|
|
|
1.6.1
|
Ail-lunio'r Maes Llafur Cytûn yn gyfan gwbl;
neu
|
|
|
1.6.2
|
ail-fabwysiadu'r Maes Llafur presennol am y tro
|
|
|
|
|
|
Atgoffodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden y
Gynhadledd bod CYSAG Ynys Môn yn ei gyfarfod ar 7 Chwefror
wedi cymeradwyo sefydlu Cynhadledd Maes Llafur Cytûn i
ystyried y mater a bod gweithgor tasg o blith swyddogion ac
athrawon Môn yn cael ei ffurfio i ymgymryd â'r gwaith
paratoadol gogyfer y Gynhadledd.Yn dilyn y penderfyniad hwn,
ymgynghorwyd â swyddogion Cyngor Gwynedd ynglyn â'r
priodoldeb o ohirio adolygu'r Maes Llafur hyd nes y bydd ACCAC wedi
cwblhau ei waith ac argymell ail-fabwysiadu'r Maes Llafur presennol
yn y cyfamser.Cytunwyd i argymell y strategaeth hon i Gynhadledd
Maes Llafur Cytûn y ddau awdurdod.Gofynnir felly i Gynhadledd
Môn ystyried yr argymhelliad hwn a dod i safbwynt ar y
mater.
|
|
|
|
|
|
Yn y fan hyn, ymrannodd y Gynhadledd yn grwpiau i ystyried
eu hymateb i'r argymhelliad i ail-fabwysiadu'r Maes Llafur
presennol hyd nes fod gwaith ACCAC wedi ei gwblhau.Yn dilyn
trafodaeth fesul grwp, bu i'r Gynhadledd ail-gynnull ac adroddodd y
grwpiau ar eu safbwynt fel a ganlyn:
|
|
|
|
|
|
Yr Awdurdod Addysg Lleol - yn cefnogi mabwysiadu'r
argymhelliad i ail fabwysiadu'r Maes Llafur Cytun
presennol;
|
|
|
|
|
|
Yr Enwadau Crefyddol - yn cefnogi mabwysiadu'r
argymhelliad i ail fabwysiadu'r Maes Llafur Cytun
presennol;
|
|
|
|
|
|
Undebau'r Athrawon - yn cefnogi mabwysiadu'r argymhelliad
i ail fabwysiadu'r Maes Llafur Cytun presennol;
|
|
|
|
|
|
Penderfynwyd yn unfrydol bod y Gynhadledd Maes Llafur
Cytûn yn ail fabwysiadu'r Maes Llafur Cytûn Addysg
Grefyddol presennol am gyfnod pellach o bum mlynedd neu hyd y
cyhoeddir adolygiad ACCAC o'r Cwricwlwm Cenedlaethol a'i fwriadau
mewn perthynas â Maes Llafur cenedlaethol, gan alw cynhadledd
pellach i drafod y mater mewn manylder bryd
hynny.
|
|
|
|
|
|
|
|
R H A N 2 - CYFARFOD Y CYSAG
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.
|
|
|
|
|
|
Cyfeiriwyd yn y fan hyn at y ffaith fod Arweinydd y Cyngor
Sir, sef y Cynghorydd W.J.Williams wedi derbyn anrhydedd yr MBE yn
Rhestr Anrhydeddau Penblwydd y Frenhines am ei wasanaeth i addysg a
llywodraeth leol.Bu i aelodau'r CYSAG longyfarch y Cynghorydd
W.J.Williams ar dderbyn yr anrhydedd hwn.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, cofnodion
cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 7 Chwefror, 2005.
