|
|
|
|
Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden ei
fod wedi ysgrifennu at Bennaeth Ysgol Uwchradd Caergybi yn unol
â chais y CYSAG a'i fod wedi derbyn ymateb mewn llythyr
dyddiedig 6 Gorffennaf, 2005.Ynddo, esbonia'r Pennaeth bod
disgyblion Blwyddyn 10 ac 11 yn astudio Addysg Grefyddol trwy
gyfrwng modiwlau yn gynwysiedig yn eu Rhaglen Cyfoethogi
Cwricwlwm.Gwnaed gwaith yn ddiweddar gydag Ymgynghorydd y
Dyniaethau i ddiweddaru'r agwedd hon o'r gwaith.O ran cyrsiau
ôl-16, mae'r ysgol yn cynnig gwersi Addysg Grefyddol i bob
disgybl.Aiff y Pennaeth rhagddi i nodi bod yr ysgol yn adolygu ei
gwricwlwm bob blwyddyn yn ystod tymor yr Hydref ac mae'r cwricwlwm
i raddau yn adlewyrchu diddordebau'r myfyrwyr.Yn ddiweddar
ychwanegwyd cyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Busnes i'r
cwricwlwm am fod myfyrwyr wedi dangos diddordeb ynddynt ac wedi
gwneud cais am y datblygiadau hyn.Yn anffodus, ni wnaed unrhyw gais
am gwrs Lefel A Addysg Grefyddol.Bydd yr ysgol yn parhau
i
|
|
|
|
adolygu'r sefyllfa yn flynyddol ac yn gwneud hynny hefyd
yng nghyd-destun ystyriaethau staffio.
|
|
|
|
|
|
Rhoddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau wybod i'r CYSAG ei bod
wedi ymweld ag Ysgol Uwchradd Caergybi i drafod darpariaeth Addysg
Grefyddol statudol ar gyfer disgyblion CA4, ac, yn absenoldeb
Pennaeth yr Adran Addysg Grefyddol, bu iddi dreulio prynhawn a
noswaith yn gwirio cynlluniau disgyblion Blwyddyn 10 gyda Phennaeth
yr Adran Gymraeg.Nododd ei bod wedi trefnu i ymweld â'r ysgol
drachefn y mis hwn i gael cyfarfod gyda Phennaeth yr Adran Addysg
Grefyddol.
|
|
|
|
|
|
Cydnabu aelodau'r CYSAG fod yr uchod yn broblem
hir-sefydlog a bod ystyriaethau staffio yn rhai problemus o ran
recriwtio personau addas gyda'r cymwysterau priodol yn y maes i
ddarparu'r pwnc, a thra'n derbyn esboniad Pennaeth Ysgol Uwchradd
Caergybi dros ddiffyg darpariaeth Addysg Grefyddol Lefel A yn yr
ysgol, roedd yr aelodau yn tristau ynghylch y sefyllfa.
|
|
|
|
|
|
Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden tra'n
derbyn fod diffyg arbenigedd Addysg Grefyddol yn ffactor, mae'r sir
wedi cyrraedd cryn aeddfedrwydd o ran gallu gwneud darpariaeth ar y
cyd ac mae yna ddealltwriaeth a chyd-weithrediad da rhwng yr
ysgolion o ran rhannu adnoddau yn arbennig mewn pynciau
lleiafrifol.Gall disgybl felly ddilyn cwrs Addysg Grefyddol nad yw
efallai ar gael iddo/iddi yn yr ysgol mae wedi ei gofrestru ynddi
trwy ddarpariaeth ganolog yn Llangefni neu thrwy fynychu ysgol
arall sydd yn cynnig y ddarpariaeth. Efallai mai dyma'r ffordd orau
i sicrhau cyfle cyfartal i ddisgyblion Ysgol Uwchradd Caergybi sydd
yn dymuno dilyn cwrs Addysg Grefyddol hyd at safon Lefel
A.
|
|
|
|
|
|
Penderfynwyd derbyn llythyr Pennaeth Ysgol Uwchradd
Caergybi ynglyn â darpariaeth Addysg Grefyddol yn yr ysgol, a
nodi'r wybodaeth.
