Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig (dadgomisiynwyd 31 Awst, 2017) dogfennau , 17 Mawrth 2006

Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig (dadgomisiynwyd 31 Awst, 2017)
Dydd Gwener, 17eg Mawrth, 2006

CYD-BWYLLGOR ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG

 

COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 17 MAWRTH, 2006

 

yn breSENNOL:

Cynghorydd Mrs Fflur Hughes (Cadeirydd) (Ynys Môn)

Cynghorydd Arwel Jones (Is-Gadeirydd) (Gwynedd)

 

Cyngor Gwynedd

 

Cynghorwyr Brian Jones, Dai Rees Jones, W.M.Meredith.

 

Cyngor Sir Ynys Môn

 

Cynghorydd Gwilym O.Jones

 

 

WRTH LAW:

Prif Seicolegydd Addysgol (Cyd-Bwyllgor AAA)

Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden (Ynys Môn)

Pennaeth Gwasanaeth - Ysgolion (Gwynedd)

Uwch Gyfrifydd Addysg (Gwynedd)

Swyddog Pwyllgor (ATH)

 

 

YMDDIHEURIADAU:

Cynghorwyr Mrs B.Burns, Bryan Owen (Ynys Môn), Cynghorydd Mrs Sylvia Humphreys (Gwynedd), Parch Tegid Roberts (Yr Eglwys yng Nghymru) Mr Rheinallt Thomas (Eglwysi Rhyddion) Mrs Orina Pritchard (Swyddog Addysg Cyngor Gwynedd), Mrs Mair Read (Swyddog Addysg AAA Cyngor Sir Ynys Môn)

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

Miss Manon Edwards (Seicolegydd Addysgol) ( ar gyfer eitem 4)

 

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd ac arwyddwyd fel rhai cywir, cofnodion cyfarfod blaenorol y Cyd-Bwyllgor a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd, 2005. (Cyfrol y Cyngor 15.12.2006, tud 135 - 140)

 

3

GWAITH YR UNED DDARPARU AAA

 

Cyflwynwyd - Adroddiad y Prif Seicolegydd Addysgol yn amlinellu gwaith yr Uned Ddarparu AAA yn ystod tymor y Gaeaf, 2005.

 

Adroddodd y Prif Seicolegydd Addysgol ar y prif ystyriaethau fel a ganlyn :

 

3.1

Cyffredinol

 

Ÿ

bu tymor y Gaeaf yn un eithaf sefydlog o ran y sefyllfa staffio a gwnaed trefniadau cyflenwol boddhaol mewn ymateb i absenoldebau oherwydd mamolaeth a datblygiad proffesiynol.Gwelwyd cynnydd yn y gwaith swyddfa,  ond trwy drefnu i'r cydlynydd datganiadau cynorthwyol wneud gwaith ychwanegol, medrwyd sicrhau bod adolygiadau blynyddol yn cael eu cwblhau mewn pryd a bod datganiadau disgyblion Blwyddyn 6 wedi eu newid erbyn 15 Chwefror, sef y dyddiad olaf yn statudol pryd yr oedd angen eu cwblhau.Bu cynnydd yn y gwaith o weinyddu paneli cymedroli'r ddwy sir a hynny oherwydd fod achosion 3* yn cael eu cyflwyno i'r paneli yn awr.Bu cynnydd hefyd yn yr holl achosion a ofelir amdanynt ac ymhelaethir ar hyn isod.

 

Ÿ

rhoddwyd sylw i sut gall yr Uned Ddarparu gyd-weithio'n agosach gyda Cynnal yn arbennig mewn meysydd megis hyrwyddo ymddygiad da, a hynny fel rhan o'r broses ehangach o adolygu rôl a strwythur gwasanaethau i'r dyfodol.

 

 

 

3.2

Gwasanaethau Arbenigol

 

 

 

Ÿ

bu'r athrawon arbenigol namau synhwyraidd/corfforol yn rhoi sylw penodol i ddogfen Lywodraeth y Cynulliad ar safonau ansawdd eu gwasanaethau.Rhagwelir bydd y ddogfen hon yn declyn defnyddiol iawn wrth i'r gwasanaeth edrych yn hunan feirniadol arno'i hun, ac i bwyso a mesur lefel a natur yr hyn a ddarperir yn erbyn y safonau disgwyliedig.Bydd canlyniad yr ymarferiad yn sail i gynllun datblygu 3 blynedd.