(Cyfrol y Cyngor 3 Mawrth,
2005 - tud 126)
|
|
|
|
|
|
|
|
|
2.1
|
Eitem 2.1 - Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol -
Adroddiad Blynyddol
|
|
|
|
|
|
Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden nad
oedd yr Athro Leslie Francis o'r Ganolfan Genedlaethol Addysg
Grefyddol yn gallu bod yn bresennol heddiw i gyfarch y CYSAG
oherwydd ymrwymiadau eraill.Fodd bynnag, byddir yn gwneud pob
ymdrech i gyd-gordio dyddiadau fel bod yr Athro Francis yn gallu
mynychu un o gyfarfodydd nesaf y CYSAG.
|
|
|
|
|
2.2
|
Eitem 2.2 - Safonau Cyrhaeddiad yn yr Arholiadau
Allanol 2004
|
|
|
|
|
|
Cyfeirwyd at yr ystadegau mewn perthynas â nifer y
disgyblion a safodd Astudiaethau Crefyddol trwy gyfrwng y Gymraeg
hyd at safon Arholiad Lefel A a'r Arholiad Uwch Gyfrannol yn 2004 a
holwyd pam nad oedd ystadegau o Ysgol Uwchradd Caergybi yn
gynwysiedig yn y ffigyrau hyn.
|
|
|
|
|
|
Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden nad yw
Ysgol Uwchradd Caergybi yn cynnig Addysg Grefyddol Lefel A a
bod yr amrediad o bynciau sydd ar gael yn fater i'r ysgol unigol a
bod y dewis sydd ar gael yn aml yn ddibynnol ar y nifer o
ddisgyblion sydd yn mynegi diddordeb mewn pwnc.Mae'n bosibl bod
disgyblion sydd yn dymuno dilyn Addysg Grefyddol a phynicau
lleiafrifol eraill yn gallu gwneud hynny trwy fynychu gwersi mewn
ysgol arall sydd yn cynnig y ddarpariaeth. Fodd bynnag, tra bod y
bedair ysgol uwchradd arall yn y sir yn gwneud darpariaeth Addysg
Grefyddol Lefel A, mae yna peth ansicrwydd ynglyn â beth fydd
y sefyllfa yn y dyfodol yn sgîl cyflwyno trefniadau cyllido
newydd gogyfer addysg chweched dosbarth, ac mae ELWa ar hyn o bryd
yn cynnal trafodaethau ynglyn â'r niferoedd a ystyrir yn
hyfyw ar gyfer pynciau penodol.
|
|
|
|
|
|
Nododd cynrychiolydd Cymdeithas y Penaethiaid Uwchradd tra
ei bod yn bosib crynhoi niferoedd i grwp cyfrwng Cymraeg a grwp
cyfrwng Saesneg ar gyfer pynciau penodol nid yw hynny'n ymarferol
bosibl mewn perthynas â darpariaeth Addysg Grefyddol oherwydd
nad yw amserlenni'r ysgolion uwchradd yn cyd-fynd.Felly, os yw
disgybl o Ysgol Uwchradd Caergybi yn awyddus i ddilyn Addysg
Grefyddol hyd Lefel A byddai'n rhaid iddo/iddi newid
ysgol.
|
|
|
|
|
|
Rhoddodd Yngynghorydd y Dyniaethau wybod i'r CYSAG nad yw
Ysgol Uwchradd Caergybi yn cynnig cwrs TGAU Addysg Grefyddol
ychwaith, ond mae'r ysgol yn gwneud darpariaeth Astudiaethau
Crefyddol statudol a bu'r ddarpariaeth hon yn destun arolygiad
allanol ac fe gyflwynwyd copi o'r adroddiad arolygiad hwnnw gerbron
y CYSAG.
|
|
|
|
|
|
Roedd cynrychiolwyr yr Awdurdod Addysg a chynrychiolydd
Undeb y Bedyddwyr yn bryderus iawn ynglyn â'r diffyg
darpariaeth Addysg Grefyddol Lefel A yn Ysgol Uwchradd Caergybi a
bu iddynt nodi eu bod yn awyddus i gael gwybod beth yw'r rhesymau
paham nad yw'r ysgol yn cynnig y cyfryw ddarpariaeth, ynghyd
â beth fyddai'r ysgol yn gallu ei wneud i wirio'r sefyllfa, a
bu iddynt ofyn i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adysg a Hamdden
gysylltu gyda'r ysgol i'r perwyl hwn. Ychwanegwyd y byddai o
gymorth i'r CYSAG gael gwybod hefyd beth yw'r ddarpariaeth statudol
mae'r ysgol yn ei wneud.
