categori A gan yr Adran Addysg.  Roedd mewn safle delfrydol, rhyw 0.8m o'r pentref lle roedd oddeutu hanner y disgyblion yn byw.

 

Ÿ

yn anghytuno gyda'r dyraniad fesul pen o £4,011, yn seiliedig ar niferoedd gwirioneddol roedd y dyraniad fesul pen yn £3,936.

 

Ÿ

roedd iard gefn yr ysgol yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ar gyfer y Cyfnod Sylfaen.

 

Ÿ

dros yr haf, adeiladwyd lle parcio a oedd yn costio £40k ar gyfer yr ysgol.

 

Ÿ

ym mis Medi 2008, daeth 5 o ddisgyblion newydd i'r ysgol, 4 llawn amser ac 1 yn y dosbarth meithrin.

 

Ÿ

gallai'r ysgol ddal 68 o ddisgyblion.  Ar hyn o bryd roedd yno 48. Roedd hyn yn gweithio allan fel bod 29.4 o leoedd gweigion.

 

Ÿ

rhwng 2002 a 2004, gwariwyd yn sylweddol ar yr ysgol ac adeiladwyd 2 ddosbarth newydd ac ystafell adnoddau, neuadd newydd, a chegin.

 

 

 

 

 

Steve Rickards (Llywodraethwr a Rhiant)

 

 

 

Ÿ

roedd ychydig dros 150 o ddisgyblion yn y 4 ysgol yn y dalgylch.  Pe bai ysgol ardal yn cael ei sefydlu, byddai angen pennaeth (pennaeth nad oedd yn dysgu o bosib), dirprwy, 6 o athrawon amser llawn, staff gweinyddol pwrpasol, derbynnydd, nifer o gymorthyddion dosbarth a staff cegin.

 

Ÿ

byddai ysgol ardal yn golygu gorfod defnyddio nifer o fysus.

 

Ÿ

cychwyn cynnar i rai plant gyda thaith o hanner awr mewn bws o bosib.

 

Ÿ

nid oedd y Llywodraethwyr yn credu ar hyn o bryd mai ysgol ardal oedd yr opsiwn cywir.

 

Ÿ

goblygiadau iechyd a diogelwch gyda phlant 4-11 oed ar fws heb oruchwyliaeth.

 

Ÿ

roedd yr holl ysgolion yn yr ardal yn darparu addysg ardderchog i'w disgyblion ac roedd adroddiadau Estyn yn cadarnhau hyn.  Roedd yn anodd gweld sut y gallai ysgol ardal wella'r addysg, anghenion unigol a lles y plant.  Byddai hefyd yn golygu costau cyfalaf sylweddol a chostau cludiant uchel.

 

Ÿ

roedd yr ysgol wedi datblygu arbenigeddau o ran cwrdd ag anghenion disgyblion gydag anghenion addysgol ychwanegol.

 

 

 

      Y Cynghorydd K. P. Hughes (Aelod Lleol)

 

 

 

Ÿ

cyfrifoldeb yr awdurdod addysg oedd cynnig gwasanaethau o safon i oedolion yr ynys.  Roedd yn anghytuno gyda'r safbwynt a gyflwynwyd y dylai'r Cyngor gael ei redeg fel busnes.  Nid sefydliad i wneud elw ydoedd.

 

Ÿ

gwir gwerth ysgolion oedd i'r gymuned a diogelu'r iaith Gymraeg.

 

Ÿ

diolchodd i'r Pwyllgor Gwaith am edrych ar yr Ynys yn ei chyfanrwydd.

 

Ÿ

roedd y 3 ysgol dan sylw yn ffafrio cadw eu hysgolion.

 

Ÿ

yn gwerthfawrogi gwaith yr athrawon yn yr ysgol a oedd yn gweithio fel tîm er budd y disgyblion.

 

Ÿ

yn ei farn ef, dylai cadw ysgolion cynradd fod yn flaenoriaeth uwch i'r Ynys na chadw canolfannau hamdden.

 

Ÿ

roedd Ysgol Ffrwd Win, Ysgol Cylch y Garn ac Ysgol Llanfachraeth yn darparu safonau addysgol ardderchog ac roedd adroddiadau Estyn yn tystio i hyn.  Nid oedd adroddiad rhesymoli yn cynnig dim byd gwell.

 

 

 

 

 

Ysgol Cylch y Garn, Llanrhuddlad

 

 

 

Idwal Parry (Ar ran y Gymuned)

 

 

 

Ÿ

roedd yr ysgol yn rhan annatod o'r gymuned ac yn darparu addysg i ddisgyblion yr ardal.  Roedd yn ysgol i'r gymuned.

