Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig (dadgomisiynwyd 31 Awst, 2017) dogfennau , 21 Tachwedd 2005

Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig (dadgomisiynwyd 31 Awst, 2017)
Dydd Llun, 21ain Tachwedd, 2005

CYD-BWYLLGOR ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG

 

COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 21 TACHWEDD, 2005

 

yn breSENNOL:

Cynghorydd Mrs Fflur Hughes (Cadeirydd) (Ynys Môn)

Cynghorydd Arwel Jones (Is-Gadeirydd) (Gwynedd)

 

Cyngor Gwynedd:

Cynghorwyr Selwyn Griffiths, Mrs Sylvia Humphreys, Dai Rees Jones, W.M.Meredith.

 

Cyngor Sir Ynys Môn:

Cynghorwyr G.O.Jones, Bryan Owen.

 

Cynghorydd J.M.Davies (Aelod Portffolio Addysg Ynys Môn)

 

 

WRTH LAW:

Prif Seicolegydd Addysgol (Cyd-Bwyllgor AAA)

Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden Ynys Môn

Swyddog Addysg AAA Gwynedd

Swyddog Addysg AAA Ynys Môn

Uwch Gyfrifydd Addysg Cyngor Gwynedd

Cydlynydd Datganiadau (Cyd-Bwyllgor AAA)

Swyddog Pwyllgor (ATH)

 

 

YMDDIHEURIADAU:

Cynghorwyr Brian Jones (Gwynedd), Mrs B.Burns, R.Llewelyn Jones (Ynys Môn), Mr.Rheinallt Thomas (Eglwysi Rhyddion)

 

 

 

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd a llofnodwyd fel rhai cywir, cofnodion cyfarfod blaenorol y Cyd-Bwyllgor a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf, 2005. (Cyfrol y Cyngor 20.09.2005, tud 149 - 153)

 

3

GWAITH YR UNED DDARPARU AAA

 

Cyflwynwyd - Adroddiad y Prif Seicolegydd Addysgol yn amlinellu prif weithgareddau'r Uned Ddarparu AAA yn ystod tymor yr Haf, 2005.

 

Adroddodd y Prif Seicolegydd Addysgol ar y prif bwyntiau fel a ganlyn:

 

3.1

Yn gyffredinol, bu'r tymor yn eithaf sefydlog o ran staff a llwyddwyd i gwblhau'r tasgau a nodwyd yn y Cynllun Datblygu.Fodd bynnag, oherwydd y nifer uchel o blant ag anghenion addysgol arbennig a gynorthwyir trwy gynlluniau a weinyddir yn ganolog, bu'n gyfnod eithriadol o feichus ar staff y swyddfa ac yn arbennig, y cydlynwyr datganiadau sydd â chyfrifoldeb tros weinyddu panelau cymedroli'r ddau awdurdod.Yn sgîl maint y llwyth gwaith, cafwyd hi'n anodd i gwblhau'r broses adolygu blynyddol yn foddhaol a thrylwyr oddi mewn i'r amserlen arferol ar bob achlysur.Medrwyd gwella'r sefyllfa hon trwy weithredu rhai newidiadau o ran gweinyddu'r prosesau hyn a thrwy gynyddu amser y cydlynydd datganiadau cynorthwyol ond am resymau cyllidol, ni allwyd parhau i wneud defnydd o drefniadau cyflenwol i ymdrin ag achosion trwy'r Cynllun 3*.

Yng ngoleuni hyn, gofynnir am sêl bendith y Cyd-Bwyllgor AAA i wneud defnydd o'r balansau i atgyfnerthu'r staff swyddfa am dymor y Gwanwyn i ymateb i geisiadau o dan y cynllun hwn, ac i dargedu rhai adolygiadau blynyddol.Amcangyfrifir byddai cost gwneud hyn yn £4,200.

