|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd ac arwyddwyd fel rhai cywir yn amodol ar y
materion a godir isod, gofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG a
gynhaliwyd ar 5 Chwefror, 2007. (Cofnodion y Cyngor 06.03.2007, tud
96 - 104)
|
|
|
|
|
|
|
|
|
3.1
|
Cadarnhaodd y Swyddog Addysg Uwchradd ei fod, yn unol
â dymuniad y CYSAG yn ei gyfarfod blaenorol, wedi ysgrifennu
at Mr John Wyn Jones, cyn Bennaeth Ysgol Uwchradd Bodedern a chyn
cynrychiolydd y Gymdeithas Penaethiaid Uwchradd ar y Cyngor
Ymgynghorol i ddiolch iddo am ei wasanaeth triw a’i gyfraniad
i drafodaethau’r Cyngor yn ystod tymor ei
aelodaeth.
|
|
|
|
|
3.2
|
Eitem 6 - Ysgol Uwchradd Caergybi
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Penderfynwyd diwygio’r ymadrodd yn nhrydydd
paragraff fersiwn Saesneg y cofnod hwn , “in preparation for
a second inspection by Estyn in June” i ddarllen “in
preparation for a second monitoring visit by Estyn in
June”;
|
|
|
Ÿ
|
penderfynwyd dileu’r geiriau “erbyn hyn”
yn ail frawddeg yr un paragraff yn y fersiwn Gymraeg a’r gair
“now” yn ail frawddeg yr un paragraff yn y
fersiwn Saesneg;
|
|
|
Ÿ
|
cyfeiriodd y Swyddog Addysg Uwchradd at bedwerydd
paragraff yr eitem hon ac esboniodd bod naws y paragraff yn awgrymu
ei bod yn arferol i aelodau o dîm uwch rheoli’r ysgol
arsylwi gwersi a roddir gan athrawon newydd gymhwyso tra nad
dyna’r achos mewn ffaith. Cadarnhaodd Pennaeth Ysgol Uwchradd
Caergybi bod pob athro/awes sydd newydd gymhwyso yn derbyn
cefnogaeth gan swyddogion bugeiliol yr ysgol a chan gyd-gysylltwyr
anghenion arbennig ond nid gan reolwyr uwch yr ysgol bob
amser.
|
|
|
|
|
3.3
|
Amser a Neilltuir i Addysg Grefyddol Statudol mewn
Ysgolion
|
|
|
|
|
3.3.1
|
Yn y fan hyn, bu i aelod godi mater oedd yn peri consyrn
iddo ddaeth i’w sylw trwy sefyllfa ei fab, ac a ddymunai
i’r CYSAG fod yn ymwybodol ohono. Adroddodd bod y plentyn ar
fin sefyll arholiad Astudiaethau Crefyddol sy’n cyfateb i 50%
o’r cymhwyster TGAU. Tra’i fod yn hynod fodlon bod ei
fab wedi dewis Astudiaethau Crefyddol, roedd yn bryderus
oherwydd i’w fab dderbyn llythyr gan ei Athrawes Addysg
Grefyddol yn rhoi gwybod i’r dosbarth ei bod yn gorfod
mynychu sesiwn Hyfforddiant mewn Swydd er bod ganddi wers
wedi’i pharatoi ar gyfer y dosbarth sy’n sefyll
arholiad. Bu i’r Athrawes Addysg Grefyddol drefnu
cyflenwi’r wers trwy alw’r dosbarth i mewn am 2 awr
ychwanegol ac roedd yr aelod yn arbennig o ddiolchgar iddi am wneud
hyn ac yn ei llongyfarch ar ei selogrwydd. Ei brif bryder fodd
bynnag oedd y ffaith ei bod yn ymddangos bod yna flaenoriaethu
Hyfforddiant mewn Swydd ar draul addysgu’r pwnc ac roedd yn
resyndod ganddo fod rheidrwydd ar athrawon i fynychu hyfforddiant
sy’n digwydd ar draws gwers.
|
|
|
|
|
|
Adroddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau mewn ymateb nad oedd
yn ymwybodol bod Cynnal wedi gwneud unrhyw drefniadau HMS yn y
cyfnod y cyfeiria’r aelod ato a bod rhaglen HMS yn digwydd ar
adegau pan mae’r ysgolion wedi’u cau. Fodd bynnag,
cynhaliwyd Cynhadledd Medrau Meddwl ar y diwrnod dan sylw ac os
gwahoddwyd yr Athrawes Addysg Grefyddol i fynychu’r
gynhadledd hon, efallai bod hynny am yr ystyrir bod yr ysgol yn
dangos arferion da a bod yna ddeisyfiad i rannu’r arferion
gydag ymarferwyr mewn ysgolion eraill. Roedd yn gresynu bod mab yr
aelod yn colli gwers o’r herwydd a hyderai nad oedd hynny yn
batrwm oedd wedi amlygu’i hun ar adegau eraill o’r
flwyddyn. Atgoffodd yr aelodau bod hyfforddiant yn elfen annatod
o’r broses o feithrin sgiliau athrawon a bod yr egwyddor o
rannu arferion da hefyd yn un pwysig yng nghyd-destun datblygu
dulliau addysgu.
|
|
|
|
|
|
Tra’n cydnabod y sylwadau uchod, roedd yr aelod yn
awyddus iddo gael ei ddeall ei fod yn ymagweddu tuag at y mater o
safbwynt y pwnc ac o safbwynt y disgyblion, ac nad oedd yn teimlo
ei fod yn dderbyniol bod pwysau ar yr athrawes i fynychu’r
sesiwn hyfforddiant a hithau wedi nodi bod ganddi ddosbarth
arholiad pwysig Astudiaethau Crefyddol ar yr un pryd. Roedd
o’r farn bod trefniadau o’r fath angen eu trafod
ymhellach, ac mai cyfarfod o’r CYSAG oedd y fforwm mwyaf
priodol i wneud hynny fel y corff y mae ei ddyletswyddau yn ymwneud
â goruchwylio materion Addysg Grefyddol mewn
ysgolion.