 

Ÿ

roedd yr ysgol mewn man canolog iawn, yn agos i'r ffordd fawr ond yn ddigon pell i ffwrdd i fod yn ddiogel.

 

Ÿ

roedd y ddarpariaeth ar gyfer parcio yn ardderchog ac roedd tir ar gael yn rhad ac am ddim i estyn y ddarpariaeth honno.

 

Ÿ

roedd safle'r ysgol yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw estyniad i'r dyfodol gyda dau gae chwarae mawr.

 

Ÿ

byddai Wylfa B yn denu teuluoedd i'r ardal.

 

Ÿ

roedd yr ardal yn gwerthfawrogi gwaith y staff yn yr ysgol yn darparu addysg o'r safon uchaf.

 

Ÿ

adeiladwyd estyniad cymunedol yn yr 1980au i ddarparu neuadd gymunedol, ystafell bwyllgor a thoiledau a oedd yn rhan o gyfleusterau’r ysgol yn ystod y dydd ac yn cael eu defnyddio gan y gymuned tu allan i oriau ysgol.  Yr estyniad hefyd oedd neuadd yr ysgol a’r ystafell fwyta.

 

Ÿ

roedd yr unig gofeb i'r rheini a laddwyd yn y ddau ryfel byd ar dir yr ysgol.

 

Ÿ

roedd mwy o dai yn cael eu hadeiladu yn yr ardal a fyddai'n sicrhau cyflenwad o blant i'r ysgol yn y dyfodol.

 

Ÿ

nid oedd gan y pentref siop na swyddfa bost mwyach ac roedd ymdrechion yn cael eu gwneud i sicrhau bod y Capel yn parhau i fod ar agor.  Byddai cau'r ysgol yn chwalu'r ardal wledig.

 

 

 

 

 

Sian Tudor (Llywodraethwraig a rhiant)

 

 

 

Ÿ

roedd yr ysgol yn ysgol ardal eisoes gyda disgyblion yn mynychu o ardal eang.

 

Ÿ

roedd y gymuned yn falch o'r berthynas gyda'r ysgol ac ymrwymiad y disgyblion i'r gymuned.

 

Ÿ

fel y gwelir yn adroddiadau Estyn, roedd safon yr addysg yn ardderchog.  Roedd yn drist gwrando ar ystadegau am leoedd gweigion ac adeiladau yn hytrach na safon yr addysg a ddarperir.

 

Ÿ

roedd yn drist iawn gorfod mynd i gyfarfod a chlywed aelodau'r Cyngor yn rhedeg ar safon addysg yn ein hysgolion gwledig bychan, heb unrhyw dystiolaeth i gefnogi datganiadau o'r fath.

 

Ÿ

dim problemau yn yr ardal gan blant na phobl ifanc.  Y rheswm am hynny oedd ymrwymiad y rheini â'r ysgol.

 

Ÿ

roedd yn ysgol fechan gyda chymeriad arbennig a pharcio cyfleus.  Wrth fynd heibio'r gofeb roedd modd gweld y llyn pysgod a'r ardd a ddarparwyd ac a sefydlwyd gan y clwb garddio.

 

Ÿ

yn ffodus iawn o’r athrawon a’r staff cefnogol.

 

Ÿ

roedd y rheini a oedd yn symud i ysgol uwchradd oll yn gallu siarad Cymraeg er gwaethaf ffaith fod rhai ohonynt yn dod o gartrefi nad oedd yn siarad Cymraeg.  Roedd hwn yn ffactor pwysig mewn cymuned wledig.

 

Ÿ

roedd y rhieni yn benderfynol na ddylai'r ysgol gau.  Gan fod y siop a'r swyddfa bost wedi cau, yr ysgol oedd calon bywyd y gymuned.

 

Ÿ

roedd y rhieni yn bryderus bod y Cyngor yn gwario arian ar bethau ffôl ledled yr Ynys er anfantais i addysg plant.

 

Ÿ

Gallai Wylfa B olygu bod mwy o bobl yn dod i fyw i'r ardal gan arwain at gynnydd yn nifer y disgyblion.

 

Ÿ

roedd adroddiad Estyn yn dangos bod yr ysgol yn darparu addysg o'r safon uchaf.

 

Ÿ

cysylltiadau cryf rhwng yr ysgol a'r gymuned.