3.2

Cyfrannwyd at y drafodaeth mewn perthynas â chyllido AAA trwy ddarparu data i'r ddau awdurdod ac ar fonitro'r ddarpariaeth addysgol arbennig a wneir gan ysgolion.Mae'r ddau Awdurdod, yn unol â'u cynlluniau gwella ac yn sgîl adolygiad Estyn o'r gwasanaeth, yn rhoi sylw manwl i'r modd y cyllidir AAA gyda golwg ar leihau'r nifer o blant sy'n destun datganiad trwy ddatganoli cyllid a chyfrifoldeb am gyfran uwch o ddisgyblion ag AAA i ysgolion prif-ffrwd. Yr amcan yw gwneud defnydd mwy cost-effeithiol o'r adnoddau sydd ar gael - ni fydd y cyllid yn cael ei leihau, ond fe fydd yn cael ei ddarparu mewn ffordd wahanol.Mae'r ddau awdurdod yn ymagweddu tuag at y broses ddatganoli mewn ffyrdd gwahanol.Hyderir hefyd bydd newid y drefn o gyllido a lleihau'r nifer o ddatganiadau yn rhyddhau seicolegwyr addysgol i roddi mwy o'u hamser a'u sylw i gynlluniau ataliol.

 

3.3

Darperir cefnogaeth i ystod oedran eang o blant mewn ysgolion pri-lif ac arbennig gan yr athrawon arbenigol nam golwg, ac eleni, cafwyd enghreifftiau o ddisgyblion sydd wedi cael cefnogaeth ganddynt yn llwyddo'n arbennig mewn arholiadau.

 

3.4

Penodwyd athrawes arbenigol nam clyw i'r swydd wag a gwnaethpwyd trefniadau cyflenwi yn dilyn penderfyniad i ganiatau gweithio rhan-amser.Trwy hyn, medrir darparu gwasanaeth boddhaol i blant ag amhariad clyw.Rhoddwyd pwyslais hefyd ar sicrhau cyswllt gweithiol â nifer o fudiadau ac asiantaethau yn y maes.

 

3.5

Trwy drefniadau cyflenwi, medrodd y Gwasanaeth Seicoleg Addysgol gwrdd â'r prif ofynion arno yn ystod y tymor.Dygir sylw aelodau at newid yn y modd yr hyfforddir seicolegwyr addysgol yn y dyfodol.O Fedi, 2006, bydd pob rhaglen hyfforddi mewn Seicoleg Addysgol yn ddoethuriaeth broffesiynol tair blynedd ac ym mlynyddoedd 2 a 3 o'r cwrs, disgwylir y bydd awdurdodau addysg yn penodi hyfforddeion i swyddi seicolegwyr cynorthwyol dros dro.Yn y tymor byr felly, fe all hyn arwain at brinder seicolegwyr gan na fydd neb yn cymhwyso tan 2009.Awgrymir bod angen i'r Uned Ddarparu AAA, ar ran y ddau Awdurdod Addysg, geisio creu cyswllt â'r myfyrwyr dwyieithog sy'n bwriadu hyfforddi i fod yn seicolegwyr addysgol gyda'r bwriad o ystyried a ellir eu cyflogi fel seicolegwyr cynorthwyol ym mlynyddoedd 2 a 3 o'r cwrs.

 

3.6

Penodwyd seicolegydd i lenwi 0.4 swydd, a byddai'n ddymunol pe gellid ymestyn y swydd i un hanner amser.Gofynnir am gefnogaeth y Cyd-Bwyllgor i wneud cais i gynyddu sefydliad y gwasanaeth hwn o 0.1 swydd ar gost o £5,000 y flwyddyn.

 

3.7

Mae'r gwasanaeth ar gyfer disgyblion â nam corfforol yn parhau o dan bwysau gan na all yr amser sydd ar gael gan yr athrawon arbenigol gwrdd â'r holl ofynion.Bwriedir cyfeirio mwy o amser iddo.Bu'r gwasanaeth cyn-ysgol hefyd yn delio ag asesiadau statudol cyfran sylweddol o blant yn yr unedau cyn-ysgol.Rhoddwyd pwyslais ar sicrhau bod gwybodaeth gyflawn yn cael ei throsglwyddo i ysgolion cynradd ac ar wneud yn siwr bod cyfleoedd ar gael i rieni gyfrannu at gynlluniau ar gyfer diwallu anghenion addysgol arbennig eu plant i'r dyfodol.

 

3.8

O ran y gwasanaeth therapi cerdd, barn athrawon, rhieni ac eraill a chasgliadau ymchwil ofalus yw i'r therapi hwn gael effaith gadarnhaol sylweddol ar y plant sy'n derbyn y ddarpariaeth.Gan y gallai rhagor o blant elwa o dderbyn y therapi pe byddai modd, bwriedir gwneud cais i'r Byrddau Iechyd Lleol i gyd-gomisiynu'r gwasanaeth.

