Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig (dadgomisiynwyd 31 Awst, 2017) dogfennau , 10 Tachwedd 2006

Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig (dadgomisiynwyd 31 Awst, 2017)
Dydd Gwener, 10fed Tachwedd, 2006

CYD-BWYLLGOR ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd, 2006

 

YN BRESENNOL:

 

Cynghorydd Mrs B.Burns, MBE (Is-Gadeirydd) (Yn y Gadair)

 

Cyngor Gwynedd

 

Cynghorwyr Selwyn Griffiths, Brian Jones, W.M.Meredith.

 

Cyngor Sir Ynys Môn

 

Cynghorwyr Mrs Fflur Hughes, Gwilym O.Jones.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Prif Seicolegydd Addysgol (AB)

Pennaeth Gwasanaeth (Ysgolion) Gwynedd (GJ)

Swyddog Addysg AAA Ynys Môn (MR)

Uwch Gyfrifydd Addysg Gwynedd (KB)

Swyddog Pwyllgor (ATH)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Cynghorwyr Mrs Sylvia Humphreys, Dai Rees Jones, Arwel Jones (Cyngor Gwynedd), Bryan Owen, R.Llewelyn Jones (Cyngor Sir Ynys Môn), Parch. Tegid Roberts (Yr Eglwys yng Nghymru) Mr Rheinallt Thomas (Eglwysi Rhyddion), Cynghorydd J.M.Davies (Aelod Portffolio Addysg Ynys Môn)

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Prif Weithredwr Cwmni Cynnal (GW)

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso cynnes i Mrs Angharad Behnan oedd yn bresennol yn ei chyfarfod cyntaf o’r Cyd-Bwyllgor fel Prif Seicolegydd Addysgol, a chroesawodd i’r cyfarfod hefyd, Mr Gareth Williams, Prif Weithredwr Cwmni Cynnal.

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd a llofnodwyd fel rhai cywir, gofnodion cyfarfodydd y Cyd-Bwyllgor a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol -

 

Ÿ

23 Mehefin, 2006 - tud 125 - 128 y Gyfrol hon

Ÿ

23 Mehefin, 2006 (arbennig) - tud 129 y Gyfrol hon

Ÿ

28 Gorffennaf, 2006 (arbennig) - tud 188 y Gyfrol hon

 

 

3

AIL-STRWYTHURO CYNNAL A’R CYD-BWYLLGOR ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG

 

 

 

Rhoddodd Pennaeth Gwasanaeth (Ysgolion) Cyngor Gwynedd amlinelliad bras o gefndir y mater uchod, a diweddarodd yr aelodau ynglyn â’r sefyllfa gyfredol fel a ganlyn:

 

 

 

i.

cynhaliwyd arolygiad o wasanaethau anghenion addysgol arbennig Awdurdodau Addysg Môn a Gwynedd peth amser yn ôl ac un o ddeilliannau’r arolwg oedd y dylid rhoddi ystyriaeth i ddod â gwasanaethau Cynnal a’r Cyd-Bwyllgor ynghyd. Yn flaenorol i hynny fel rhan o’i gylch blynyddol o arolygu awdurdodau, bu i Estyn gynnal arolygiad o’r gwasanaeth gwella ysgolion (h.y. y gwasanaethau a ddarperir gan Cynnal) ac yn gynwysiedig yn yr argymhellion ôl arolwg oedd y dylid ystyried cyfuno rhai o swyddogaethau’r Cyd-Bwyllgor a Cynnal;

 

ii.

yn gychwynnol aethpwyd ati i ymateb i’r argymhellion hyn trwy gynyddu’r cyfleoedd i Seicolegwyr y Cyd-Bwyllgor ac Ymgynghorwyr Cynnal gyd-weithio ar brosiectau, ac mae’r gwaith hwn wedi llwyddo.Yn ddiweddar, ystyriwyd ei bod yn amserol rhoddi sylw mwy manwl i  argymhellion Estyn gan edrych i ba raddau y gellir dwyn gwasanaethau’r Cyd-Bwyllgor a gwasanaethau Cynnal ynghyd, a hynny am y rhesymau a nodir isod -

