|
|
|
|
|
|
|
2.1
|
Eitem 2.5 - Arolygiadau Ysgolion
|
|
|
|
|
|
Penderfynwyd nodi mai achlysur traws enwadol oedd y cwrs
hyfforddiant y cyfeirir ato o dan y cofnod hwn pan gawsai
cynrychiolydd Undeb y Bedyddwyr achos i bryderu ynglyn â
diffyg gwybodaeth rhai pobl ifanc am Gristnogaeth, ac nid
digwyddiad o dan nawddogaeth Undeb y Bedyddwyr.
|
|
|
|
|
2.2
|
Eitem 2.1 - Cymdeithas CYSAGau Cymru
|
|
|
|
|
|
Cyfeiriodd y Swyddog Addysg Uwchradd at yr ohebiaeth rhwng
CYSAG Môn ac Ysgrifenyddes Cymdeithas CYSAGau Cymru ynglyn
â’r angen i gyrff CYSAGau dderbyn cofnodion cyfarfodydd
y Gymdeithas mewn da bryd ynghyd â rhybudd amserol mewn
perthynas â chyflwyno enwebiadau ar gyfer swyddi yn y
Gymdeithas, a chadarnhaodd fod y sefyllfa wedi gwella a bod y
wybodaeth berthnasol wedi’i derbyn mewn pryd ar gyfer y
cyfarfod hwn o’r CYSAG.
|
|
|
|
|
2.3
|
Eitem 2.3 - Rhaglen Waith yr Athro Ymgynghorol Addysg
Grefyddol
|
|
|
|
|
|
Cyflwynodd y Swyddog Addysg Uwchradd Mrs Carol Llewelyn
Jones i’r CYSAG fel yr Athrawes Ymgynghorol Addysg Grefyddol,
ac olynydd Mr Paul Matthews Jones yn y swydd. Adroddodd wrth yr
aelodau mai athrawes yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon yw Mrs
Jones a bydd yn treulio hanner ei hamser yn cyd-weithio gydag
Ymgynghorydd y Dyniaethau. Mae arbenigedd Mrs Jones ym maes
CA3 ac mae wedi ymgymryd â chryn waith ym maes ABACH hefyd
(Addysg Bersonol a Chymdeithasol). Un o fanteision a
rhinweddau’r penodiadau yw fod cryfderau a chefndir yr
ymgynghorwyr ar secondiad yn amrywio ac maent i gyd yn dod â
gwahanol ddimensiwn i’r swydd.
|
|
|
|
|
3
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL TERFYNOL CYSAG
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd a nodwyd - Copi terfynol Adroddiad Blynyddol
2005/06 CYSAG Ynys Môn y cymeradwywyd y fersiwn drafft ohono
yng nghyfarfod blaenorol y Cyngor Ymgynghorol a gynhaliwyd ar 9
Hydref, 2006.
|
|
|
|
|
4
|
MAES LLAFUR YSGOL EGLWYS
|
|
|
|
|
4.1
|
Bu i’r Parch. Tegid Roberts roddi cyflwyniad
i’r CYSAG ar brif nodweddion maes llafur ysgol eglwys fel a
ganlyn -
|
|
|
|
|
Ÿ
|
amlinellodd y cefndir deddfwriaethol i sefydlu ysgolion
eglwys a chyflwyno maes llafur yr eglwys gam wrth gam gan nodi fod
gan yr eglwys hanes hir fel darparwr addysg sydd yn mynd yn
ôl ganrifoedd.Mae ym Môn dair ysgol eglwys sef Ysgol
Parc y Bont, yn Llanddaniel Fab, Ysgol y Parch.Thomas Ellis,
Caergybi ac Ysgol Gynradd Llangaffo.Ysgol Parch.Thomas Ellis
yw’r unig ysgol o’r dair sydd wedi gofyn i rieni am yr
hawl i ddefnyddio maes llafur yr Eglwys sy’n neilltuol i
ysgolion yr Eglwys yng Nghymru. Gyda gweithredu Deddf Addysg 1944 a
chyflwyno trefniant addysg newydd, didolwyd yr ysgolion yn ddau
gategori o dan y drefn sef ysgolion cynorthwyedig y mae gofyn
iddynt ddilyn maes llafur yr Eglwys ac ysgolion rheoledig
sy’n dilyn maes llafur cytun yr Awdurdod Addysg
Lleol;
|
|
|
Ÿ
|
mae Maes Llafur Cytun yr Eglwys yn canolbwyntio ar
Gristnogaeth yn bennaf tra mae’r Maes Llafur Cytun
Lleol yn rhoi cyfle i ddisgyblion astudio Cristnogaeth a hefyd rhai
crefyddau eraill. Yn CA2 Maes Llafur yr Eglwys mae hawl i edrych ar
grefyddau undduwiaeth megis Islam, Cristnogaeth ac Iddewiaeth, ond
nid oes ynddo ymwneud â chrefyddau megis Bwdîaeth a
Siciaeth;
|
|
|
Ÿ
|
ymhlith y rhesymau dros gael Maes Llafur Addysg Grefyddol
newydd yr Eglwys mae Gofynion Llywodraeth y Cynulliad a’r
Cwricwlwm Cymreig; er mwyn rhoddi i Addysg Grefyddol yr un fformat
â phynciau eraill ac er mwyn amlygu hunaniaeth yr Eglwys yng
Nghymru trwy gyflwyno’r un maes llafur ym mhob Esgobaeth; a
hefyd i ddathlu canrif milflwyddiant newydd;
|
|
|
Ÿ
|
daethpwyd at y Maes Llafur trwy gywain barn grwp o
athrawon a rhoddi ystyriaeth i feysydd llafur Iwerddon a Solihull
fel rhai gydag agweddau cyffredin i faes llafur yr Eglwys.