|
|
|
|
|
|
Roedd y Cadeirydd o’r farn bod y drafodaeth yn
ymestyn tu hwnt i gylch gorchwyl penodol y CYSAG ac awgrymodd bod y
mater yn cael ei gyfeirio i’r Pwyllgor Trosolwg Polisi Addysg
Iechyd a Lles am ystyriaeth. Esboniodd y Swyddog Addysg Uwchradd
bod yr eitem y codwyd y mater o dano ac a drafodwyd gan y CYSAG yn
ei gyfarfod blaenorol yn ymwneud â’r oriau y neilltuir
ar gyfer Addysg Grefyddol yn y chweched dosbarth, tra bod testun
pryder yr aelod yn ymwneud ag amser cyswllt ar gyfer TGAU Addysg
Grefyddol a rhyddhau staff ar gyfer HMS. Awgrymodd bod yr aelod yn
trafod ei bryderon gyda Phennaeth yr Ysgol neu fel arall, ei fod
ef, y Swyddog Addysg Uwchradd yn gwneud ymholiadau ar ei
ran.
|
|
|
|
|
|
Ymatebodd yr aelod ei fod yn dymuno iddo gael ei gofnodi
ei fod wedi codi’r mater a’i fod yn anhapus nad oedd yn
cael ei drafod ymhellach gan y fforwm oedd yn ei dyb ef y mwyaf
cymwys i’w drafod. Ail ddatganodd ei ddiolch i Athrawes
Addysg Grefyddol ei fab am wneud amser ychwanegol ar gyfer y wers
sy’n cael ei cholli, a nododd ei fod yn fodlon i’r
Swyddog Addysg Uwchradd ymholi i’r mater ar ei
ran.
|
|
|
|
|
|
Gwnaeth cynrychiolydd y penaethiaid uwchradd y sylw bod
hyfforddiant neu arsylwi gwersi yn gallu bod yn fater dyrys os
ydynt yn tynnu athrawon o’r dosbarth. O berspectif Pennaeth
Ysgol, byddai’n gwerthfawrogi pe bai rhiant plentyn yn ei
hysgol sydd â phryderon tebyg yn dod i’w gweld i gael
sgwrs.
|
|
|
|
|
|
Mynegodd yr aelod a gododd y mater werthfawrogiad
o’r amser a roddwyd iddo yn y cyfarfod hwn, a’r
cyfraniadau a gafwyd, a phwysleisiodd ei fod yn fater y dylid rhoi
sylw iddo oherwydd pwysigrwydd Addysg Grefyddol fel
pwnc.
|
|
|
|
|
|
(Bu i’r Parch Elwyn Jones ddatgan diddordeb
fel aelod o gorff llywodraethol yr ysgol y cyfeiriwyd ati yn ystod
y drafodaeth)
|
|
|
|
|
|
Penderfynwyd nodi pryder yr aelod yng nghyswllt yr
achos o wrthdaro rhwng trefniant HMS a gwers Astudiaethau
Crefyddol, a bod y Swyddog Addysg Uwchradd yn gwneud ymholiadau
pellach yn ei gylch.
|
|
|
|
|
3.3.2
|
Cadarnhaodd y Swyddog Addysg Uwchradd ei fod wedi cysylltu
â Paul Morgan mewn perthynas â’r mater o neilltuo
amser i Addysg Grefyddol statudol yn y chweched dosbarth a
byddai’n adrodd ymhellach arno o dan yr eitem briodol ar y
rhaglen.
|
|
|
|
|
3.4
|
Eitem 9 - Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol ar
gyfer Addysg Grefyddol
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - Yr ymateb a anfonwyd i AADGOS ar ran CYSAG
Ynys Môn mewn perthynas â’r ymgynghoriad
ynglyn â sefydlu Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol ar
gyfer Addysg Grefyddol.
|
|
|
|
|
|
Adroddodd y Swyddog Addysg Uwchradd yn unol â
phenderfyniad y CYSAG yn ei gyfarfod blaenorol y daethpwyd ag
ymarferwyr proffesiynol ynghyd mewn sesiwn a gynhaliwyd ar y cyd
â chynrychiolwyr o Wynedd ym Mharc Menai i ystyried yn fanwl
Dogfen Ymgynghori AADGOS ynglyn â chael Fframwaith
Enghreifftiol ar gyfer Addysg Grefyddol, ac i lunio ymateb iddi.
Roedd cynrychiolaeth Môn wedi’i gyfansoddi o Bennaeth
Ysgol Gynradd Llangaffo, Pennaeth Ysgol Gynradd Llandrygarn,
Pennaeth Addysg Grefyddol Ysgol Syr Thomas Jones a chynrychiolydd
UCAC ar y CYSAG, ynghyd â Phennaeth AG Ysgol Uwchradd David
Hughes. Derbyniwyd hefyd sylwadau gan Is-Gadeirydd y CYSAG a
gwerthfawrogwyd ei fewnbwn.
