Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig (dadgomisiynwyd 31 Awst, 2017) dogfennau , 22 Mehefin 2007

Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig (dadgomisiynwyd 31 Awst, 2017)
Dydd Gwener, 22ain Mehefin, 2007

CYD-BWYLLGOR ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mehefin, 2007

 

YN BRESENNOL:

 

Cynghorydd Arwel Jones (Cyngor Gwynedd) (Cadeirydd)

 

 

 

Cyngor Gwynedd

 

Cynghorwyr Seimon Glyn, Selwyn Griffiths, Dai Rees Jones, Brian Jones, W.M.Meredith.

 

Cyngor Sir Ynys Môn

 

Cynghorwyr John Byast, Mrs Fflur Hughes, Gwilym O.Jones, G.Allan Roberts

 

WRTH LAW:

 

Prif Seicolegydd Addysgol (AB)

Swyddog Addysg AAA Ynys Môn (MR)

Swyddog Addysg Cyngor Gwynedd (OP)

Uwch Gyfrifydd Cyngor Gwynedd (KB)

Swyddog Pwyllgor (ATH)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Cynghorydd Mrs B.Burns, MBE (Ynys Môn), Cynghorydd Mrs Sylvia Humphreys (Cyngor Gwynedd)

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Dr Gwynne Jones (Prif Weithredwr Cwmni Cynnal)

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynhgorydd G.Allan Roberts i’r cyfarfod ac anfonodd gofion yr aelodau am adferiad iechyd buan iawn i’r Cynghorydd Mrs B.Burns, MBE.

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd ac arwyddwyd fel rhai cywir, cofnodion cyfarfod blaenorol y Cyd-Bwyllgor a gynhaliwyd ar 16 Mawrth, 2007 (Cofnodion y Cyngor 01.05.2007, tud 65 - 73)

 

3

ADRODDIAD YR UNED DDARPARU AAA

 

Cyflwynwyd - Adroddiad yn amlinellu gwaith yr Uned Ddarparu AAA yn ystod tymor y Gwanwyn, 2007, gan ddisgrifio’r hyn sydd wedi dylanwadu ar yr Uned wrth iddi geisio cyflawni’i dyletswyddau a chan gyfeirio at y nifer o ddisgyblion gydag anghenion addysgol arbennig sydd wedi derbyn darpariaeth y ddau Awdurdod Addysg trwy brosesau a weinyddir gan yr Uned.

 

Adroddwyd fel a ganlyn ynghylch prif ystyriaethau’r adroddiad uchod -

 

 

 

Ÿ

Parhawyd gyda’r trefniadau interim a roddwyd yn eu lle tra bod trafodaethau yn mynd rhagddynt o safbwynt cyfuno gwasanaethau’r Cyd-Bwyllgor AAA a Cynnal.

 

Ÿ

Yn y cyd-destun hwn gellir adrodd bod gwaith cychwynnol yn gysylltieidg ag uno Cynnal a’r Cyd-Bwyllgor wedi cychwyn ac mae panel penodol wedi’i sefydlu i roddi ystyriaeth i’r goblygiadau o ffurfio’r endid newydd fel cwmni cyfyngedig dan warant. Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r dasg o lunio amcanion sydd yn cwmpasu gwaith Cynnal a’r Cyd-Bwyllgor. Nodir y tasgau allweddol a’r amserlen ar gyfer eu gweithredu mewn Cynllun Prosiect amlinellol o dan Atodiad 1 i’r adroddiad. Ymhlith y pennaf o’r tasgau yw addasu’r Memorandwm a’r Erthyglau Cymdeithasu sy’n golygu edrych ar amcanion Cynnal ac amcanion y Cyd-Bwyllgor ac ystyried a ydynt yn cwmpasu holl weithgareddau’r ddau gorff, ac wedyn sicrhau cyfreithlondeb unrhyw ddiwygiadau i’r Memorandwm a chael barn y Comisiwn Elusennol. Dyna’r pwynt mae’r broses wedi ei gyrraedd  ac annhebygol y cwblheir y gorchwyl penodol hwn erbyn diwedd mis Gorffennaf. Disgwylir y bydd yna ychydig o lithro ar yr amserlen felly ond hyderir y gellir adfer y tir er mwyn cyflawni’r cyfuno o fewn y dyddiad targed o fis Mawrth, 2008.