 

Ÿ

trefnodd y gwasanaeth nam clyw gwrs anwytho i gymorthyddion a rhieni a chyrsiau codi ymwybyddiaeth o fyddardod.Rhoddwyd pwyslais arbennig yn ystod y tymor ar greu ac adnewyddu cysylltiadau â'r holl wasanaethau a mudiadau sy'n gweithio er lles plant byddar a'u teuluoedd ac ystyrir fod yr elfen gyswllt hon yn eithriadol o bwysig i waith y gwasanaeth yma.

 

Ÿ

mae'n dda adrodd fod y Gwasanaeth Seicoleg Addysgol wedi'i gryfhau yn sylweddol gyda dychweliad 2 seicolegydd addysgol yn dilyn cwblhau cwrs hyfforddiant proffesiynol a phenodiad i swydd 0.4 seicolegydd.Achubwyd ar y cyfle i adolygu dulliau gweithredu'r gwasanaeth a phenderfynwyd mabwysiadu cyfuniad o 2 fodel, sef ymgynghori ac egwyddorion a thechnegau ffocysu ar ddatrysiadau.Cyflwynwyd y dulliau hyn i gydlynwyr AAA  a phenaethiaid ac mae'r rhagolygon o'u defnyddioldeb yn addawol. Ystyriwyd hefyd sut y gall y gwasanaeth fesur ei effeithiolrwydd ei hun yn well a phenderfynwyd treialu un ffordd sy'n gydnaws ag athroniaeth y dulliau cyflwyno gwasanaeth.Bu rhai seicolegwyr yn ymwneud gyda darparu hyfforddiant i staff ysgolion a gwelir hyn yn fuddsoddiad ar gyfer y dyfodol.

 

Ÿ

mae'r gwasanaeth nam corfforol yn parhau i ddatblygu ei allu, ar y cyd ag eraill, i gynghori ar y defnydd o dechnoleg gyda phlant anabl.Yn anffodus nid yw'r gwasanaeth yn medru ymateb yn llawn i anghenion y cyfan o'r plant ag anableddau.

 

Ÿ

o dan arweiniad y seicolegwyr addysgol, mae'r unedau asesu cyn ysgol wedi rhoi sylw i gynlluniau datblygu a phennu targedau i'w cyflawni yn ystod y flwyddyn i ddod.Yn gyffredinol, mae'r gofyn am leoedd yn yr unedau wedi cynyddu gyda rhestr aros ar gyfer ambell un, ac yn yr un modd mae'r galw ar y gwasanaeth Portage yn parhau i gynyddu gyda rhestr aros yma hefyd.

 

Ÿ

bu'r gwasanaeth therapi cerdd yn gweithio'n bennaf yn yr unedau asesu cyn-ysgol gyda phlant ag anawsterau iaith a gyda rhai plant ifanc sydd â'u hanawsterau ar y sbectrwm awtistig.Cafwyd enghreifftiau o effaith digamsyniol y modd arbennig hwn o hyrwyddo cyfathrebu.

 

Ÿ

ymwelodd yr athrawes arbenigol i blant ag anawsterau cyfathrebu â 70 plentyn yn ystod y tymor.Bu'n ymwneud yn helaeth â threfnu hyfforddiant a bu'n cyd-weithredu gyda'r therapyddion iaith a lleferydd ar wahanol agweddau o'r gwaith.

 

 

 

3.3

Gweinyddu Prosesau Asesu ac Adolygu

 

 

 

Ÿ

mae'r nifer o asesiadau statudol oedd ar y gweill ar Rhagfyr 31ain, 2005 yn llawer is nag oeddent y llynedd a'r isaf ers i'r Cyd-Bwyllgor gael ei sefydlu, sef 27 o'i gymharu â 70 yr un adeg yn 2004, a 98 yn 2003.Gellir priodoli hyn i amryw o ffactorau megis mwy o ddefnydd o Gynllun AAA 3*, parodrwydd i ddelio ar lefel ysgol ag anghenion addysgol arbennig, barn y Paneli Cymedroli ynghylch sut y dylid rhannu cyfrifoldebau gwneud darpariaeth, ynghyd â chydnabyddiaeth gyffredinol y dylid neilltuo asesiadau statudol i achosion lle mae darpariaeth ychwanegol sylweddol.Yn sgîl y gostyngiad, bu i'r seicolegwyr addysgol fedru treulio mwy o amser yn cefnogi ysgolion a llai ar ddarparu cyngor i asesiadau statudol.

