Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig (dadgomisiynwyd 31 Awst, 2017) dogfennau , 9 Tachwedd 2007

Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig (dadgomisiynwyd 31 Awst, 2017)
Dydd Gwener, 9fed Tachwedd, 2007

CYD-BWYLLGOR ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd, 2007

 

YN BRESENNOL:

 

Cynghorydd Arwel Jones (Gwynedd) (Cadeirydd)

Cynghorydd Mrs B.Burns, MBE (Ynys Môn) (Is-Gadeirydd)

 

Cyngor Gwynedd

 

Cynghorydd W.M.Meredith

 

Cyngor Sir Ynys Môn

 

Cynghorwyr Mrs Fflur Hughes, Gwilym O.Jones, Bryan Owen,

G.Allan Roberts.

 

Yr Eglwys

 

Mr Rheinallt Thomas (Eglwysi Rhyddion)

 

 

 

WRTH LAW:

 

Prif Seicolegydd Addysgol (AB)

Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden (Ynys Môn)

Pennaeth Gwasanaeth (Ysgolion) (Gwynedd) (DJ)

Swyddog Addysg Anghenion Addysgol Arbennig (Ynys Môn) (MR)

Uwch Gyfrifydd (Gwynedd) (KB)

Swyddog Pwyllgor (ATH)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Cynghorydd John Byast (Ynys Môn), Cynghorwyr Selwyn Griffiths, Mrs Sylvia Humphreys, Dai Rees Jones, Brian Jones (Cyngor Gwynedd), Parch. Tegid Roberts (Yr Eglwys yng Nghymru), Mrs Orina Pritchard (Swyddog Addysg - Gwynedd)

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Dr Gwynne Jones (Prif Weithredwr Cynnal)

 

Croesawodd y Cadeirydd yr aelodau oedd yn bresennol i’r cyfarfod ac estynnodd groeso arbennig i’r Cynghorydd Mrs B.Burns, MBE, yn dilyn triniaeth ysbyty. Diolchodd hithau i’r Cadeirydd a’r aelodau am eu cofion a’u dymuniadau da o’r cyfarfod blaenorol.

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd ac arwyddwyd fel rhai cywir, cofnodion cyfarfod blaenorol y Cyd-Bwyllgor a gynhaliwyd ar 22 Mehefin, 2007. (Cofnodion y Cyngor 18.09.2007, tud 105 -110)

 

Yn codi -

 

 

 

Eitem 3 - Adroddiad yr Uned Ddarparu AAA

 

 

 

Cyfeiriwyd at benderfyniad 3.2 o dan y cofnod uchod oedd yn gofyn am adroddiad pellach ar faes plant ag anawsterau iaith a chyfathrebu, a rhoddwyd gwybod i’r aelodau y bwriadwyd trefnu cyflwyniad ar y maes i’r cyfarfod yma o’r Cyd-Bwyllgor ond gan nad oedd yr amseru’n gyfleus tro hwn byddir yn cynnal y sesiwn yn awr yng nghyfarfod nesaf y Cyd-Bwyllgor.

 

 

 

 

 

3

ADRODDIAD YR UNED DDARPARU AAA

 

 

 

Cyflwynwyd - Adroddiad yn amlinellu gwaith yr Uned Ddarparu AAA yn ystod tymor yr Haf, 2007, gan gyfeirio’n benodol at weithgareddau ynghlwm wrth weinyddu’r prosesau asesu ac adolygu; gweithgareddau’r Gwasanaeth Seicoleg Addysgol a’r Gwasanaeth Athrawon Arbenigol ynghyd â gwybodaeth ynglyn â Datganiad cyntaf Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Ddisgyblion gyda Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig.

 

 

 

Dygwyd sylw’r Cyd-Bwyllgor at yr ystyriaethau canlynol yn benodol -

 

 

 

Ÿ

Cyfarfu’r Grwp Cyswllt Iechyd-Addysg unwaith yn ystod y tymor ac ymhlith prif bynciau trafod y grwp oedd y Prosiect Peilot Therapi Iaith a Lleferydd. Yn dilyn cyhoeddi ei adroddiad, Gweithio Gyda’n Gilydd mae Llywodraeth y Cynulliad yn cyllido prosiect ym maes therapi iaith a lleferydd sy’n amcanu at hybu cyd-gomisiynu therapi iaith a lleferydd. Arweiniodd y prosiect yng Ngwynedd a Môn at beilot yn nalgylchoedd Bangor a David Hughes - Glannau Menai. Adroddwyd i’r Grwp hefyd ar y drefn a sefydlwyd i edrych ar y gwasanaeth GIMPaPHI (Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc neu CAMHS). Mae’r Cynulliad wedi penodi Rheolwraig Comisiynu Rhanbarth Gogledd Orllewin Cymru ac un o’i chyfrifoldebau yw cynnal awdit o’r ddogfen Busnes Pawb. Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd yn lleol i edrych ar gyfraniad yr holl asiantaethau i’r ddogfen hon.