|
|
|
|
|
|
Adroddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau am ymateb y grwp
dethol uchod i gynnwys y ddogfen ymgynghori fel a ganlyn
-
|
|
|
|
|
Ÿ
|
bod y grwp yn derbyn mewn egwyddor mai da fyddai gweld
Fframwaith Cenedlaethol sy’n gyffredin i bawb;
|
|
|
Ÿ
|
bod y grwp yn cydnabod er bod y Fframwaith Cenedlaethol yn
wahanol o ran ei diwyg, nid yw mor annhebyg o ran ei brif sylfeini
i gynnwys y Maes Llafur Cytun lleol, ac nad oes gan athrawon felly
achos dros bryderu’n ormodol yn ei gylch;
|
|
|
Ÿ
|
bod prif gonsyrn y grwp yn ymwneud â’r ffaith
bod yna beth amryfusedd mewn perthynas â disgyblion dan 7
oed; mae’r grwp wedi nodi ei fod o’r farn bod y
gwahaniaethu rhwng Addysg Grefyddol i ddisgyblion 3-4 oed ac Addysg
Grefyddol i ddisgyblion 5-7 yn artiffisial ac yn gwrthddweud
athroniaeth ac egwyddorion holistaidd y Cyfnod Sylfaen;
|
|
|
Ÿ
|
bod y grwp yn cefnogi’n gryf y gosodiadau mewn
perthynas ag eglurder y disgrifiadau lefel at bwrpas asesiadau
athrawon yn CA2 a CA3, a bod y sgiliau a nodir yn rhaglenni astudio
CA2, a CA3, yn briodol i’r naill gyfnod a’r
llall;
|
|
|
Ÿ
|
bod ymateb y grwp i’r sylwadau mewn perthynas
â CA4 ac Ôl-16 hefyd yn gadarnhaol;
|
|
|
Ÿ
|
bod y grwp o’r farn bod y mater o bennu nifer y
crefyddau i’w hastudio mewn maes llafur cytun yn bwnc y dylid
ei drafod a’i benderfynu’n lleol. Yn bresennol, dynodir
Cristnogaeth fel y brif grefydd, a dywed y Maes Llafur Cytun lleol
y dylai plant dan 7 oed astudio un grefydd arall; dylai disgyblion
CA2 astudio 1 ond nid mwy na 2 grefydd arall a bod y nifer o
grefyddau a astudir yn cynyddu wrth i’r disgyblion wneud
cynnydd yn y maes. Cymera’r grwp lleol y safbwynt na ddylid
pennu nifer y crefyddau a astudir mewn maes llafur cytun
lleol.
|
|
|
|
|
|
Atgoffodd Ymgynghorydd y Dyniaethau’r aelodau nad
dogfen statudol mo’r Fframwaith a bod rhaid cynnull cyfarfod
lleol i ystyried a phenderfynu ar un o dri chwrs yn ei chylch, sef
-
|
|
|
|
|
Ÿ
|
ei mabwysiadu yn ei chyfanrwydd a’i gwneud yn Faes
Llafur Cytun;
|
|
|
Ÿ
|
ei haddasu a’i pherchnogi a dangos lle mae’n
wahanol i’r hyn fydd gweddill Cymru yn ei astudio;
neu
|
|
|
Ÿ
|
ei diystyrru a datblygu fframwaith lleol yn ei
lle.
|
|
|
|
|
|
Teimlad y Grwp Lleol yw y byddai cael Fframwaith
Cenedlaethol yn fanteisiol oherwydd byddai’n rhoi cyfle i
gyhoeddwyr, hyfforddwyr a sefydliadau megis y Grid Cenedlaethol
drafod ar lefel gyffredin. Daeth y cyfnod ymgynghori ar y
Ddogfen Fframwaith i ben ddiwedd mis Mawrth ac mae swyddogion
AADGOS bellach yn ystyried cynnwys yr holiaduron a ddychwelwyd .Yr
addewid yw y bydd y Fframwaith ddrafft ar gael ar y Wê erbyn
diwedd y flwyddyn a bydd copïau caled yn barod i’w
dosbarthu yn y Gwanwyn yn 2008 i’w cyflwyno wedyn i’r
disgyblion ym mis Medi, 2008, a hynny os yw CYSAGau Môn a
Gwynedd yn barod i dderbyn y Fframwaith neu ei addasu.
|
|
|
|
|
Bu i’r Cadeirydd
fynegi ei ddiolch am y mewnbwn gan dîm proffesiynol ac
ymroddedig.
|
|
|
|
Bu i’r Is-Gadeirydd
nodi bod ymateb y tîm dethol uchod yn cyd-fynd yn gyffredinol
ag ymagwedd Cymdeithas CYSAGau Cymru tuag at gynnwys y Fframwaith,
a phwysleisiodd ei bod yn bwysig bod yna ymdeimlad cyffredin bod
cael maes llafur y gall pawb yn y maes weithio gydag ef yn dda o
beth. Gall CYSAG Ynys Môn ymfodloni ei fod yn symud yn y
cyfeiriad iawn ond iddo gynnal Cynhadledd erbyn mis Medi, 2008 a
threfnu hyfforddiant i athrawon.
|
|
|
|
Ychwanegodd y Swyddog
Addysg Uwchradd y cafwyd sesiwn fuddiol iawn ym Mharc Menai i lunio
ymateb i’r Fframwaith a chredai bod yna awydd ledled Cymru i
symud ymlaen gyda’r Fframwaith yn genedlaethol ond bod rhaid
cadw mewn cof hefyd bod yna waith ymarferol i’w gyflawni ar
ffurf cynnal Cynhadledd cyn mabwysiadu’r Maes Llafur maes o
law.
|
|
|
|
Adroddodd Ymgynghorydd y
Dyniaethau ymhellach y dymunai gofnodi gwerthfawrogiad y gymuned
bod Cymdeithas CYSAGau Cymru wedi cefnogi’r athrawon ac
AADGOS yn hyn o beth; braf gallu adrodd bod yna gydweithio da wedi
bod rhwng y sawl sydd ar lawr y dosbarth a’r CYSAGau
lleol.
|
|
|
|
Penderfynwyd
nodi’r ymateb i Ddogfen Ymgynghori Fframwaith Enghreifftiol
Genedlaethol ar gyfer Addysg Grefyddol a luniwyd ar ran y CYSAG gan
y tîm o ymarferwyr proffesiynol gan ddiolch iddynt am roddi
o’u hamser i’r dasg ac am eu mewnbwn.
