|
|
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd ac arwyddwyd fel rhai cywir, cofnodion cyfarfod
blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 11 Mehefin, 2007. (Cofnodion y
Cyngor 18.09.2007, tud 80 - 89)
|
|
|
|
|
|
|
|
|
3.1
|
Eitem 3.3 - Amser a Neilltuir i Addysg Grefyddol
Statudol mewn Ysgolion
|
|
|
|
|
|
Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) at y consyrn a
fynegwyd yng nghyfarfod blaenorol y CYSAG ynglyn â
rhyddhau athrawon i fynychu cyrsiau HMS yn enwedig os yw hynny yn
tarfu ar wersi. Sefydlwyd bod yr amgylchiadau y cyfeiriwyd
atynt yn y cyfarfod diwethaf yn rhai eithriadol, a bod yr
Athrawes AG dan sylw wedi cael ei rhyddhau ar fyr rybudd i gyfrannu
at Gynhadledd Medrau Meddwl. Sylwodd bod croeso i’r aelod a
gododd y mater ei drafod ymhellach gyda Phennaeth yr
ysgol.
|
|
|
|
|
3.2
|
Eitem 4 - Arolygiadau Ysgol
|
|
|
|
|
|
Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) ei fod wedi
ysgrifennu at Ysgol Gynradd Llandrygarn ac Ysgol Gymuned
Llanfachraeth ar ran y CYSAG mewn cydnabyddiaeth o’u
cyrhaeddiad fel ag a adlewyrchwyd mewn adroddiadau arolygiad
canmoladwy iawn.
|
|
|
|
|
3.3
|
Eitem 5 - Addysg Grefyddol yn y Chweched
Dosbarth
|
|
|
|
|
|
Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg)
wybod i’r aelodau bod Ymgynghorydd y
Dyniaethau wedi rhoi cyflwyniad i Benaethiaid Uwchradd ynglyn ag
Addysg Grefyddol statudol ôl-16, ac yn benodol yng nghyswllt
ffurfiau gwahanol o gyflwyno’r maes. Mae hyn wedi digwydd yng
nghyd-destun trafodaethau gydag Estyn a chyrff eraill mewn
perthynas â defnyddio dulliau gwahanol o gyflawni darpariaeth
AG statudol ôl-16; ond erys Estyn yn bendant ei safbwynt os
nad yw ysgol yn cydymffurfio â’r gofynion statudol yn
hyn o beth fe ellir dyfarnu Graddfa 4 iddi o dan Gwestiwn Allweddol
3, ac mae hynny o dan y trothwy ansawdd.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - Gwybodaeth dan Adran 10 Deddf Arolygu
Ysgolion 1996 am gynnwys y rhannau perthnasol hynny o adroddiadau
arolwg mewn perthynas ag Ysgol Gynradd Corn Hir ac Ysgol Gynradd
Llaingoch.
|
|
|
|
|
|
Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) wybod i’r
aelodau mai arolwg safonol a gafodd y ddwy ysgol uchod, ac
adroddodd yn eu cylch fel a ganlyn -
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Yn achos Ysgol Gynradd Corn Hir, casgliad cyffredinol yr
Arolygydd oedd bod yr ysgol yn un hapus, bywiog a llwyddiannus a
bod ganddi nifer sylweddol o nodweddion rhagorol. Cyfeiria’r
Arolygydd yn benodol at lwyddiant yr ysgol wrth gynnal y safonau da
a da iawn yr adroddwyd arnynt yn 2001 a bod hynny wedi’i
wneud gyda chymorth staff ymroddgar a chorff llywodraethu cefnogol
iawn. Yng nghyswllt y 7 cwestiwn allweddol y seilir arolwg arnynt
sy’n cwmpasu cyflawniad dysgwyr, effeithiolrwydd yr addysgu,
profiadau dysgu, arweinyddiaeth a rheolaeth, arfarnu a gwella
ansawdd ynghyd â’r defnydd o adnoddau, bu i’r
Tîm Arolygu ddyfarnu Gradd 1 mewn perthynas â
Chwestiynau Allweddol 1,3,4,5,6,7, a Gradd 2 mewn perthynas â
Chwestiwn Allweddol 2. Mewn perthynas â safonau cyflawniad yn
y pynciau a arolygwyd a gynhwysai Addysg Grefyddol ynghyd â
Chymraeg, Gwyddoniaeth, Dylunio a Thechnoleg, Technoleg Gwybodaeth,
a Hanes, dyfarnwyd Gradd 1 i bob un o’r 6 pwnc yn CA2 yn
ogystal ag yn CA1 sy’n rhoi i’r ysgol broffil graddau
arbennig iawn. At hynny, daethpwyd i’r casgliad bod
datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol y
disgyblion yn rhagorol.