 

Ÿ

er y gostyngiad yn yr asesiadau statudol, nid yw ei effaith ar y ganran o'r boblogaeth ysgol sy'n destun datganiad wedi digwydd hyd yma, a pharheir i ddarparu datganiadau ar gyfer oddeutu 1% yn fwy nag a wneir, ar gyfartaledd, gan siroedd eraill Cymru, sef 4.22% ar draws y ddwy sir yn 2005/06 o'i gymharu â 3.26% ar lefel Cymru yn 2004/05. Mae'r ystadegau yng nghyswllt nifer y datganiadau dros y naw mlynedd diwethaf yn amlygu patrwm o gynnydd cyson o 1997 i 2001 (1,048 yn Ionawr, 1997 i fyny i 1,361 yn Ionawr, 2001) gydag awgrym wedyn o 2001 hyd at 2006 bod yna duedd tuag at ostyngiad ac eithrio cynnydd bychan yn y nifer yn 2005.

 

Ÿ

ychydig iawn o ddatganiadau sy'n cael eu terfynu yn dilyn adolygiad blynyddol o ganlyniad i gynnydd digonol - fe ddaw y mwyafrif i ben oherwydd fod disgyblion yn gadael yr ysgol ac efallai bod angen edrych ymhellach ar hyn.Efallai hefyd y gwelir newid fel y bydd y meini prawf yn newid a mwy o ddarpariaeth yn cael ei gwneud trwy'r Cynllun 3*.

 

Ÿ

mae'r ddau awdurdod addysg yn parhau i sicrhau bod plant ag AAA yn cael eu hadnabod yn gynnar a bod darpariaeth yn cael ei gwneud ar eu cyfer.Fel rheol mae'r ddarpariaeth hon pan fydd y plentyn yn cychwyn yn yr ysgol yn un sylweddol iawn.O ran y nifer o ddatganiadau a luniwyd yn 2005, bu lleihad yn y 4 ystod oedran yng Ngwynedd (plant o dan 5/ 5-10 oed/ 11-15 oed/ 16 a throsodd) tra bu cynnydd yn y nifer o ddatganiadau a luniwyd ym Môn gogyfer plant o dan 5 oed - 20 o'i gymharu â 13 yn 2004.

 

Ÿ

nid yw asesiad statudol bob amser yn arwain at lunio datganiad, gan y gall y broses o asesu ddatgelu ffyrdd eraill mwy priodol o gwrdd â'r anghenion addysgol arbennig, a thra bod angen gofalu bod y plant sydd angen datganiad yn ei gael, mae angen hefyd i'r prosesau gwneud penderfyniad geisio osgoi cynnal asesiad statudol pan na fo'i angen. Yn 2004 ym Môn fe arweiniodd y broses asesu statudol at lunio nodyn yn hytrach na datganiad mewn 25 o achosion a 21 o achosion yn 2005; tra yng Ngwynedd, ni wnaed datganiad yn dilyn asesiad statudol mewn 25 o achosion yn 2004 a 34 o achosion yn 2005, sy'n awgrymu y gall y prosesau gwenud penderfyniad ganiatau asesiad statudol diangen weithiau.

 

Ÿ

o ran y rhesymau pam y llunnir datganiad, gwelwyd gostyngiad yn y ddwy sir yn y nifer o blant sy'n destun datganiad oherwydd anawsterau dysgu cyffredinol a phenodol sy'n tystio i'r Cynllun 3* allu darparu ar eu cyfer.

 

Ÿ

mae'r cynnydd yn y nifer sy'n derbyn cymorth oherwydd anawsterau sydd ar y sbectrwm awtistig yn parhau ac mae i'w weld amlycaf ym Môn - sef 15 yn Ionawr, 1999 o'i gymharu â 48 yn Ionawr, 2006.Mae'r niferoedd sy'n destun datganiad o ganlyniad i namau synhwyraidd neu anabledd corfforol/cyflwr meddygol yn eithaf sefydlog ac ni welwyd unrhyw newid arwyddocaol ychwaith yn y nifer sy'n destun datganiad oherwydd anawsterau ymddygiadol ac emosiynol er fod y gyfran o'r rhai sy'n destun datganiad am y rhesymau hyn, fel canran o'r holl ddisgyblion gyda datagniad, yn uwch ym Môn.