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - Gwybodaeth
dan Adran 10 Deddf Arolygu Ysgolion 1996 am gynnwys y rhannau
perthnasol hynny o adroddiadau arolwg mewn perthynas ag Ysgol
Gynradd Llandrygarn ac Ysgol Gynradd Llanfachraeth.
|
|
|
|
Atgoffodd y Swyddog Addysg
Uwchradd yr aelodau bod y drefn arolygu bellach yn golygu y caiff
ysgol ei harfarnu yn erbyn 7 cwestiwn allweddol y dyfarnir gradd
arolygu iddynt yn ymestyn o 1 (y gorau) i 5 (y gwanaf). Yn achos
Ysgol Gynradd Llandrygarn bu i Arolygwr Estyn ddyfarnu Gradd 2
i’r cyfan o’r cwestiynau sy’n broffil graddau
cryf iawn. Roedd y safonau cyflawniad yn y gwersi a arolygwyd i gyd
yn cyrraedd Graddfa 1 neu Raddfa 2 ac yn uwch na tharged
Llywodraeth Cynulliad Cymru am 2007. Cafodd Addysg Grefyddol fel
pwnc ei asesu yn yr arolygiad hwn a dyfarnwyd Gradd 2 iddo yn CA1
sy’n dynodi y canfuwyd nodweddion da yn y ddarpariaeth ac nad
oedd ynddi unrhyw ddiffygion pwysig, tra dyfarnwyd Gradd 1
i’r pwnc yn CA2 sy’n dynodi bod y ddarpariaeth yn dda
gyda rhai nodweddion rhagorol.
|
|
|
|
Nodwedd arall y dymunir
dwyn sylw’r aelodau ati yw’r ffaith bod asesiad yr
Arolygwr yn cyd-fynd ag hunan arfarniad yr ysgol ym mhob un
o’r cwestiynau allweddol sy’n tystio bod gan yr ysgol
drefn rheoli ansawdd gadarn iawn.
|
|
|
|
Gwnaeth y Cadeirydd y sylw
bod canfyddiadau’r arolygiad yn glodwiw ac ategodd yr
Is-Gadeirydd y ganmoliaeth trwy nodi bod yr adroddiad yn brawf o
lwyddiant arbennig iawn.
|
|
|
|
Aeth y Swyddog Addysg
Uwchradd rhagddo wedyn i adrodd bod y proffil graddau yn achos
Ysgol Gynradd Llanfachraeth yn gydradd â phroffil graddau
Ysgol Llandrygarn gyda Gradd 2 wedi’i ddyfarnu unwaith eto ar
draws y cwestiynau allweddol. O ran safonau’r gwersi a
arolygwyd dyfarnwyd bod 71% yn deilwng o Radd 2 a bod 29% yn
teilyngu Gradd 3. Ni chafodd Addysg Grefyddol fel pwnc ei arolygu
tro hwn yn Ysgol Llanfachraeth ond fe ddyfarnwyd Gradd 2 i Gwestiwn
Allweddol 3 sy’n ymwneud â pha mor dda mae’r
profiadau dysgu yn diwallu anghenion a diddordebau dysgwyr
a’r gymuned ehangach ac sy’n cwmpasu datblygiad
ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol y disgyblion. Dywed
yr Arolygwr hefyd bod yna ymdrechion i godi
ymwybyddiaeth y disgyblion o’r gymdeithas o’u cwmpas
gan gynnwys y rheini sy’n llai ffodus, a’u bod yn
ymateb yn bositif i weithgareddau’r ysgol i gasglu arian ar
gyfer amrywiol elusennau cenedlaethol a rhyngwladol sy’n
datblygu’u hymdeimlad o fod yn ddinasyddion byd
eang.
|
|
|
|
Roedd aelodau’r
CYSAG yn gytun bod yma ddau adroddiad arolygiad canmoladwy iawn a
bu iddynt fynegi eu balchder a’u diolch am y gwaith
ymroddedig a esgorodd ar arfarniadau mor dda.
|
|
Dygodd yr Is-Gadeirydd
sylw at yr anghysonderau o ran defnydd yr Arolygwr o dermau i
ddisgrifio addoli ar y cyd a hynny er amlygu’r gwendid hwn
gydag Estyn.
|
|
|
|
Penderfynwyd cofnodi
gwerthfawrogiad aelodau’r CYSAG o’r gwaith a’r
ymdrech gan staff a disgyblion Ysgol Gynradd Llandrygarn ac Ysgol
Gynradd Llanfachraeth oedd yn sail i adroddiadau arolygiad arbennig
iawn a gofynnwyd i’r Swyddog Addysg Uwchradd lythyru’r
ddwy ysgol i’w llongyfarch ar eu cyrhaeddiad.
|
|
|
|
5
|
ADDYSG GREFYDDOL YN Y CHWECHED DOSBARTH
|
|
|
|
|
Adroddodd y Swyddog Addysg
Uwchradd y bu i’r drafodaeth
ynglyn â’r mater uchod gychwyn yn Ysgol Syr Thomas
Jones, Amlwch yn sgîl beirniadaeth gan Arolygwr Estyn nad
oedd yr ysgol yn neilltuo amser digonol i Addysg Grefyddol statudol
yn y chweched dosbarth. Os yw Arolygwr o’r farn nad yw ysgol
yn cyflawni’r gofynion cyfreithiol trwy beidio â rhoddi
amser digonol i Addysg Grefyddol statudol yn y chweched dosbarth fe
all hynny arwain at ddyfarnu Graddfa 4 i’r ysgol yng
nghyswllt cwestiwn Allweddol 3. Trafodwyd y mater hwn gyda Paul
Morgan, Swyddog yn y Cynulliad, a bu iddo ef gyfeirio at
ysgolion lle mae yna ymarfer da o ddefnyddio’r amser
wythnosol mewn ffordd fwy creadigol na neilltuo cyfnodau
diffiniedig mewn wythnos ar gyfer Addysg Grefyddol yn y chweched
dosbarth y mae disgyblion yn gyndyn i’w mynychu. Ymhlith y
dulliau amgen mae rhai ysgolion wedi’u datblygu yw cynllunio
pecynnau dysgu (supported self-study packs) a rhain wedi’u
cynllunio’n ofalus a dilyniant iddynt. Mae ysgolion eraill yn
cynnal seminar neu gynhadledd. Fodd bynnag, pryder pennaf Paul
Morgan ynghylch y dulliau hyn yw ansawdd darpariaeth o’r fath
ac mae’n bendant iawn ei feddwl bod ansawdd y profiad
a’r ddarpariaeth yn hollbwysig.