 

3.9

Bu'r Athrawes arbenigol ar gyfer anawsterau cyfathrebu yn weithgar iawn yn ystod y tymor ac ymwelodd â 42 o ysgolion i gyflwyno canllawiau ymarferol i athrawon a chymorthyddion, yn ogystal â chyfrannu at hyfforddiant ym maes awtistiaeth a chefnogi'r unedau anhwylderau iaith.Cydnabyddir na ellir cwrdd â'r holl ofynion sydd ar y gwasanaeth hwn.

 

3.10

Bernir na all unrhyw wasanaeth i blant ag anghenion addysgol arbennig fod yn gwbl effeithiol heb iddo fod â nifer o gyfleoedd i gyd-gynllunio a chydweithio â gwasanaethau eraill i blant a phobl ifanc.Mae'r Uned Ddarparu ar ran y ddau Awdurdod Addysg yn gweithio'n agos ar lefel achosion unigol, dydd i ddydd gydag amryw o wasanaethau eraill megis y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc, a'r Gwasanaeth Iechyd, a hefyd cymerwyd camau i ffurfioli trefniadau cydweithredu aml-asiantaethol trwy sefydlu Gwasanaethau Arbenigol Plant.

 

3.11

Mewn perthynas ag asesu statudol a llunio datganiadau, roedd cyfanswm o 1286 o ddatganiadau rhwng y ddwy sir ar 15 Gorffennaf, 2005 ynghyd â 567 o achosion 3*.Hefyd roedd 57 o asesiadau statudol ar y gweill ar 15 Orffennaf, 2005 - adroddir yn llawn  ar yr ystadegau hyn ym mis Ionawr yn flynyddol.

 

 

 

 

 

Diolchwyd i'r Prif Seicolegydd Addysgol am ei drosolwg o weithgareddau tymor yr Haf a chodwyd y materion a ganlyn yn y drafodaeth ddilynol:

 

3.12

Mynegwyd pryder ynglyn â'r broses o ddatganoli rhagor o gyllid a chyfrifoldeb am anghenion addysgol arbennig yn uniongyrchol i ysgolion gyda'r amcan o leihau datganiadau, a holwyd oni fyddai hyn yn ychwanegu at y baich gwaith sylweddol sydd eisoes ar ysgolion ac onid yw'r nifer o ddatganiadau sydd yn cael eu gwneud yn tystio at weithgarwch ysgolion yn hyn o beth ac at y ffaith eu bod yn ymateb i blant ag anghenion arbennig.

 

 

 

Nododd y Prif Seicolegydd Addysgol pan ddechreuwyd ar y broses o gynnal asesiadau aml-ddisgyblaethol ar rai o blant y bwriad oedd mai plant gydag anawsterau dyrys iawn fyddai'n destun yr asesiadau hyn.Fodd bynnag, dros y blynyddoedd bu i nifer o rieni wneud cais am asesiad gogyfer eu plant gan weld y broses fel ffordd o sicrhau darpariaeth ychwanegol er nad oedd angen datganiad ar nifer fawr o'r plant i'w galluogi i dderbyn cymorth ychwanegol.Erbyn hyn gwelir yr holl broses yn un wastraffus yn arbennig mewn amgylchiadau lle gellir gweithredu yn gynt megis trwy'r Cynllun 3* sydd yn golygu fod plant sydd angen mewnbwn ychwanegol yn ei dderbyn yn gynt heb orfod mynd trwy broses gymhleth.