|
|
|
|
|
|
Yn y drafodaeth ddilynol cytunwyd yn gyffredinol ei bod yn
deg i'r CYSAG yn rhinwedd ei swydd gwestiynu'r diffyg darpariaeth
Addysg Grefyddol Lefel A yn Ysgol Uwchradd Caergybi, ond
mynegwyd y safbwynt hefyd na ddylid canolbwyntio ar ddiffyg
darpariaeth mewn un ysgol yn enwedig pan fo adroddiad arolygiad yn
cwmpasu darpariaeth Addysg Grefyddol statudol yn yr ysgol wedi ei
gyhoeddi ac wedi ei nodi gan y CYSAG.
|
|
|
|
|
|
Ar ôl ystyried y mater, daeth y CYSAG i'r casgliad
ei fod yn briodol iddo ymholi ynglyn â'r diffyg darpariaeth
Addysg Grefyddol Lefel A yn Ysgol Uwchradd Caergybi a chytunwyd i
ofyn i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden wneud
hynny.
|
|
|
|
|
|
Yn y cyswllt hwn hefyd, dygwyd sylw at y ffaith mai 10
disgybl a safodd Arholiad Lefel A cyfrwng Cymraeg mewn Addysg
Grefyddol yn Ysgol Uwchradd Bodedern yn 2004 ac mai 6 disgybl a
safodd yr Arholiad Uwch Gyfrannol.
|
|
|
|
|
|
Penderfynwyd gofyn i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol
Addsyg a Hamdden gysylltu gydag Ysgol Uwchradd Caergybi i bwrpas
cael gwybod beth yw rhesymau'r ysgol dros beidio â chynnig
darpariaeth Addysg Grefyddol Lefel A, beth all yr ysgol ei wneud i
wirio'r sefyllfa a beth yw'r ddarpariaeth statudol Addysg Grefyddol
mae'r ysgol yn ei chynnig ar hyn o
bryd.
|
|
|
|
|
3
|
HYFFORDDIANT MEWN SWYDD ADDYSG GREFYDDOL
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - Adroddiad gan Ymgynghorydd y Dyniaethau yn
amlinellu'r gweithgaredd hyfforddiant mewn swydd a gynhaliwyd ar
gyfer athrawon Addysg Grefyddol y sir yn ystod y flwyddyn Ebrill,
2004 i Fawrth, 2005.
|
|
|
|
|
|
Nododd Ymgynghorydd y Dyniaethau y prif bwyntiau fel a
ganlyn:
|
|
|
|
|
3.1
|
Fel rhan o'r Cytundeb Lefel Gwasanaeth gyda'r ysgolion
mae'r Awdurdod Addysg yn darparu rhaglen hyfforddiant mewn swydd ar
gyfer athrawon yr Awdurdod.Mae'r Cynllun Strategol Addysg yn
cyfeirio at bwysigrwydd y rhaglen hyfforddi fel ffordd o sicrhau
bod athrawon yn cael gwybodaeth am ddatblygiadau newydd, rhannu
arferion da a chydweithio i ddatblygu strategaethau dysgu ac
addysgu a deunyddiau pwrpasol.Anelir at sicrhau bod y rhaglen
hyffordiant yn ymateb i anghenion ysgolion ac athrawon trwy
ymgynghori gyda phenaethiaid, athrawon a thiwtoriaid proffesiynol
yn yr ysgolion.
|
|
|
3.2
|
Eleni gwelwyd toriadau yn y grant ar gyfer hyfforddiant
mewn swydd.Nid oedd cyllidebau'r ysgolion yn caniatau iddynt dalu
am athrawon llanw ac roedd hyn yn effeithio ar y niferoedd oedd yn
gallu mynychu cyrsiau.