 

 

 

3.4

Cymorth Ychwanegol

 

 

 

Ÿ

mae disgyblion ag anghenion addysgol arbennig yn derbyn cymorth ychwanegol gan yr awdurdodau addysg trwy dwy drefn a weinyddir gan yr Uned Ddarparu - un ohonynt yw trwy ddatganiad o AAA, ac mae gostyngiad bychan wedi digwydd yn y nifer sy'n derbyn cymorth trwy'r cyfrwng hwn.Un o'r rhesymau dros hyn yw'r penderfyniad i geisio neilltuo datganiadadau i ddisgyblion ag anawsterau eithaf dwys, cymhleth a hirdymor, gan drefnu cymorth eraill a fuasent wedi bod yn destun datganiad, trwy Gynllun AAA 3*.Byddid yn disgwyl felly i'r nifer sy'n cael help o dan y cynllun hwn i gynyddu fel mae datganiadau yn gostwng ac mae'r ystadegau yn cadarnhau hyn.Yng Ngwynedd fodd bynnag, mae'r cyfanswm yn parhau i gynyddu.Ar hyn o bryd mae'r Uned Ddarparu yn gyfrifol am brosesu cymorth i 1,836 o blant.Mae'r ddau awdurdod addysg yn y broses o adolygu eu meini prawf  tros wneud darpariaeth addysgol arbennig sydd yn ychwanegol at y ddarpariaeth a wneir gan ysgolion a bydd angen cadw golwg ar sut y gall hyn effeithio ar waith yr Uned.

 

 

 

Diolchwyd i'r Prif Seicolegydd Addysgol am ddadansoddiad manwl a dadlennol o waith a thueddiadau'r tymor a chodwyd y pwyntiau canlynol ar y wybodaeth -

 

 

 

Ÿ

cyfeiriwyd at y nifer sy'n derbyn cymorth oherwydd anawsterau ar y sbectrwm awtistiaeth ac yn benodol, at y cynnydd parhaol yn y nifer hwn ym Môn, a gofynnwyd beth oedd y rhesymau dros y ffaith fod y duedd hon ar ei fyny ar yr Ynys.

 

 

 

Ymatebodd y Prif Seicolegydd Addysgol nad oes yna unrhyw un esboniad pendant dros y ffaith fod y nifer o blant sy'n derbyn cymorth oherwydd anawsterau ar y sbectrwm awtistiaeth ym Môn yn  uwch nag yng Ngwynedd ac yn parhau i gynyddu.Mae yna gynnydd cyffredinol  trwy'r wlad yn y nifer o blant sydd ag  anawsterau yn gysylltiedig ag awtistiaeth. Cychwynnwyd eisoes ar drafodaeth gyda'r arbenigwyr yn y maes, y seicolegwyr clinigol, i geisio cael gwell amgyffred o'r rhesymau pam fod y nifer yn cynyddu a bwriedir adrodd yn llawnach ar hyn i'r Cyd-Bwyllgor maes o law.

 

 

 

Ÿ

cyfeiriwyd at y cyfyngiadau cyllidol sydd ar y maes anghenion addysgol arbennig ac ar yr ymdrech i reoli'r nifer o ddatgniadau a gwneud darpariaeth trwy ddulliau amgen, gwahanol, a llai costus, a gofynnwyd sut eir ati i flaenoriaethu gwariant gan yr Uned.Holwyd yn arbennig ynghylch a yw'r gyfundrefn fel ag y mae yn ddigon grymus i sicrhau cyfle cyfartal i bob plentyn sydd ag anhenion arbennig, a chyfeiriwyd fel esiampl at y ffaith nad yw'r gwasanaeth  anabledd corfforol yn gallu diwallu anghenion pawb sydd angen y gwasanaeth.Nodwyd bod pob carfan o anawsterau yn bwysig a gofynnwyd a oes perygl fod rhai yn cael darpariaeth well ar draul eraill oherwydd eu bod mewn sefyllfa i wneud achos mwy grymus dros hynny, ac i ddwyn pwysau ar y system.