Gwahoddwyd Coleg y Drindod Caerfyrddin fel yr unig goleg eglwysig i
ymwneud â’r gwaith a llunio copi drafft o’r Maes
Llafur. Fe’i gylchredwyd i Gyfarwyddwr Addysg yr Esgobaeth a
swyddogion ysgol cyn ei gyflwyno wedyn am gymeradwyaeth i Fainc yr
Esgobion;
|
|
|
Ÿ
|
derbyniwyd adborth gan 2 bennaeth a chyd-gysylltydd Addysg
Grefyddol ym mhob esgobaeth cyn wedyn cyhoeddi fersiwn diwygiedig
o’r Maes Llafur;
|
|
|
Ÿ
|
bu i’r ysgolion ym mhob Esgobaeth dreialu’r
Maes Llafur ac fe’i lansiwyd yn ffurfiol ym mis Mai, 2001.
Mae’r Maes Llafur yn 6 oed eleni a bydd gofyn ei ail
wampio er mwyn adlewyrchu’r newidiadau ym maes Addysg
Grefyddol;
|
|
|
Ÿ
|
mae i’r Maes Llafur y nodweddion canlynol
-
|
|
|
|
|
Ÿ
|
yn cynnwys pob agwedd o Gristnogaeth yng
Nghymru;
|
|
|
Ÿ
|
parodrwydd i roddi blaenoriaeth i gynnwys yn hytrach na
sgiliau;
|
|
|
Ÿ
|
crefydd wedi’i drefnu o gwmpas cofiant sylfaenwyr y
ffydd;
|
|
|
Ÿ
|
ymdrech i adeiladu iddo ddilyniant a
gwahaniaethu;
|
|
|
Ÿ
|
canolbwyntio ar grefydd undduwiaeth;
|
|
|
Ÿ
|
parodrwydd i fynd i’r afael o ddifrif â hanes
yr Eglwys a thestunau Beiblaidd;
|
|
|
Ÿ
|
gosod sylfaen ar gyfer Addysg Grefyddol yn yr uwchradd a
Christnogaeth yn arbennig;
|
|
|
Ÿ
|
osgoi themau aml-grefyddol all fod yn gymhleth i
ddisgyblion;
|
|
|
Ÿ
|
cysylltiadau rhwng yr amgylchfyd a ffydd;
|
|
|
Ÿ
|
disgwyliad bod yr eglwys yn adnodd ddylid ei
defnyddio;
|
|
|
Ÿ
|
cynnwys defodau megis bedydd a chonffirmasiwn ac
achlysuron eraill sydd yn nodedig i’r Eglwys yng Nghymru fel
Eglwys Gristnogol;
|
|
|
Ÿ
|
parodrwydd i weld Cristnogaeth yn rhan o fyd
heddiw;
|
|
|
Ÿ
|
defnyddio themau traws-gwriciwlaidd sydd yn cyd-fynd
â chyhoeddiadau eraill megis rhai AADGOS;
|
|
|
Ÿ
|
defnydd o ddatganiadau ffocws i osod cywair priodol ar
gyfer grwp blwyddyn a’r maes;
|
|
|
Ÿ
|
ystyried ac ymateb i ffenomenau nad oes bob tro esboniad
hawdd drostynt megis ysbrydolrwydd;
|
|
|
Ÿ
|
creu canllawiau asesu a defnyddio.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
o ran strwythur, mae i’r Maes Llafur 6 maes neu
linyn ffocws yn cwmpasu ffigwr yr Iesu, y Beibl, yr Eglwys,
Gwyliau, Credoau eraill ynghyd â Bywyd a Gwerthoedd
Cristnogol. Cyfeiriwyd yn y fan hyn at amcanion, nodau dysgu
a gweithgareddau dysgu pob maes fesul blwyddyn ynghyd
â’r dulliau asesu;
|
|
|
Ÿ
|
o ran maes, neu linyn ffocws y Beibl er
enghraifft, mae’r gofynion wedi’u seilio ar y canlynol
-
|
|
|
|
|
Ÿ
|
bod yn gyfarwydd â’r Beibl fel
llyfr;
|
|
|
Ÿ
|
bod yn gyfarwydd â storiau adnabyddus o’r
Beibl - actio ac ail-adrodd storiau Beiblaidd;
|
|
|
Ÿ
|
bod yn ymwybodol fod y Beibl yn sôn am bobl real
o’r gorffennol;
|
|
|
Ÿ
|
bod yn ymwybodol bod y Beibl yn adrodd wrth bobl am eu
bywydau nhw heddiw;
|
|
|
Ÿ
|
deall strwythur a chynllun y Beibl;
|
|
|
Ÿ
|
deall sut y bu i’r Beibl ein cyrraedd;
|
|
|
|
|
Ÿ
|
deall trefn cymeriad a chronoleg y Beibl;
|
|
|
|
|
Ÿ
|
deall lleoliad hanesyddol bywyd Crist
|
|
|
|
|
Ÿ
|
mae dull cyflwyno’r Beibl yn ystyrlon ac yn
gysylltiedig â hanes a phwysig yw gwerthfawrogi nad cyfres o
storiau di-gyswllt yw’r Beibl. Mae’n ddull cyflwyno