 

 

 

Ategwyd y sylwadau uchod gan Swyddog Addysg AAA Gwynedd ac esboniodd nad yw'n fwriad lleihau'r cyllid na'r ddarpariaeth sydd ar gael gogyfer anghenion addysgol arbennig, ond yn hytrach rhoddi mwy o hyblygrwydd i ysgolion yn y Cyfnod 3* gan adael iddynt hwy ystyried beth yw'r ddarpariaeth briodol ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig a datganoli'r cyllid i'w galluogi iddynt wneud y ddarpariaeth.Bydd hyn hefyd yn hwyluso cyflogi cymhorthyddion am gyfnodau hwy gan roddi cyfle iddynt uwch sgilio yn hytrach na'u bod yn cael eu cyflogi ar gontractau byr.Yng Ngwynedd, mae cynllun peilot cynradd yn cael ei gynnal ac mae'r ymateb cychwynnol o hwnnw yn ffafriol.Nid yw'r cyllid yn cael ei dargedu at ysgol unigol ond yn hytrach at glwstwr o ysgolion ac mae'r peilot ar waith yn Arfon a Meirion a bydd cynllun pellach yn cychwyn yn Nwyfor erbyn diwedd y flwyddyn.Cynhelir gwaith hefyd ar hyn gyda 4 ysgol uwchradd yn y sir.

 

 

 

O safbwynt Ynys Môn adrddodd Swyddog Addysg AAA y sir bod trafodaethau cychwynnol gydag ysgolion ar y mater hwn wedi bod yn addawol a threfnwyd dyddiau hyfforddi ar eu cyfer gyda golwg ar edrych ar y meini prawf a'r dull o gyllido yn y sector uwchradd yn gyntaf. Mae'r gwaith yn waith o bwys a byddir yn symud ymlaen mewn ymgynghoriad llawn gyda'r ysgolion.

 

 

 

Gwerthfawrogwyd yr eglurhad gan yr aelodau a nodwyd mai da o beth fyddai monitro unrhyw gynnydd  mewn llwyth gwaith yn yr ysgolion hynny lle mae'r cynllun peilot ar waith.

 

 

 

3.13

Cyfeiriwyd at y cais am gefnogaeth y Cyd-Bwyllgor i wneud defnydd o'r balansau i gryfhau staff swyddfa y tymor nesaf a mynegwyd consyrn ynglyn â'r syniad o ddefnyddio balansau i wneud i fyny am ddiffyg arian refeniw.Holwyd a fyddai'r trefniant hwn yn debygol o ddod yn rhan o gostau parhaol y Cyd-Bwyllgor ar ddechrau'r flwyddyn ariannol nesaf.

 

 

 

Cydnabu'r Prif Seicolegydd Addysgol y pwynt a nododd fod yr Uned Ddarparu AAA  wedi wynebu sefyllfa gynyddol drom y tymor diwethaf o ran ymdrin ag achosion trwy'r Cynllun 3* ac mae'r sefyllfa honno yn parhau, a bod defnyddio'r balansau i gryfhau'r staff swyddfa i'w galluogi i gyflawni'r gwaith yn ddatrysiad tymor byr i broblem gyfredol.

 

 

 

Awgrymodd yr Uwch Gyfrifydd Addysg bod y Cyd-Bwyllgor yn gohirio gwneud penderfyniad ar y mater penodol hwn hyd nes fydd wedi ystyried yr adolygiad o gyllideb 2005/06 o dan eitem 5 ar y rhaglen, a'i fod yn glir ei feddwl ynglyn â'r sefyllfa o ran y balansau.

 

 

 

3.14

Cyfeiriwyd at y newidiadau arfaethedig i'r dull o hyfforddi seicolgwyr addysgol a gofynnwyd a oes yna ddarpariaeth yng Nghymru i gynnig hyfforddiant o dan y drefn newydd, a nodwyd ei bod yn bwysig fod unrhyw ddarpariaeth hyfforddiant yng Nghymru yn cymryd i ystyriaeth anghenion unigryw plant a phobl ifanc dwyieithog.

 

 

 

Cadarnhaodd y Prif Seicolegydd Addysgol fod Prifysgol Cymru, Caerdydd yn gwneud darpariaeth hyfforddiant Seicoleg Addysgol o dan y drefn newydd ond mae cwestiwn yn codi a

 

 

 

 

 

 

 

fydd y cwrs newydd yn denu digon o incwm trwy awdurdodau lleol yn cefnogi darpar

 

seicolegwyr i ddilyn y cwrs.Ar hyn o bryd clustnodir cyllid ar gyfer myfyrwyr coleg, ond o dan y drefn newydd bydd y cyllid yn cael ei dderbyn yn ganolog a phryderir y bydd yn cael ei golli ymhlith yr holl ofynion eraill sydd ar awdurdodau lleol.Mae cyflogi seicolegwyr ar hyfforddiant yn gostus yn arbennig i awdurdodau llai eu maint a bernir bydd rhaid monitro'r sefyllfa yn ofalus.Dygwyd pwysau eisoes ar Brifysgol Cymru Caerdydd o ran yr angen i gwrdd â gofynion dwyieithrwydd hyfforddiant seicoleg addysgol.