 

Ÿ

Yn y swyddfa, bu’r cydlynwyr datganiadau yn cyflwyno adolygiadau blynyddol disgyblion blwyddyn 6 i’r Paneli Cymedroli ac yn diwygio eu datganiadau. Hefyd, daeth y rhan helaeth o adolygiadau blynyddol disgyblion eraill i mewn yn ystod tymor y Gwanwyn a gweinyddwyd dros fil yn ystod y cyfnod hwn. Parhawyd i gyflogi Cydlynydd 3* dros dro am ddau ddiwrnod yr wythnos, gan ddefnyddio arian o’r balansau. Mae’r Cydlynydd 3* yn gweinyddu’r ceisiadau a’r adolygiadau ac yn sicrhau bod gwybodaeth gywir a chyflawn yn cael ei chyflwyno i Baneli Cymedroli’r ddau Awdurdod. Dygir sylw’r aelodau at y ffaith bod y ddau Awdurdod wedi adolygu’r meini prawf mynediad at gymorth ychwanegol ac mae’r meini prawf diwygiedig yn awr yn fwy tynn. Tra bod adolygu’r meini prawf wedi arwain ar yr un llaw at leihad yn y nifer 

 

datganiadau, mae hefyd wedi cael effaith o gynyddu’r ceisiadau am gymorth trwy gyfrwng y Cynllun 3*.

 

Ÿ

Mynychwyd cwrs ar oblygiadau’r Ddeddf Diogelu Data gan y cydlynwyr datagniadau, yr uwch swyddog gweinyddol a’r cymorthyddion gweinyddol ym mis Chwefror. Yn dilyn y cwrs, edrychwyd ar weithdrefnau’r tri gwasanaeth o fewn yr Uned Ddarparu AAA er mwyn sicrhau bod egwyddorion y Ddeddf yn cael eu parchu.

 

Ÿ

O ddod at y Gwasanaeth Seicoleg Addysgol, cynyddwyd oriau staff trwy fod y seicolegydd llanw sy’n cyflenwi am absenoldeb mamolaeth yn cynyddu ei horiau o ddiwrnod yr wythnos i dri diwrnod yr wythnos. Dechreuodd yr uwch seicolegydd newydd yn ei swydd ar ôl hanner tymor y Gwanwyn. Mae ei diddordeb arbennig a’i harbenigedd ym maes anawsterau iaith a chyfathrebu yn adnodd gwerthfawr i’r tîm presennol.

 

Ÿ

Mewn perthynas â gweithgareddau’r Gwasanaeth Seicoleg Addysgol i godi safonau addysg, trefnwyd hyfforddiant sylweddol gan y Gwasanaeth ym maes Therapi Byr trwy Ffocysu ar Ddatrysiad. Daeth hyfforddwr blaenllaw yn y maes hwn i ddarparu cwrs hyfforddiant pedwar diwrnod a fynychwyd gan y seicolegwyr addysgol, swyddogion lles addysg, aelodau o Wasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) a therapyddion iaith a lleferydd. Croesawyd yr hyfforddiant sydd bellach yn cael effaith ar arferion gwaith.

 

Ÿ

Cyflwynwyd hyfforddiant sylweddol yn ystod tymor y Gwanwyn hefyd ar y meini prawf newydd  ar gyfer mynediad i ddarpariaeth AAA ychwanegol trwy ddatganiad a threfniadau 3*.

 

Ÿ

Mae’r Gwasanaeth Seicoleg Addysgol wedi dechrau defnyddio cyfleusterau gwe gynadledda mwyfwy i sicrhau presenoldeb yng nghyfarfodydd adolygu blynyddol disgyblion sydd mewn ysgolion preswyl tu allan i’r sir. Mae’r dilyniant hwn mewn gofal yn amlwg yn bwysig i’r bobl ifanc, eu rhieni a’r Awdurdodau Addysg Lleol.