 

 

 

Ymatebodd y Prif Seicolegydd Addysgol ei fod yn cydnabod y pryderon ynglyn â sicrhau chwarae teg i bob plentyn sydd ag anghenion arbennig, a nododd bod tynhau'r meini prawf a sefydlu'r Paneli Cymedroli wedi cyfrannu tuag at sicrhau tegwch, cysondeb a thrylwyredd yn hyn o beth.Mae'r Uned hefyd yn ymwybodol fod rhai rhieni yn deall sut mae'r gyfundrefn ar gyfer ymdrin ag anghenion addysgol arbennig yn gweithio yn well nag eraill a maent yn gallu manteisio ar hynny.Mae'r Uned yn ymdrechu i gynorthwyo'r rhieni hynny nad ydynt yn gyfarwydd iawn â'r gweithdrefnau ac yn ceisio sicrhau fod y system yn gweithredu'n deg ac yn gyfartal.O ran disgyblion sydd ag anabledd corfforol mae'r ddau awdurdod addysg yn gwneud tegwch â'r plant hyn o ran gwneud darpariaeth ychwanegol ar eu cyfer, ond nid yw staff  yr Uned Ddarparu bob tro mewn sefyllfa i roddi sylw llawn i bob plentyn.

 

 

 

Yn dilyn o'r ymateb uchod, nodwyd bod yr awdurdodau addysg yn cyllido mudiad SNAP i weithredu fel lladmerydd ar ran rhieni sydd â phlant ag anghenion addysgol arbennig ac awgrymwyd bod y Cyd-Bwyllgor yn derbyn gwybodaeth ynglyn â faint o rieni sydd yn ymwybodol o'r gwasanaeth hwn ac yn gwneud defnydd ohono.

 

 

 

Nododd y Prif Seicolegydd Addysgol y byddai'n gofyn i gynrychiolydd SNAP ddod i gyfarch cyfarfod nesaf y Cyd-Bwyllgor a chyflwyno gwybodaeth ynglyn â'r defnydd o'r gwasanaeth gan rieni.

 

 

 

Penderfynwyd -

 

 

 

3.5

Derbyn adroddiad y Prif Seicolegydd Addygol ynglyn â gwaith yr Uned Ddarparu dros gyfnod tymor y Gaeaf, 2005 gan nodi ei gynnwys a chan ddiolch i'r Prif Seicolegydd Addysgol am drylwyredd a manylder y wybodaeth.

 

3.6

Gofyn i'r Prif Seicolegydd Addysgol wneud trefniadau i gynrychiolydd o fudiad SNAP fod yn bresennol yng nghyfarfod nesaf y Cyd-Bwyllgor i gyflwyno gwybodaeth ynglyn â'r defnydd a wneir o'r gwasanaeth gan rieni.

 

 

 

4

DULLIAU GWEITHREDU'R GWASANAETH SEICOLEG ADDYSGOL

 

 

 

Cyflwynwyd - Adroddiad ynglyn â'r uchod gan gyfeirio'n benodol at ddull o weithio gydag ysgolion sydd yn wahanol i'r dulliau traddodiadol.

 

 

 

Nododd y Prif Seicolegydd Addysgol fod yr adroddiad uchod yn ceisio dangos i ba gyfeiriad mae'r Gwasanaeth Seicoleg Addysgol yn mynd o ran datblygu dulliau gwaith newydd ac er nad yw'r newid y cyfeirir ato ar y wyneb yn ymddangos yn chwyldroadol, mae'r dull newydd o weithio a elwir yn fodel ymgynghorol yn cynrychioli newid sylfaenol wrth ymagweddu tuag at broblemau. Crynhoir prif nodweddion y dull newydd hwn isod:

 

 

 

Ÿ

yn yr hen ffordd o weithio roedd seicolegwyr yn cael eu hystyried yn arbenigwyr oedd yn cael eu galw i mewn i ddweud beth sydd angen ei wneud, yn asesu'r plentyn er mwyn dweud beth sydd yn mynd o'i le ac yn darparu tystiolaeth ar gyfer cael adnoddau ychwanegol;

 