|
|
|
|
|
|
Cytunodd yr aelodau bod hwn yn adroddiad arolwg gwych iawn
a holwyd a oedd cyfle i’r ysgol rannu’r rhagoriaeth yma
gydag ysgolion eraill.
|
|
|
|
|
|
Adroddwyd mewn ymateb er bod yna grwp Arfer Dda yn y
sector Uwchradd nid oes yna grwp cyfatebol yn y sector cynradd, ac
felly nid oes yna gyfle ffurfiol i rannu a chyfnewid arfer da oni
bai fod y penaethiaid yn cyfarfod, neu fod ysgol yn cyfrannu tuag
at gwrs hyfforddi. Fodd bynnag, cynhelir Cynhadledd Penaethiaid
Cynradd gyda’r nesaf i’w chynnull yn y Gwanwyn, ac mae
cynnal safonau yn uchel ar yr agenda - bydd y Gynhadledd yn gyfle i
ystyried y nodweddion da sydd wedi codi o adroddiad arolwg Ysgol
Corn Hir.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Ysgol Gynradd Llaingoch
|
|
|
|
|
|
Ym marn yr Arolygydd mae Ysgol Llaingoch yn ysgol dda, yn
cynnig amgylchedd dysgu ysgogol sy’n hybu addysg ei holl
ddisgyblion. Canmolir arweinyddiaeth yr ysgol ynghyd
â’r gefnogaeth lwyr a roddir i’w gweithgareddau
gan y rhieni.
|
|
|
|
|
|
Mae proffil graddau Ysgol Llaingoch o ran y 7 cwestiwn
allweddol yn gyfuniad o raddfeydd 1 a 2 sydd eto’n dda. O ran
safonau cyflawniad yn y pynciau a arolygwyd (nid oedd Addysg
Grefyddol yn eu plith) dyfarnwyd Gradd 2 i Wyddoniaeth, Technoleg
Gwybodaeth, Daearyddiaeth, Celf a Cherddoriaeth yn CA1 ynghyd
â Gradd 2 i bedwar o’r pynciau yn CA2 gyda Gradd 1 i
Gelf. Oherwydd na arolygwyd Addysg Grefyddol fel pwnc, dyfynnir yn
y wybodaeth a gyflwynir i’r Cysag gasgliadau’r
Arolygydd mewn perthynas â Chwestiwn Allweddol 3 - Pa mor dda mae profiadau
dysgu yn cwrdd ag anghenion a diddordebau dysgwyr a’r gymuned
ehangach. Mae’r Arolygydd
o’r farn bod cwricwlwm ac ethos yr ysgol yn hyrwyddo
datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol y
disgyblion yn effeithiol.