 

 

 

Ÿ

mae gwasanaethau gwella ysgolion yn ymwneud â gwarchod a chodi safonau ysgol, sef swyddogaeth greiddiol Cwmni Cynnal; mae rôl seicolegwyr addysgol yn raddol newid ac yn dod yn rhan hanfodol o’r agenda codi safonau, a thrwy hynny yn ymdebygu fwy fwy i waith ymgynghorwyr Cynnal;

 

Ÿ

gwelwyd newid yn y ffordd mae seicolegwyr yn gweithredu - maent yn gweithio’n gynyddol mewn dull ymgynghorol gyda’r ysgolion;

 

Ÿ

mae’r amseriad yn addas am y gwelir bod rhai agweddau o’r gefnogaeth a roddir i ysgolion yn pontio gwaith y Cyd-Bwyllgor a gwaith Cynnal, megis hyrwyddo ymddygiad da sydd yn faes amlwg ar gyfer sylfaenu gwasanaethau mwy integredig eu naws sydd yn cwmpasu agweddau cwricwlaidd yn ogystal ag anghenion yr unigolyn. Maes arall y gwelir ei bod yn briodol ac yn fanteisiol i seicolegwyr ac ymgynghorwyr gyd-weithio ynddo yw codi cymhelliant disgyblion a’u hannog i ymddiddori mewn dysgu;

 

Ÿ

ysgogiad arall ar gyfer cymryd camau i asio gwasanaethau’r Cyd-Bwyllgor a gwasanaethau Cynnal yw Rhaglen Llywodraeth y Cynulliad - Gwneud y Cysylltiadau sydd yn hyrwyddo cyd-weithio amlach a lletach ar gyfer y dyfodol.

 

 

 

iii.

mae’r camau a gymerwyd hyd yn hyn wedi canolbwyntio ar ganfod cyfleoedd ar gyfer cyd-weithio ac ar edrych ar y math o wasanaethau mae’r ddau endid yn eu darparu.Mae gwaith ymchwil i bwrpas canfod strwythur rheolaethaol priodol ar gyfer yr endid cyfunol newydd yn y pen draw yn ei ddyddiau cynnar, a bydd gofyn gwneud cryn dipyn o waith ar gloriannu manteision ac anfanteision y gwahanol ddewisiadau.

 

 

 

Mewn ymateb i ymholiadau gan aelodau, adroddodd y Pennaeth Gwasanaeth (Ysgolion) ymhellach bod y pwyslais ar ymagweddu tuag at y dasg hon gam wrth gam gan weithredu’n bwyllog a chan sicrhau bod gwaith ymchwil manwl yn cael ei wneud i sicrhau y deuir at strwythur addas fydd yn ateb gofynion y ddau awudurdod yn ogystal ag Agenda Gwneud y Cysylltiadau.

 

 

 

Diolchwyd i’r Pennaeth Gwasanaeth (Ysgolion) am ei grynodeb cytbwys o’r sefyllfa gyfredol a mynegwyd gwerthfawrogiad o’r wybodaeth.

 

 

 

Penderfynwyd nodi’r sefyllfa mewn perthynas ag ail-strwythuro Cynnal a’r Cyd-Bwyllgor gan ddiolch i Bennaeth Gwasanaeth (Ysgolion) Cyngor Gwynedd am y wybodaeth.

 

 

 

4

GWAITH YR UNED DDARPARU AAA

 

 

 

Cyflwynwyd - Adroddiad yr Uned Ddarparu AAA am Dymor yr Haf, 2006 gyda chyfeiriad penodol at y newidiadau strwythurol i’r Uned Ddarparu, effaith y newidiadau ar y gwasanaeth ynghyd ag ansawdd y gwasanaeth o safbwynt y cleient a’r ysgolion.

 

 

 

Ymhelaethwyd ar y prif bwyntiau fel a ganlyn -

 

 

 

i.