|
|
|
|
|
3
|
CYFLWYNIAD GAN Y PARCH.ATHRO LESLIE
FRANCIS
|
|
|
|
|
|
Bu i'r Parch.Athro Leslie Francis, Cyfarwyddwr Canolfan
Genedlaethol Addysg Grefyddol a Tania ap Sion o'r Ganolfan roddi
cyflwyniad ar yr amryfal agweddau o waith a gweithgaredd y Ganolfan
ym Mangor.
|
|
|
|
|
|
Diolchodd yr Athro Leslie Francis i aelodau'r CYSAG am y
gwahoddiad caredig i'w cyfarch ac am y croeso cynnes a rhoddodd ef
a Tania ap Sion amlinelliad o waith y Ganolfan fel a ganlyn
-
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Cymerodd gyfrifoldeb am y Ganolfan ym 2000 ac roedd yn
gwerthfawrogi'n fawr iawn cefnogaeth CYSAG Ynys Môn i'r
Ganolfan.Amcanai yn ei gyflwyniad i roddi blas i aelodau ar werth y
Ganolfan fel adnodd lleol a chenedlaethol ac fel un gall wneud
cyfraniad hefyd ar lefel rhyngenedlaethol;
|
|
|
Ÿ
|
mae'r Ganolfan yn deillio o flaengareddau Anglicanaidd a
welodd sefydlu Coleg y Drindod yng Nghaerfyrddin a Choleg y Santes
Fair ym Mangor, ac mae Cronfa Ymddiriedolaeth Coleg y Santes Fair
yn parhau i gynnal y Ganolfan ynghyd â chyfraniadau o
ffynonellau eraill megis awdurdodau addysg a'r eglwysi. Ymdrechir i
gadw at y weledigaeth wreiddiol a oedd wedi seilio ar y cysyniad o
Ganolfan Addysg Grefyddol fel endid ar wahân o fewn y
Brifysgol; ac mae hyn yn gryfder o ran galluogi'r Ganolfan i wneud
y mwyaf o holl fanteision yr amgylchfyd academaidd tra'n cadw ei
hannibynniaeth;
|
|
|
Ÿ
|
ffocws y ganolfan yw Addysg Grefyddol o fewn yr Eglwys ac
ysgolion ac anelir at sicrhau fod y ffocws hwn yn greiddiol i'w
gweithgareddau.Mae'r Ganolfan hefyd yn hyrwyddo gwaith ymchwil a
datblygu ar y sail bod ymchwil yn gonglfaen Addysg Grefyddol o'r
ansawdd orau.Felly, mae'r pwyslais gyfredol ar y Ganolfan Adnoddau;
Addysg Grefyddol mewn ysgolion ac eglwysi; Addysg Oedolion Lleyg;
addysg gychwynnol a pharhaus addysgwyr crefyddol; gwaith ymchwil,
a'r Ganolfan Addysg Byd sydd yn dod o dan ymbarél y Ganolfan
Genedlaethol AG;
|
|
|
Ÿ
|
mae'r Ganolfan yn aelod o Goleg a Phrifysgol y Gymuned
Anglicanaidd sydd yn rhoddi iddi fynediad at rwydwaith adnoddau byd
eang.Cynhwysa sefydliad staff y Ganolfan Gyfarwyddwr, Cyfarwyddwr
Astudiaethau, Cyfarwyddwr Rhaglenni, swyddogion prosiect,
cynorthwywyr ymchwil a myfyrwyr ymchwil - nifer ohonynt yn gweithio
yn rhan amser ac ar gontractau rhan amser.