Ÿ

bernir nad yw'r ffordd yma o weithredu yn addas bellach am nad yw ymwneud y seicolegydd yn fuddiol os na cheir adnoddau ychwanegol.Hefyd, ni ellir rhoi cefnogaeth i'r ysgolion gyda phroblemau tymor hir i'w cynorthwyo i newid y sefyllfa; o ganlyniad mae ysgolion a rhieni yn teimlo nad oes neb yn gwrando arnynt, ac mae'r seicolegydd yntau'n teimlo nad yw'n gwneud cyfraniad gan na chafodd berspectif yr ysgol yn llawn;

 

Ÿ

mae'r model ymgynghorol yn golygu fod seicolegwyr addysgol ar gael er mwyn trafod a sgwrsio a thrwy hynny gellir creu newid.Pwrpas y gwasanaeth yw gweithio gydag eraill i greu newid trwy drafodaeth gyda phawb sydd â diddordeb yn y sefyllfa.Cedwir materion yn syml a gweithredir yn y ffordd mwyaf "darbodus";

 

Ÿ

nid yw gwaith achos yn gydnaws â'r dull - nid yw ffocws yn cael ei roddi ar y plentyn fel achos ynddo'i hun; yn hytrach mae'r model yn helpu'r oedolyn i ganfod sut i ddatrys ei broblem ac, o'r herwydd, yn gydnaws â chynhwysiad a chodi safonau.Mae ymwneud yn uniongyrchol â phlant yn gostus yn nhermau amser seicolegydd, ac yn bwysicach, gall greu rhwystrau seicolegol trwy atgyfnerthu'r syniad fod y broblem oddi mewn i'r plentyn ac y gellir ei ddatrys trwy archwilio'r plentyn yn ddigon manwl.O dan y dull newydd ni ystyrir fod datrysiad yn bosibl trwy'r plentyn ond yn hytrach trwy drafodaeth gyda'r oedolion sydd yn effeithio ar y plentyn;

 

Ÿ

newid arall yw mabwysiadu dull o ganolbwyntio ar ddatrysiadau.Mae'r technegau hyn yn canolbwyntio ar y dyfodol dymunol - h.y. ar y sefyllfa byddai'r athrawes, y rhiant neu'r person ifanc yn dymuno ei weld, yn hytrach nag ar beth sydd yn mynd o'i le.Maent yn gwbl gydnaws felly â'r model ymgynghori.Trwy edrych ar y camau bychain nesaf tuag at y dyfodol hwn, byddant yn medru gweld pa mor effeithiol gallant fod;

 

Ÿ

mae'n ddull sy'n cynorthwyo pawb i ddatblygu datrysiadau sy'n unigryw iddynt hwy a'u sefyllfa;

 

Ÿ

rôl y seicolegydd yw gofyn cwestiynau sy'n mynd i ganfod cryfderau pobl - mae sesiynau ymgynghori felly bob amser yn rhai cadarnhaol ac yn canolbwyntio ar ddatrysiadau;

 

Ÿ

medrir defnyddio'r technegau ar lefel unigolion a dosbarthiadau ac fel rhan o ofal bugeiliol er mwyn torri ar batrymau negyddol;

 

Ÿ

gall y dulliau hyn arwain at welliannau o bob math - gwell ymddygiad a llai o waharddiadau.

 

 

 

     Rhoddodd Manon Edwards, Seicolegydd Addysgol flas i aelodau'r Cyd-Bwyllgor o'i phrofiad o roddi'r dull ymgynghorol  a thechnegau ffocysu ar ddatrysiadau ar waith gydag ysgolion ers mis Medi, 2005, a nododd bod ysgolion yn ymddangos yn hyderus wrth eu defnyddio a'u bod yn ymwybodol eu bod yn cynnig proses realistig sydd yn diwallu anghenion dros y tymor hir yn hytrach na cheisio cynnig datrysiad unwaith ac am byth yn dilyn asesiad.

 

      

 

     Croesawodd yr aelodau y wybodaeth fel datblygiadau diddorol a chyffrous a diolchwyd i'r Prif Seicolegydd Addysgol a'r Seicolegydd Addysgol am roddi esboniad ohonynt.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi'r wybodaeth.

 

      

 

5

ADRODDIAD ARIANNOL

 

      

 

5.1

Rhoddodd Uwch Gyfrifydd Addysg Cyngor Gwynedd ddiweddariad ar lafar i'r aelodau ynglyn â chyfrifon 2005/06.