Mai’r newid mawr a ddigwyddodd o safbwynt rheolaeth dydd i ddydd yr Uned Ddarparu oedd ymddeoliad y Prif Seicolegydd Addysgol/Rheolwr yr Uned ac effaith hynny ar weithdrefnau’r Uned Ddarparu. Methwyd â phenodi olynydd i Reolwr yr Uned ac fe ail hysbysebwyd am swydd Prif Seicolegydd yn unig, ac fe wnaed penodiad yn yr Haf;

 

ii.

bu cryn symud o ran cryfhau’r berthynas rhwng Cynnal a’r Cyd-Bwyllgor, ac oherwydd bod y cyswllt rhwng y ddau sefydliad yn un cadarnhaol iawn bellach, penderfynwyd yn y cyfnod interim ar y strwythur rheoli canlynol :

 

 

 

Ÿ

y Prif Seicolegydd Addysgol fydd yn rheoli gwaith ac ansawdd y gwasanaeth seicolegol addysgol gan gymryd cyfrifoldeb hefyd trwy’r Cydlynwyr Datganiadau, am brosesau asesu statudol a datganiadau a, thrwy’r Cydlynydd 3*, am brosesau’r Cynllun 3*;

 

Ÿ

yr Ymgynghorydd Anghenion Addysg Ychwanegol fydd â chyfrifoldeb dros reoli gwaith ac ansawdd y tîm o athrawon arbenigol yn y Cyd-Bwyllgor, a hynny yn ogystal â’i gwaith gyda Cynnal;

 

Ÿ

bydd rheolaeth dydd i ddydd swyddfa’r Cyd-Bwyllgor yn gyfrifoldeb yr Uwch Swyddog Gweinyddol;

 

Ÿ

bydd cyfrifoldeb dros gydlynu’r agweddau hyn yn disgyn ar Brif Weithredwr Cynnal ac ef fydd, drwy Bennaeth Gwasanaeth Ysgolion Gwynedd a Chyfarwyddwr Addysg a Hamdden Môn, yn atebol i’r Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig;

 

Ÿ

bydd y ddarpariaeth statudol sydd yn cynnwys y ddarpariaeth addysgol arbennig i ddisgyblion sydd ar ddatganiadau yn parhau yn gyfrifoldeb Swyddogion Addysg AAA Gwynedd ac Ynys Môn;

 

 

 

iii.

yn y cyfamser, comisiynwyd adroddiad gan arbenigwr yn y maes i edrych ar ddyfodol y ddau sefydliad gyda’r bwriad yn unol ag argymhelliad Estyn, i sefydlu un corff i weithredu ar gyfer cefnogi, arfarnu a herio ysgolion mewn perthynas â chodi safonau disgyblion;

 

iv.

o ran gwasanaethau, cyfarfu Grwp Defnyddwyr yr Uned Ddarparu AAA, sef cynrychiolwyr ysgolion unwaith yn ystod y tymor pryd rhoddwyd sylw i Asesu Da, lleihau biwrocratiaeth a datganoli cyllid AAA i ysgolion;

 

v.

yng nghyswllt sefyllfa staffio’r Gwasanaeth Seicoleg Addysgol, methwyd â phenodi i’r swydd Asesydd Risg a pharheir i brynu’r gwasanaeth i mewn gan gwmni annibynnol am y tro.Bu parhad hefyd ar y gwaith o lunio rhaglen hunan arfarnu i’r gwasanaeth;

 

vi.

bu’r gwasanaeth yn ymhel â nifer of weithgareddau mewn perthynas â chodi safonau addysgiadol gan gynnwys y canlynol -

 

 

 

Ÿ

creu pro forma i ysgolion o Gynllun Ymddygiad Unigol a threfnu hyfforddiant yn yr Hydref i gymorthyddion cynradd ar sut i’w ddefnyddio;

 