|
|
|
|
Awgrymodd Ymgynghorydd y
Dyniaethau bod hyn yn fater efallai byddai’r CYSAG yn dymuno
dychwelyd iddo yn rheolaidd. Cyfeiriodd at y ffaith bod llawer o
ryddid i ddisgyblion ôl-16 wneud dewisiadau o ran gwahanol
agweddau o’u bywyd gan gynnwys mynd i goleg i astudio lle nad
oes rhaid iddynt wneud Addysg Grefyddol. Mae’n galonogol bod
y nifer sy’n dewis gwneud cwrs Astudiaethau Crefyddol yn
eithaf iach trwy Gymru a’i fod ar gynnydd. Fodd bynnag,
mae’r disgyblion hynny sy’n gwneud Addysg Grefyddol yn
cael eu hunain mewn sefyllfa o gael dethol a dewis cyfuniad o
bynciau am y tro cyntaf ac mae gofyn cadw hyn mewn cof wrth ail
ymweld â’r Maes Llafur ac ystyried addasrwydd yr hyn a
gynigir iddynt gan ofyn a yw efallai’n briodol cynnig arlwy
gwahanol iddynt. Llynedd o dan arweiniad Mr Paul Matthews Jones, y
cyn Athro Ymgynghorol Addysg Grefyddol daethpwyd â grwp o
ymarferwyr proffesiynol at ei gilydd mewn gweithgor a chynhaliwyd
sesiwn benodol gogyfer y sawl sy’n addysgu disgyblion
ôl-16. Lluniwyd deunydd ar gyfer uned o waith Addysg
Grefyddol ac mae’r pecyn gorffenedig sy’n dwyn y
teitl, A yw Crefydd yn Rym
Cydlynol neu Ysgarol mewn Cymdeithas,
bellach ar gael. Cafodd yr uned o waith ei chyflwyno i sesiwn HMS
Môn ac Arfon yn ystod y Gwanwyn eleni a chredir bod y
modiwl yn ddigonol i gynnal gwaith am hanner tymor, neu efallai am
dymor. Mae Panel Ymgynghorol Cymru hefyd wedi bod yn ystyried y
maes hwn a’r teimlad yw y byddai cael trafodaeth agored
ynglyn â faint o amser sy’n cael ei roddi i AG statudol
ôl-16 yn ddymunol. Mae rhai cyrff CYSAGau yn Ne Ddwyrain
Cymru sy’n cael eu gwasanaethu gan ESIS wedi nodi yn eu maes
llafur hwy bod 20 awr y flwyddyn yn dderbyniol ar gyfer Addysg
Grefyddol ôl-16, a bod dulliau amgen o wneud y ddarpariaeth
hefyd yn gymeradwy a bod modd felly hepgor y cyfnod penodedig
wythnosol. Efallai bod gofyn ystyried y dulliau amgen hyn a bod yn
ddigon hyderus i’w cynnwys yn y Maes Llafur Cytun
lleol.
|
|
|
|
Aeth Ymgynghorydd y
Dyniaethau rhagddi wedyn i ymhelaethu ar rai o’r dulliau
amgen o gyflenwi darpariaeth Addysg Grefyddol yn y chweched
dosbarth fel a ganlyn -
|
|
|
|
Ÿ
|
cyflwyno darpariaeth Astudiaethau Crefyddol trwy ei
gyd-blethu â sgiliau allweddol;
|
|
|
Ÿ
|
defnyddio cwrs TGAU Byr fel cwrs statudol yn CA4
;
|
|
|
Ÿ
|
Athroniaeth i Blant - byddai’r cwrs hwn yn
ddefnyddiol i’r sawl sydd yn dymuno dilyn gyrfa sy’n
ymwneud â phobl; mae cwmni Sapier wedi arbrofi gyda rhai
disgyblion ôl-16 ac wedi rhoddi cymhwyster Lefel 1 Sapier
iddynt;
|
|
|
Ÿ
|
cynadleddau - o’i weithredu’n iawn mae’r
cysyniad o baratoi plentyn ar gyfer cynhadledd a chyfranogi mewn
gweithdai a chwrdd ag unigolion o amryfal ffydd yn ddeniadol ac o
werth. Rhydd gyfle i’r plentyn fagu sgiliau gwahanol a
throsglwyddadwy;
|
|
|
Ÿ
|
defnyddio offer fideo gynadledda - nid yw hwn yn
ddull hwylus ar gyfer grwp mawr o blant ond o’i ddefnyddio yn
ddychmygus fe all fod o werth.
|
|
|
|
|
Rhaid ystyried pa mor
ymarferol yw corffori’r dulliau amgen uchod yn y Maes Llafur
Cytun lleol. A chofio nad yw’n bosibl dileu’r amser
statudol gogyfer Addysg Grefyddol yn y chweched dosbarth, rhaid ei
gyflwyno mewn modd mwy atyniadol na thrwy ddatgan ei fod yn orfodol
a’i werthu fel darpariaeth sydd yn cynorthwyo pobl ifanc i
baratoi yn feddyliol ac yn emosiynol am y byd mawr.
|
|
|
|
Diolchwyd yn fawr iawn i
Ymgynghorydd y Dyniaethau am ei chyflwyniad uchod.