 

      

 

     Atgoffodd yr Uwch Gyfrifydd yr aelodau bod gwerth oddeutu £21,000 o falansau gan y Cyd-Bwyllgor ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2004/05.Yng nhgyfarfod blaenorol y Cyd-Bwyllgor ym mis Tachwedd, 2005, cymeradwywyd gwneud defnydd o £3,152 o'r balansau i gyllido adnoddau arbenigol ac offer cyfrifiadurol ac fe weithredwyd ar y penderfyniad hwnnw gan dynnu'r balansau i lawr i oddeutu £18,000.Hefyd, cefnogwyd defnyddio £4,200 pellach i gryfhau staff swyddfa yr Uned Darparu gogyfer tymor y Gwanwyn, ond oherwydd na fu'r defnydd o staff cyflenwol gymaint ag a ddarparwyd ar ei gyfer, ni fu rhaid defnyddio'r balansau i gyllido'r trefniant hwn.

 

      

 

     At hynny, mae'r Cyd-Bwyllgor yn edrych tuag at gynhyrchu incwm o werthu pecynnau addysg arbennig i ysgolion awdurdodau eraill ac ar gefn hyn, rhagwelir byddir yn gweld cynnydd yn y balansau ar ddiwedd y flwyddyn hyd at oddeutu £25,000, sef 2.3% o gyllideb y Cyd-Bwyllgor. Ni ystyrir fod y swm hwn yn swm sylweddol yng nghyd-destun gwariant y Cyd-Bwyllgor.

 

      

 

     Amcanir at gyflwyno cyfrifon terfynol y Cyd-Bwyllgor am 2004/05 i'r cyfarfod nesaf.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn y diweddariad ynglyn â chyfrifon 2005/06 a nodi'r wybodaeth.

 

      

 

5.2

Cyflwynwyd - Adroddiad yn ymgorffori cyllideb y Cyd-Bwyllgor ar gyfer 2006/07.

 

      

 

     Nodwyd bod y gyllideb yn adlewyrchu cytundebau cyflog, incrementau cyflogau a chwyddiant cyflogau a phenawdau cyffredinol am 2006/07 yn ogystal ag effaith trosiant staff.Mae darpariaeth wedi ei chynnwys am -

 

      

 

Ÿ

Sefydliad y Cyd-Bwyllgor

 

 

 

Ÿ

8.7 seicolegwyr (cynnydd o 0.1 ar gyllideb 2005/06)

 

Ÿ

7.8 athrawon cynhaliol

 

Ÿ

6.5 staff gweinyddol

 

Ÿ

0.6 asesydd risg

 

 

 

Ÿ

cytundeb cyflog seicolegwyr 2.95% o Fedi, 2006

 

Ÿ

cytundeb cyflog athrawon 2.5% o Fedi, 2006

 

Ÿ

cytundeb cyflog staff gweinyddol 2.95% o Ebrill, 2006

 

Ÿ

cyfraniad ychwanegol o 2.2.% ar flwydd-dal Cynllun Llywodraeth Leol, sydd yn effeithio ar gostau cyflog seicolegwyr a staff gweinyddol.

 

 

 

     Mae cyfraniadau Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn wedi cynyddu o 2.77%, a'r unig newid sylfaenol yn y gyllideb yw'r ychwanegiad o 0.1 swydd yng nghyflenwad staff y seicolegwyr addysgol.

 

      

 

     Byddir yn cyflwyno adolygiad o'r gyllideb yn ystod y flwyddyn.

 

      

 

     Penderfynwyd cymeradwyo a mabwysiadu'r gyllideb am 2006/07 fel ag a gyflwynwyd.

 

      

 

6

CYFARFODYDD Y CYD-BWYLLGOR AM Y FLWYDDYN I DDOD

 

      

 

     Penderfynwyd bydd cyfarfodydd y Cyd-Bwyllgor am y flwyddyn i ddod yn cael eu cynnal ar y dyddiadau a'r amseroedd canlynol :

 

      

 

     Dydd Gwener, 23 Mehefin, 2006 am 10:30 a.m.

 

     Dydd Gwener, 10 Tachwedd, 2006 am 10:30 a.m.

 

     Dydd Gwener, 16 Mawrth, 2007 am 10:30 a.m.

 

      

 

      

 

     Mrs Fflur Hughes

 

         Cadeirydd