Ÿ

ail edrych ar ddull y gwasanaeth o adrodd yn statudol pan fo anawsterau ymddygiadol dan ystyriaeth.Crëwyd strwythur newydd i’r adroddiadau hyn fydd yn galluogi’r seicolegwyr i bortreadu anawsterau’r unigolion mewn modd mwy strwythuredig;

 

Ÿ

parhau gyda’r gweithgor yn Ysgol Friars, Bangor sydd yn edrych ar sustemau o gefnogi plant a chodi eu cymhelliant;

 

Ÿ

cynnig hyfforddiant i gymorthyddion yn Ysgol Uwchradd Caergybi ar ddulliau o ffocysu ar ddatrysiadau;

 

Ÿ

parhau gyda’r gwaith yn Ysgol Coed Menai lle mae’r seicolegydd yn cydweithio gyda’r staff ar lefel systematig i edrych am y ffyrdd gorau o gefnogi disgyblion;

 

Ÿ

cwblhau dogfen ar ddatblygiad ffonics i’w rhannu gydag athrawon - bydd hyn yn adnodd hynod o effeithiol i helpu staff ysgolion i greu tasgau penodol a phwrpasol i hyrwyddo sgiliau darllen;

 

Ÿ

parhau i annog ysgolion i ddefnyddio Dysgu Manwl fel dull o hyrwyddo sgiliau darllen, sillafu a rhifedd;

 

 

 

vii.

bu’r Gwasanaeth Cyn Ysgol yn weithgar iawn yn ystod y cyfnod o ran hyfforddi staff ac o ran gweithagreddau Portage;

 

viii.

yn yr un modd, bu’r athrawon arbenigol yn ymgymryd â nifer o gyrsiau hyfforddi a datblygiad proffesiynol pellach yn arwain at gymwysterau penodol mewn nifer o feysydd yn ogystal â derbyn cyflwyniadau ac arweiniad ar feysydd arbenigol.Gwelwyd dros 250 o ddisgyblion gan yr athrawon arbenigol yn ystod tymor yr Haf, 2006, gan gynnwys ymweliadau rheolaidd addysgu un i un ac ymweliadau monitro.Cynigiwyd arweiniad i ddisgyblion cyn-ysgol hyd at flwyddyn 13;

 

ix.

perfformiodd nifer o ddisgyblion â namau synhwyrol yn dda yn eu arholiadau allanol yn yr Haf, a braf yw gallu adrodd am lwyddiant arbennig dau ddisgybl dall/rhannol ddall yn eu arholiadau Lefel “A”  y maent bellach wedi cychwyn ar gyrsiau gradd yn y brifysgol;

 

x.

o ddod at waith gweinyddu prosesau statudol ac asesu, gwelwyd bod y nifer o ddisgyblion gyda datganiad ar Ynys Môn ar ei isaf ers Ionawr, 1998 sef 418. Mae gostyngiad sylweddol hefyd yn  y nifer o blant sy’n derbyn cymorth ychwanegol trwy’r Cynllun AAA 3* o 212 ym mis Ionawr, 2006 i 120 ym mis Hydref, 2006.Mae hyn wedi digwydd yn bennaf oherwydd i ddisgyblion yn yr uwchradd dderbyn cymorth trwy Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy yn dilyn y peilot i ddatganoli cyllidebau AAA i’r ysgolion.Yn yr un modd, mae’r nifer o ddisgyblion gyda datganiad yng Ngwynedd ar ei isaf ers o leiaf 9 mlynedd ond yn wahanol i Fôn, mae’r nifer o ddisgyblion sydd yn derbyn cymorth trwy’r Cynllun 3* wedi codi ychydig;

 

xi.

rhagwelir bydd y meini prawf anghenion addysgol arbennig newydd a’r bwriad i ddatganoli cyllid AAA i’r ysgolion yn effeithio ymhellach ar y niferoedd yn y ddau Awdurdod;

 

xii.