 

Ÿ

Parhawyd i gyflogi Cydlynydd 3* dros dro am ddau ddiwrnod yr wythnos, gan ddefnyddio arian o’r balansau i gynnal y swydd. Gweinydda’r Cydlynydd 3* geisiadau ac adolygiadau, gan sicrhau bod gwybodaeth gywir a chyflawn yn cael ei chyflwyno i Baneli Cymedroli’r ddau Awdurdod. Nodir bod hwn yn waith sydd wedi cynyddu’n sylweddol yn ddiweddar ac mae’n waith pwysig.

 

Ÿ

Mewn cydweithrediad ag Adran Technoleg Gwybodaeth Cyngor Gwynedd, gwnaethpwyd gwaith addasu ar y basdata 3* i ddiben mireinio’r adroddiad cyllidol a anfonir at yr Unedau Cyllidol yn rheolaidd. Cychwynnwyd ar y gwaith o addasu’r adroddiadau statudol i’r un pwrpas a hynny mewn cyd-weithrediad â Chwmni Cynnal. Erys gwaith pellach i’w wneud er mwyn sicrhau y gwneir y defnydd gorau o’r wybodaeth sydd ar gael mewn perthynas â chost y gwasanaeth er mwyn llunio system integredig.

 

Ÿ

Erbyn Mai, 2007, roedd gan y Gwasanaeth Seicoleg Addysgol gyflenwad llawn o staff. Bu i un aelod o’r Tîm gymhwyso mewn Diploma mewn defnydd o egwyddorion Canolbwyntio ar Ddatrysiad ac mae’n cael ei defnyddio gan y Brief Practice yn Llundain fel goruchwylydd i fyfyrwyr newydd. Mae tri aelod arall o’r Tîm yn dilyn y Diploma eleni a bernir bydd eu gwybodaeth a’u profiadau o werth i ddatblygiad y gwasanaeth i’r dyfodol.

 

Ÿ

Ar y cyd gyda’r ddau Awdurdod Addysg, mae’r Gwasanaeth Seicoleg Addysgol yn cynnal prosiect i ddatblygu ysgolion yn rhai sy’n defnyddio dull ffocysu ar ddatrysiad. Yn ymwneud â’r prosiect hwn mae 4 ysgol uwchradd a’r 4 ysgol gynradd fwyaf sy’n bwydo’r ysgolion hyn yn ogystal â’r sefydliadau sy’n datblygu sgiliau ymddygiadol plant.

 

Ÿ

Ymhlith datblygiadau yn y Gwasanaeth Cyn-Ysgol, cwblhaodd un o athrawesau’r Unedau Asesu Cyn-Ysgol ym Môn gwrs arbenigol ym maes awtistiaeth; cynhaliwyd diwrnod hwyl a sbri i deuluoedd a phlant ifanc gan weithwyr Portage a Barnados a dathlwyd agoriad Canolfan Integredig Plas Pawb yng Ngwynedd.

 

Ÿ

Bu aelodau staff y Gwasanaeth Athrawon Arbenigol yn ymgymryd â chryn hyfforddiant a chyrsiau datblygiad proffesiynol pellach yn eu maes a manylir ar y rhain yn Adran 4 yr adroddiad. Hefyd, bu’r gwasanaeth yn ymhel â gweithgareddau rhyng-asiantaethol ac yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd cyd-weithio gyda sefydliadau eraill fel y crybwyllir yn Adran 4.2.

 

Ÿ

Rhydd Adran 5 yr adroddiad wybodaeth am Ddatganiad Cyntaf Llywodraeth  Cynulliad Cymru ar Ddisgyblion gyda Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig ym mis Mehefin, 2007. Bydd y Datganiad yn cael ei gyhoeddi’n flynyddol ar sail y data a anfonir i mewn gan bob Awdurdod Addysg Lleol yng Nghymru ym mis Ionawr (YSTAD 2). Y Cyd-Bwyllgor sy’n gyfrifol am gasglu’r data ar gyfer YSTAD 2 ar ran Gwynedd ac Ynys Môn.

 

 

 

Ymhlith y pwyntiau allweddol yr adroddir amdanynt yn y Datganiad mae’r canlynol -

 

 

 

Ÿ

mae’r nifer o ddisgyblion gyda datganiad o AAA yng Nghymru wedi gostwng 3.7% yn ystod 2006, sy’n dod â chyfanswm y rhai â datganiad i 15,579 ym mis Ionawr, 2007. Y tueddiad sy’n bwysig fan hyn a dylid dal sylw bod hwnnw ar ei lawr;

 

Ÿ

yn Ionawr, 2007, roedd 3.2% o ddisgyblion cofrestredig gyda datganiad o AAA;

 

Ÿ

mae’r canran o ddisgyblion gyda datganiad ar gofrestrau ysgolion wedi gostwng dros y saith mlynedd diwethaf o 3.4%;

 

Ÿ

mae bron i 92% (14,291 o ddisgyblion) o’r cyfanswm gyda datganiad yn cael eu haddysgu yn eu Hawdurdod Addysg cartref yn hytrach na mewn awdurdodau eraill. Yn lleol mae hynny’n trosi i 96% yng Ngwynedd a 93% ym Môn (mae’r gwahaniaeth i’w briodoli i’r ffaith bod Ysgol Coed Menai, Bangor yn cael ei chyfrif fel darpariaeth all-sirol gan Ynys Môn);