 

Ÿ

Yng nghyswllt gweithio aml-asiantaethol, mae Gwasanaethau Cymdeithasol Gwynedd wedi bod yn cynnal rhaglen beilot ar Gynllunio’n Berson Ganolog i bobl ifanc sy’n trosglwyddo o wasanaethau plant i wasanaethau i oedolion. Mae cyd-lynydd y peilot hwn wedi bod yn gweithio gydag ysgolion arbennig neilltuol a’r Gwasanaeth Seicoleg Addysgol i dargedu achosion a fyddai’n ddefnyddiol i’r peilot. Hyderir bydd llwyddiant y peilot hwn yn arwain at adolygiadau trosglwyddo blynyddol mwy gwerthfawr i sicrhau bod pobl ifanc ac oedolion bregus yn ganolog mewn unrhyw gynlluniau a wneir ar gyfer eu bywyd ar ôl addysg lawn amser.

 

Ÿ

Yr allweddair mewn perthynas â gweithgareddau’r Gwasanaeth Athrawon Arbenigol yn ystod y cyfnod oedd cyd-weithio a hynny ar ffurf cyflwyniadau a  chyfarfodydd pwyllgorau proffesiynol rhanbarthol a chenedlaethol, gan gynnwys cyfarfodydd gyda’r gwasanaeth iechyd. Bu cydweithio a chyd-gynllunio hefyd yn ystod y tymor rhwng y tîm athrawon arbenigol â gwasanaethau eraill megis therapyddion iaith, therapyddion galwedigaethol, gwasanaethau iechyd, athrawes cochlear implant o Nottingham, athrawon mewn ysgolion ac unedau a chydlynywr AAA.

 

Ÿ

O droi at y nifer o blant sy’n derbyn cymorth ychwanegol gan yr Awdurdodau Addysg, adroddwyd yn llawn i gyfarfod blaenorol y Cyd-Bwyllgor ynghylch y data diweddaraf mewn perthynas â’r niferoedd plant sy’n derbyn cymorth trwy ddatganiad neu trwy’r Cynllun AAA 3*. Yn y cyfarfod hwn, mae’r ffocws ar faes anawsterau cyfathrebu (h.y. disgyblion gyda nam iaith neu anawsterau ar y sbectrwm awtistig) sef maes sydd wedi bod yn destun trafod fel maes twf yn lleol ac yn genedlaethol. Dengys graff 1 a 2 yn yr adroddiad y niferoedd plant sy’n derbyn, neu wedi derbyn cymorth trwy ddatganiad neu trwy’r Cynllun AAA 3* oherwydd anawsterau cyfathrebu yng Ngwynedd ac Ynys Môn am y naw mlynedd diwethaf ac fe welir o’r ffigyrau bod y duedd ar ei fyny yn y ddwy sir ac yn arbennig felly yn Ynys Môn. Bernir ei bod yn bwysig i’r aelodau fod yn ymwybodol o hyn am fod rhaid ymateb i anghenion unigolion ac oherwydd bod y ddarpariaeth yn y maes hwn yn aml yn un ddrudfawr. Mae trafodaeth wedi cymryd lle yng Ngwynedd mewn perthynas â gorwario ar y gyllideb integreiddio a rhaid holi ai gorwariant sy’n digwydd ynteu cynnydd gwirioneddol yn y niferoedd sydd angen cymorth ychwanegol. Os felly, rhaid gofyn ym mhle mae’r cynnydd ac mae profiad yn dangos bod yna fwy a mwy o blant ifanc gydag anawsterau cyfathrebu.

 

Ÿ

O ran perfformiad, dengys yr ystadegau bod y ddau Awdurdod  wedi cyflawni’n llawn y targedau ar gyfer paratoi datganiadau o fewn yr amserlen a ddynodir. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi newid y pwyslais mewn perthynas â data perfformiad, a’r prif fesurydd yn y dyfodol fydd perfformiad yr Uned wrth gynhyrchu datganiadau terfynol o fewn 26 wythnos yn hytrach na’i pherfformiad wrth baratoi datganiadau arfaethedig o fewn 18 wythnos.