sy’n gymorth i ddysgu gwersi o edrych ar fywydau pobl a
ddisgrifir yn y Beibl, a dyma’r dull sydd yn rhoddi sylw
disgyblion ar y modd y dylid astudio’r testun;
|
|
|
Ÿ
|
mae’r datganiad ffocws yn dweud dylai disgyblion y
Blynyddoedd Cynnar ddechrau dod yn gyfarwydd â’r Beibl
yn ei wahanol ffurfiau. Ceisir darllen storiau o’r Beibl
iddynt sy’n addas i’w hoedran o gwmpas themau megis
perthyn, rhannu a rhoi diolch i Dduw yn ogystal a bod yn ymwybodol
fod y Beibl yn ein dysgu am y byd naturiol;
|
|
|
Ÿ
|
soniwyd am y dosbarthaidau meithrin a derbyn, a sut y
gwahaniaethir rhyngddynt wrth eu haddysgu am y Beibl;
|
|
|
Ÿ
|
diweddwyd y cyflwyniad trwy ddangos trosolwg o’r
holl linynau neu feysydd ffocws gan roddi darlun o gynnwys pob
cyfnod allweddol yn ei grynswth a beth sydd yn ddisgwyliedig
ynddo;
|
|
|
Ÿ
|
nodwyd fod yna ail ymweld â’r pynciau bob dwy
flynedd yn y Maes Llafur hwn.
|
|
|
|
|
4.2
|
Yn dilyn cyflwyniad y Parch. Tegid Roberts ynglyn â
nodweddion craidd Maes Llafur yr Eglwys, bu i Mrs Alison Jones a
Miss Elena Roberts o Ysgol Parch.Thomas Ellis, Caergybi ddangos i
aelodau’r CYSAG Faes Llafur yr Eglwys ar waith, a gwnaed
hynny trwy gyfrwng cyflwyniad gweledol a thrwy arddangos samplau o
ddeunyddiau dosbarth.
|
|
|
|
|
|
Isod, nodir prif bwyntiau’r cyflwyniad -
|
|
|
|
|
Ÿ
|
bu i Ysgol Parch.Thomas Ellis fabwysiadu Maes Llafur yr
Eglwys yng Nghymru bum mlynedd yn ôl. Mae 107 o blant ar
lyfrau’r ysgol ac mae’r ysgol wedi’i lleoli mewn
ardal ddifreintiedig ac mewn dalgylch Cymunedau’n 1af ; serch
hynny mae’r disgyblion yn derbyn addysg o’r safon
gorau;
|
|
|
Ÿ
|
mae’r ysgol yn dilyn Maes Llafur yr Eglwys,
sef 6 maes yn CA2 sef y Beibl, Iesu, Eglwys, Bywyd a
Gwerthoedd, Credoau Eraill, a Gwyliau; a 5 maes yn CA1 ac o
dan 5 oed; mae’r Maes Llafur wedi’i gyfuno â
Chynllun Addoli ar y cyd yr ysgol;
|
|
|
Ÿ
|
mae yn yr ysgol lle blaenllaw i’r gwasanaeth boreol
ac fe ymwêl Rheithor a Ficer y plwyf â’r
ysgol yn wythnosol bob bore dydd Iau i arwain y gwasanaeth boreol.
Mae’r plant yn arwain y gwasanaeth ar ddydd Mawrth, Pennaeth
yr ysgol ar ddydd Llun a chynhelir ymarfer canu ar ddydd Mercher.
Ar ddydd Gwener cynhelir gwasanaeth yn y dosbarth lle caiff y plant
gyfle i rannu tystysgrifau am waith neu ymddygiad da. Mae’r
cyd-lynydd yn cadw cofnod o’r gwasanaethau boreol yn yr
ysgol;
|
|
|
Ÿ
|
pob dwy flynedd cynhelir gwasanaeth esgobaethol yn yr
ysgol. Hefyd mae eglwysi gwadd yn dod i’r ysgol. Trwy gynnal
gwasanaethau o’r fath rhoddir i’r plant brofiadau
amrwyiol megis canu emynau a salmau, gweddîo a gwrando a
dysgu am y Beibl.Mae’r plant hefyd yn cymeryd rhan yn
rheolaidd mewn gwasanaethau yn Eglwys Cybi ac yn arbennig ar
achlysuron neilltuol yng nghalendr yr Eglwys - Diolchgarwch, dydd
Mercher y Lludw a‘r Pasg;
|
|
|
Ÿ
|
mae’r ysgol yn cydnabod gwerth yr Ysgol Sul ac yn
credu ei fod yn bwysig i’r plant ei mynychu fel lle y gallent
ddysgu sgiliau gwrando a darllen, ac ers rhai blynyddoedd bellach
mae’r ysgol wedi sefydlu Ysgol Sul yn yr ysgol, o dan diwyg
clwb ar ôl ysgol gyda’r enw Cerrig Sarn (Stepping
Stones) sydd yn cael ei redeg gyda chymorth rhai o wragedd y plwyf.