mae’r canran o ddisgyblion gyda datganiad yn Ngwynedd a Môn wedi gostwng yn sylweddol yn ddiweddar o 4.22% yn mis Ionawr, 2006 i 3.76% ym mis Hydref, 2006 ond pery i fod uwch na chanran Cymru (3.20% yn Ionawr, 2006);

 

xiii.

rhaid nodi i fwy o asesiadau statudol gael eu cwblhau’n wythnosol o fewn Uned Ddarparu’r Cyd-Bwyllgor nag unrhyw Awdurdod arall yng Nghymru yn 2004.Yn 2005, cwblhawyd mwy o asesiadau statudol yn wythnosol o fewn yr Uned Ddarparu nag unrhyw Awdurdod arall heblaw Caerdydd;

 

xiv.

mewn perthynas â thargedau ar gyfer 2007, amcanir at barhau i weithio ar y datblygiadau i uno Cynnal a’r Cyd-Bwyllgor; edrych ar waith data a’i ddefnyddio i geisio adnabod gwerth ychwanegol a chyd-weithio ymhellach gyda Cynnal ar y prosiect o leihau biwrocratiaeth yng nghyswllt AAA mewn ysgolion.

 

 

 

Diolchodd yr aelodau yn fawr iawn i’r swyddogion am adroddiad cynhwysfawr a chafwyd trafodaeth eang arno. Ymhlith y pynciau trafod, codwyd y materion canlynol -

 

 

 

Ÿ

cyfeiriwyd at swydd wag yr Asesydd Risg a phwysleisiwyd bwysigrwydd y swydd hon yng ngyhswllt y maes anghenion addysgol arbennig a’r angen i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gyflawni;

 

 

 

mewn ymateb adroddwyd y bwriedir ail-edrych ar ddyletswyddau’r swydd hon yng nghyd-destun cyfundrefn asesu risg y ddau Awdurdod. Mae’r maes hwn yn faes y mae’r gofynion ynddo yn cynyddu gyda mwy a mwy o ddisgyblion yn dod o fewn y categori. Yng ngoleuni hyn, mae gofyn ystyried ehangu’r capasiti yn y maes a chael cefnogaeth ychwanegol i’r swydd.

 

 

 

Ÿ

holwyd ynglyn â datganoli cyllid AAA i’r ysgolion a gofynnwyd gyda chyfeiriad penodol at Ynys Môn, a oes yna bryder ynghylch hyn o ystyried patrwm gwariant y sector uwchradd ym Môn.

 

 

 

Mewn ymateb, nodwyd bod gorwario ar integreiddio yn problem anodd ei datrys. Mae datganoli cyllid ym Môn wedi annog yr ysgolion uwchradd i dderbyn perchnogaeth o’r mater ac i weithredu’n fwy rhagweithiol i ddatrys problemau o fewn yr adnoddau sydd ganddynt.Ystyrir bod yna fanteision all ddeillio o ran gosod y cyfrifoldeb ar ysgol oherwydd bod yr ysgol yn y sefyllfa rheolaethol orau i ganfod beth sydd ei angen a sut i ddefnyddio adnoddau.Ymhellach, mae datganoli yn cynnig llwybr gyrfa i gymorthyddion hefyd o’r safbwynt fod yna ragor o ofynion am eu cyfranogiad yn y dosbarth sydd yn arwain at sefydlogrwydd swydd a chyfleoedd hyffordiant fydd yn y pen draw yn gwella’r gwasanaeth.

 

 

 

Ÿ

er cydnabod gwerth datganoli cyllid o ran ei fod yn hyrwyddo rheolaeth a datrys problemau yn lleol, nodwyd bod yna achosion lle mae gan rieni bryder ynghylch a yw eu plentyn yn derbyn y gefnogaeth arbenigol mae ef/hi ei hangen. Roedd yna deimlad gan aelodau bod angen lleddfu pryderon rhieni trwy sicrhau bod y genadwri uchod yn cael ei chyflwyno iddynt yn effeithiol.