 

 

 

Diolchwyd yn fawr i’r swyddogion am yr adroddiad cynhwysfawr a gyflwywnyd ac yn y drafodaeth ddilynol ar ei gynnwys, codwyd y pwyntiau a nodir isod -

 

 

 

Ÿ

yng nghyswllt trefniadau cyfuno’r Cyd-Bwyllgor AAA a Cynnal, holwyd a yw’n fwriad adrodd ar yr elfen anghenion addysgol arbennig i Bwyllgor Craffu perthnasol Cyngor Gwynedd?

 

 

 

Adroddwyd mewn ymateb bod angen sefydlu trefn mwy strwythuredig o adrodd i bwyllgorau’r ddau Awdrudod a rhoddi sylw neilltuol i gael trefn ar gyfer craffu materion anghenion addysgol arbennig yng Ngwynedd, a hefyd ym Môn. Mae ystyriaeth yn cael ei rhoi i ymgorffori adran  benodol ar anghenion addysgol arbennig o fewn yr Adroddiad Blynyddol ar y Gwasanaeth Addysg caiff ei gyflwyno i bwyllgorau polisi/craffu yn y ddwy sir - byddai hynny yn ddistylliad o nifer o adroddiadau eraill yn y maes.

 

 

 

Ÿ

cyfeiriwyd at  anghenion plant bregus ac yn neilltuol, at fater amddiffyn plentyn a chanddo anghenion addysgol arbennig. Gofynnwyd a yw staff ysgolion yn derbyn hyfforddiant ynglyn â sut i ymdrin ag achosion o’r fath?

 

 

 

Adroddwyd mewn ymateb pe cyfyd achos o amddiffyn plant pur h.y. sicrhau diogelwch plentyn yna nid yw’n fater i’r Cyd-Bwyllgor. Fodd bynnag, mae’n gyfrifoldeb ar y ddau Awdurdod i sicrhau bod cynrychiolwyr o bob ysgol yn derbyn hyfforddiant amddiffyn plant. Cyfrifoldeb y cyd-lynydd amddiffyn plant wedyn yw’r rhaeadru’r hyfforddiant yn yr ysgol. O safbwynt plant ag anghenion addysgol arbennig, mae gan y Cyd-Bwyllgor a’r ddau Awdurdod drefn o gynnal asesiadau risg i sicrhau iechyd a diogelwch y plant yma.

 

 

 

Ÿ

mewn perthynas â’r cynnydd yn y nifer o blant ag anawsterau cyfathrebu, holwyd paham mae’r duedd hon yn amlycach ym Môn a hithau gyda phoblogaeth llai. Gofynnwyd a yw’r trefniadau asesu yn wahanol yn y ddwy sir.  Gofynnwyd hefyd sut mae rhieni yn ymagweddu tuag asesiad anawsterau cyfathrebu ar eu plentyn.

 

 

 