|
|
|
Ÿ
|
mae gan y Ganolfan Adnoddau dros 20,000 o adnoddau ar gael
i'w benthyg yn cynnwys llyfrau, deunyddiau clywedol ac arteffactau
yn berthnasol i addysg grefyddol mewn ysgolion ac eglwysi, ac
addysg datblygiad, ac mae ar agor trwy'r wythnos ac yn ystod
y penwythnosau. Mae gan y Ganolfan Swyddog Adnoddau i gynorthwyo
pobl yn eu cais am wybodaeth ac mae'r Swyddog hwnnw ar hyn o bryd
yn gweithio ar sefydlu basdata newydd o'r adnoddau gyda mynediad
iddo ar y Wê.Cychwynnwyd hefyd ar y broses o greu archif o'r
casgliad sylweddol o ddeunyddiau hyn sydd gan y Ganolfan. Agwedd
arall o waith y Ganolfan yw darparu cyngor proffesiynol yng
nghyswllt Addysg Grefyddol, Addysg Datblygiad ac Ysgolion
Eglwysig;
|
|
|
Ÿ
|
fel rhan o'r gwaith cefnogol gydag ysgolion sydd yn elfen
bwysig iawn o'r gweithgareddau, mae'r Ganolfan yn cyhoeddi
cylchgrawn dwyieithog, Newyddlen Addysg Crefyddol, sef yr unig
gylchgrawn sylweddol sydd yn canolbwyntio ar faterion Addysg
Crefyddol sydd yn berthnasol i Gymru.Ymgymerir â gwaith
datblygu adnoddau arbenigol newydd i athrawon ac ysgolion megis
cyfres o lyfrau CA1 fel rhan o brosiect ACCAC o dan y teitl, Mannau
Arbennig Cristnogol sydd yn dilyn profiadau dau blentyn, Aled a
Sian wrth iddynt fynychu eglwysi Cristnogol ar gyfer achlysuron,
dathliadau a gweithgareddau traddodiadol megis gwasanaeth y Pasg,
gwasanaeth priodas mewn eglwys anglicanaidd, gweithgareddau
cymdeithasol ar gyfer yr henoed a'r digartref yn y capel sy'n
dangos sut mae Cristnogaeth yn ymdrwytho i fywyd bob dydd;
gwasanaeth Nadolig, gwasanaeth diolchgarwch a gwasanaeth bedyddio
mewn Eglwys Gatholig;
|
|
|
Ÿ
|
dilynwyd y gyfres hon gan gyfres bellach a luniwyd eto ar
ran ACCAC ar gyfer disgyblion CA2.Yn y gyfres newydd mae'r ddau
blentyn yn dysgu am grefyddau yng Nghymru a'r byd trwy gyfrwng 7
llyfr stori, ac mae dau lyfr yn y gyfres wedi'u neilltuo i
archwilio Cristnogaeth ac un llyfr yr un i Islam, Iddewiaeth,
Siciaeth, Bwdïaeth, a Hindwaeth. Mae'r Ganolfan hefyd yn
cyd-weithio gyda'r Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Cymru ar y
prosiect hwn a gyda SPCK i ddatblygu adnoddau cynradd dwyieithog ar
gyfer cyd-addoli.Bwriedir datblygu adnoddau uwchradd hefyd fel mae
cyllid yn caniatau;
|
|
|
Ÿ
|
o ran Addysg Grefyddol yn yr Eglwys datblygwyd cymeriad ar
gyfer plant y blynyddoedd sylfaenol o dan yr enw Teddy Horsley sydd
yn archwilio cysyniadau crefyddol gyda phlant ifanc.Mae'r
gyfres Learning with Sunday
Gospels yn cynnwys deunydd i'w
ddefnyddio gan eglwysi gyda phlant a phobl ifanc - dymunir darparu
gwefan lle gall rhieni dynnu adnoddau i'w defnyddio gyda'u plant i
baratoi am wasanaeth yr eglwys ar y Sul fel eu bod yn teimlo'n rhan
o'r gwasanaeth ac yn rhan o gymuned ddysgu'r eglwys;
|
|
|
Ÿ
|
rhan bwysig arall o waith y Ganolfan yw Addysg Grefyddol
Oedolion Lleyg - mae cynulleidfaoedd eglwys yn gynyddol awyddus i
hyrwyddo addysg ac mae lleygwyr yn cymryd arnynt swyddogaeth
gynyddol bwysig yn yr eglwys.Mae'r rhaglen Exploring Faith wedi'i
llunio ar gyfer unigolion o fewn cynulleidfaoedd eglwys sydd am
wella eu dealltwriaeth o faterion ffydd yn ogystal â'r rheiny
sydd yn dymuno dilyn gweinidogaeth gydnabyddedig, ac fe'i cynhelir
