Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig (dadgomisiynwyd 31 Awst, 2017) dogfennau , 16 Mawrth 2007

Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig (dadgomisiynwyd 31 Awst, 2017)
Dydd Gwener, 16eg Mawrth, 2007

CYD-BWYLLGOR ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mawrth, 2007

 

YN BRESENNOL:

 

Cynghorydd Arwel Jones (Cadeirydd) (Cyngor Gwynedd)

 

Cyngor Gwynedd

 

Cynghorwyr  Mrs Sylvia Humphreys, W.M.Meredith

 

Cyngor Sir Ynys Môn

 

Cynghorwyr Mrs Fflur Hughes, Gwilym O.Jones, R.Llewelyn Jones

 

Cynghorydd J.M.Davies (Aelod Portffolio Addysg  a Dysgu Gydol Oes)

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden (Ynys Môn)

Pennaeth Gwasanaeth Ysgolion (Gwynedd)

Prif Seicolegydd Addysgol (AB)

Swyddog Addysg Anghenion Addysgol Arbennig (Ynys Môn) (MR)

Uwch Gyfrifydd Addysg (Gwynedd) (KB)

Swyddog Pwyllgor (ATH)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Cynghorydd Brian Jones (Gwynedd), Cynghorwyr Mrs B.Burns, MBE, Bryan Owen (Ynys Môn), Parch Tegid Roberts (Yr Eglwys yng Nghymru), Mr Rheinallt Thomas (Eglwysi Rhyddion)

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Mr Gareth Williams (Prif Weithredwr Cynnal)

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Datganodd y Cynghorydd R.Llewelyn Jones ddiddordeb cyffredinol ar sail cyflogaeth ei ferch mewn ysgol yn Ynys Môn.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd a llofnodwyd fel rhai cywir, cofnodion cyfarfod blaenorol y Cyd-Bwyllgor a gynhaliwyd ar

10 Tachwedd, 2006. (Cofnodion y Cyngor 14.12.2006, tud 93 - 97)

 

3

ADRODDIAD YR UNED DDARPARU

 

Cyflwynwyd - Adroddiad yr Uned Ddarparu am Dymor yr Hydref, 2006, gyda chyfeiriad penodol at yr hyn sydd wedi dylanwadu ar waith yr Uned Ddarparu wrth iddi geisio cyflawni ei dyletswyddau yn ystod y cyfnod ynghyd â’r nifer o ddisgyblion gydag anghenion addysgol arbennig sydd wedi derbyn darpariaeth gan y ddau awdurdod addysg trwy brosesau a weinyddir gan yr Uned.

 

 

 

Adroddwyd ynghylch y prif bwyntiau fel a ganlyn -

 

 

 

3.1

Gweithgareddau Cyffredinol

 

 

 

Ÿ

Parheir gyda’r trefniadau interim a roddwyd yn eu lle mewn perthynas â rheolaeth a gweinyddiaeth gwahanol agweddau o waith yr Uned tra bod trafodaethau ynglyn ag uno gwasanaethau’r Cyd-Bwyllgor a Cynnal yn mynd rhagddynt. Ymhelaethwyd ar y trefniadau hyn yng nghyfarfod blaenorol y Cyd-Bwyllgor ym mis Tachwedd, 2006;

 

Ÿ

cynhaliwyd cyfarfod rhwng holl staff y Cyd-Bwyllgor a Phrif Weithredwr Cynnal er mwyn rhoddi iddynt drosolwg o’r sefyllfa gyfredol a’r posibilrwydd o, a threfn unrhyw gyfuno;

 

Ÿ

rhoddwyd ystyriaeth bellach i geisio sefydlu un endid rhwng Cynnal a’r Cyd-Bwyllgor ac adroddir yn fwy manwl ar y camau a gymerwyd hyd yma yn nes ymlaen ar raglen y cyfarfod.

 

 

 

3.2

Gwasanaethau

 

 

 

Ÿ

mewn perthynas â gwasanaethau, bu’r Gwasanaeth Therapi Cerdd yn gweithio’n bennaf yn yr Unedau Asesu Cyn-Ysgol gyda phlant gydag anawsterau iaith a chyda plant sydd â’u hanawsterau ar y sbectrwm awtistig, mewn cyd-weithrediad â Chanolfan Gerdd William Mathias. Cynhaliwyd 11 diwrnod hyfforddiant gogyfer y Mudiad Ysgolion Meithrin a chafwyd adborth cadarnhaol iawn;

 

Ÿ

cyfarfu’r grwp Cyswllt Iechyd-Addysg unwaith yn ystod y tymor a phrif eitem trafod y cyfarfod hwnnw oedd dyfodol a ffurf y grwp.Penderfynwyd byddai’n fanteisiol parhau gyda’r grwp i bwrpasau cyfnewid a rhannu gwybodaeth yn y ddwy asiantaeth, fel fforwm i godi materion pwysig ynddi ac i godi ymwybyddiaeth.