Maent wedi trefnu amryw o wasanaethau yn yr ysgol - Gwasanaeth Sul
y Fam, Gwasanaeth Adfent ac Operation Christmas Child yn eu plith.
Rhydd hyn eto gyfle i’r plant gwrdd a pherfformio o
flaen gwahanol gynulleidfaoedd;
|
|
|
Ÿ
|
adeg y Nadolig bu i’r disgyblion baratoi addurniadau
Nadolig eu hunain i’w gosod ar goeden Nadolig a arddangoswyd
fel rhan o Wyl Coed Nadolig Eglwys Cybi. Bu i’r plant hefyd
wisgo i fyny a gorymdeithio trwy Stryd Fawr Caergybi fel rhan
o’u perfformiad o’r Geni ac fel anogaeth i bobl y dref
ymuno mewn gwir ysbryd y Nadolig, sef profiad na fydd y plant yn ei
anghofio;
|
|
|
Ÿ
|
fel rhan o waith dosbarth CA1 a Blwyddyn 5 yn ystod tymor
yr Haf, 2006 edrychwyd ar arwyddocâd y Bedydd a chynhaliwyd
seremoni bedydd ffug yn yr Eglwys trwy ddefnyddio dol a chan
wisgo’r ddol mewn gwisg bedydd go iawn y bu’r plant yn
ei dewis - erbyn diwedd yr achlysur roedd y plant yn deall
arwyddocâd Bedydd ynghyd â gwahanol agweddau’r
digwyddiad. Hefyd cafwyd achlysur Bedydd iawn yn yr ysgol ar 1
Rhagfyr, 2006 pryd y cafodd 12 o blant ac 1 oedolyn eu bedyddio
mewn gwasanaeth prydferth ac ystyrlon - roedd yr achlysur yn
ddigwyddiad hanesyddol ym mywyd yr ysgol;
|
|
|
Ÿ
|
mae’r ysgol hefyd yn ceisio codi ei phroffil trwy
fwydo gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau a chyflawniadau
i’r wasg a chylchgronnau lleol;
|
|
|
Ÿ
|
rhoddwyd disgrifiad manwl o’r trefniadau arsylwi
gwersi ac arfarnu Addysg Grefyddol yr ysgol ynghyd â gwaith y
Cydlynwyr; ymdrechir i osgoi gorasesu er mwyn gallu rhoddi
profiadau byw i’r plant;
|
|
|
Ÿ
|
cedwir proffil ysgol lle mae’r cydlynwyr yn casglu
samplau gwaith, ac yn y proffil gellir gweld gwaith Addysg
Grefyddol ac addysg bersonol a chymdeithasol y plant o’r
dosbarth meithrin hyd at flwyddyn 6, ac fe ellir gweld
sgiliau’r plant yn datblygu ynghyd â’u
dealltwriaeth o Addysg Grefyddol a’r byd eang. Ceir ym mhob
dosbarth gornel Beibl a chornel Dychymyg;
|
|
|
Ÿ
|
mae gweithgarwch addoli ar y cyd yn yr ysgol a’r
Maes Llafur yn hyrwyddo ymddygiad moesol cadarn yn y plant; yn CA1
ac yn y dosbarth o dan 5 oed rhoddir cyfle i’r plant actio
storiau, chwarae rôl a chanu a dawnsio, ac mae’r plant
yn cael profiadau byw trwy gymeryd rhan mewn gweithgareddau
o’r fath yn hytrach na thrwy gwblhau ymarferion mewn
llyfrau;
|
|
|
Ÿ
|
yn CA2 rhoddir rhagor o bwyslais ar ddatblygu sgiliau
meddwl a dadansoddol, ac mae yna fwy o gyfle i roi i blant Blwyddyn
2 a 4 brofiadau gwrando, trafod ac ysgrifennu storiau crefyddol gan
gofio fod hyn yn rhan o’u datblygiad moesol hefyd;
|
|
|
Ÿ
|
defnyddir gweithagareddau Addysg Grefyddol hefyd i
ddatblygu sgiliau traws-gwricwlaidd;
|
|
|
Ÿ
|
defnyddir canllawiau Maes Llafur yr Eglwys yng Nghymru i
ddibenion asesu gan ei fod yn annog ymatebion amrywiol gan y plant
- deallus, moesol, ysbrydol ac artistig ac fe’i seilir ar
amrediad o brofiadau sy’n berthnasol i grefydd ac y deuir ar
eu traws yn yr ysgol. Defnyddir hefyd lyfrau asesu Cynnal a’u
haddasu i faes Llafur yr Eglwys yn ogystal â deunyddiau
AADGOS;
|
|
|
Ÿ
|
mae Addysg Grefyddol yn Ysgol Parch. Thomas Ellis yn
llawer mwy na phwnc; mae’n gyfrwng i hyrwyddo ymddygiad da ac
mae hefyd yn rhan annatod o ethos a meddylfryd yr ysgol. Y nod yw
dysgu’r plant i gyd-fyw, i barchu eu hunain, i barchu ei
gilydd a hefyd i barchu’r gymdeithas maent yn rhan ohoni. Mae
Addysg Grefyddol yn plethu i mewn â pholisiau eraill yn yr
ysgol megis y polisi cyfle cyfartal, atal bwlio ac amddiffyn
plant.