|
|
|
3.3
|
Mewn ymateb i hyn treialwyd trefn newydd eleni trwy gau
ysgolion cynradd ac uwchradd am ddau ddiwrnod er mwyn cynnal
cyrsiau hyfforddiant.Y tiwtoriaid proffesiynol oedd yn gyfrifol am
ddewis y cyrsiau ar gyfer yr ysgolion uwchradd a'r penaethiaid oedd
yn dewis y cyrsiau ar gyfer yr ysgolion cynradd.
|
|
|
3.4
|
Yn ystod y flwyddyn darparwyd cwrs sirol i'r sector
cynradd gogyfer CA1 o dan destun Crefyddau Mawr y Byd a bu i 3 o
Fôn ei fynychu; hefyd darparwyd cwrs HADA 5 diwrnod yn
cynnwys ymweliad â'r Mosg yng Nghyffordd Llandudno a bu i 5 o
Fôn ei fynychu.
|
|
|
3.5
|
O ran cyrsiau uwchradd gorfu canslo'r cwrs sirol ar destun
Addysg Grefyddol yn y Newyddion am nad oedd yna niferoedd digonol i
gyfiawnhau ei gynnal.Cynhaliwyd 2 gwrs Consortiwm i Fôn, y
naill ar Hunan Arfarnu a Symbolaeth Crefyddol a fynychwyd gan 7
athro/awes, a'r llall ar Asesu Cynnydd Disgyblion yn CA3 a
fynychwyd gan 5 athro/awes.
|
|
|
3.6
|
Mae ysgolion cynradd ac uwchradd y sir yn derbyn
cefnogaeth yr Ymgynghorydd Dyniaethau a'r Athrawes Ymgynghorol
Addysg Grefyddol (rhan amser) wrth iddynt ymweld ag ysgolion fel
rhan o'r rhaglen hawl a haeddiant.Byddant yn cynorthwyo athrawon
wrth iddynt gynllunio'u rhaglenni astudio a chynlluniau asesu,
paratoi gweithgareddau dosbarth a dethol adnoddau dosbarth
addas.Mae cyfraniad yr Athrawes Ymgynghorol Addysg Grefyddol yn
allweddol i rannu arferion da a datblygu gweithgareddau dosbarth
symbylus, yn aml trwy gyfrwng TGCh.
|
|
|
3.7
Yn y cyswllt hwn, nodir bod secondiad Mrs
Eleri Moss, Pennaeth Addysg Grefyddol Ysgol y Moelwyn fel Athrawes
Ymgynghorol Addysg Grefyddol yn dirwyn i ben y tymor hwn.Mae Mrs
Moss wedi rhoi cefnogaeth ddwys i rai o ysgolion uwchradd yr ardal
yn ogystal ag ymgymryd â dyletswyddau arferol athrawes
ymgynghorol.Mae athrawon Addysg Grefyddol a disgyblion yn ddyledus
iawn iddi am ei hymroddiad a'i chefnogaeth ymarferol.Mae hefyd wedi
cyfrannu at brosiectau arbennig ac wedi cefnogi ysgolion wrth
arsylwi gwersi Addysg Grefyddol ac arfarnu samplau o waith
disgyblion.
|
|
|
|
Nododd Ymgynghorydd y
Dyniaethau ei bod yn dymuno cofnodi ei diolch ffurfiol a phersonol
i Mrs Eleri Moss am ei chyfraniad, ei chefnogaeth a'i chwmniaeth yn
ystod cyfnod ei secondiad.
|
|
|
|
Ategwyd y diolchiadau
uchod gan aelodau'r CYSAG a bu iddynt ofyn i'r Cyfarwyddwr
Corfforaethol Addysg a Hamdden anfon llythyr ar eu rhan at Mrs Moss
i fynegi eu gwerthfawrogiad iddi am ei gwaith yn ystod ei secondiad
fel Athrawes Ymgynghorol.
|
|
|
|
Penderfynwyd derbyn
adroddiad Ymgynghorydd y Dyniaethau ynglyn â gweithgaredd
hyfforddiant yn ystod y flwyddyn a nodi ei gynnwys.