 

 

 

3.3

Gwasanaeth Seicoleg Addysgol

 

 

 

Ÿ

bu’r tymor yn un cymharol drwm i’r gwasanaeth oherwydd prinder staff (1 swydd wag ac 1 cyfnod mamolaeth) gyda dim ond un diwrnod yn cael ei gyflenwi gan seicolegydd dros dro. Fodd bynnag, yn Rhagfyr, 2006, cynhaliwyd cyfweliadau a phenodwyd i’r swydd uwch Seicolegydd Addysgol;

 

Ÿ

bu’r Gwasanaeth Seicoleg Addysgol yn weithgar yn ystod y cyfnod yn y maes codi safonau addysgiadol a chafodd seicolegydd ei gwahodd gan y Gymdeithas Seicoleg Brydeinig i siarad am ei maes arbenigedd (hunan-niweidio) mewn cynhadledd iechyd meddwl yn yr Alban;

 

Ÿ

hefyd, bu’r seicolegwyr yn brysur yn eu hysgolion yn ymateb i gyfeiriadau gan ddefnyddio’r dull ymgynghori a ffocysu ar ddatrysiad; mae hyn yn galluogi’r gwasanaeth i fod yn fwy ataliol wrth ymwneud ag ysgolion;

 

Ÿ

cafwyd ymateb cadarnhaol i’r hyfforddiant a roddwyd yng Ngwynedd ar y Cynllun Ymddygiad Unigol a grewyd gan y Gwasanaeth Seicoleg Addysgol. Bu i bob athro/awes a chymhorthydd cynradd dderbyn yr hyfforddiant hwn ar sut i ffocysu ar ddatrysiadau i anawsterau ymddygiadol. Rhoddwyd hyfforddiant ar ddulliau o ffocysu ar ddatrysiadau i weithwyr Cynllun Datgloi Potensial ym Môn;

 

 

 

3.4

Gweithio’n Aml-Asiantaethol

 

 

 

Ÿ

rhydd yr adroddiad enghreifftiau o weithio’n aml-asiantaethol a chyda’r pennaf ohonynt yw cwrs hyfforddi sylweddol a roddir yn y Gwanwyn gan arbenigwr ym maes therapi byr/ffocysu ar ddatrysiad. Mae’r Gwasanaeth Seicoleg Addysgol wedi gwahodd gweithwyr o’r sector Iechyd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn ogystal â chydweithwyr eraill o fewn y ddau awdurdod addysg i gyfranogi yn y cwrs er mwyn iddynt hwythau ddeall y cyfeiriad mae’r Gwasanaeth Seicoleg Addysgol yn ei gymryd a’r dulliau newydd mae’n eu defnyddio;

 

Ÿ

mae’r Prif Seicolegydd Addysgol wedi bod yn mynychu cyfarfodydd sy’n edrych ar Wasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc yng Ngogledd Orllewin Cymru, a hefyd ar draws Gogledd Cymru gyda golwg ar greu gwell cydweithio a dealltwriaeth o’r cyfrifoldebau rhwng Iechyd, Addysg, Gwasanaethau Cymdeithasol a’r holl weithwyr/asiantaethau gwirfoddol sy’n defnyddio’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) ar hyn o bryd;

 

Ÿ

fel gwasanaeth, mae gwaith y seicolegwyr addysgol fel aelodau o’r Gwasanaeth Arbenigol Plant yn parhau a cheir y cydweithio agos yma’n hynod o fuddiol i les plant.

 

 

 

3.5

Gwasanaeth Cyn-Ysgol

 

 

 

Ÿ

pery’r gwasanaeth Cyn-Ysgol i gefnogi a monitro’r plant ieuengaf yn y ddau awdurdod trwy ei waith gyda’r unedau cyn-ysgol, y Mudiad Meithrin, staff y blynyddoedd cynnar o fewn ysgolion ynghyd â gweithwyr o asiantaethau eraill;

 

Ÿ

ar hyn o bryd, mae 75 o blant yn yr Unedau Asesu Cyn-Ysgol, 31 ar Restr Aros a 56 yn cael eu monitro;

 

Ÿ

dan arweiniad y Seicolegydd Blynyddoedd Cynnar, mae’r athrawon unedau wedi bod yn edrych ar ddulliau o asesu plant ifanc.Maent wedi defnyddio proffil asesu cyn ysgol o dan benawdau’r Canlyniadau Dymuno;

 

Ÿ

mae’r Gwasanaeth Portage yn parhau i weithredu’n llwyddiannus ar draws yr Awdurdodau Addysg Lleol.

 

 

 

3.6

Gwasanaeth Athrawon Arbenigol

 

 

 

Ÿ

bu’r Athrawon Arbenigol yn ymwneud â nifer o gyrsiau hyfforddiant a datblygiad proffesiynol yn ystod y tymor ynghyd â chyfranogi mewn cyfarfodydd a chyflwyniadau gyda gweithwyr o gyrff ac asiantaethau eraill gan gynnwys gyda staff iechyd yn Ysbyty Gwynedd yn yr adrannau awdioleg ac opthalmeg ar waith a rôl yr athrawon arbenigol a chyda aelodau GAP Dwyfor ymhlith eraill;

 

Ÿ

trefnwyd ymweliad a chyfarfod i ddisgyblion byddar gan un o’r athrawon nam clyw a pharheir y gwaith o ymweliadau addysgu, monitro ac asesu gan yr athrawon arbenigol yn ystod y tymor. At hynny, secondiwyd athrawes llawn amser i gyd-weithio a chynorthwyo’r tîm anabledd corfforol/meddygol am flwyddyn, gyda’r secondiad wedi cychwyn ers mis Medi, 2006;

 

 

 

3.7

Gweinyddu Prosesau Asesu ac Adolygu

 

 

 

Ÿ

yn y swyddfa, medrwyd gwneud trefniadau cyflenwol boddhaol mewn ymateb i absenoldeb salwch estynedig.Cyflogwyd Cydlynydd 3* dros dro am 2 ddiwrnod yr wythnos, gan ddefnyddio arian o’r balansau;

 

Ÿ

daeth meini prawf newydd ar gyfer asesu statudol a 3* i rym ym mis Medi, 2006, ac mae hyn wedi golygu newid yn nulliau gweithio’r Cydlynwyr Datganiadau;

 

Ÿ

trefnwyd i’r Cydlynydd Datganiadau Cynorthwyol wneud gwaith ychwanegol er mwyn cynorthwyo gyda’r gwaith o brosesu adolygiadau blynyddol disgyblion Blwyddyn 6 ac fe ryddhawyd yr Uwch Swyddog Gweinyddol am gyfnodau i weithio gyda Cynnal ar y prosiect lleihau biwrocratiaeth.