|
|
|
|
|
|
Croesawodd yr aelodau yr adroddiad uchod fel un y gellir
eto ymfalchio ynddo, ac roeddent yn gytun y dylid anfon llythyr o
gydnabyddiaeth ar ran y Cysag i’r ddwy ysgol am eu gwaith
caled a’u cyflawniad clodwiw. Awgrymwyd bod gair o ddiolch
hefyd yn cael ei anfon at gyn Bennaeth Ysgol Corn Hir oedd bellach
wedi ymddeol yn diolch iddo am ei waith ac yn dymuno’n dda
iddo yn ei ymddeoliad.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
4.1
|
Nodi’r wybodaeth o’r adroddiadau arolwg
yng nghyswllt Ysgol Gynradd Corn Hir ac Ysgol Gynradd Llaingoch gan
ddiolch yn ddiffuant i staff a disgyblion y ddwy ysgol am eu gwaith
a’u cyflawniad arbennig;
|
|
|
4.2
|
Gofyn i’r Pennaeth Gwasanaeth (Addysg)
lythyru’r ddwy ysgol i gyfleu iddynt longyfarchiadau a
diolchiadau’r Cysag yng nghyswllt yr adroddiadau arolwg,
ynghyd â chyn Bennaeth Ysgol Gynradd Corn Hir gyda
dymuniadau da iddo ar ei ymddeoliad.
|
|
|
|
|
5
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYSAG YNYS MÔN
2006-07
|
|
|
|
|
5.1
|
Cyflwynwyd er ystyriaeth y CYSAG - Fersiwn ddrafft
o’r Adroddiad Blynyddol am 2006/07.
|
|
|
|
|
|
Roedd y Cadeirydd yn y Gadair am yr eitem hon
a’r eitemau dilynol.
|
|
|
|
|
|
Adroddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau bod yr adroddiad
blynyddol wedi’i lunio yn unol â chanllawiau newydd a
gyflwynwyd gan AADGOS y llynedd a’i fod wedi ei rannu yn dair
adran fel a ganlyn -
|
|
|
|
|
|
Adran 1 - Rhagair gan Gadeirydd CYSAG
|
|
|
|
|
|
Adran 2 - Y Cyngor a Roddwyd yn ystod y flwyddyn i
Awdurdod Addysg Ynys Môn gan y CYSAG trwy gyfrwng ei
gyfarfodydd sy’n cwmpasu’r meysydd canlynol
:
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Swyddogaeth y Cysag mewn perthynas ag Addysg
Grefyddol;
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Safonau Addysg Grefyddol;
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Safonau Cyrhaeddiad mewn arholiadau allanol;
|
|
|
Ÿ
|
Ymateb yr Awdurdod Addysg Lleol;
|
|
|
Ÿ
|
Adroddiad ar Hyfforddiant mewn Swydd;
|
|
|
Ÿ
|
Addysg Grefyddol ac AADGOS;
|
|
|
Ÿ
|
Swyddogaeth CYSAG mewn perthynas ag Addoli ar y
Cyd.
|
|
|
|
|
|
Adran 3 - Atodiadau yn cynnwys gwybodaeth am gyfansoddiad
y CYSAG, ei aelodaeth yn ystod 2006/07 a’r materion a
drafodwyd ganddo ynghyd â’r sefydliadau hynny a
dderbyniodd gopi o’r adroddiad blynyddol.
|
|
|
|
|
|
Ymhelaethodd Ymgynghorydd y Dyniaethau ar gynnwys yr
adroddiad, a bu i’r aelodau wrth ei drafod, gynnig mân
ddiwygiadau iddo - cytunwyd byddai unrhyw ddiwygiadau pellach yn
cael eu cyfeirio at sylw Ymgynghorydd y Dyniaethau.
|
|
|
|
|
|
Diolchodd yr aelodau i Ymgynghorydd y Dyniaethau am ei
gwaith caled ar yr Adroddiad Blynyddol.
|
|
|
|
|
|
Penderfynwyd cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol
drafft am 2006/07.
|
|
|
|
|
5.2
|
Cyflwynwyd - Gwybodaeth am ganlyniadau Addysg Grefyddol yn
arholiadau’r Haf, 2007.
|
|
|
|
|
|
Adroddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau y cynhwyswyd yn yr
adroddiad uchod hefyd, wybodaeth am ganlyniadau CA3. Mae
adrannau yn dod i farn am gyflawniad disgyblion ar sail gwaith y
flwyddyn, tasgau asesu a phrofion. Nid yw’r disgyblion yn
sefyll yr un profion na thasgau asesu, ac nid yw athrawon yn cael
cyfleoedd rheolaidd i safoni gwaith eu disgyblion gydag adrannau
eraill. Gall athrawon gyfeirio at y gyfrol Mesur Cynnydd Mewn
Addysg Grefyddol (Gwynedd a Môn 2001) er mwyn adnabod
nodweddion lefelau penodol. Dosbarthwyd Deunyddiau Asesu Dewisol
Addysg Grefyddol gan ACCAC yn 2005 - mae’r rhain hefyd yn
cynnig tasgau a chanllawiau asesu i athrawon.