|
|
|
|
4
|
LLYTHYR ACCAC YNGLYN Â DEUNYDDIAU YSTAFELL
DOSBARTH
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - Gohebiaeth
dyddiedig Mai, 2005 gan ACCAC yn gofyn
am sylwadau ac awgrymiadau i'w cyflwyno gerbron Paneli Ymgynghorol
sydd yn gyfrifol am adnabod anghenion ac am ddarparu cyngor ar
ddeunyddiau i'w comisiynu gan ACCAC ym mhob pwnc, ac sydd yn cwrdd eleni
yn ystod yr hydref.
|
|
|
|
Cytunwyd y byddai'n
ymarferol i unrhyw aelod o'r CYSAG ac yn arbennig yr athrawon fel
ymarferwyr proffesiynol i gysylltu'n uniongyrchol ag Ymgynghorydd y
Dyniaethau os ydynt yn teimlo bod yna unrhyw fylchau o ran
gwerslyfrau Addysg Grefyddol fel y gall hithau wedyn fwydo'r
wybodaeth ymlaen i ACCAC.
|
|
|
|
Penderfynwyd nodi'r
ohebiaeth gan ACCAC gan ofyn i gynrychiolwyr undebau'r athrawon os
oes ganddynt unrhyw awgrymiadau o ran deunyddiau i'w comisynu ym
maes Addysg Grefyddol i'w cyflwyno'n uniongyrchol i Ymgynghorydd y
Dyniaethau.
|
|
|
|
5
|
CANOLFAN GENEDLAETHOL ADDYSG GREFYDDOL - ADRODDIAD
BLYNYDDOL 2003/04
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - Adroddiad Blynyddol y Ganolfan
Genedlaethol Addysg Grefyddol am 2003/04, ynghyd â gohebiaeth
ynglyn â'r tanysgrifiad gogyfer 2005/06.
|
|
|
|
Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a
Hamdden bod yr Adroddiad Blynyddol uchod yn dod gerbron y CYSAG i
roi gwybod iddo am weithgareddau'r Ganolfan dros y flwyddyn
oherwydd fod Cyngor Sir Ynys Môn ymhlith tanysgrifwyr y
Ganolfan sydd yn cyfarnnu'n ariannol iddi yn flynyddol.Teimlir fod
y Ganolfan yn adnodd arbennig o werthfawr ac mae'r Cyngor Sir
eisoes wedi cytuno i barhau gyda'r tanysgrifiad iddi am y flwyddyn
nesaf, sef cyfraniad o £1,290 tuag at y Ganolfan a £376
tuag at gostau cynhyrchu Newyddlen Addysg Grefyddol.
|
|
|
|
Roedd y CYSAG yn gytun ei gefnogaeth tuag at y
Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol.
|
|
|
|
Penderfynwyd derbyn Adroddiad Blynyddol y
Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol am 2003/04 a nodi ei
gynnwys.
|
|
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - Gwybodaeth am
gynnwys adroddiadau Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygu 1996 mewn
Addysg Grefyddol a materion perthynol mewn perthynas ag Ysgol
Gynradd Amlwch, Ysgol Gymuned Bodorgan ac Ysgol Gynradd
Llanddeusant.
|
|
|
|
Nodwyd gyda boddhad fod yr
adroddiadau yn rhai cadarnhaol iawn o ran darpariaeth Addysg
Grefyddol yn y dair ysgol ac nad oedd yna unrhyw ddiffygion o bwys
yn cael eu hamlygu.
|
|
|
|
Penderfynwyd nodi
cynnwys y rhannau perthnasol hynny o adroddiadau Arolygiad mewn
perthynas â'r ysgolion a nodir gan ofyn i'r Cyfarwyddwr
Corfforaethol Addysg a Hamdden ysgrifennu at y dair ysgol i gyfleu
i'w staff a'u disgyblion ddiolch a llongyfarchiadau aelodau'r CYSAG
am eu gwaith da a'u cyflawniad.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Cynghorydd Eurfryn
Davies
|
|
Cadeirydd
|