ar sail dysgu o bell.Ceir cwrs hefyd ar gyfer unigolion sydd yn
ymwneud â gweinidogaeth plant - mae Addysg Gweinidogaeth
Gychwynnol yn waith sydd wedi tyfu'n gyflym iawn ac wedi datblygu
yn Ganolfan ar gyfer gweinidogaeth sydd yn sefyll ochr yn ochr
â'r prif Ganolfan;
|
|
|
Ÿ
|
mae'r Ganolfan AG yn cynnal nifer o gyrsiau fel rhan o
ddatblygiad proffesiynol parhaus ac yn hyrwyddo gwaith ymchwil, ac
mae'r cyhoeddiadau sydd wedi deillio o waith ymchwil yn amrywiol -
mae testunau ymchwil cyfredol yn ymwneud ag Addysg Grefyddol a'r
Cwricwlwm Cymreig, datblygiad agweddau crefyddol ymhlith disgyblion
uwchradd, a chyfraniad y Gadeirlan ym Mangor tuag fywyd y ddinas o
berspectif yr economi lleol yn ogystal â'r hyn mae'r adeilad
yn sefyll drosto;
|
|
|
Ÿ
|
wrth fesur gwerth y Ganolfan, rhaid ystyried a yw'r
Ganolfan fel ag y mae yn etifeddiaeth deilwng i'r sawl a'i
sefydlwyd ac i'w gweledigaeth o Ganolfan Addysg Grefyddol arbenigol
yn rhoddi gwasanaeth eang - mae'r Ganolfan yn darparu
adnoddau ar gyfer ysgolion ac eglwysi a'u disgyblion yn lleol, ar
draws Cymru, ac mae ganddo hefyd gyfraniad i'w wneud i addysgwyr
crefydd ar lefel cenedlaethol a byd eang, a hynny ar gefn gwaddol
gymharol fychan.Mae'n gweithio mewn partneriaethau â chyrff
eraill i ddatblygu adnoddau ac i sicrhau wedyn bod yr adnoddau
hynny ar gael i ysgolion yn lleol ac o hirbell. Mae Newyddlen
Addysg Grefyddol yn parhau i fod yn faner i'r Ganolfan ac yn dod
â materion Addysg Grefyddol i sylw ysgolion ac addysgwyr AG
yn genedlaethol.
|
|
|
|
|
|
Diolchwyd i'r Athro Leslie Francis a Tania ap Sion am
gyflwyniad cynhwysfawr a chyflawn o weithgareddau'r Ganolfan
Genedlaethol Addysg Grefyddol oedd yn rhoi darlun o'r ystod eang o
waith mae'r Ganolfan yn ymgymryd ag ef ym maes Addysg Grefyddol, a
mynegwyd gwerthfawrogiad gan aelodau'r CYSAG i gyd o'r gwaith
hwnnw, gan ddymuno'n dda i'r Ganolfan am lwyddiant parhaus yn y
dyfodol.
|
|
|
|
|
|
Penderfynwyd diolch i'r Parch.Athro Leslie Francis a
Tania ap Sion am roddi o'u hamser i fod yn bresennol yn y cyfarfod
hwn o CYSAG Ynys Môn ac am gyflwyniad diddorol a dadlennol o
waith y Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol.
|
|
|
|
|
4
|
CYMDEITHAS CYSAGau CYMRU
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - Cofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a
gynhaliwyd yng Nghonwy ar 22 Mehefin, 2005 ynghyd â'r rhaglen
gogyfer cyfarfod nesaf y Gymdeithas i'w gynnal yng Nghasnewydd ar
19 Hydref, 2005.
|
|
|
|
|
|
Cyfeiriodd yr Is-Gadeirydd at y prif bwyntiau fel a ganlyn
-
|
|
|
|
|
Ÿ
|
rhoddwyd cyflwyniad arbennig i'r cyfarfod gan yr Athro
Leslie Francis ar ran NAPfRE ar destun, Ffydd a Gwerthoedd : dylanwad parhaus hunaniaeth
grefyddol ymysg pobl ifanc;
|
|
|
Ÿ
|
derbyniwyd adborth gan y Gymdeithas o gyfarfod a
gynhaliwyd ym mis Mai gyda Gweinidog Addysg Llywodraeth Cynulliad
Cymru, a nodwyd mai un o'r prif bynciau trafod o'r cyfarfod hwnnw
oedd AG yn Llwybrau Dygsu 14-19 a noddiant ariannol ELWa i gyrsiau
arholiad ôl-16 mewn Addysg Grefyddol ac Astudiaethau
Crefyddol.Penderfynodd Cymdeithas CYSAGau Cymru gylchredeg holidaur
ymysg ysgolion uwchradd Cymru i ganfod beth yw'r sefyllfa a maint y
broblem o ran cyllido Addysg Grefyddol ôl-16.