Adroddwyd mewn ymateb ei bod yn sefyllfa gymhleth ac nad oes yna’r un ffactor penodol i esbonio’r cynnydd ym Môn. O dderbyn bod yna gynnydd yn gyffredinol, rhaid ystyried bod yna  hefyd o fewn y niferoedd hynny, ystod eang iawn o anawsterau cyfathrebu yn amrywio o blant gyda phroblemau iaith pur i blant gydag anawsterau dyrys ar y sbectrwm awtistig. Mae’n ddisgwyliad gan y Cynulliad bod awdurdodau lleol yn buddsoddi’n helaethach yn y maes hwn ac yn ail-edrych ar y ddapariaeth ar y cyd ag asiantaethau eraill. Hefyd gwir yw dweud bod yna ddatblygu wedi bod ar ddulliau deiagnosis, a bod yna adnabod anawsterau dwys ychwanegol oherwydd awtistiaeth ar blant sydd ag anawsterau dysgu sylfaenol megis Syndrom Down. O ran sut mae rhieni yn ymagweddau tuag at y sefyllfa o dderbyn deiagnosis or fath, mae yna rwan ddealltwriaeth well o’r maes yn broffesiynol ac yn dilyn o hynny mae ymarferwyr yn gallu esbonio’n well  oblygiadau deiagnosis i rieni. Mae’n ergyd i riant glywed bod gan ei blentyn anawsterau sydd efallai’n gysylltiedig ag awtistiaeth ond mae yna gyd-weithio ar lefel broffesiynol i ddarparu’r pecyn cefnogaeth gorau iddynt a’u plant. Rhaid cofio bod anawsterau ar y sbectwm awtistiaeth gyda’r anoddaf i’w deall am nad ydynt bob tro yn amlwg, a hawdd yw collfarnu plentyn am ei ymddygiad heb werthfawrogi’r gwir resymau dros hynny, ac o’r herwydd, mae’n  gallu bod yn daith anodd i riant ddygymod â hyn. Mae yna brosiectau ar waith megis Prosiect Iaith a Lleferydd  sy’n amcanu  at wella’r ddarpariaeth a’r hyfforddiant gogyfer staff ysgol sy’n gweithio yn y maes ac mae yna hefyd edrych ar ddulliau gwahanol o gyflwyno gwasanaeth i ddisgyblion -  mae’r ymateb broffesiynol yn gwella o hyd. Mae ehangu gwasanaethau yng Ngwynedd gan rhoi pwyslais ar ymyrraeth gynnar i blant rhwng 4 a 7 oed a dwyn rhieni i mewn i’r broses wedi dangos bod y plant hynny wedyn, o adael yr unedau arbennig, yn gallu ymdopi’n well mewn addysg prif-lif.

 

 

 

Awgrymodd y Cadeirydd y byddai’n ddefnyddiol i’r Cyd-Bwyllgor dderbyn adroddiad dilyn i fyny pellach ar faes plant ag anawsterau iaith a chyfathrebu.

 

 

 

Penderfynwyd  -

 

 

 

3.1

Derbyn yr adroddiad ynglyn â gweithgareddau’r Uned Ddarparu AAA am dymor y Gwanwyn, 2007 a nodi’i gynnwys a chan ddiolch i’r swyddogion am y wybodaeth.

 

3.2

Bod yna gyflwyno adroddiad pellach i‘r Cyd-Bwyllgor maes o law ar faes plant ag anawsterau iaith a chyfathrebu.

 

 

 

4

ADRODDIAD ARIANNOL

 

 

 

4.1

Cyflwynwyd - Cyfrifon terfynol y Cyd-Bwyllgor am 2006/07.

 

 

 

Adroddodd yr Uwch Gyfrifydd fel a ganlyn ynghylch yr adroddiad -

 

 

 

Ÿ

Adroddwyd i gyfarfod y Cyd-Bwyllgor ym mis Tachwedd, 2006, y byddai yna debygrwydd o danwariant o oddeutu £40k yn 2006/07. Dengys y cyfrifon terfynol bod y tanwariant yn

 

£50,150, sef symudiad o £10k.

 

Ÿ

Dygir sylw’r aelodau isod at y prif wahaniaethau rhwng y gyllideb ddiwygiedig a gyflwynwyd i’r Cyd-Bwyllgor ym mis Tachwedd a’r cyfrifon terfynol :

 

 

 

Ÿ

Tanwariant yn erbyn y gyllideb ddiwygiedig :

 

 

 

Ÿ

£13,320 arbediad oherwydd trosiant staff a chyfnod mamolaeth;

 

Ÿ

£5,725 arbediad swydd wag yr Asesydd Risg (mae cost y ddarpariaeth a brynwyd i mewn yn is na chost cyflogaeth y swyddog)

 

Ÿ

£3,184 arbediad costau adnoddau/offer;

 

Ÿ

£2,481 llôg ar falansau.