 

 

 

3.15

Mewn perthynas â therapi cerdd, nodwyd bod gohebiaeth wedi'i derbyn oddi wrth y Therapydd Cerdd yn dangos pa mor effeithiol yw'r therapi gyda phlant ag awtistiaeth, ac yn gwneud achos dros ragor o wasanaeth.

 

 

 

Nododd y Prif Seicolegydd Addysgol ei fod yn fwriad gan y ddau Awdurdod Addysg i wneud cais i'r Byrddau Iechyd Lleol iddynt ddarparu'r Gwasanaeth Therapi Cerdd a bod yr Ymddiredolaeth Iechyd o'r feddwl bod hynny'n briodol.

 

      

 

     Nododd Swyddog Addysg AAA Ynys Môn mai cyllid Strategaeth Cymru Gyfan oedd yn ariannu therapi cerdd yn wreiddiol a dyrennid y cyllid hwnnw i adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol.Trosglwyddwyd y cyllid i awdurdodau addysg lleol i'w reoli ond er hynny, ar argymhelliad y Gwasanaeth Iechyd y gwneir y ddarpariaeth.Gwelir mai'r ffordd ymlaen yw i'r  Byrddau Iechyd gomisiynu'r gwasanaeth, a bwriedir agor trafodaeth gyda hwy i'r perwyl.

 

      

 

     Penderfynwyd -

 

      

 

3.16

Derbyn adroddiad y Prif Seicolegydd Addysgol ar weithgareddau'r Uned Ddarparu AAA yn ystod tymor yr Haf, 2005.

 

3.17

Cefnogi gwneud cais i'r ddau Awdurdod Addysg i gynyddu sefydliad y Gwasanaeth Seicoleg Addysgol o 0.1 swydd, ar gost o £5,000 y flwyddyn.

 

      

 

      

 

4

PROSES O ASESU STATUDOL

 

      

 

     Estynodd y Cadeirydd groeso cynnes i'r cyfarfod i Gwen Evans, Cydlynydd Datganiadau yr Uned Ddarparu AAA oedd yn bresennol i roddi cyflwyniad llafar ar weinyddu prosesau anghenion addysgol arbennig.

 

      

 

     Amlinellodd y Cydlynydd Datganiadau y prif elfennau o brosesau anghenion addysgol arbennig fel a ganlyn:

 

      

 

4.1     gall rhai plant brofi gymaint o anhawster wrth ddysgu fel eu bod angen cymorth ychwanegol; bydd gan eraill anabledd sy'n ei gwneud yn anoddach iddynt yn yr ysgol.Dyma'r plant ag anghenion addysgol arbennig y mae arnynt angen mewnbwn ychwanegol neu wahanol i'r hyn sydd ar gael yn arferol i blant mewn ysgolion prif-lif;

 

4.2     mae'r Côd Ymarfer AAA yn ymgorffori canllawiau ar gyfer ysgolion ac awdurdod addysg lleol ynghylch y cymorth maent yn ei roddi i blant ag anghenion addysgol arbennig ac mae hefyd yn crynhoi'r ddeddfwriaeth yn y maes;

 

4.3     mae'r camau o fewn y broses fel a ganlyn -

 

      

 

Ÿ

Gweithredu gan yr Ysgol - y cam cyntaf os oes gan ysgol bryder fod gan blentyn AAA sy'n cwmpasu llunio Cynllun Addysg Unigol, sef dogfen weithiol ar gyfer yr holl staff addysgu er mwyn cofnodi strategaethau a thargedau tymor byr a manylion adolygu cynnydd; cynnwys y rhieni yn y broses; trefnu cymorth ychwanegol, adolygu cynnydd o fewn oddeutu 2 dymor;

 