|
|
|
Ÿ
|
cafwyd cyflwyniad ar Brosiect CACC yn ymwneud ag Addysg
Grefyddol a Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu;
|
|
|
Ÿ
|
roedd Gweinidog Addysg Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi
cytuno i fod yn bresennol fel un o'r llefarwyr allweddol (yn
ddarostyngedig i'w threfniadau dyddiadur) mewn Symposiwm i'w gynnal
ym mis Mai 2006;
|
|
|
Ÿ
|
yn y Cyfarfod Blynyddol, etholwyd y Parch.Eldon Phillips o
Abertawe a Ms.Vicky Thomas o Dorfaen i wasanaethu ar y Pwyllgor
Gwaith am 2005-08.
|
|
|
|
|
|
Penderfynwyd nodi cofnodion cyfarfod Cymdeithas
CYSAGau Cymru a gynhaliwyd yng Nghonwy ar 22 Mehefin, 2005 ynghyd
â chynnwys y rhaglen gogyfer y cyfarfod i'w gynnal yng
Nghasnewydd ar 19 Hydref, 2005 gan ddiolch i Is-Gadeirydd y CYSAG
am ei adborth ar lafar.
|
|
|
|
|
5
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYSAG YNYS MÔN
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - Drafft o
Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn am 2004/05.
|
|
|
|
Codwyd cwestiwn ynglyn
â threfn arolygu newydd ESTYN a nodwyd y bu i'r CYSAG gytuno
i barhau i dderbyn adborth ynglyn â pherfformiad ysgolion y
sir yn y maes trwy gyfrwng adroddiadau hunan arfarnu ysgolion, a
holwyd a oedd yna unrhyw ddatblygiadau i'w hadrodd ynghylch
hyn.
|
|
|
|
Esboniodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol Addysg a Hamdden bod dymuniad y CYSAG i barhau i
fonitro'r agweddau perthnasol o waith ysgolion sydd o dan ei
gyfrifoldeb fel corff wedi cael ei nodi.Mae Cynnal wedi datblygu
offeryn hunan arfarnu ar gyfer ysgolion ac mae trafodaethau yn
parhau gyda Phenaethiaid ysgol ynglyn â chytuno ar ffurf a
model ar gyfer adrodd i'r CYSAG. Unwaith y ceir consenws
ynghylch hyn byddir yn cyflwyno cynllun gerbron y CYSAG
gyda'r wybodaeth mae'r Cyngor yn ei chwennych gan geisio sicrhau na
fyddir yn sgîl hynny yn gor-feichio'r
ysgolion.
|
|
|
|
Nodwyd bod ysgol yn rhoddi
sylw i'r holl agweddau cwricwlaidd wrth baratoi ar gyfer arolygiad
er mai ond 6 phwnc sydd yn cael eu harolygu'n benodol o dan y drefn
newydd, a byddai modd cyflwyno'r adroddiad rhagbaratoawl gerbron y
CYSAG fyddai hefyd yn cynnwys trosolwg o agweddau Addysg Grefyddol
o waith yr ysgol.
|
|
|
|
Penderfynwyd
cymeradwyo'r Adroddiad Blynyddol am 2004/05 fel ag a gyflwynir yn
amodol ar y diwygiadau a nodir isod -
|
|
|
|
Ÿ
|
Dileu'r cyfeiriad at Mr.Rheinallt Thomas fel
Chairman Wales Association of
SACREs yn fersiwn Saesneg yr
Adroddiad Blynyddol;
|
|
|
Ÿ
|
Cywiro'r cyfeiriad at Welsh Centre for Religious Education Centre
for Wales yn fersiwn Saesneg yr
Adroddiad i ddarllen Welsh
National Centre for Religious Education;
|
|
|
Ÿ
|
cysoni'r cyfeiriadau at yr Annibynnwyr trwy'r
adroddiad i ddarllen Undeb yr Annibynnwyr yn y Gymraeg ac
Union of Welsh Independents
yn y Saesneg.
|
|
|
|
|
6
|
SAFONAU CYRHAEDDIAD YN YR ARHOLIADAU ALLANOL
2005
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - Adroddiad gan
Ymgynghorydd y Dyniaethau yn ymgorffori dadansoddiad o ganlyniadau
disgyblion ysgolion Môn yn arholiadau allanol Haf
2005.