|
|
|
|
|
Diolchwyd yn fawr i Mrs
Alison Jones a Miss Elena Roberts am gyflwyniad lliwgar a hynod
diddorol a mynegwyd werthfawrogiad o’r gwaith a’r amser
aeth i’w baratoi.
|
|
|
|
Penderfynwyd diolch
i’r Parch. Tegid Roberts, Mrs Alison Jones a Miss Elena
Roberts am eu cyflwyniadau mewn perthynas â maes llafur ysgol
yr Eglwys a sut y’i gweithredir mewn cyd-destun ysgol, gan
nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd.
|
|
|
|
5
|
CYMDEITHAS CYSAGau CYMRU
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd a nodwyd -
Cofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd yn
Nhorfaen ar 17 Tachwedd, 2006.
|
|
|
|
6
|
YSGOL UWCHRADD CAERGYBI
|
|
|
|
|
Bu i’r Swyddog
Adddysg Uwchradd ddiweddaru’r aelodau ynglyn â’r
cynnydd a wnaed gan Ysgol Uwchradd Caergybi yng nghyswllt Addysg
Grefyddol yn dilyn dyfarnu Gradd 4 i ddarpariaeth Addysg Grefyddol
yr ysgol yn CA3 ac yn CA4 mewn arolwg yr adroddwyd arno i gyfarfod
diwethaf y CYSAG.
|
|
|
|
Adroddodd y Swyddog Addysg
Uwchradd y rhoddwyd gwybod i’r CYSAG yn ei gyfarfod blaenorol
fod Ysgol Uwchradd Caergybi wedi derbyn grant o £69,000 o dan
Raglen Rhagori Llywodraeth y Cynulliad i godi safonau mewn meysydd
penodol megis llythrennedd, rhifedd a phresenoldeb a’i fod yn
gallu cadarnhau, yn dilyn ymweld â’r ysgol, fod y
defnydd priodol yn cael ei wneud o’r arian hwnnw i godi
safonau llythrennedd a rhifedd a bod defnydd o’r grant yn
cael effaith gadarnhaol ar safonau yn y
|
|
|
|
meysydd hyn. Bydd Mr Iolo
Dafydd o Estyn hefyd yn ymweld ag Ysgol Uwchradd Caergybi yn ystod
yr wythnos hon i sicrhau bod yr ysgol yn gwneud y defnydd gorau
o’r cymhorthdal grant a bod ei ddefnydd yn cael ei fonitro
gan yr Awdurdod Addysg.
|
|
|
|
O ddod at Gynllun
Ôl-Arolwg Ysgol Uwchradd Caergybi, caiff ei fonitro gan y
Swyddog Addysg Uwchradd ac Uwch Ymgynghorydd Uwchradd Cynnal mewn
paratoad ar gyfer ail ymweliad gan Estyn ym mis Mehefin i
asesu’r cynnydd ar y cynllun. Nodir fod gan Adran
Addysg Grefyddol yr Ysgol 2 athro/awes gyda chymhwyster dysgu
Addysg Grefyddol erbyn hyn. Yn bresennol, mae’r ymdrechion i
wella wedi’u canolbwyntio ar CA3; mae Addysg Grefyddol
CA4 yn rhan o Gwricwlwm Cyfoethogi’r ysgol. Er fod yr
Arweinydd Pwnc yn athro newydd gymhwyso mae’r ffaith fod gan
yr ysgol bellach unigolyn cymwys sydd yn arwain ar y pwnc yn tystio
at welliant yn y sefyllfa ac at hynny, mae’r arweinydd pwnc
yn derbyn cefnogaeth gan Gavin Craigen, Cadeirydd Cymdeithas
CYSAGau Cymru sydd yn ymweld â’r ysgol i arsyllu gwersi
ganddo.Ymhellach, mae Ymgynghorydd y Dyniaethau hefyd wedi bod yn
ymweld â’r ysgol yn ddiweddar i arsyllu gwers Addysg
Grefyddol, a hyderir y bydd adborth ysgrifenedig ar gael gan Gavin
Craigen ac Ymgynghorydd y Dyniaethau yn y man.
|
|
|
|
Fodd bynnag, roedd
ymweliad y Swyddog Addysg Uwchradd â’r ysgol wedi
amlygu dau bryder, sef nad oedd unrhyw aelod o dîm uwch
reoli’r ysgol wedi gweld yr Arweinydd Pwnc Addysg Grefyddol
yn dysgu rhwng y cyfnod o fis Medi, 2006 hyd at yr ymweliad yma.