 

 

 

Ÿ

Gorwariant yn erbyn y gyllideb :

 

 

 

Ÿ

£1,293 costau athrawon cynhaliol - lwfans AAA ychwanegol a chynnydd o 0.6% ym mlwydd-dal athrawon;

 

Ÿ

£2,121 costau staff gweinyddol - cyflenwi /goramser tymor y Gwanwyn;

 

Ÿ

£2,691 costau hyfforddiant - yn cynnwys y cwrs Therapi Byr yn y Gwanwyn a hyfforddwr gwâdd;

 

Ÿ

£4,487 costau hysbysebu swyddi - ail hysbysebu;

 

Ÿ

£1,321 costau cynnal a chadw adeilad - ad-daliad canolog;

 

Ÿ

£2,866 costau post - costau’n hanesyddol uwch na’r gyllideb - awgrymir rhoddi sylw penodol i’r pennawd hwn wrth adolygu cyllideb 2007/08.

 

 

 

     Roedd balansau’r Cyd-Bwyllgor ar 21 Mawrth, 2006 yn £27,149; gyda chyfraniad y gweddill am 2006/07 o £50,150 daw cyfanswm y balansau ar 31 Mawrth, 2007 i £77,299 (7.3% o’r gyllideb).

 

     Pwysleisir bod y sefyllfa yn un unigryw oherwydd y rheswm dros yr arbediad sylweddol yn 2006/07, sef trosiant staff seicolegol ac absenoldeb mamolaeth.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn y cyfrifon terfynol am 2006/07.

 

      

 

4.2     Cyflwynwyd - Adroddiad ynglyn â chyllido arbedion 1% ar gyllideb 2007/08.

 

      

 

     Adroddodd yr Uwch Gyfrifydd fel a ganlyn -

 

      

 

Ÿ

Yn y gyllideb gyflwynwyd i’r Cyd-Bwyllgor ym mis Mawrth, roedd 1% o doriad wedi’i adeiladu i’r gyllideb fel arian i’w ddarganfod yn ystod y flwyddyn. Penderfynodd y Cyd-Bwyllgor y dylid adnabod y toriad o fewn y gyllideb.

 

Ÿ

Mae gwerth 1% o gyllideb net 2007/08 o £1,090,800 yn £10,910. Mae adolygiad o sefydliad staffio’r Uned Ddarparu wedi adnabod dros £10,000 o arbediad yn 2007/08 ar sail pwyntiau cyflog is na’r gyllideb (h.y. bod yna seicolegwyr sydd ar hyn o bryd ar reng is y raddfa gyflog). Pery gwaith i adolygu’r sefydliad yn barhaol ac adroddir ar ganlyniad hwn i gyfarfod nesaf y Cyd-Bwyllgor.

 

Ÿ

At hynny, mae ymchwil yn digwydd i adnabod ffynonellau i gynyddu incwm i’r dyfodol.

 

Ÿ

Mae balansau’r Cyd-Bwyllgor o £77,299 ar gael yn y tymor byr i gyfrannu tuag at y toriad pe dymunai’r Cyd-Bwyllgor wneud hynny, ond pwysleisir nad yw defnyddio’r balansau yn ateb parhaol i gyllido’r toriad.

 

Ÿ

Gofynnir i’r Cyd-Bwyllgor dderbyn y cynllun uchod dros dro, a bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno iddo mewn perthynas ag adnabod toriadau parhaol.

 

      

 

     Gwnaeth y Cadeirydd y sylw y gall newid mewn personél newid y sefyllfa a bod rhaid felly bod yn ofalus o ran defnyddio’r cyfrwng hwn i gyllido’r toriad.

 

      

 

     Cytunodd yr Uwch Gyfrifydd bod angen gwneud gwaith ymchwil pellach yn y maes.

 

      

 

