Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig (dadgomisiynwyd 31 Awst, 2017) dogfennau , 28 Gorffennaf 2006

Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig (dadgomisiynwyd 31 Awst, 2017)
Dydd Gwener, 28ain Gorffennaf, 2006

CYD-BWYLLGOR ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG

 

COFNODION Y CYFARFOD ARBENNIG A GYNHALIWYD AR 28 GORFFERNNAF, 2006

 

yn breSENNOL:

Cynghorydd Arwel Jones (Cadeirydd) (Gwynedd)

Cynghorydd Mrs B.Burns, MBE (Is-Gadeirydd)  (Ynys Môn)

 

Cyngor Gwynedd

 

Cynghorydd W.M.Meredith

 

Cyngor Sir Ynys Môn

 

Cynghorwyr Mrs Fflur Hughes, G.O.Jones, Bryan Owen, R.Llewelyn Jones.

 

Yr Eglwys

 

Y Parch.Tegid Roberts (Yr Eglwys yng Nghymru)

 

 

WRTH LAW:

Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden (Ynys Môn)

Uwch Swyddog Personél Ynys Môn (EMO)

 

 

YMDDIHEURIADAU:

Cynghorwyr  Mrs Sylvia Humphreys, Brian Jones, Dai Rees Jones (Gwynedd),

 

 

 

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

 

2

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

 

Ystyriwyd a phenderfynwyd o dan Adran 100 (A) (4), Deddf Llywodraeth Leol 1972, i gau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd golygai ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel ag y'i diffinnir ym Mahargraff 1,  Rhan 1 o Atodlen 12A i'r Ddeddf honno.

 

3

PENODI I SWYDD Y PRIF SEICOLEGYDD ADDYSGOL

 

Cyfwelwyd ag un ymgeisydd a roddwyd ar y rhestr fer ar gyfer y swydd isod yn dilyn ei hail hysbysebu.

 

Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig Môn a Gwynedd

 

Prif Seicolegydd Addysgol : Graddfa - Graddfa Soulbury (B)

 

Yn dilyn ystyriaeth ofalus, penderfynwyd penodi Mrs Angharad Behnan, Machynlleth, Powys i swydd y Prif Seicolegydd Addysgol.

 

 

 

Cynghorydd Arwel Jones

         Cadeirydd