 

 

 

3.8

Asesu Statudol, Llunio Datganiadau a’r Cynllun 3*

 

 

 

Ÿ

dengys Tabl 1 yr adroddiad bod 427 o ddisgyblion yn Ynys Môn gyda datganiad o anghenion addysgol arbennig ym mis Ionawr, 2007 o’i gymharu â 467 ym mis Ionawr, 2006. Fodd bynnag, mae’r nifer o ddisgyblion sy’n derbyn cymorth trwy gyfrwng y Cynllun 3*  yn sefyll ar 234 ym mis Ionawr, 2007 o’i gymharu â 212 ym mis Ionawr, 2006. Rhydd hyn gyfanswm o 661 o ddisgyblion ym Môn sy’n derbyn cymorth unigol trwy drefn a reolir yn ganolog, sef 6.6% o’r boblogaeth ysgol;

 

Ÿ

yng Ngwynedd, mae’r nifer o ddisgyblion gyda datganiad ar ei isaf ers 9 mlynedd, sef 647 o’i gymharu â 730 ym mis Ionawr 1998 a 738 ym mis Ionawr, 2006. Mae 472 o blant o fewn y sir yn derbyn cymorth ychwanegol trwy gyfrwng y Cynllun 3* o’i gymharu â 419 ym mis Ionawr, 2006. Rhydd hyn gyfanswm o 1,119 o ddisgyblion yng Ngwynedd sy’n derbyn cymorth unigol trwy drefn a reolir yn ganolog, sef 6.2% o’r boblogaeth ysgol;

 

Ÿ

mae’r canran o ddisgyblion gyda datganiad yng Ngwynedd a Môn wedi gostwng yn ddiweddar - 3.58% yng Ngwynedd ym mis Ionawr, 2007 (4.03% yn Ionawr, 2006) a 4.27% ym Môn ym mis Ionawr, 2007 (4.55% yn Ionawr, 2006), ond mae’n parhau i fod yn uwch na chanran Cymru (3.2% yn Ionawr, 2006);

 

Ÿ

mae’r nifer o asesiadau statudol sydd ar y gweill wedi aros yn eithaf sefydlog yng Ngwynedd ac ar Ynys Môn yn y 12 mis diwethaf (17 yng Ngwynedd a 18 ym Môn ar 31 Rhagfyr, 2006).

 

 

 

Adroddwyd ymhellach mewn perthynas â’r ystadegau ym mharagraff 3.8 uchod y credir bod lle i gadw golwg ar y data yma yn arbennig y cynnydd yn y nifer o ddisgyblion sy’n derbyn cymorth trwy gyfrwng y Cynllun 3* a’r ffaith bod y ganran o ddisgyblion ym Môn a Gwynedd gyda datganiad yn parhau i fod yn uwch na chanran Cymru. Dygodd Swyddog Addysg (AAA) Ynys Môn sylw at y ffaith bod newid pwyslais wedi digwydd o ddarparu ar gyfer plant ag anghenion arbennig trwy ddatganiad i ddarparu ar eu cyfer trwy’r Cynllun Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy.  Ni welwyd effaith gweithredu’r meini prawf newydd hyd yma a gwir dweud mai ychydig iawn o geisiadau am gymorth ychwanegol a wrthodir sy’n tystio at y ffaith bod y lefel o angen yn parhau’n uchel yn y ddwy sir. Serch hynny, mae’r ystadegau yn nhabl 4.2.4 yr adroddiad sy’n dangos bod yna ostyngiad wedi bod yn y nifer o ddisgyblion yn y ddwy sir sydd gyda datganiad, ac yn nhabl 4.2.5 sy’n awgrymu bod y nifer o asesiadau statudol wedi sefydlogi ar y cyfan yn cyfleu cenadwri galonogol. Mae’r data mewn perthynas â’r nifer o ddisgyblion sydd angen cymorth ychwanegol ym Môn yn achos peth pryder - mae’n tanlinellu’r ffaith fod yna nifer uchel blant gydag anghenion dwys o fewn poblogaeth y sir.

 

 

 

Ategodd Pennaeth Gwasanaeth Ysgolion Cyngor Gwynedd y sylwadau uchod a nododd bod yr un math o duedd yn perthnasu i Wynedd hefyd ac er gwneud cryn ymdrech i leihau’r nifer o blant sydd gyda datganiad, nid yw’r nifer o ddisgyblion yn yr ysgolion sydd ag anghenion addysgol arbennig y mae angen cymorth ychwanegol arnynt yn gostwng. Nid oes yna leihad wedi bod yn y gofyn am fewnbwn gan y Cynllun 3*, ac felly nid oes lleihad wedi bod yn y gwariant.

 

 

 

Crynhodd y Cadeirydd y drafodaeth drwy sylwi y dylai’r Cyd-Bwyllgor felly fod yn ymwybodol o’r ffaith nad oes newid wedi bod yn y galw am gymorth ychwanegol.

 

 

 

Cyfeiriodd Swyddog Addysg (AAA) Ynys Môn at y Gwasanaeth Athrawon Arbenigol a rhoddodd wybod i’r aelodau bod angen edrych ar y tîm o ran dosbarthiad pwysau gwaith. Gweithia’r tîm o dan bwysau sylweddol ac amserol yw edrych ar y capasiti oddi mewn iddo.

 

 

 

Cytunodd y Cadeirydd ei fod yn fater y dylid ei nodi.