Daethpwyd â hyn i sylw Pennaeth yr Ysgol ac erbyn hyn mae
mentor wedi’i ddynodi i’r Pennaeth Pwnc i’w
gefnogi yn ei ddyddiau cynnar. Hefyd, oherwydd cyfyngiadau
cyllidol, roedd yr ysgol wedi ystyried cwtogi ar yr amser a roddir
i Addysg Grefyddol. Bernir byddai hyn yn gam yn ôl ac yn
dilyn trafodaeth gyda’r Pennaeth, gellir adrodd fod yr ysgol
wedi penderfynu yn hytrach i gynyddu’r amser a neilltuir
i’r pwnc o 3.3% i 3.8.% o gwricwlwm wythnosol CA3.
|
|
|
|
Croesawodd yr aelodau y
camau a gymerwyd eisoes i wella’r sefyllfa fel ag adroddwyd
uchod, a bu iddynt nodi y byddai’n fanteisiol iddynt weld
adroddiadau ysgrifenedig Gavin Graigen ac Ymgynghorydd y Dyniaethau
cyn dod i gasgliadau pendant ynglyn â chynnydd yr ysgol mewn
perthynas ag Addysg Grefyddol.
|
|
|
|
Penderfynwyd
nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd mewn perthynas â chynnydd
Ysgol Uwchradd Caergybi yng nghyswllt Addysg Grefyddol, a diolch
i’r Swyddog Addysg Uwchradd am yr adborth.
|
|
|
|
7
|
ADRODDIADAU HUNAN-ARFARNU
|
|
|
|
|
Cylchredwyd yn y cyfarfod,
gopi o adroddiadau hunan arfarnu Ysgol David Hughes, Porthaethwy ac
Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch.
|
|
|
|
Amlinellodd y Swyddog
Addysg Uwchradd y cefndir i’r uchod ac eglurodd bod y rhannau
perthnasol hynny o adroddiadau arolwg Estyn yn ymwneud ag Addysg
Grefyddol yn cael eu cyflwyno i’r CYSAG. Fodd bynnag, mewn
achosion lle nad yw Addysg Grefyddol wedi bod yn destun arolwg, yna
mae’r CYSAG wedi penderfynu gofyn am gael gweld adroddiadau
hunan arfarnu’r ysgolion yn ystod blwyddyn yr arolwg, sef
adroddiad sydd yn rhoi darlun o sut mae’r ysgolion eu
hunain yn gweld eu cryfderau a’u gwendidau.
|
|
|
|
Mae adroddiad hunan
arfarnu Ysgol David Hughes yn cyfeirio at y cwrs TGAU llawn sydd yn
newydd sefydledig yn yr ysgol ac mae’n nodi’r
canlyniadau - 72% o ddisgyblion a safodd yr arholiad wedi cael
gradd A neu A*. Mae Adran Addysg Grefyddol yr ysgol yn
cymharu’r perfformiad yn erbyn cymaryddion cenedlaethol ac yn
nodi bod sgôr cyfartalog y pwnc yn uwch na phynciau eraill
(52.76% o’i gymharu â 43.07%). Parthed y Cwrs Byr
Addysg Grefddyol sydd hefyd yn ddatblygiad newydd yn yr ysgol, er
nad oes data cymharol ar gyfer y cwrs mae’r adroddiad yn nodi
fod 80% o’r cohort wedi cael graddau A neu A*. Mae’r
asesiad hefyd yn adnabod meysydd lle gellir gwella ynddynt megis y
modd o farcio gan
|
|
|
|
|
|
gymryd i ystyriaeth
sylwadau arholwyr CBAC. O ddod at Gwrs llawn Lefel A
Astudiaethau Crefyddol mae sgôr cyfartalog y pwnc ychydig yn
uwch na’r pynciau eraill.
|
|
|
|
Fodd bynnag, fe nodir y
modiwl Bwdîaeth fel un anodd sydd angen rhagor o sylw.
Mae’r hunan arfarniad yn nodi cynnydd yn y niferoedd
sy’n dilyn Cwrs Uwch Gyfrannol Astudiaethau Crefyddol ac mae
canrannau llwyddiant y pwnc yn sylweddol uwch na’r ganran
genedlaethol. Unwaith eto, adnabyddir maes y gellir gwella yndddo -
y tro hwn y modiwl Iddewiaeth. Yn cyd-fynd â’r
wybodaeth ystadegol mae yna adroddiad disgrifiadol ar agweddau
eraill o gyflwyno’r pwnc yn yr ysgol megis ymweliadau
â’r Adran gan gyrff cenedlaethol megis y Samariaid a
Chymdeithas Atal Creulondeb i Blant. Adroddir am ymweliad Blwyddyn
9 yr ysgol â’r Ganolfan Holocost yn Nottingham, sef
profiad mae’r disgyblion yn mynd i’w gofio ac a fydd yn
debygol o gryfhau eu dealltwriaeth o destunau mawr y
maes.
|
|
|
|
Bu i Miss Mefys Jones
ymhelaethu ar adroddiad hunan arfarnu Ysgol Syr Thomas Jones mewn
perthynas ag Addysg Grefyddol gan nodi ei fod yn seiliedig ar
Gynllun 3 blynedd sydd yn ceisio mynd i’r afael
â’r 7 cwestiwn allweddol mae arolwg yn seiliedig
arnynt. Nodir yn yr adroddiad y maes arfarnu, sef pa gwestiwn
mae’n cyfeiro ato, y dystiolaeth, agweddau arfarnu ynghyd
â phwy sy’n gyfrifol am gyflawni’r gwaith.