|
|
|
|
Ategodd cynrychiolydd
Cymdeithas Arweinyddwyr Ysgolion a Cholegau (ASCL) y sylwadau uchod
a chytunodd ei bod yn anodd gwneud darpariaeth Addysg Grefyddol
ôl-16 sy’n apelgar i ddisgyblion o gofio hefyd bod
amser di-gyswllt disgyblion blwyddyn gyntaf y chweched dosbarth yn
brin. Mae ysgol Uwchradd Caergybi yn paratoi ar gyfer y Fagloriaeth
Gymreig a bydd y sgiliau a ddatblygir trwy gyfrwng y Fagloriaeth yn
cael eu hachredu. Defnyddiol felly fyddai priodi’r
ddarpariaeth AG gyda’r ddarpariaeth sgiliau allweddol hon, a
thrwy hynny ei wneud yn fwy diddorol a buddiol i’r
disgyblion.
|
|
|
|
Adroddodd yr Is-Gadeirydd
bod y mater hwn ag iddo hanes hir. Fodd bynnag, mae sefyllfa Ynys
Môn yn glir ac yn cyd-fynd â’r cyfarwyddyd bod 36
awr y flwyddyn yn cael eu neilltuo i AG yn CA3 a 5% o
gyfanswm amser y cwricwlwm i’r pwnc yn CA4. At hynny, mae
barn Prif Arolygydd Estyn a’r cyn Weinidog dros Addysg yn
Llywodraeth y Cynulliad wedi bod yn ddigyfaddawd ar y mater hwn a
mynnent nad yw rhai o’r cynlluniau amgen newydd yn
dderbyniol. Mae gofynion statudol Addysg Grefyddol yn y chweched
dosbarth yn ychwanegol i ddarpariaeth y Fagloriaeth a’r
disgwyl yw y cânt eu cyflawni yn ychwanegol i’r
Fagloriaeth, ac nad yw eu gweithredu o fewn y Fagloriaeth yn
gymeradwy. Bu’r duedd i gamddehongli beth yw Addysg Grefyddol
a beth yw Addysg Bersonol a Chymdeithasol yn broblem dros y
blynyddoedd - rhaid i’r elfennau Addysg Grefyddol a’r
amser a roddir iddynt fod yn eglur; heb hynny ni fernir bod yna
gyflawni’r gofynion statudol. Yr her yw ceisio ei wneud yn
fwy diddorol, ac addawol yw gweld bod y nifer o ddisgyblion
sy’n dewis Astudiaethau Crefyddol ar eu fyny sy’n
awgrymu bod yna fwy o dynfa i’r pwnc.
|
|
|
|
Mynegodd Ymgynghorydd y
Dyniaethau ei gwerthfawrogiad o’r sylwadau a gyflwynwyd ac
ychwanegodd y disgwyliai y byddai yna ail-ymweld â’r
mater hwn. Annhebyg iawn y bydd yna unrhyw newid yn y ddeddfwriaeth
mewn perthynas ag Addysg Grefyddol statudol yn y chweched dosbarth
ac felly gofynnai i aelodau’r CYSAG ystyried syniadau ar
gyfer ei ddarparu bydd yn bodloni’r arolygwyr, yr ysgolion
a’r bobl ifanc eu hunain.
|
|
|
|
Diolchodd y Swyddog Addysg
Uwchradd i’r aelodau am eu cyfraniadau uchod a nododd bod y
sefyllfa ar hyn o bryd yn cael ei grisialu yn nhudalen 5 y Maes
Llafur Cytun. Bydd angen rhoi arweiniad i benaethiaid ysgol maes o
law yng nghyd-destun datblygu’r Maes Llafur
newydd.
|
|
|
|
Penderfynwyd nodi
adroddiad Ymgynghorydd y Dyniaethau ynghyd â’r sylwadau
a wnaethpwyd yn ystod y drafodaeth arno.
|
|
|
|
6
|
ADDYSG GREFYDDOL YN YSGOL UWCHRADD
CAERGYBI
|
|
|
|
|
Bu i Bennaeth Ysgol
Uwchradd Caergybi adrodd ar y cynnydd yn yr ysgol o ran ei
darpariaeth Addysg Grefyddol fel a ganlyn -
|
|
|
|
Ÿ
|
penodwyd pennaeth Adran newydd o 6 Medi, 2006;
|
|
|
Ÿ
|
rhoddwyd pwyslais ar ail-lunio Cynlluniau Gwaith
CA3;
|
|
|
Ÿ
|
yn 2006 ni roddwyd lefelau CA3 oherwydd absenoldeb athro;
gyda’r newidiadau mae’r Pennaeth Adran newydd yn
rhagweld 68% Lefel 5 ac uwch ar gyfer Blwyddyn 9 yn
2007;
|
|
|
Ÿ
|
dengys adolygiad o lyfrau’r disgyblion gynnydd amlwg
ym maes medrau;
|
|
|
Ÿ
|
gwelir bod y disgyblion yn awr yn gwerthuso, myfyrio a
mynegi barn;
|
|
|
Ÿ
|
maent hefyd yn fwy sicr eu gwybodaeth;
|
|
|
Ÿ
|
dengys llyfrau’r disgyblion a chanlyniadau arsylwi
gwersi bod y disgyblion yn defnyddio termau priodol a bod
disgyblion Blwyddyn 7 yn benodol yn dod i’r dosbarth ag
agwedd bositif;
|
|
|
Ÿ
|
o ran ymarferion monitro, arsylwyd gwersi gan staff,
ymgynghorwyr, AEM ac fe adolygwyd llyfrau;
|
|
|
Ÿ
|
holwyd y Pennaeth Adran gan AEM ac arsylwyd dosbarth
Addysg Grefyddol Blwyddyn 9. Cawsant eu bodloni gan y cynnydd a
wnaed;
|
|
|
Ÿ
|
byddir yn parhau i godi safonau dysgu;
|
|
|
Ÿ
|
bydd yna hyfforddiant rheoli parhaol ar gyfer y Pennaeth
Adran;
|
|
|
Ÿ
|
bwriedir cwblhau Cynllun Gwaith newydd ar gyfer
CA3;
|
|
|
Ÿ
|
bydd staff CA4 fydd yn dysgu Addysg Grefyddol o fis Medi,
2007 yn derbyn hyfforddiant;
|
|
|
Ÿ
|
trefnir i’r Pennaeth Adran newydd ymweld ag ysgolion
cynradd lleol i weld addysgu Addysg Grefyddol
ddwyieithog.