 

 

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad ar waith yr Uned Ddarparu AAA yn ystod tymor yr Hydref, 2006 gan nodi ei gynnwys a chan ddiolch i’r swyddogion am eu mewnbwn.

 

 

 

4

AIL-STRWYTHURO CYNNAL A’R CYD-BWYLLGOR AAA

 

 

 

Cyflwynwyd - Adroddiad yn ymgorffori ffrwyth adroddiad a gomisiynwyd gan gwmni Windsor & Associates mewn perthynas â’r opsiynau ar gyfer sefydliad newydd cyfunol Cynnal a’r Cyd-Bwyllgor AAA.

 

 

 

Bu i Bennaeth Gwasanaeth Ysgolion Cyngor Gwynedd atgoffa’r aelodau yr adroddwyd iddynt yng nghyfarfod diwethaf y Cyd-Bwyllgor am rhai o’r rhesymau sy’n ysbarduno’r broses i ddod â sefydliadau’r Cyd-Bwyllgor a Chwmni Cynnal ynghyd, ac fe osodir allan drachefn y rhesymau hynny yn yr adroddiad uchod gan gynnwys rhaglen Llywodraeth y Cynulliad - Gwneud y Cysylltiadau, Deddf Plant, 2004 a chynnwys y Cynllun Addysg Sengl. Ymhlith y pennaf ohonynt o safbwynt atebolrwydd yr awdurdodau yw deilliannau arolygiadau, ac mae dau adroddiad diweddar Estyn (Gwella Ysgolion ac Anghenion Addysgol Arbennig) yn nodi’r angen i adolygu’r strwythur er mwyn hyrwyddo cydweithio rhwng y ddau wasanaeth.Mae cynllun gwella’r ddau awdurdod yn nodi’r bwriad i roi sylw i hyn.

 

 

 

Yn dilyn cyfarfod y Cyd-Bwyllgor ym mis Tachwedd 2006, aethpwyd ati i gomisiynu adolygiad dichonolrwydd gan gwmni arbenigol o ran pa fath o fodelau gweithredu fyddai’n gweddu i’r corff newydd.Bellach, derbyniwyd adroddiad cynhwysfawr sydd yn amlinellu manteision ac anfanteision y gwahanol ddewisiadau.

 

      

 

     Y tri opsiwn a nodwyd fel posibiliadau yw -

 

      

 

Ÿ

model craidd a masnach lle mae agweddau mwy statudol eu naws yn cael eu rhedeg gan gyd-bwyllgor ac agweddau marchnadol yn cael eu rhedeg gan gwmni;

 

Ÿ

cyd-bwyllgor sy’n ymdebygu i’r strwythur mae’r Cyd-Bwyllgor AAA yn ei weithredu yn bresennol;

 

Ÿ

cwmni wedi’i gyfyngu drwy warant sy’n debyg i’r Cynnal presennol.

 

 

 

     Diystyrwyd yr opsiwn cyntaf am ei fod yn gweddu’n well i awdurdodau poblog dinesig. O ran y ddau opsiwn arall, mae’r adroddiad annibynnol yn pwyso’n drwm tuag at gwmni wedi’i gyfyngu trwy warant, a hynny am y rhesymau canlynol -

 

      

 

      

 

Ÿ

byddai’r cyfleoedd i arloesi a’r pwysau i weithredu sydd wedi llwyddo i siapio Cynnal yn bodoli yn achos pob gwasanaeth. Mae Cynnal yn cael ei weld fel endid effeithlon ac mae’r ddisgyblaeth o weithredu fel cwmni wedi cymell Cynnal i geisio lleihau costau cyn belled â phosibl;

 

Ÿ

byddai “brand” llwyddiannus Cynnal yn cael ei gadw;

 

Ÿ

byddai’r pwysau ar gostau a biwrocratiaeth cyd-bwyllgor yn gostwng;

 

Ÿ

byddai’n llawer haws bod yn rhan, mewn ffordd glir a hylaw, o unrhyw drefniadau Gogledd Cymru ehangach;

 

Ÿ

byddai gan bob gwasanaeth gyfle i fasnachu a datblygu’u darpariaeth yn well i fod yn fwy addas i ddymuniadau ysgolion, ar y cyd â’r gwasanaethau hynny a brynir ac a nodir gan y cynghorau;

 

Ÿ

byddai cwmni llwyddiannus ac adnabyddus yn gymorth i herio dyheadau’r sector annibynnol i gael mynediad i’r farchnad ysgolion cyfrwng Cymraeg;

 

Ÿ

mae’r math hwn o bartneriaeth yn cyd-fynd â rôl yr Awdurdod Lleol modern, h.y. comisiynydd, eiriolwr a sicrhau ansawdd;

 

Ÿ

gellid delio’n haws â dyraniad annheg gyda threfniadau cytundebol;

 

Ÿ

daw statws cwmni cyfyngedig â phwysau buddiol a fyddai’n annhebygol, mewn gwirionedd, o godi o dan opsiwn cyd-bwyllgor.

 

 

 

     Nodir hefyd, os rhoddir pwyslais ar sicrhau bod y sefydliad newydd dan reolaeth cynghorau Môn a Gwynedd, mai strwythur cwmni cyfyngedig a reolir trwy warant yw’r opsiwn a ffafrir.Gofynnir felly am gefnogaeth y Cyd-Bwyllgor i barhau gyda’r gwaith o ddatblygu ymhellach y syniad o dderbyn strwythur addas ar gyfer cyfuno’r Cyd-Bwyllgor AAA a Chwmni Cynnal i’r dyfodol, ac yn benodol, y cysyniad o gwmni wedi’i gyfyngu drwy warant. Os yn gefnogol i’r cynnig hwn i symud ymlaen, gofynnir i’r Cyd-bwyllgor ystyried yn ogystal, enwebu aelod o’i blith i ymuno â’r swyddogion perthnasol ac aelod cyfatebol o Bwyllgor Rheoli Cwmni Cynnal i adnabod y tasgau sydd angen ymgymryd â nhw a throsi hynny wedyn yn gynllun prosiect pwrpasol.