Ynghlwm wrth yr adroddiad hefyd mae cyfres o atodiadau sy’n
cyflwyno gwybodaeth ychwanegol ac sy’n cyfrannu at adeiladu
ffeil hunan arfarnu gynhwysfawr ar gyfer yr arolygwyr. Er
enghraifft, yn ystod y tymor diwethaf arafarnwyd canlyniadau
arholiadau allanol a mewnol a bu i Uwch Dîm Rheoli’r
Ysgol fonitro llyfrau Blwyddyn 8 a Blwyddyn 10. Mae’n arfer
hefyd i ofyn i athrawon yr adran a’r disgyblion fel ei
gilyddd arfarnu cyflawniad diwedd tymor.
|
|
Aeth Miss Mefys Jones
rhagddi i fanylu ar gynnwys y ffeil hunan arfarnu.
|
|
|
|
Diolchodd yr aelodau am yr
adborth uchod fel tystiolaeth o’r gwaith caled a chydwybodol
sydd yn cael ei wneud yn yr ysgolion.
|
|
|
|
Penderfynwyd
nodi’r wybodaeth o adroddiadau hunan arfarnu Ysgol David
Hughes, Porthaethwy ac Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch.
|
|
|
|
8
|
AMSER A NEILLTUIR I ADDYSG GREFYDDOL STATUDOL MEWN
YSGOLION
|
|
|
|
|
Bu i Miss Mefys Jones,
cynrychiolydd UCAC ar y CYSAG roddi gwybod i’r aelodau
ei bod wedi gwneud cais i gael godi’r mater hwn yn y CYSAG er
mwyn cael trafodaeth ac arweiniad ar y mater. Adroddodd ei bod yn
ofynnol i bob ysgol ddarparu Addysg Grefyddol gogyfer pob
disgybl
|
|
CA4 a CA5 yn arbennig os
nad ydynt yn dewis dilyn y pwnc i safon TGAU a Lefel A. Cafwyd
arolwg o Ysgol Syr Thomas Jones Mawrth diwethaf ac er nad oedd
Astudiaethau Crefyddol ymhlith y pynciau a arolygwyd, edrychwyd ar
y ddarpariaeth Addysg Grefyddol yng nghyd-destun Cwestiwn Allweddol
3 - Pa mor dda mae
profiadau dysgu yn diwallu anghenion a diddordebau dysgwyr
a’r gymuned ehangach. Bu
i’r Arolygwr hawlio yn groes i farn yr Ysgol, bod rhaid
addysgu’r pwnc am wers yr wythnos trwy gydol Blwyddyn 10, 11
a’r 6ed dosbarth; bu iddo ddod i’r casgliad bod yr
amser a roddir i Addysg Grefyddol yn CA4 a’r 6ed dosbarth yn
gyfyng. Trefn yr ysgol yw ei addysgu pob 4 wythnos fel bod
disgyblion Blwyddyn 10 yn cael eu gweld 4 gwaith am 4 wythnos. O
ran y 6ed dosbarth, mae’r disgyblion yn derbyn gwers yr
wythnos gan Miss Mefys Jones a Phennaeth y 6ed ac fe gaiff ei wau i
mewn i addysgu sgiliau allweddol cyfathrebu. Roedd Miss Mefys
Jones yn dymuno i’r Cyngor ei ystyried yn ei gyfarfod
nesaf fel bod yna ganllaw ysgrifenedig y gellir cyfeirio ato os
cyfyd unrhyw anghytundeb rhwng ysgol ac arolygwr.
|
|
|
|
Adroddodd y Swyddog Addysg
Uwchradd y cafodd 3 ysgol uwchradd eu harolygu yn y flwyddyn
academaidd ddiwethaf ac mai ond yn achos Ysgol Syr Thomas Jones y
codwyd cwestiwn ynglyn â’r amser a roddir i’r
pwnc. Cyfeiriodd at Gylchlythyr 10/94 sydd yn gosod allan y
disgwyliadau mewn perthynas ag Addysg Grefyddol a nododd ei fod yn
dweud ym mharagraff 39 y Cylchlythyr bod argymhellion adroddiad
Cyngor Cwricwlwm Cymru ar y Cwricwlwm Cenedlaethol yn “cymryd
yn ganiataol y dylai 36 awr y flwyddyn gael eu dyrannu i AG yng
nghyfnod allweddol 1-3 ; a rhyw 5% o gyfanswm amser y cwricwlwm yng
nghyfnod allweddol 4. Mater i bob ysgol benderfynu arno yw’r
union amser a ddyrennir ar gyfer AG.” Awgrymodd bod y
CYSAG yn cysylltu gyda rhywun fel Paul Morgan, Llywodraeth
Cynulliad Cymru am farn ac yn cynnal trafodaeth ynglyn
â’r mater yn ei gyfarfod nesaf fel bod yna arweiniad
clir yn cael ei roddi yn ei gylch i bob ysgol ym
Môn.
|
|
|
|
Penderfynwyd
-
|
|
|
|
8.1
Nodi pryderon cynrychiolydd UCAC ynglyn
â’r mater;
|
|
8.2
Gofyn i’r Swyddog Addysg Uwchradd
gysylltu gyda rhywun fel Paul Morgan, Llywodraeth y Cynulliad am
farn ar ran y CYSAG, a bod yna drafodaeth lawn ar fater yr amser a
neilltuir i Addysg Grefyddol yn y cyfarfod nesaf.
|
|
|
|
9
|
FFRAMWAITH ENGHREIFFTIOL CENEDLAETHOL AR GYFER ADDYSG
GREFYDDOL
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - Dogfen
Llywodraeth Cynulliad Cymru, Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol
ar gyfer Addysg Grefyddol yn rhoddi arweiniad ar gyfer Awdurdodau
Addysg Lleol a Chynadleddau Meysydd Llafur Cytun yng
Nghymru.