Ÿ

Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy - os nad yw plentyn yn gwneud cynnydd, gelwir am gyngor ac arweiniad gan bersonau eraill tu allan i'r ysgol megis athro/awes arbenigol neu seicolegydd addysgol.Bydd y plentyn yn awr ar gyfnod Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy a bydd yn parhau i gael CAU a chymorth ychwanegol.Os ymddengys nad yw plentyn yn gwenud digon o gynnydd neu fod arno/arni angen rhagor o gymorth efallai gwna'r ysgol gais am gymorth ar gynllun 3* neu asesiad statudol o anghenion y plentyn;

 

Ÿ

Darpariaeth ar Gynllun 3* - cynllun gan yr AALl i ddarparu cymorth ychwanegol i blentyn heb fynd trwy'r broses gymhleth o asesu statudol.Bydd angen i'r cais fod oddi mewn i feini prawf;

 

Ÿ

Asesiad Statudol - archwiliad manwl iawn o anghenion addysgol y plentyn sydd yn gofyn am dystiolaeth gan nifer o asiantaethau oherwydd bod anghenion addysgol y plentyn yn rhai sylweddol.Os bydd ysgol yn bwrw ymlaen gydag asesiad, rhaid wrth adroddiad manwl gan  y rhiant, yr ysgol, seicolegydd addysgol, meddyg a'r Gwasanaethau Cymdeithasol (ond os ydynt yn adnabod y plentyn) - ceir 6 wythnos i ddarparu'r cyfryw adroddiadau.Ar ôl derbyn yr adroddiadau, caiff achos y plentyn ei ystyried gan y Panel Cymedroli;

 

Ÿ

Datganiad - os yw'r Panel Cymedroli yn penderfynu bod gan blentyn anghenion sylweddol a/neu gymhleth, yna ysgrifennir Datganiad, sydd yn ddogfen gyfreithiol ac sy'n disgrifio holl anghenion y plentyn a'r cymorth ychwanegol sydd ei angen arno/arni.Caiff y rhieni gopi o'r datganiad drafft sydd yn caniatau iddynt roddi sylwadau ar ei gynnwys ac enwi ysgol y dymunent i'w plentyn dderbyn darpariaeth ynddi (yr ysgol leol gan amlaf).Os yw pawb yn gytûn bydd datganiad terfynol yn cael ei lunio a fydd yn enwi ysgol ac fe gaiff pawb a gyfrannodd at y broses gopi ohono (cylchredwyd sampl o ffurflen ddatganiad yn y cyfarfod);

 

Ÿ

Nodyn - yn cael ei lunio os nad yw'r AALl yn penderfynu llunio Datganiad, sef dogfen sydd yn gwneud defnydd o'r cyngor a dderbynwiyd at yr asesiad statudol.Bydd anghenion y plentyn yn cael eu cwrdd ar Gweithredu Ysgol a Mwy;

 

Ÿ

Adolygiad Blynyddol - mae adolygiad o Ddatganiad yn cael ei gynnal bob blwyddyn; bydd disgyblion ôl-14 angen cynllun trawsnewid yn rhan o'r adolygiad blynyddol, sef dogfen sy'n cynllunio ar gyfer trefniadau ôl-16 plentyn;

 

4.4     mae gan rieni hawl i apelio i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig os nad ydynt yn gallu dod i gytundeb gyda'r AALl;

 

4.5     mae cyfyngiadau amser pwysig i'r holl broses asesu statudol sef 18 wythnos ac mae nifer y datganiadau a gynhyrchir oddi mewn 18 wythnos yn ddangosydd cyhoeddus y Cyngor.

 

      

 

     Bu i'r Cydlynydd Datganiadau gloi ei chyflwyniad trwy nodi bod y sefyllfa yn gadarnhaol ar y cyfan ac ychydig iawn o rieni sydd yn apelio i'r Tribiwnlys.Mae anghenion y rhan fwyaf o blant sydd ar Ddatganiad yn cael eu diwallu yn lleol.

 

      

 

     Diolchodd yr aelodau i'r Cydlynydd Datagniadau am eu tywys yn glir ac yn gryno trwy broses gymhleth asesu statudol.Codwyd cwestiwn ynglyn â'r ddogfennaeth sydd yn cael ei throsglwyddo pan mae plentyn ag angen arbennig megis mae gando/ganddi broblem ymddygiad ond nid yw ar Ddatganiad, yn symud o'r sector cynradd i'r uwchradd.