|
|
|
|
|
|
Sylwodd yr Ymgynghorydd ei bod yn awyddus i gynnwys
canlyniadau CA3 eleni yn benodol am fod newidiadau ar droed mewn
perthyns â’r pynciau sylfaen eraill. Bydd adrannau yn y
dyfodol yn gorfod profi eu dealltwriaeth o’r drefn asesu ar
ddiwedd CA3, ac mae yna gyfnod peilot newydd orffen, a bydd
adrannau yn yr ysgolion uwchradd yn paratoi portffolios fydd yn
cael eu hachredu gan safonwr allanol a hynny yn CA3 am y tro cyntaf
erioed yn hanes y Cwricwlwm Cendlaethol. O ran Addysg Grefyddol, er
nad yw eto’n sefyllfa i feddwl am Fframwaith Genedlaethol,
efallai daw’r amser pan roddir yr un lefel o sgriwtini i
safonau AG ar lefel cenedlaethol ag a roddir i’r pynciau
eraill. Nid yw’r Cynulliad yn gallu penodi safonwyr AG am nad
oes cwricwlwm cenedlaethol ar ei gyfer ond yn hytrach, 22 maes
llafur cytun. Dymuniad y Cynulliad fodd bynnag, a hefyd y gymuned
Addysg Grefyddol yw gweld ffurfioldeb ac unffurfiaeth ym maes
Addysg Grefyddol yng Nghymru; gan hynny, credir mai doeth o beth
felly yw cynnwys canlyniadau CA3 er gwybodaeth.
|
|
|
|
|
O ddod at
ganlyniadau TGAU Astudiaethau
Crefyddol, gellir dweud bod y
canlyniadau ar y cyfan yn dda. Nodir yr ystadegau perthynol
isod:
|
|
|
|
Ÿ
|
58 o ymgeiswyr, 48 o enethod a 10 bachgen sydd yn fwy na
ffigwr y flwyddyn flaenorol oedd yn 48;
|
|
|
Ÿ
|
disgyblion o ddwy ysgol uwchradd ym Môn yn sefyll
arholiad llawn TGAU, gyda’r niferoedd yn amrywio o 25 mewn un
ysgol i 33 yn yr ysgol arall;
|
|
|
Ÿ
|
canlyniadau’r merched yn rhagori ar rai’r
bechgyn;
|
|
|
Ÿ
|
bu i bawb lwyddo i ennill gradd TGAU (cwrs llawn), gydag
86.2% yn ennill gradd A*-C. Mae 31% o’r ymgeiswyr wedi ennill
gradd A*/A;
|
|
|
Ÿ
|
cyfartaledd sgôr yn y pwnc yn 5.8 sy’n uwch
na’r sgôr o 5.5. yn y pynciau eraill;
|
|
|
Ÿ
|
sgôr cyfartalog y genethod (6.1) yn uwch na’u
sgôr yn y pynciau eraill (5.6) a sgôr cyfartalog y
bechgyn (4.5) yn is na’u sgôr cyfartalog yn y pynciau
eraill (5.1)
|
|
|
|
|
Gellir adrodd hefyd bod
canlyniadau TGAU Astudiaethau
Crefyddol Cwrs Byr yn rhai da iawn
gyda’r manylion fel a ganlyn :
|
|
|
|
Ÿ
|
207 o ymgeiswyr, yn 165 o enethod a 42 bachgen, sydd yn
fwy na’r flwyddyn flaenorol oedd yn 126. Roedd 112 ymgeisydd
yn 2005, felly gellir dweud bod poblogrwydd y cwrs byr yn
cynyddu;
|
|
|
Ÿ
|
mae disgyblion o 3 o ysgolion uwchradd Môn yn sefyll
arholiad cwrs byr TGAU, ac mae’r niferoedd yn amrywio o 1
mewn un ysgol i 130 mewn ysgol arall;
|
|
|
Ÿ
|
canlyniadau’r merched yn rhagori ar rai’r
bechgyn;
|
|
|
Ÿ
|
llwyddodd pawb i ennill gradd TGAU (Cwrs Byr), gydag 87.9%
yn ennill gradd A*-C. Mae 55.1% o’r ymgeiswyr wedi ennill
gradd A*/A.