 

Ÿ

rhaid i'r plant deithio am hanner awr pe bai ysgol ardal yn cael ei hadeiladu.  Roedd gwahaniaeth rhwng plentyn 4 oed a phlentyn 11 oed yn teithio ar fws i'r ysgol heb oruchwyliaeth.

 

 

 

Miss Jane Ann Jones (Pennaeth)

 

 

 

Ÿ

roedd yr ardal wedi bod yn darparu addysg am dros 100 mlynedd.

 

Ÿ

roedd staff wedi eu cadw, ac roedd un o'r staff dysgu wedi bod yn dysgu am bron i 30 o flynyddoedd, roedd gofalwr wedi bod yno am 40 o flynyddoedd, cynorthwy-ydd am 15 o flynyddoedd ac roedd hi fel Pennaeth wedi bod yno ers 10 mlynedd.  Roedd hynny'n gwneud cyfanswm o dros 100 mlynedd o wasanaeth i un ysgol.

 

Ÿ

roedd yr Ynys yn wynebu problemau diweithdra anferth.  Ni fyddai pob aelod o staff o'r ysgolion dan sylw yn gallu cael gwaith mewn ardal ysgol.

 

Ÿ

dechreuodd 12 o ddisgyblion newydd yn yr ysgol ym mis Medi.

 

Ÿ

roedd yr ysgol yn cydweithredu'n llawn gyda'r gymuned.

 

Ÿ

sefydlwyd clwb ar ôl ysgol.  Roedd rhieni yn cyfarfod yno hefyd i baratoi llythyr newyddion ar gyfer yr ardal yn gyffredinol.

 

Ÿ

roedd nifer o dai newydd yn cael ei hadeiladu yn yr ardal ac ni allai'r ysgol ond elwa o ddyfodiad Wylfa B.

 

Ÿ

roedd yr Urdd yn cwrdd ar ôl ysgol bob mis ac roedd Campau'r Ddraig yn cyfarfod bob wythnos.

 

Ÿ

yn falch nad oedd yr Aelodau yn cyfeirio heddiw at safonau is - roedd addysg mewn ysgol fechan cystal os nad gwell nag addysg mewn ysgol fwy.  Roedd yr addysg o'r safon uchaf gyda phwyslais ar barch cymunedol.

 

Ÿ

erfynodd ar y Pwyllgor Gwaith i ystyried ei benderfyniad yn ofalus iawn a pheidio â dod i benderfyniad y byddai'r Ynys hon yn ei ddifaru yn y dyfodol.

 

 

 

Diolchodd Arweinydd y Cyngor a'r Cynghorydd G. O. Parry MBE, yr Aelod Portffolio, i bawb a oedd wedi cyfrannu i'r drafodaeth yn y cyfarfod heddiw ac i'r ymgynghori anffurfiol a oedd eisoes wedi digwydd.  Diolchwyd hefyd i Mr. Geraint Elis, Cydgysylltydd Strategol a'i staff am eu gwaith yn y cyswllt hwn.

 

 

 

Nodwyd ei bod hi'n anodd i'r Awdurdod hwn wneud cais am gyllid gan y Cynulliad dan y Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif a'r Hugain i adeiladu neu adnewydu ysgolion oherwydd nad oedd unrhyw gynlluniau rhesymoli wedi eu mabwysiadu.  Yn anffodus, roedd lleoedd gweigion yn ein hysgolion yn achosi gostyngiad yn yr arian ar gyfer addysg ledled yr ynys.

 

 

 

Roedd yr Awdurdod hwn yn wynebu cyfnod anodd iawn a byddai'n rhaid gwneud penderfyniadau caled ynghylch cwtogi ar lefel y gwasanaeth a ddarperir.  Roedd yr Awdurdod eisoes wedi gwneud toriadau i'w wasanaethau ar gyfer yr henoed.  Byddai penderfyniad y Pwyllgor Gwaith ynghylch ysgolion yn seiliedig ar resymau da a, gyda gobaith, byddai penderfyniad doeth yn cael ei wneud.  Roedd yr aelodau yn cydnabod y safonau uchel yn yr ysgolion fel sydd wedi ei nodi yn adroddiadau Estyn a dywedwyd nad oedd neb ar y Pwyllgor Gwaith, ar unrhyw adeg, wedi tanseilio safonau na lefel yr addysg a ddarperir mewn unrhyw ysgol.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

     Daeth y cyfarfod i ben am 5:00pm

 

 

 

     Y CYNGHORYDD C. McGREGOR

 

CADEIRYDD