|
|
|
|
Adroddwyd am ganlyniadau
disgyblion ysgolion Môn yn arholiadau allanol Haf 2005 fel a
ganlyn -
|
|
|
|
6.1
|
Canlyniadau TGAU - Astudiaethau
Crefyddol
|
|
|
|
|
Ÿ
|
canlyniadau yn dda gyda 144 o ymgeiswyr, 110 yn enethod a
34 bachgen, oedd yn uwch na nifer ymgeiswyr y flwyddyn flaenorol,
sef 135;
|
|
|
Ÿ
|
roedd y nifer yn amrwyio o 0 mewn un ysgol i 53 mewn ysgol
arall;
|
|
|
Ÿ
|
bu i ganlyniadau'r merched ragori ar rai'r bechgyn ond
gwelwyd y bwlch yn cau rhyngddynt;
|
|
|
Ÿ
|
roedd cyfartaledd sgôr y pwnc yn 5.5 tra bod
sgôr y pynciau eraill yn 5.1;
|
|
|
Ÿ
|
mae sgôr cyfartalog y merched (5.6) yn uwch na'u
sgôr yn y pynciau eraill (5.1), a sgôr cyfartalog y
bechgyn (5.4) yn ychydig yn uwch na'r sgôr cyfartalog yn y
pynciau eraill (5.1);
|
|
|
Ÿ
|
dewisodd 23 ymgeisydd sefyll y cwrs byr a chawsant
ganlyniadau da.
|
|
|
|
|
6.2
|
Canlyniadau Safon Uwch - Astudiaethau Crefyddol
|
|
|
|
|
Ÿ
|
canlyniadau boddhaol gyda 30 o ymgeiswyr yn sefyll yr
arholiad mewn 4 ysgol (38 ymgeisydd yn 2004);
|
|
|
Ÿ
|
6 o fechgyn a 24 o enethod;
|
|
|
Ÿ
|
canran sy'n ennill gradd A wedi codi'n sylweddol ers
2003;
|
|
|
Ÿ
|
sgôr gyfartalog y pwnc yn 87.3 yn erbyn 89.9 yn y
pynciau eraill;
|
|
|
Ÿ
|
sgôr gyfartalog y genethod (87.5) yn ychydig yn uwch
na sgôr gyfartalog y bechgyn (86.7)
|
|
|
|
|
6.3
|
Canlyniadau Uwch Gyfrannol
|
|
|
|
|
Ÿ
|
canlyniad au bodhaol gyda 49 o ymgeiswyr yn sefyll yr
arholiad mewn 4 ysgol (30 ymgeisydd yn 2004);
|
|
|
Ÿ
|
9 o fechgyn a 40 o enethod yn sefyll yr
arholiad;
|
|
|
Ÿ
|
canran a enillodd gradd A wedi gostwng ers
2004;
|
|
|
Ÿ
|
sgôr gyfartalog y pwnc yn 34.5 yn erbyn 35.2 yn y
pynciau eraill;
|
|
|
Ÿ
|
sgôr gyfartalog y genethod (35.5) yn ychydig yn uwch
na sgôr gyfartalog y bechgyn (30.0).
|
|
|
|
|
Penderfynwyd derbyn
adroddiad Ymgynghorydd y Dyniaethau ynglyn â chanlyniadau
disgyblion ysgolion Ynys Môn yn arholiadau allanol Haf, 2005
a nodi ei gynnwys.
|
|
|
|
7
|
MUDIAD ADDYSG GRISTNOGOL CYMRU - ADRODDIAD
BLYNYDDOL
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd -
Adroddiad Blynyddol Mudiad Addysg Gristnogol Cymru am
2004/05.
|
|
|
|
Bu i Ymgynghorydd y
Dyniaethau fynegi ei gwerthfawrogiad i'r Mudiad am yr ymdrech sydd
wedi ei wneud i gyfieithu deunyddiau ar ran athrawon megis
cyhoeddiadau Saesneg gan RE Services ar gyfer ysgolion cynradd -
"Mannau Arbennig", "Adegau Arbennig", "Iesu" a
"Nadolig".
|
|
|
|
Penderfynwyd derbyn
Adroddiad Blynyddol Mudiad Addysg Gristnogol Cymru am 2004/05 a
nodi ei gynnwys.