 

      

 

     Adroddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden Ynys Môn y sefydlwyd y gweithdrefnau presennol yn 1996 ar ffurf dau sefydliad ar wahân, y naill yn ymwneud ag elfennau mwy statudol a’r llall ag elfennau mwy masnachol am y dyna y bernir yn orau bryd hynny er y cafwyd trafodaeth ar y pryd ynglyn â sefydlu un corff cyfansawdd. Erbyn hyn, mae Cwmni Cynnal wedi ymsefydlu fel corff adnabyddus ac iddo barch ac enw da fel esiampl o ymarfer da o ran cydweithio - mae ar seiliau cadarn a ganddo hanes profiedig o weithredu effeithiol. O gynnal dau sefydliad, yn anorfod ceir elfen o ddyblygu gwaith, ceir dau set o orbenion a hefyd tueddir i raddau i adrannu’r gwasanaeth yn ymgynghorwyr ac yn seicolegwyr er bod yna agweddau cyffredin i waith y ddau grwp. Dyma fu i arolygwyr Estyn ei ganfod a bu iddynt dynnu sylw at y ffaith bod lle i ddod â’r ddau dîm ynghyd a’u cyfuno mewn uned gyfansawdd i ddarparu strategaeth cefnogi ysgolion. I bwrpas hyblygrwydd a gwarchod y bartneriaeth gyda’r ysgolion, y cynnig yw  dod â’r Cyd-Bwyllgor o dan fantell Cynnal. At hynny, mae yna symudiadau cyfochrog i annog ffordd o weithio ar sail ranbarthol lle byddir yn gweld chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru yn cyd-weithredu ar raddfa fwy eang yn enwedig mewn perthynas â’r ddarpariaeth anghenion addysgol arbennig tra’n parchu hawliau, buddiannau a sofraniaeth yr awdurdodau unigol. Fodd bynnag, pwysleisir, am fod y maes yn ymwneud ag anghenion plant bregus, nad yw’r cyd-bwyllgor a’r persbectif AAA yn cael eu traflyncu, a bod gofyn cadw grwp fydd yn gofalu am yr agwedd hon yn benodol. Y bwriad yw gwarchod y gorau o’r ddwy gyfundrefn tra’n ceisio sicrhau bod yr awdurdodau yn ymateb i’r galw cynyddol i weithio mewn ffordd sydd yn fwy effeithiol, effeithlon ac yn fwy deallus.

 

      

 

     Roedd consensws ymhlith yr aelodau bod y cynnig i gyfuno’r Cyd-Bwyllgor a Chwmni Cynnal ar y llinellau a amlinellir yn ddatblygiad i’w dderbyn ar y sail ei fod yn amserol bellach adolygu’r trefniadau presennol er mwyn ymateb i’r agenda foderneiddio a’r disgwyliad bod awdurdodau lleol yn gweithredu mewn ffordd fwy effeithlon sydd yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau. Codwyd y pwyntiau trafod canlynol ar y wybodaeth a gyflwynwyd -

 

      

 

Ÿ

gofynnwyd a oes yna bosibilrwydd o wrthdaro rhwng yr elfen statudol a’r elfen fasnachol mewn endid sy’n cyfuno’r ddwy agwedd?

 

 

 

Ymatebwyd bod Cynnal eisoes yn cyflawni agweddau statudol ar ran yr awdurdodau megis goruchwylio safonau yn yr ysgolion, ac o sicrhau bod trefniadau comisiynu, rheoli ac atebolrwydd priodol a chadarn yn eu lle, ni ddylai hynny fod yn rhwystr. Mae yna werthoedd cytunedig pendant yn sail i Gwmni Cynnal ac mae’r gwerthoedd hynny sydd yn gyffredin i’r ddau awdurdod wedi gwasanaethu’r ddau gyngor a’u hysgolion yn arbennig yn ystod y degawd diwethaf. Buddiannau’r ddau awdurdod sy’n flaenllaw gan y cwmni, ac fe fasnachir ond i’r graddau mae hynny wedyn yn ei dro yn cryfhau, ehangu ac yn gwella’r gwasanaethau hynny gogyfer defnydd y ddau awdurdod. Mae sefydlu Cwmni Cynnal wedi galluogi Awdurdodau Môn a Gwynedd dderbyn lefel gymaint uwch o ddarpariaeth na fyddai’r ddau awdurdod unigol yn gallu ei gynnig. Diben bodolaeth Cynnal yw nid cynhyrchu elw ynddo’i hun, ond defnyddio cyfleoedd i ddenu incwm i mewn i gyfoethogi, ymestyn a gwella ystod y ddarpariaeth a gynigir yn fewnol i ysgolion Ynys Môn a Gwynedd. Mae’n farchnad ac iddi botensial eang a rhaid rheoli lefel y busnes; fodd bynnag mae perchnogaeth y ddau awdurdod a’u haelodau ar y gyfundrefn yn gadarn ac nid yw’r cwmni yn gweithredu’n groes i’w gwerthoedd na’u dyheadau.

 

 

 

Ÿ

gofynnwyd a oedd yna ddiweddaru staff ynglyn â’r datblygiadau?