     Adroddodd Prif Weithredwr Cynnal bod canfod toriad o 1% ar y gyllideb yn dasg anodd a bydd gorfod canfod arbediad 1% pellach ar gyllideb 2008/09 sy’n ofyn tebygol yn ôl patrwm disgwyliadau’r Cynulliad, yn fwy heriol fyth. Mae’r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu eisoes yn dynn a daw canran uchel o wariant y Cyd-Bwyllgor o bennawd staff. Buwyd yn ymdopi gyda sefyllfa o lai o seicolegwyr na’r hyn byddid yn ei ddymuno, a chan fod y sefyllfa honno bellach wedi sefydlogi rhydd gyfle i’r Uned Ddarparu wneud gwaith ychwanegol gyda’r ysgolion gan fanteisio ar y nifer o seicolegwyr o fewn yr Uned. Mae’n bwysig bod yna 1% yn y gyllideb eleni ac mae’n bosibl bydd cyfuno Cynnal a’r Cyd-Bwyllgor yn creu cyfleoedd i ganfod arbedion yn y tymor hir.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn ynglyn â rhagwelir bydd cynnydd ym malansau’r Cyd-Bwyllgor yn parhau ar y lefel bresennol, nododd yr Uwch Gyfrifydd bod hynny’n annhebygol os yw’r sefyllfa staffio yn parhau fel ag y mae. Ychwanegwyd hefyd na ragwelir bydd y galwadau ar y Cynllun AAA 3* yn gostwng nac felly’r gofyn am swydd y Cyd-lynydd 3* ychwanegol dros dro a gyllidir o’r balansau; gan hynny mae’n debygol bydd y balansau yn lleihau.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn y cynllun uchod gogyfer adnabod toriad o 1% ar gyllideb 2007/08 ar sail dros dro, gan nodi bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cyd-Bwyllgor mewn perthynas ag adnabod toriadau parhaol.

 

      

 

5

AIL-STRWYTHURO CYNNAL A’R CYD-BWYLLGOR

 

      

 

     Diweddarodd Prif Weithredwr Cynnal yr aelodau ar lafar ar broses ail-strwythuro Cynnal a’r Cyd-Bwyllgor ac adroddodd bod grwp penodol o swyddogion ac aelodau wedi’i sefydlu i oruchwylio’r broses hon a’i fod eisoes wedi cyfarfod. Mae gwaith wedi’i wneud o ran edrych ar amcanion Cynnal ac amcanion y Cyd-Bwyllgor ynghyd â llunio amcanion diwygiedig i gwmpasu cyfrifoldebau’r ddau gorff. Maent wedi’u llunio yn eithaf cyffredinol a hynny am mai’r cyngor a dderbyniwyd ar sefydlu Cwmni Cynnal yn wreiddiol yn 1996 oedd dylid peidio bod yn orbenodol er mwyn caniatau elfen o hyblygrwydd fel bo gofyn. Derbyniwyd yr amcanion diwygiedig gan y Gweithgor a phenderfynodd ofyn am farn gyfreithiol ar y broses cyfuno ac ar gynnwys yr amcanion er mwyn sicrhau eu bod yn gynhwysfawr a’u bod yn caniatau symud ymlaen ar sail strwythur cwmni cyfyngedig ym mherchnogaeth y ddau Awdurdod. Mae Adran Gyfreithiol Cyngor Sir Ynys Môn wedi llunio briff gogyfer arbenigwr a dyna’r pwynt mae’r broses wedi cyrraedd hyd yn hyn.

 

      

 

     Cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd gyda staff y Cyd-Bwyllgor i esbonio’r bwriadau  iddynt a daeth y cyfarfodydd hynny i ben yn ddiweddar. Credir bod adrodd yn agored i staff ar gynnydd a chadw llinellau cyfathrebu yn glir o gychwyn y broses hyd at ei diwedd yn hanfodol bwysig. O dderbyn y farn gyfreithiol y cam nesaf wedyn fydd adrodd i’r ddau Awdurdod ym Môn a Gwynedd i geisio eu cymeradwyaeth i sefydlu’r corff newydd ond byddir yn disgwyl gweld beth yw’r farn gyfreithiol yn gyntaf cyn gweithredu’n bellach.

 

      

 

     Penderfynwyd nodi’r sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas ag ail-strwythuro Cynnal a’r Cyd-Bwyllgor AAA gan ddiolch i Brif Weithredwr Cynnal am y wybodaeth.

 

6

CYFARFOD NESAF Y CYD-BWYLLGOR

 

      

 

     Nodwyd y cynhelir cyfarfod nesaf y Cyd-Bwyllgor am 10:30 a.m., ddydd Gwener, 9 Tachwedd, 2007.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Cynghorydd Arwel Jones

 

             Cadeirydd