|
|
|
|
|
Da fu’r
canlyniadau Safon Uwch
Astudiaethau Crefyddol hefyd fel a y
dengys isod:
|
|
|
|
Ÿ
|
57 o ymgeiswyr yn 45 o ferched ac yn 12
bachgen;
|
|
|
Ÿ
|
ymgeiswyr o 4 ysgol uwchradd yn y sir gyda maint y
dosbarthiadau yn amrywio o 9 i 21 disgybl;
|
|
|
Ÿ
|
100% o’r ymgeiswyr yn ennill gradd Safon
Uwch;
|
|
|
Ÿ
|
sgôr cyfartalog y pwnc yn yr ysgolion yw 94.4 sydd
ychydig yn is na’r 94.7 yn y pynciau eraill;
|
|
|
Ÿ
|
canlyniadau’r merched yn rhagori ar rai’r
bechgyn. Mae sgôr cyfartalog y merched (95.6) yn is
na’r sgôr yn y pynciau eraill (97.4) a sgôr
cyfartalog y bechgyn (90.0) yn uwch na’r sgôr
cyfartalog yn y pynciau eraill (85.3).
|
|
|
|
|
Da eto fu
canlyniadau’r arholiadau Uwch Gyfrannol Astudiaethau
Crefyddol fel y tystia’r manylion isod:
|
|
|
|
Ÿ
|
73 o ymgeiswyr yn 59 o ferched a 14 bachgen;
|
|
|
Ÿ
|
ymgeiswyr o 4 ysgol uwchradd yn y sir gyda maint y
dosbarthiadau yn amrywio o 10 i 27 disgybl;
|
|
|
Ÿ
|
94.5% o’r ymgeiswyr yn ennill gradd Uwch Gyfrannol,
72.6% yn ennill gradd A-C a 24.7% yn ennill gradd A;
|
|
|
Ÿ
|
mae sgôr cyfartalog y pwnc yn yr ysgolion (42.6) yn
uwch na sgôr cyfartalog y pynciau eraill (40.3);
|
|
|
Ÿ
|
canlyniadau’r merched yn rhagori ar
ganlyniadau’r bechgyn. Mae sgôr cyfartalog y merched
(45.4) yn uwch na’r sgôr yn y pynciau eraill (42.0) a
sgôr cyfartalog y bechgyn (30.7) yn is na’r sgôr
cyfartalog yn y pynciau eraill (33.2).
|
|
|
|
|
Croesawyd y canlyniadau
uchod fel rhai calonogol iawn ac awgrymwyd bod y CYSAG yn cydnabod
llwyddiant cyffredinol ysgolion yr Ynys yn y maes trwy lythyr.
Cyfeiriwyd at y dadansoddiad ystadegol o ganlyniadau’r
bechgyn, a gofynnwyd a oedd y ffaith nad oeddent cystal â
rhai’r merched i’w briodioli i gynnwys y maes a
hefyd, ai oherwydd hyn mae’r pwnc yn ymddangos yn llai
atyniadol i fechgyn ei ddilyn.
|
|
|
|
Adroddodd Ymgynghorydd y
Dyniaethau mewn ymateb mai’r consensws yw gan fod Addysg
Grefyddol yn ymwneud i raddau helaeth ag ymdrin â chysyniadau
haniaethol a thrafod emosiynau a theimladau, nid yw bechgyn yn ei
gael yn faes rhwydd i ymwneud ag ef nac ychwaith yn bwnc maent yn
cael eu tynnu tuag ato.