 

 

 

Ymatebwyd pan sefydlwyd y gweithdrefnau presennol yn 1996 roedd yna ymdrech fwriadus i sicrhau bod staff yn ymwybodol o’r datblygiadau. Credir ei fod yn hollbwysig glynu at yr un drefn y tro hwn hefyd. Cynhaliwyd cyfarfodydd eisoes gyda’r seicolegwyr, yr athrawon arbenigol a staff uned weinyddol y Cyd-Bwyllgor yn eu tro fel eu bod yn gwybod ac yn deall yr hyn sy’n digwydd. Bydd cynnal proses o gyfathrebu rheolaidd gyda staff yn ystod y misoedd i ddod yn hanfodol bwysig.

 

 

 

Penderfynwyd -

 

 

 

4.1     Cefnogi parhau gyda’r gwaith o ddatblygu ymhellach y syniad o dderbyn strwythur addas ar gyfer cyfuno’r Cyd-Bwyllgor AAA a Cynnal i’r dyfodol, ac yn benodol, y cysyniad o gwmni wedi’i gyfyngu drwy warant;

 

4.2     Enwebu’r Cynghorydd Arwel Jones i wasanaethu ar ran y Cyd-Bwyllgor ar dasglu i adnabod y  tasgau ynghlwm wrth y broses o gyfuno’r ddau sefydliad, ac i dynnu allan gynllun prosiect pwrpasol.

 

      

 

5

SWYDD YR ASESYDD RISG

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad gan Swyddog Addysg Anghenion Addysgol Arbennig Ynys Môn ynglyn â’r sefyllfa mewn perthynas â swydd yr Asesydd Risg.

 

      

 

     Adroddodd y Swyddog Addysg Anghenion Addysgol Arbennig fel a ganlyn -

 

      

 

Ÿ

bod cyllid ar gael yng nghyllideb y Cyd-Bwyllgor i gyflogi asesydd risg am 116 diwrnod y flwyddyn.Rôl yr asesydd yw sicrhau bod Awdurdodau Ynys Môn a Gwynedd yn cyflawni eu dyletswyddau statudol mewn perthynas ag iechyd a diogelwch disgyblion ag anableddau corfforol a’r rhai a gyflogir i ofalu amdanynt yn ysgolion y ddau awdurdod;

 

Ÿ

bu’r swydd yn wag ers ymddiswyddiad y deilydd diwethaf ym mis Mai, 2006 ac er y llwyddwyd i lenwi’r swydd yn wreiddiol, bu i’r sawl a benodwyd penderfynu na allai ymgymryd â’r swydd.Yn sgîl hynny, prynwyd gwasanaeth cwmni annibynnol i ymgymryd â’r gwaith;

 

Ÿ

bernir mai gwan iawn yw’r rhagolygon i fedru llenwi’r swydd fel y mae.Byddai unrhyw unigolyn a benodir yn debygol o fod angen dilyn cwrs hyfforddi i fod yn gymwys i gyflawni’r cyfan o’r dyletswyddau;

 

Ÿ

mae digon o waith i asesydd risg ei wneud ac mae’r gofynion yn debygol o gynyddu. Fodd bynnag, mae rhai ystyriaethau pellach y dylir rhoi sylw iddynt:

 

 

 

Ÿ

mae’r achosion ar wasgar ar draws y ddwy sir - gellir bod mantais effeithlonrwydd o gael mwy nag un yn cyflawni’r swyddogaeth;

 

Ÿ

er ei bod yn fanteisiol o ran cyd-weithio gyda’r athrawon, seicolegwyr ac ysgolion o gael asesydd risg wedi’i leoli yn yr Uned Ddarparu, mae’r asesydd yn ynysig iawn o ran sefyllfa waith ac mae perygl i hyn arwain at ddiffyg cefnogaeth broffesiynol a llinell reolaeth annigonol;

 

Ÿ

mae angen cydymffurfio â chyfundrefnau iechyd a diogelwch y ddau awdurdod;

 

Ÿ

mae newidiadau sylweddol wedi bod yng nghyfundrefnau iechyd a diogelwch y ddau Gyngor ers sefydlu’r swydd asesydd risg o fewn y Cyd-Bwyllgor;

 

 

 

Ÿ

yng ngoleuni’r ffactorau uchod felly, argymhellir bod y trefniadau er sicrhau cydymffurfio â gofynion statudol iechyd a diogelwch ar gyfer disgyblion ag anableddau a’u gofalwyr mewn ysgolion yn cael eu gwneud o hyn allan drwy gyfundrefnau iechyd a diogelwch y ddau awdurdod yn hytrach na chan Asesydd Risg yn y Cyd-Bwyllgor. Dylid addasu cyllideb y Cyd-Bwyllgor i adlewyrchu hynny.

 

 

 

     Nododd yr Uwch Gyfrifydd Addysg bod £13,000 o fewn cyllideb y Cyd-Bwyllgor gogyfer cyflogi Asesydd Risg yn rhan amser.O drosglwyddo’r trefniadau asesu risg i’r ddau awdurdod byddai’r cyllid hwnnw hefyd yn dychwelyd i’r ddau awdudrdod ar sail rhaniad o oddeutu 40% i Ynys Môn a 60% i Wynedd.

 

      

 

     Penderfynwyd mabwysiadu argymhelliad yr adroddiad bod y trefniadau er sicrhau cydymffurfio â gofynion statudol iechyd a diogelwch ar gyfer disgyblion ag anableddau a’u gofalwyr mewn ysgolion yn cael eu gwneud o hyn allan drwy gyfundrefnau iechyd a diogelwch y ddau awdurdod yn hytrach na chan Asesydd Risg yn y Cyd-Bwyllgor, a bod cyllideb y Cyd-Bwyllgor yn cael ei haddasu i adlewyrchu hynny.