|
|
|
|
|
Diweddodd y Pennaeth ei
hadroddiad trwy nodi er y gwnaed cryn gynnydd o fis Medi 2006,
ymlaen, erys cryn waith eto i’w wneud.
|
|
|
|
Diolchwyd i Bennaeth Ysgol
Uwchradd Caergybi am ei throsolwg clir a chytbwys o’r
sefyllfa parthed Addysg Grefyddol yn yr ysgol.
|
|
|
|
Penderfynwyd nodi
adroddiad Pennaeth Ysgol Uwchradd Caergybi ynglyn â’r
cynnydd a wnaed o safbwynt darpariaeth Addysg Grefyddol yr ysgol
gan ddiolch iddi am y wybodaeth.
|
|
|
|
7
|
RHAGLEN WAITH YR ATHRAWES YMGYNGHOROL ADDYSG
GREFYDDOL
|
|
|
|
|
Diweddarodd yr Athrawes
Ymgynghorol Addysg Grefyddol yr aelodau ar ei rhaglen waith a
rhagflaenodd ei chyflwyniad gyda diolch i Ymgynghorydd y Dyniaethau
am ei chyngor tryloyw a pharod bob amser.
|
|
|
|
A hithau wedi cwblhau 6
mis yn y swydd, roedd yn mwynhau’r amryw brofiadau ddeuai
i’w rhan yng nghwrs ei gwaith ac roedd yn
gwerthfawrogi’r cyfleoedd i ddatblygu’n broffesiynol.
Ymhlith ei dyletswyddau roedd trefnu cyrsiau HMS a ffocws HMS mis
Chwefror Môn ac Arfon oedd Athroniaeth i Blant, sef dull o
ddysgu sy’n addas ar gyfer pob oedran a gallu ac
sy’n annog disgyblion i athronyddu trwy holi ac ymateb i
gwestiynau pwysig a meddylgar. Cafwyd mewnbwn i’r sesiwn gan
Dr Tim Lucock, arbenigwr yn y maes.
|
|
|
|
Mae cefnogi athrawon
newydd gymhwyso yn rhan greiddiol o’i gwaith ac mae hyn wedi
golygu ymweld ag Ysgol Uwchradd Caergybi i ddarparu
cefnogaeth a chynhaliaeth i Bennaeth newydd Adran Addysg Grefyddol
yr ysgol gan gynnig arweiniad iddo ynghylch cynllunio gwaith a
datblygu sgiliau rheoli dosbarth.Ymwelsai hefyd ag Ysgol Uwchradd
David Hughes i bwrpas arsylwi ar yr Athrawes AG newydd gymhwyso yn
yr ysgol honno, a braf gallu dweud ei bod yn alluog ac yn
frwdfrydig iawn ac yn cyfrannu tuag at gynnal safonau uchel yr
adran. Bu iddi fynychu cwrs dulliau dysgu disgyblion 14-16 oed ac
roedd cwrs hyfforddiant defnyddio byrddau gwyn rhyngweithiol mewn
gwersi AG wedi’i drefnu a byddai’n bresennol yn y
sesiwn honno.
|
|
|
|
Mynychai hefyd gyfarfodydd
o’r Tîm Ymgynghorol llawn i ymgyfarwyddo ag ymarfer da
mewn dysgu.
|
|
|
|
Cadarnhaodd yr Athrawes
Ymgynghorol Addysg Grefyddol ei bod yn cael pleser a defnydd mawr
o’r gwaith.
|
|
|
|
Penderfynwyd nodi
adroddiad yr Athrawes Ymgynghorol Addysg Grefyddol ynglyn
â’i rhaglen waith gan ddiolch iddi am y
wybodaeth.
|
|
|
|
|
|
|
|
Adroddodd Ymgynghorydd y
Dyniaethau am weithgareddau HMS yn y sector cynradd
yn ystod 2006/07 fel a ganlyn
-
|
|
|
|
Ÿ
|
bu i athrawon CA1 ymrwymo i gwrs yn ymwneud â
gwyliau crefyddol o fewn Cristnogaeth oedd cwmpasu profiadau i
ddisgyblion CA1 a’r adnoddau diweddar sydd ar gael. Edrychwyd
ar waith celf yng nghyd-destun y Cyfnod Sylfaen ac ar y defnydd o
degannau byd bach fel modd o gyflwyno gwyliau Cristnogol i
ddisgyblion CA1. Cynhaliwyd sesiwn ar eu cyfer hefyd ar
athroniaeth i blant;
|
|
|
Ÿ
|
cynhaliwyd sesiwn ar lunio ymholiadau diddorol ar gyfer
disgyblion CA2 ar gyfer y Dyniaethau yn eu cyfanrwydd. Her y sesiwn
i Addysg Grefyddol oedd i ba raddau gellid llunio cwestiynau
diddorol sy’n yn ymateb i Tacsonomi Bloom, sef fframwaith
penodol o feddwl yn graff ac o ddefnyddio sgiliau meddwl, a gwneud
hynny mewn cyd-destun o edrych ar gardiau Nadolig a brofodd yn
sialens.
|
|
|
Ÿ
|
cyflwynwyd rhestr faith o awgrymiadau ar gyfer testunau
HMS 2007/08 gogyfer y Panel sydd yn ystyried cyrsiau hyfforddiant
yn y ddau sector. Yr hyn fydd yn siapio cynnwys y rhaglen
hyfforddiant am y flwyddyn nesaf fydd y Fframwaith Genedlaethol
gogyfer Addysg Grefyddol a’r angen i ymateb i gwestiynau
ymarferol fydd yn codi yn ymwneud â chynllunio, asesu
a’r newidiadau fydd y Fframwaith yn eu golygu.