|
|
|
|
Dygwyd sylw at y gwelliant
nid ansylweddol yn y canlyniadau ac yn arbennig yng nghyswllt Safon
Uwch Astudiaethau Crefyddol, a gofynnwyd a oedd rheswm arbennig
dros hyn.
|
|
|
|
Adroddodd Ymgynghorydd y
Dyniaethau mewn ymateb bod yna dri ffactor sy’n allweddol i
lwyddiant Astudiaethau Crefyddol ar lefel uwch, sef -
|
|
|
|
Ÿ
|
cwrs newydd i ddisgyblion TGAU Astudiaethau Crefyddol
sy’n ymagweddu tuag at Addysg Grefyddol yng nghyd-destun y
byd modern; cwrs Manyleb B sy’n trafod materion cyfoes e.e. y
berthynas rhwng Gwyddoniaeth a chrefydd - mae hwn wedi
profi’n boblogaidd;
|
|
|
Ÿ
|
mae Addysg Grefyddol yn bwnc statudol ac mae nifer o
ysgolion yn dewis cofrestru disgyblion AG statudol ar gyfer cwrs
sydd wedyn yn arwain at gymhwyster ;
|
|
|
Ÿ
|
gan fod mwy o ddisgyblion yn llwyddo yn arholiad TGAU
Astudiaethau Crefyddol, maent yn bwydo i mewn i’r Cwrs Uwch
Gyfrannol Astudiaethau Crefyddol ac yn ei ddilyn fel y pedwerydd
bwnc ar lefel uwch.
|
|
|
|
|
Penderfynwyd nodi
canlyniadau Addysg Grefyddol yn arholiadau’r Haf, 2007 gan
ofyn i’r Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) gydnabod llwyddiant yr
ysgolion trwy lythyr.
|
|
|
|
6
|
CYMDEITHAS CYSAGau CYMRU
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - Cofnodion
cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd yn Llandrindod ar 28
Mehefin, 2007.
|
|
|
|
Adroddodd y ddau aelod
cyfetholedig oedd wedi mynychu’r cyfarfod uchod eu bod wedi
cael yr achlysur yn brofiad buddiol iawn ac wedi mwynhau yn
arbennig y ddau gyflwyniad a gafwyd yn y cyfarfod, y naill gan
NAPfRE ar destun Gerddi Ffydd gan Vicky Barlow ac Ysgol Sant
Christopher yn Wrecsam, a oedd yn rhan o ymdrech i godi proffil AG
yn Wrecsam, a’r llall gan Emma Ward a Farah Ahmad o Dîm
Prosiect Croeso sy’n fenter gan y Comisiwn Cydraddoldeb
Hiliol, sy’n cael ei ariannu gan y Cynulliad ac sy’n
amcanu at hybu trafodaeth a dealltwriaeth rhwng gwahanol
gymunedau.
|
|
|
|
Dygwyd sylw at y cyfeiriad
yng nghofnodion y cyfarfod at y drafodaeth a gafwyd mewn perthynas
â chyflawni prosiect Croeso trwy gyfrwng y Gymraeg ac at yr
esboniad a roddwyd nad oedd modd gwneud hynny ar hyn o bryd am nad
oedd siaradwr Cymraeg yn y tîm ac am nad oedd cyfyngiadau
ariannol yn caniatau cyflogi person ychwanegol. Roedd yna ymdeimlad
yn y CYSAG nad oedd hyn yn sefyllfa foddhaol, ac awgrymwyd
byddai’n ddefnyddiol o beth ysgrifennu at gyllidwyr y
prosiect i ofyn iddynt geisio adnabod cyllid i alluogi ychwanegu at
Dîm Croeso hyd yn oed ar sail rhan amser er mwyn hwyluso
darparu’r prosiect trwy gyfrwng y Gymraeg yn
ogystal.
|
|
|
|
Adroddodd y Pennaeth
Gwasanaeth (Addysg) bod Emma Ward a Farah Ahmad o Dîm
Prosiect Croeso wedi ymweld â Môn yn ystod yr Haf
a’u bod wedi cadarnhau byddai’r deunydd ar gyfer unrhyw
weithdai a gynhelir ar gyfer ysgolion yr Ynys yn ddwyieithog.