 

 

 

Mewn ymateb, gwnaed y sylw y credir bod cryfhau’r hyfforddiant i gymorthyddion dosbarth a thrwy hynny creu pwl o arbenigedd yn gam yn y cyfeiriad iawn. Nodwyd yn ogystal bod rôl i rieni hefyd yn hyn o beth fel bod yna atgyfnerthu’r cymorth ychwanegol a roddir gan yr ysgol. Mae lle i ddatblygu’r potensial hwn fydd hefyd yn hyrwyddo gwella gwasanaeth.

 

 

 

Dygwyd sylw’r aelodau yn benodol at y prosiectau ymchwil arbennig a grybwyllwyd sydd yn cael eu cynnal yn yr ysgolion megis yn Ysgol Friars ac yn Ysgol Uwchradd Caergybi, a nodwyd eu bod yn rhoddi cyfle i’r awdurdodau ddysgu ohonynt ac i rannu’r profiadau gydag ysgolion eraill. Mae gweithgareddau fel hyn yn weithgareddau hollbwysig o ran gwella ansawdd gwasanaethau.

 

 

 

Bu i Swyddog Addysg AAA Ynys Môn ddwyn sylw’r aelodau at swydd y Cydlynydd 3* ac i’r ffaith nad yw hon yn swydd barhaol ar sefydliad y Cyd-Bwyllgor a’i bod wedi’i chreu i ymateb i’r newid pwyslais o ddatganiadau i’r Cynllun 3* sydd wedi creu gofynion newydd.Bydd yn rhaid i’r ddau Awdurdod ystyried sut maent yn dymuno ymdrin â’r swydd  - mae’r capasiti yn bresennol yn cael ei gyllido o’r balansau ond nid yw’r sefyllfa hon yn gynaladwy yn y tymor hir.

 

 

 

     Penderfynwyd derbyn yr adroddiad ar weithgareddau’r Uned Darparu AAA yn ystod tymor yr Haf, 2006, gan nodi’r wybodaeth a chan ddiolch i’r swyddogion am fanylder yr adroddiad.

 

 

 

5

ADRODDIAD ARIANNOL

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad gan Bennaeth Gwasanaeth Cyllid Cyngor Gwynedd yn ymgorffori adolygiad o gyllideb 2006/07.

 

      

 

     Bu i’r Uwch Gyfrifydd Addysg adrodd ar y prif ystyriaethau fel a ganlyn -

 

      

 

i.     dengys adolygiad o’r gyllideb, ar hyn o bryd, danwariant o £39,840 i’w briodoli i’r ffactorau a nodir isod:

 

      

 

Ÿ

£44,640 Seicolegwyr      -     swydd wag Uwch Seicolegydd                                        -     absenoldeb mamolaeth

 

Ÿ

£5,660 Athrawon          -     costau cyflenwol yn is na chostau’r sefydliad

 

Ÿ

£2,690 Cynhaliaeth         

 

 

 

Llai

 

 

 

Ÿ

£10,760 Costau hysbysebu swyddi gwag (Rheolwr ac Asesydd Risg)

 

Ÿ

£2,390   Staff Gweinyddol - costau cyflenwol uwchben y sefydliad.

 

 

 

ii.     bydd canlyniad y tanwariant yn ddibynnol ar allu’r Cyd-Bwyllgor i benodi i’r swydd wag a hefyd, amseriad y penodiad.Disgwylir gweld cynnydd yn y costau hysbysebu swyddi.Mae cyllid ar gael o fewn y gyllideb i alluogi’r Cyd-Bwyllgor wneud trefniadau dros dro er mwyn cyflawni gwasanaethau yn y cyfnod interim.

 

      

 

Gwnaed y sylw nad yw effaith unrhyw arbedion effeithlonrwydd y mae disgwyliad ar yr awdurdodau i’w gweithredu yn gynwysiedig yn y gyllideb.

 

 

 

     Penderfynwyd derbyn yr adolygiad o gyllideb 2006/07 a nodi’r wybodaeth.

 

 

 

      

 

                 Cynghorydd Mrs B.Burns, MBE

 

                   Cadeirydd