|
|
|
|
9.1
Adroddodd y Swyddog Addysg Uwchradd bod y
ddogfen ymgynghori uchod yn un o nifer o ymarferion ymgynghori
cyfochrog sy’n cael eu cynnal gan AADGOS a’i fod yn
ôl Cyfarwyddwr y Grwp Cymwysterau a Chwricwlwm yn gyfle i
ddarparu fframwaith asesu cydlynol i Gymru gyfan a gwella safonau
addysg grefyddol yn genedlaethol. Mae’r cyfnod ymgynghori ar
y ddogfen yn ymestyn tan ddiwedd Mawrth a’r teimlad yw fod
angen amser i ystyried y cynnwys a llunio ymateb manwl iddo. Roedd
yn argymell felly bod grwp o blith ymarferwyr Môn a Gwynedd
yn y maes yn cael ei gynnull i drafod y ddogfen, a bod rhyddid i
aelodau’r CYSAG gyflwyno eu sylwadau yn ogystal
i’r Swyddog Addysg Uwchradd. Nododd bod Is-Gadeirydd y CYSAG
eisoes wedi cyflwyno barn ar y ddogfen.
|
|
|
|
Penderfynwyd bod grwp
o ymarferwyr proffesiynol o Fôn a Gwynedd yn cael ei gynnull
i ystyried cynnwys y Ddogfen Ymgynghori Fframwaith Enghreifftiol ar
gyfer Addysg Grefyddol a llunio ymateb iddo, a bod unrhyw
sylwadau gan aelodau’r CYSAG ar y ddogfen yn cael eu cyflwyno
i’r Swyddog Addysg Uwchradd.
|
|
|
|
9.2
Cyfeiriodd y Swyddog Addysg Uwchradd at
ohebiaeth dyddiedig 9 Ionawr, 2007 oddiwrth AADGOS yn rhoddi gwybod
am gynhadledd i’w chynnal yn Llandrindod ar 12 Mawrth, 2007 i
drafod cynigion ar gyfer y Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol ar
gyfer Addysg Grefyddol ac yn gwahodd bob corff CYSAG i gyflwyno 4
enwebiad o bob un o’r tri grwp sydd wedi’u cynrychioli
arnynt i gynnwys 2 o blith grwp yr athrawon (un o’r sector
cynradd ac un o’r sector uwchradd).
|
|
|
|
Penderfynwyd enwebu
Mr Rheinallt Thomas (Enwadau Crefyddol), Mrs Carol Llewelyn Jones
(Athrawon Sector Uwchradd) a Miss Jane Richards (Athrawon Sector
Cynradd) i fynychu Cynhadledd Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol
ar gyfer Addysg Grefyddol yn Llandrindod ar 12 Mawrth, 2007, a
rhoddi hawl i’r Swyddog Addysg Uwchradd enwebu’r 4ydd
cynrychiolydd yn ôl ei ddisgresiwn.
|
|
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - Gwybodaeth
ynglyn â chynnwys y rhannau perthnasol hynny o adroddiadau
arolwg mewn perthynas ag Ysgol Gynradd Cemaes, Ysgol Gynradd
Llanbedrgoch ac Ysgol y Tywyn.
|
|
|
|
Nododd y Swyddog Addysg
Uwchradd nad oedd Addysg Grefyddol wedi bod yn destun arolwg yn y
tri achos uchod, ond fe ystyriwyd Addysg Grefyddol yng nghyd-destun
Cwestiwn Allweddol 3 - Pa mor dda mae profiadau dysgu yn diwallu
anghenion a diddordebau dysgwyr a’r gymuned ehangach.
Mae’r tri adroddiad yn rhai boddhaol iawn gyda’r
adroddiad mewn perthynas ag Ysgol y Tywyn yn un arbennig o
gryf.
|
|
|
|
|
|
Penderfynwyd
nodi’r wybodaeth a llongyfarch y dair ysgol ar eu
cyflawniad.
|
|
|
|
|
|
|
|
11.1
Derbyniwyd llythyr dyddiedig Tachwedd, 2006
oddiwrth Gavin Craigen yn cyfeirio at oblygiadau cyllidol
newidiadau cwricwlaidd y Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol ar
gyfer Addysg Grefyddol;
|
|
11.2
Derbyniwyd llythyr oddi wrth Gymdeithas
CYSAGau Cymru yn gwahodd enwebiad ar gyfer Pwyllgor Gwaith y
Gymdeithas. Mae Is-Gadeirydd CYSAG Ynys
Môn wedi’i benodi i wasanaethu ar Bwyllgor Gwaith y
Gymdeithas tan 2009 a chan nad yw cyfansoddiad y Gymdeithas yn
caniatau i fwy nag un swyddog o’r un corff eistedd ar y
Pwyllgor Gwaith, nid oes gofyn gweithredu ynglyn â’r
ohebiaeth.
|
|
|
|
|
|
|
|
Nodwyd y cynhelir cyfarfod
nesaf y CYSAG am 2 o’r gloch y prynhawn, ddydd Llun, 11
Mehefin, 2007.
|
|
|
|
|
|
Cynghorydd E.G.Davies
|
|
Cadeirydd
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|