Trefnwyd yn anffurfiol i’r Prosiect ddod i Fôn i siarad
ar destun Amryfaliaeth Hiliol ym mis Chwefror, 2008.
|
|
|
|
Cadarnhaodd Ymgynghorydd y
Dyniaethau hithau bod y deunydd ar wefan Prosiect Croeso yn
ddwyieithog ac ychwanegodd bod testun hiliaeth a chydraddoldeb yn
cael ei drafod yn gyson yn yr ysgolion yng nghyswllt Addysg
Grefyddol a bod cyrsiau sy’n rhoi ffocws ar ddinasyddiaeth
byd eang hefyd yn rhoi sylw i’r pwnc. Felly er nad oedd
Prosiect Croeso eto wedi ymweld ag Ynys Môn, nid yw’r
testun wedi’i anwybyddu mewn cyrsiau hyfforddiant.
|
|
|
|
Tra’n cydnabod bod
amcanion y Prosiect Croeso yn rhai gwerthfawr ac mai da o beth
fyddai iddo ymweld ag ysgolion Môn, cytunodd yr aelodau y
byddai’n briodol pwyso ar Lywodraeth y Cynulliad i ddarparu
rhagor o arian ar ei gyfer er mwyn gwneud darparu’r prosiect
trwy gyfrwng y Gymraeg yn bosibl.
|
|
|
|
Penderfynwyd
-
|
|
|
|
6.1
Nodi cofnodion cyfarfod Cymdeithas
CYSGAau Cymru a gynhaliwyd yn Llandrindod ar 28 Mehefin,
2007.
|
|
6.2
Gofyn i’r Pennaeth Gwasanaeth
(Addysg) ar ran y CYSAG, ysgrifennu llythyr at Lywodraeth Cynulliad
Cymru i ofyn iddo geisio adnabod arian i ganiatau cyllido
personél ychwanegol ar gyfer Prosiect Croeso er mwyn
galluogi darparu’r prosiect trwy gyfrwng y
Gymraeg.
|
|
7
|
ADDYSG GREFYDDOL YN YSGOL UWCHRADD
CAERGYBI
|
|
|
|
|
Bu i Bennaeth Ysgol
Uwchradd Caergybi ddiweddaru aelodau’r CYSAG ar y cynnydd
mewn perthynas â darparu Addysg Grefyddol yn yr
ysgol.
|
|
|
|
Rhoddodd y Pennaeth wybod
i’r aelodau bod Pennaeth newydd Adran Addysg Grefyddol yr
ysgol wedi gwneud cynnydd yn ei waith ond byddai’n derbyn
cefnogaeth hyd at y Nadolig. Bu i Dirprwy Bennaeth yr ysgol arsylwi
ar wers AG pythefnos yn ôl a bu’r casgliadau yn
galonogol. Mae’r Pennaeth Adran wedi bod yn gweithio ar ail
lunio’r cynllun gwaith gyda phwyslais ar asesu ar gyfer
dysgu, ac ar ddefnydd o dermau allweddol y dylai disgyblion wybod
amdanynt. Mae hefyd yn ymgymryd â chynllun gwaith heriol
sy’n golygu defnyddio Cyfres AG - Ymchwilio Cwestiynau
(Exploring Questions - RE
Series) ac yn ogystal, mae’n
defnyddio unedau asesu ACCAC ar gyfer y gwahanol lefelau ac yn cael
cymorth yr ymgynghorwyr yn hyn o beth. Gellir dweud bod gwaith yn
mynd rhagddo ac mae AG CA3 bellach yn dechrau ennyn diddordeb
disgyblion fel bod darpariaeth AG yn CA4 yn bosibilrwydd ar gyfer y
dyfodol ac mae yna drafodaeth ynghylch Cwrs Byr Cyd-Bwyllgor Addysg
Cymru. Gellir adrodd bod disgyblion yn siarad am Addysg Grefyddol
am y tro cyntaf. Mae Pennaeth yr Adran Addysg Grefyddol yntau
bellach yn fwy hyderus yn ei waith. Bydd y Pennaeth Adran hefyd yn
ymweld â’r sector cynradd i ddysgu o’r
ffynhonnell hon. Erys gwaith i’w wneud ond mae cynnydd yn
digwydd.