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - Gwybodaeth
dan Adran 10 Deddf Arolygu Ysgolion 1996 am gynnwys y rhannau
perthnasol hynny o adroddiad arolwg Ysgol Gynradd y Talwrn ac
adroddiad arolwg Ysgol Cylch y Garn, Llanrhuddlad.
|
|
|
|
Bu i aelodau'r CYSAG nodi
gyda boddhad fod yr adroddiadau arolwg yn achos y ddwy ysgol yn
cyfeirio at nodweddion da a rhagorol mewn perthynas â'r
ddarpariaeth Addysg Grefyddol ganddynt a diolchasant i staff a
disgyblion yr ysgolion am eu gwaith a'u hymroddiad.
|
|
|
|
Penderfynwyd nodi
cynnwys y rhannau perthnasol hynny o adroddiadau arolwg Ysgol
Gynradd y Talwrn ac Ysgol Cylch y Garn, Llanrhuddlad gan ofyn i'r
Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden ysgrifennu at y ddwy
ysgol i gyfleu i'r staff a'r disgyblion ddiolchiadau'r CYSAG am eu
gwaith, ac i'w llongyfarch ar eu cyflawniad.
|
|
|
|
|
|
|
|
Nid oedd yr eitemau hyn
wedi'u cynnwys ar y rhaglen yn wreiddiol ond fe gytunodd y
Cadeirydd i'w hystyried fel materion y dylai'r CYSAG wybod amdanynt
ac yr oeddent angen sylw ganddo.
|
|
|
|
9.1
|
Aelod Cyfetholedig o'r CYSAG
|
|
|
|
|
Rhoddodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol Addysg a Hamdden wybod i aelodau'r CYSAG ei fod wedi
derbyn llythyr o ymddiswyddiad gan Mrs Jean Pleming, aelod
cyfetholedig o'r CYSAG ar y sail ei bod bellach wedi terfynu ei
chyswllt ag Adran Addysg Grefyddol Prifysgol Cymru Bangor.Roedd Mrs
Pleming yn ei llythyr yn cydnabod y pleser a gawsai o fod yn aelod
o'r Cyngor Ymgynghorol ac yn awgrymu Mrs Helen Jones, ei holynydd
yn Adran Addysg Grefyddol y Brifysgol fel enwebiad i gymeryd ei lle
ar y CYSAG.
|
|
|
|
Cydnabu aelodau'r CYSAG
gyfraniad Mrs Jean Pleming i'w drafodaethau yn ystod ei chyfnod fel
aelod cyfetholedig a bu iddynt ofyn i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol
Addysg a Hamdden ysgrifennu ati i ddiolch iddi am ei hamser a'i
theyrngarwch iddo.Roeddent hefyd yn gytun y byddai Mrs Helen Jones,
Athrawes Addysg Grefyddol ym Mhrifysgol Cymru Bangor yn olynydd
priodol i Mrs Pleming fel aelod cyfetholedig o'r CYSAG.
|
|
|
|
Penderfynwyd
-
|
|
|
|
Ÿ
|
cofnodi diolch y CYSAG i Mrs Jean Pleming am ei
gwasanaeth i CYSAG Ynys Môn yn ystod ei chyfnod fel
aelod cyfetholedig ohono;
|
|
|
Ÿ
|
penodi Mrs Helen Jones, Athrawes Addysg Grefyddol ym
Mhrifysgol Cymru, Bangor yn aelod cyfetholedig o'r CYSAG gan estyn
gwahoddiad iddi gymryd arni'r swyddogaeth honno.
|
|
|
|
|
9.2
Ysgol Uwchradd David Hughes
|
|
|
|
Cyfeiriodd Ymgynghorydd y
Dyniaethau at ohebiaeth oddi wrth Pennaeth Ysgol Uwchradd David
Hughes yn cydnabod penderfyniad y CYSAG i ail-fabwysiadu'r Maes
Llafur Cytun Lleol cyfredol ac yn gwneud cais i'r Cyngor am gael
defnyddio lefelau cyrhaeddiad ACCAC i adrodd yn ôl i rieni yn
hytrach na'r Maes Llafur Cytun Lleol oherwydd fod geiriad ACCAC yn
fwy hylaw i rieni na geiriad y Maes Llafur yn hyn o
beth.
|
|
|
|
|
|
Penderfynwyd cytuno i
gais Ysgol Uwchradd David Hughes i ddefnyddio lefelau cyrhaeddiad
ACCAC i bwrpas adrodd ar Addysg Grefyddol i rieni disgyblion
yn yr ysgol.
|
|
|
|
|
|
E.G.Davies
|
|
Cadeirydd
|