 

      

 

6

ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

 

      

 

     Bu i Swyddog Addysg Anghenion Addysgol Arbennig Ynys Môn adrodd wrth aelodau’r Cyd-Bwyllgor am y newid sydd yn digwydd yn y ffordd yr ymagweddir tuag at anghenion addysgol arbennig, sef newid sy’n gweld symudiad o “integreiddio” i “gynhwysiad” ac o ddiffinio anghenion fel rhai “arbennig” i rai “ychwanegol.”

 

      

 

     Cyfeiriodd y Swyddog Addysg AAA at y ffactorau sy’n tanlinellu’r newid meddylfryd uchod ynghyd â nodweddion y newid fel a ganlyn -

 

      

 

Ÿ

bod swyddogaeth y Cyd-Bwyllgor AAA yn seiliedig ar Rhan 4 Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf AAA ac Anabledd 2001 ynghyd â Chôd Ymarfer AAA Cymru 2002;

 

Ÿ

diffinnir anghenion addysgol arbennig fel anhawster (anawsterau) sy’n rhwystro plentyn rhag gwneud cynnydd addysgol heb gymorth ychwanegol. Mae’r Côd Ymarfer yn didoli anawsterau dysgu yn bedwar categori:

 

 

 

Ÿ

cyfathrebu a rhyngweithio sy’n cynnwys plant ar y sbectrwm awtistiaeth;

 

Ÿ

gwybyddiaeth a dysgu - mae nifer fawr o blant yn dod o fewn y categori yma ac fe all yr ôl-gynnydd fod yn gymhedrol neu’n ddwys;

 

Ÿ

ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol - rhaid cofio nad ystyrir  bod gan blant sydd yn camymddwyn o reidrwyddd anghenion addysgol arbennig; rhaid i’r anhawster ymddwyn effeithio ar allu’r plentyn i ddysgu iddo gael ei ystyried bod angen sylw pellach arno/arni;

 

Ÿ

anghenion synhwyraidd neu gorfforol - gall anghenion plant sy’n dod o fewn y categori yma fod yn gymhleth iawn fel bod angen mewnbwn aml-asiantaethol arnynt. Cynhwysa’r categori hefyd, blant â chyflyrau meddygol;

 

Ÿ

nid oes gan ddisgyblion â chyflyrau meddygol o reidrwydd anghenion addysgol arbennig ond mae’n rhaid ystyried goblygiadau eu cyflwr o ran ei gallu i ddysgu ac o ran eu diogelwch. Rhaid wrth gynllun meddygol a phrotocol clir ar gyfer rhoddi meddyginiaeth i’r disgyblion hyn a disgwylir arweiniad gan Lywodraeth y Cynulliad ynglyn ag ymdrin â phlant gwael eu hiechyd;

 

Ÿ

ystyrir bod gan blentyn anghenion addysgol arbennig hefyd os oes ganddo/i anabledd a ddiffinnir fel amhariad corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar fywyd bob dydd y plentyn. Mae yna ddisgwyliad na fyddir yn ymdrin â’r plant yma mewn ffordd llai ffafriol, y gwneir addasiadau rhesymol ar eu cyfer ac yr ymagweddir yn rhagweithiol wrth gynllunio ar eu cyfer h.y. y cynllunir o flaen llaw i adnabod unrhyw broblemau. Mae Cylchlythyr 15/2004 a Chynllun Hygyrchedd Ysgol 2004 yn tanlinellu’r gofyn i fod yn hyblyg tuag at anghenion mynediad plant ag anableddau;

 

Ÿ

mae swyddogaeth y Cyd-Bwyllgor yn cwmpasu gwneud y gorau i sicrhau y gwneir y ddarpariaeth angenrheidiol ar gyfer disgyblion AAA gan fonitro’r hyn sy’n digwydd yn y ddau awdurdod a bod y ddarpariaeth AAA o safon uchel.Hefyd mae’n ddisgwyliad ar y Cyd-Bwyllgor i sicrhau y caiff anghenion addysgol arbennig eu blaenoriaethu o fewn y Cynllun Addysg Sengl;

 

Ÿ

daeth gofynion newydd i ran awdurdodau addysg ac ysgolion gyda chyflwyniad Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 2005 a disgwylir iddynt lunio Cynllun Cydraddoldeb Anabledd ac i gynllunio gogyfer anghenion plant ag anableddau gan eu cynnwys nhw a’u rheini yn y broses gynllunio.Mae Deddf Plant 2004 yn gofyn i’r awdurdodau adnabod person o fewn yr awdurdod unigol i fod yn neilltuol gyfrifol am wasanaethau plant ond nid oes yna newid yn rôl y Cyd-Bwyllgor yn ei hanfod;

 

Ÿ

mae Cylchlythyr Cynnwys a Chynorthwyo Disgyblion yn pwysleisio’r angen i  symud y rhwystrau i ddysgu, i wrando ar farn disgyblion ac i weithio mewn partneriaeth. Rhaid nodi daw plant arbennig o alluog a thalentog o dan gategori plant ag anghenion ychwanegol ynghyd â nifer o grwpiau eraill yn cynnwys lleiafrifoedd ethnig, ceiswyr lloches a ffoaduriaid, plant mewn angen, a gofalwyr ifanc ymhlith eraill. O symud tuag at y diffiniad o blant ag anghenion arbennig fel plant ag anghenion ychwanegol gwelir fod yna gynyddu sylweddol ar y disgwyliadau ar ysgolion i gwrdd â’r amrediad eang o anghenion o dan y diffiniad hwn. Fodd bynnag, ymestyn rôl y Cyd-Bwyllgor mae’r newidiadau hyn yn hytrach na’i newid.