 

      

 

     Ymatebwyd bod ysgolion yn llunio cynllun addysg unigol a chynllun bugeiliol ar gyfer plant â phroblemau ymddygiad a bydd y dogfennau hyn yn trosglwyddo yn otomatig wrth i'r plentyn newid secor o'r cynradd i'r uwchradd.Fel arfer mae ysgol uwchradd yn negydu gyda'r ysgol gynradd pa ddogfennaeth sydd yn cael ei throsglwyddo.Nodwyd hefyd mai'r ganfyddiaeth gyffredin tu allan i'r maes yw nad oes gan blentyn anghenion arbennig os nad oes ganddo/ganddi Ddatganiad - ond mae Datganiad yn deillio o Gynllun Addysg Unigol sydd yn nodi anghenion arbennig plentyn a'r ffordd yr eir ati i'w diwallu.

 

      

 

     Penderfynwyd diolch i'r Cydlynydd Datganiadau am gyflwyniad defnyddiol a diddorol ac am roddi o'i hamser i'r cyfarfod hwn o'r Cyd-Bwyllgor.

 

      

 

      

 

5

ADOLYGIAD CYFRIFON 2005/06

 

      

 

     Cyflwynwyd ar y bwrdd - Adroddiad gan Bennaeth Gwasanaeth Cyllid Gwynedd yn ymgorffori adolygiad o gyfrifon cyfredol 2005/06.

 

      

 

     Adroddwyd fel a ganlyn -

 

      

 

      

 

Ÿ

bod yr adolygiad yn amlygu ychydig o newid rhwng penawdau'r gyllideb.Mae gwahaniaethau yn y penawdau staffio a hynny oherwydd absenoldeb mamolaeth a defnydd o staff cyflenwol i atgyfnerthu'r gwasanaeth;

 

Ÿ

cyfrannwyd at gynnydd ym malansau'r Cyd-Bwyllgor ar ddiwedd y llynedd oherwydd tanwariant ar adnoddau arbenigol i athrawon nam corfforol, ac offer cyfrifiadurol nas archebwyd tan eleni.Mae'r offer hwnnw bellach wedi'i brynu a gofynnir am gymeradwyaeth y Cyd-Bwyllgor i ddefnyddio'r tanwariant o £3,153 eleni;

 

Ÿ

mae'r Uned Ddarparu yn monitro yn agos yr incwm a ddenir trwy hyfforddiant a gwerthiannau;

 

Ÿ

derbynnir grant hyd at £17,000 oddi wrth y Sefydliad Cyflogwyr tuag at hyfforddi seicolegwyr;

 

Ÿ

ar 31 Mawrth, 2005 roedd gan y Cyd- Bwyllgor gyfanswm balansau o £21,473 - o ganiatau defnyddio hyd at £3,125 i gyllido'r adnoddau arbenigol ac offer cyfrifiadurol, byddai'r balansau yn disgyn i £18,348;

 

Ÿ

atgoffir y Cyd-Bwyllgor bod gofyn iddo ddod i benderfyniad ar y cais yn eitem 3 i ddefnyddio hyd at £4,200 o'r balansau i atgyfnerthu staff swyddfa yr Uned Ddarparu am dymor y Gwanwyn, 2006 - pe cefnogir y cais bydd hynny yn dod â'r balansau i lawr i £14,148;

 

Ÿ

o ran y cais am fid i'r ddau awdurdod addysg i gynyddu sefydliad y gwasanaeth seicoleg addysgol o 0.1 swydd ar gost o £5,000 y flwyddyn, mae'n bosibl cynyddu swydd y seicolegydd sydd yn gweithio ar hyn o bryd ar sail 0.4 swydd i fyny 0.5 swydd o fewn yr adnoddau presennol hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol gyfredol.

 

 

 

     Penderfynwyd -

 

      

 

5.1

Derbyn yr adroddiad gan nodi bydd adolygiad pellach yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf;

 

5.2

Cymeradwyo defnydd o'r balansau hyd at £3,152 i gyllido adnoddau arbenigol ac offer cyfrifiadurol;

 

5.3

Cymeradwyo defnydd o'r balansau hyd at £4,200 i atgyfnerthu staff swyddfa yr Uned Ddarparu gogyfer tymor y Gwanwyn, 2006.

 

      

 

      

 

     Mrs Fflur Hughes

 

         Cadeirydd