|
|
|
|
|
Penderfynwyd
nodi’r wybodaeth gan ddiolch i Ymgynghorydd y Dyniaethau
amdani.
|
|
|
|
9
|
CYMDEITHAS CYSAGau CYMRU
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd a nodwyd -
Cofnodion drafft cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd yn
Hwlffordd ar 23 Mawrth, 2007.
|
|
|
|
Cyfeiriwyd at ddiffyg
presenoldeb aelodau etholedig yn y cyfarfod uchod, sef tuedd sydd
wedi amlygu’i hun mewn cyfarfodydd blaenorol o’r
Gymdeithas. Dygwyd sylw yn y cyswllt hwn at y ffaith bod y
presenoldeb o du athrawon CYSAG Ynys Môn mewn cyfarfodydd y
Gymdeithas hefyd yn wan a’i bod yn amserol efallai ail
ystyried y gynrychiolaeth. Nodwyd bod angen i’r CYSAG
ystyried sut oedd am bleidleisio o ran ethol cynrychiolwyr i
Bwyllgor Gwaith y Gymdeithas, neu fel arall, a oedd am
ymddiried y ddyletswydd hon i’w gynrychiolwyr ar ddiwrnod y
cyfarfod. Yn olaf, rhoddwyd gwybod i’r aelodau ei bod yn
fwriad ail argraffu’r ddogfen Felly Rydych am Ymuno â’ch CYSAG
Lleol?, sef canllaw defnyddiol iawn i
aelodau newydd o gyrff CYSAGau, a hynny mewn ymateb i alw cynyddol
amdani.
|
|
|
|
Awgrymodd y Swyddog Addysg
Uwchradd bod y CYSAG yn ymddiried y dasg o bleidleisio yng
nghyswllt ethol aelodau i’r Pwyllgor Gwaith i’w
gynrychiolwyr ar y diwrnod. Mewn perthynas â’r
llyfryn, Felly Rydych am Ymuno
â’ch CYSAG lleol? byddir yn
dosbarthu’r fersiwn ddiwygiedig unwaith y derbynnir cyflenwad
ohoni. O ran presenoldeb cynrychiolydd yr athrawon mewn cyfarfodydd
y Gymdeithas, roedd dau opsiwn yn bosibl -
|
|
|
|
Ÿ
|
Ysgrifennu at y cynrychiolydd presennol i ofyn iddi a oedd
yn dymuno parhau yn y swyddogaeth honno, neu
|
|
|
Ÿ
|
ethol cynrychiolydd o’r newydd.
|
|
|
|
|
Ar ôl trafod y
mater, ac yng ngholeuni’r ffaith nad oedd yr
Is-Gadeirydd ychwaith yn gallu ymbresenoli yng nghyfarfod nesaf y
Gymdeithas yn Llandrindod ym mis Mehefin fel cynrychiolydd yr
enwadau crefyddol, daeth yr aelodau i’r casgliad mai’r
cwrs mwyaf ymarferol am y tro hwn fyddai enwebu aelodau i
fynychu’r cyfarfod yn Llandrindod yn unig, gan ystyried y
mater o gynrychiolaeth sefydlog mewn cyfarfod i’r
dyfodol.
|
|
|
|
Penderfynwyd bod y
CYSAG -
|
|
|
|
9.1
Yn ymddiried y dasg o bleidleisio mewn
perthynas ag ethol aelodau i Bwyllgor Gwaith Cymdeithas CYSAGau
Cymru i’w gynrychiolwyr yn y cyfarfod ar y
diwrnod;
|
|
9.2
Yn enwebu’r canlynol i fynychu
cyfarfod y Gymdeithas a gynhelir yn Llandrindod ar 28 Mehefin
-
|
|
Ÿ
|
Cynghorydd E.G.Davies fel cynrychiolydd yr Awdurdod
Addysg;
|
|
|
Ÿ
|
Y Parch Elwyn Jones fel cynrychiolydd yr enwadau
crefyddol (yn amodol ar ei gadarnhau)
|
|
|
Ÿ
|
Mrs Helen Roberts fel cynrychiolydd yr Athrawon (yn
amodol ar ei gadarnhau)
|
|
|
|
|
|
|
10
|
MUDIAD ADDYSG GREFYDDOL CYMRU
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd a nodwyd -
Cofnodion cyfarfod Mudiad Addysg Grefyddol Cymru a gynhaliwyd ar 28
Chwefror, 2007.
|
|
|
|
Rhoddodd yr Is-Gadeirydd
wybod i’r aelodau y sefydlwyd y Mudiad yn wreiddiol yn
1966 fel Mudiad Addysg Gristnogol Cymru. Cafodd ei ail
lawnsio ym mis Tachwedd, 2006 o dan ei newydd wedd uchod i
adlewyrchu’r ffaith bod y mudiad yn un cynhwysol sy’n
cwmpasu bob ffydd ac nid Cristnogaeth yn unig. Yn hanesyddol, mae Cadeirydd y mudiad wedi cael ei ddethol
o blith Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, ac yn y cyfarfod uchod
cadarnhawyd i Gyfarwyddwr Addysg Ynys Môn dderbyn y
gwahoddiad i gadeirio’r Mudiad am y tair blynedd nesaf.
Mae’r Mudiad yn cefnogi Addysg Grefyddol mewn ysgolion trwy
addasu a chyfieithu cyhoeddiadau AG gan Wasanaethau
RE Today ar
gyfer y sector cynradd. Cyhoedda hefyd Syniadau AG a ddosbarthir i
bob awdurdod sy’n ei gefnogi’n ariannol.
|
|
|
|
Diolchodd y Cadeirydd am y
braslun uchod o waith a chefndir y Mudiad a chyfeiriodd gyda siom
at y sylw yng nghofnodion y cyfarfod bod rhai awdurdodau wedi
datgan yn glir na fyddant am amryw o resymau, yn cefnogi’r
Mudiad yn ariannol yn y dyfodol.
|