 

      

 

     Diolchwyd i’r Swyddog Addysg AAA am adroddiad diddorol a llawn gwybodaeth a gofynnwyd a yw’n ddisgwyliad ar ysgolion i wario ar addasu adeiladu.

 

      

 

     Ymatebwyd ei fod yn ddisgwyliad ar ysgolion i lunio cynllun sy’n adnabod y gofynion ac i gynllunio tuag at wella’r amgylchedd gogyfer plant ag anableddau. Tra bod ysgol yn gyfrifol am fân addasiadau, mae’r cyfrifoldeb am addasiadau mwy yn disgyn ar y Cynghorau Sir fel rhan o’u Cynlluniau Hygyrchedd.

 

      

 

     Penderfynwyd nodi’r adroddiad gan ddiolch i Swyddog Addysg AAA Ynys Môn am yr wybodaeth.

 

      

 

7

ADRODDIAD ARIANNOL

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad gan Bennaeth Gwasanaeth Cyllid Cyngor Gwynedd yn ymgorffori cyllideb y Cyd-Bwyllgor am 2007/08.

 

      

 

     Adroddwyd -

 

      

 

Ÿ

bod y gyllideb yn cynnwys cytundebau cyflog, incrementau cyflogau a chwyddiant cyflogau a chwyddiant cyffredinol am 2007/08 yn ogystal ag effaith trosiant staff. Cynhwysir darpariaeth yn y gyllideb am yr elfennau canlynol -

 

 

 

Ÿ

Sefydliad y Cyd-Bwyllgor

 

 

 

Ÿ

8.7 seicolegwyr

 

Ÿ

7.8 athrawon cynhaliol;

 

Ÿ

6.5 staff gweinyddol

 

 

 

Ÿ

bwriad i ddileu swydd yr Asesydd Risg o’r sefydliad mewn cytundeb gyda’r ddau awdurdod ac i wneud trefniadau i ymdopi gyda’r gwaith o fewn yr awdurdodau yn y dyfodol;

 

Ÿ

amcangyfrif cytundeb cyflog seicolegwyr 2.51% o Medi, 2007;

 

Ÿ

cytundeb cyflog athrawon 2.5% o Medi, 2007;

 

Ÿ

amcangyfrif cytundeb cyflog staff gweinyddol 2.5% o Ebrill, 2007;

 

Ÿ

cyfraniad ychwanegol o 2.2% ar flwydd-dal Cynllun Llywodraeth Leol sy’n effeithio ar gostau cyflogi seicolegwyr a staff gweinyddol (18.4% i 20.6%);

 

Ÿ

cyfraniad ychwanegol o 0.6% ar flwydd-dal Cynllun Athrawon (13.5% i 14.1%);

 

Ÿ

1% o doriad fel arian i’w ddarganfod yn ystod y flwyddyn fel lleihad mewn gwariant neu gynnydd mewn incwm. Mae 1% o gyllideb net 2006/07 o £1,090,800 yn £10,910.

 

 

 

Ÿ

Gofynnir i’r Cyd-Bwyllgor fabwysiadu’r gyllideb fel y’i cyflwynir.

 

 

 

     Diolchwyd i’r Uwch Gyfrifydd Addysg am yr wybodaeth a gofynnwyd iddi sut mae’r ffigyrau mewn perthynas â staff gweinyddol yn cymharu gydag awdurdodau eraill fel canran o’r gwariant.

 

      

 

     Ymatebodd yr Uwch Gyfrifydd Addysg bod trefniadau’r Cyd-Bwyllgor yn eithaf unigryw ond gallai edrych ar y mater ac adrodd yn ôl i’r cyfarfod nesaf.

 

      

 

     Cyfeiriodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden Ynys Môn at y 1% o doriad sydd wedi’i adeiladu i mewn i’r gyllideb a dygodd sylw at y ffaith mai statws dyhead sydd iddo ar hyn o bryd am nad oes yna nodi o dan ba bennawd yn y gyllideb bydd yn cael ei weithredu. Gofynnodd i aelodau’r Cyd-Bwyllgor a oeddent yn fodlon nad oedd y toriad wedi’i adnabod yn benodol, ac a fyddai’n cael ei wireddu trwy doriad yn y gwasanaeth neu drwy gynhyrchu incwm ychwanegol. Awgrymodd efallai dylai’r Cyd-Bwyllgor holi beth yw’r syniadau ar gyfer gweithredu’r toriad.

 

      

 

     Yn y drafodaeth ddilynol nodwyd byddai’n anodd clustnodi unrhyw doriad o flaen llaw am mai cyflogau arbenigwyr sy’n cyfrif am y rhan fwyaf o’r gyllideb. Cytunwyd fodd bynnag y byddai’n ddefnyddiol i’r Cyd-Bwyllgor o leiaf adnabod o ba gyfeiriad bydd y toriad hwn yn dod erbyn ei gyfarfod nesaf.

 

      

 

     Nododd yr Uwch Gyfrifydd Addysg y gellir defnyddio’r balansau i ymateb i’r cais am doriad yn y tymor byr am y flwyddyn i ddod, ond pwysleisiodd na fyddai hynny’n cynnig ateb parhaol i’r gofyn am arbedion.

 

      

 

     Penderfynwyd -

 

      

 

7.1     Cymeradwyo’r gyllideb am 2007/08 fel y’i cyflwynir;

 

7.2     Gofyn i’r swyddogion gyflwyno i gyfarfod nesaf y Cyd-Bwyllgor ym mis Mehefin syniadau penodol ar gyfer adnabod toriad o 1% ar gyllideb y Cyd-Bwyllgor.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Cynghorydd Arwel Jones

 

              Cadeirydd