|
|
|
|
Croesawodd aelodau’r
CYSAG yr adroddiad uchod fel un calonogol iawn, a chydnabuwyd yr
ymdrech a’r gwaith caled a wnaed yn Ysgol Uwchradd Caergybi
yng nghyswllt Addysg Grefyddol.
|
|
|
|
Penderfynwyd nodi
adroddiad Pennaeth Ysgol Uwchradd Caergybi ynglyn â’r
cynnydd mewn perthynas ag Addysg Grefyddol yn yr ysgol gan ddiolch
iddi am y wybodaeth.
|
|
|
|
8
|
TREFN CYFARFODYDD CYSAG YNYS MÔN
2007-08
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd a nodwyd -
Amlinelliad o bynciau trafod arfaethedig y CYSAG yn ei gyfarfodydd
ar gyfer y Gwanwyn, yr Haf a’r Hydref, 2008.
|
|
|
|
Sylwyd mai yng nghyfarfod
y Gwanwyn y dylid ystyried enwebiadau ar gyfer Pwyllgor Gwaith
Cymdeithas Cysagau Cymru fel eu bod wedyn yn cael eu cyflwyno erbyn
y dyddiad cau, sef 1 Mawrth. Cytunodd y Pennaeth Gwasanaeth
(Addysg) i ddiwygio’r daflen i adlewyrchu hynny.
|
|
|
|
9
|
DYDDIADAU CYFARFODYDD CYSAG YNYS MÔN
|
|
|
|
|
Nodwyd mai ar 4 Chwefror,
2008 y cynhelir cyfarfod nesaf y CYSAG a byddai cyfarfodydd wedi
hynny yn cael eu pennu fel rhan o’r broses o lunio Calendr
Cyfarfodydd y Cyngor Sir am 2008/09.
|
|
|
|
Awgrymwyd a chytunwyd bod
yna glustnodi’r dydd Llun cyntaf ym mis Hydref ar gyfer
cyfarfod y CYSAG yn nhymor yr Hydref , sef 6 Hydref, 2008, fel nad
oes yna wrthdaro gyda Llun y Diolchgarwch.
|
|
|
|
10
|
DYDDIADAU CYFARFODYDD CYMDEITHAS CYSAGau
CYMRU
|
|
|
|
|
Nodwyd y cynhelir
cyfarfodydd y Gymdeithas am y flwyddyn i ddod ar 4 Rhagfyr, 2007
yng Nglyn Ebwy; ar 14 Mawrth, 2008 yng Nghaerfyrddin ac ar 26
Mehefin, 2008 yn Yr Wyddgrug.
|
|
|
|
Cadarnhawyd
byddai’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd yn bresennol ar ran
CYSAG Ynys Môn yng nghyfarfod nesaf y Gymdeithas a gynhelir
ar 4 Rhagfyr ond sylwyd nad oedd yn ymddangos byddai cynrychiolydd
o du’r athrawon yn bresennol.
|
|
|
|
Diolchodd y Pennaeth
Gwasanaeth (Addysg) i Mrs Helen Roberts a’r Parch Elwyn Jones
am ymbresenoli yng nghyfarfod y Gymdeithas a gynhaliwyd yn
Llandrindod ar 28 Mehefin ac a adroddwyd amdano yn gynharach uchod,
a diolchodd hefyd i aelodau’r CYSAG yn gyffredinol am
selogrwydd eu presenoldeb yng nghyfarfodydd y Cyngor Ymgynghorol ym
Môn.
|
|
|
|
|
|
Cynghorydd E.G.Davies
|
|
Cadeirydd
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|