 

Ÿ

mae 23% o’r rhai a addysgir yn eu hawdurdod addysg cartref yn cael eu haddysgu mewn ysgolion arbennig (3,350 o ddisgyblion). O safbwynt lleol, mae’r ystadegyn o gwmpas 17% ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn;

 

Ÿ

mae’r canran o ddisgyblion sydd yn cael eu haddysgu mewn ysgolion prif-lif - un ai yn yr AALl cartref neu y tu allan - yn amrywio’n sylweddol ar draws yr awdurdodau addysg lleol, o 90.5% yng Ngheredigion (lle nad oes ysgol arbennig) i 16.9% ym Mhen-y-bont ar Ogwr;

 

Ÿ

mae Tabl 8 yn y Datganiad Cyntaf yn dangos niferoedd disgyblion gyda datganiad o AAA, fesul Awdurdod Addysg Lleol, o 1999/2000 i 2006/07. Roedd y Cyd-Bwyllgor yn gyfrifol am gynnal datganiadau 1,074 o ddisgyblion ym Môn a Gwynedd yn 2006/07 - mae hyn yn cymharu gydag Awdurdod megis Casnewydd, gyda 1,021 o ddisgyblion gyda datganiad yn yr un flwyddyn;

 

Ÿ

nid yw’r YSTAD 2 yn casglu gwybodaeth am ddisgyblion sy’n derbyn cymorth trwy gynllun ar wahân i’r drefn datganiadau, megis y Cynllun AAA 3* yng Ngwynedd a Môn, sy’n darparu cymorth ychwanegol i 664 o ddisgyblion ar hyn o bryd.

 

 

 

Diolchwyd yn fawr i’r swyddogion am yr adroddiad trylwyr arferol ar waith tymhorol yr Uned Ddarparu a chodwyd y cwestiynau canlynol ar y wybodaeth a gyflwynwyd -

 

 

 

Ÿ

Gofynnwyd a oedd lleihad yn y nifer o ddisgyblion gyda datganiad o anghenion addysgol arbennig wedi digwydd am fod cost darparu a chynnal datganiad yn uchel?

 

 

 

Adroddwyd mewn ymateb mai’r hyn sy’n bwysig  nodi yw bod yna adolygu sefyllfa disgyblion sydd ar Ddatganiad nad yw eu hanghenion addysgol yn rhai dwys i ganfod sut y gellir parhau gyda’r ddarpariaeth ar eu cyfer heb fynd trwy’r broses hir a chymhleth o baratoi datganiad. Mae’r disgyblion hynny sydd wedi symud o ddatganiad yn derbyn darpariaeth trwy gyfrwng y Cynllun 3* ; felly mae’r gynhaliaeth yn parhau i fod ar gael iddynt ond mae’n cael ei gyflwyno trwy ddull sy’n golygu hepgor dilyn proses ddyrys llunio datganiad.

 

 

 

Ÿ

Gofynnwyd a yw’r Cynllun 3* yn ddull effeithiol o ddelio gydag anghenion addysgol arbennig ac nid yn ddull cost-effeithiol yn unig?

 

 

 

Adroddwyd mewn ymateb bod y Cynllun 3* yn arwain at arbedion am ei fod yn cwtogi ar y broses fiwrocrataidd o lunio datganiad. Ar y cyfan yng nghyswllt anawsterau dysgu cymhedrol, nid yw’r ysgolion yn gweld gwahaniaeth o ran ansawdd y ddarpariaeth ond bod y ddarpariaeth yn digwydd yn gynt. Rhaid cofio o ran y gynhaliaeth sydd ar gael trwy’r Cynllun 3* bod y gefnogaeth a roddir gan y rhieni a’r ysgolion hefyd yn ffactorau.

 

 

 

Y disgwyliad cyllidol o weld lleihad yn y nifer o ddisgyblion ar ddatganiad yw y byddai yna ostyngiad cyfatebol mewn costau darpariaeth integreiddio; ond mae’r disgyblion oedd ar ddatganiad yn symud i ddarpariaeth trwy’r Cynllun 3* -  felly nid oes gwahaniaeth o safbwynt cyllidebau integreiddio’r ddau Awdurdod.

 

 

 

Ÿ

Cyfeiriwyd at yr Adroddiad Blynyddol ar y Gwasanaeth Addysg a ddarparwyd gan Gwmni Cynnal ac a gyflwynwyd i bwyllgorau craffu perthnasol y ddau Awdurdod, a sylwyd bod yr adroddiad hwn yn nodi bod y gwariant ar faes anghenion addysgol arbennig yn parhau’n uchel.

 

 

 

Adroddwyd mewn ymateb bod y gwariant ar faes anghenion addysgol arbennig o safbwynt Ynys Môn yn sylweddol, a rhaid gofyn a yw’r gwariant ar anghenion addysgol arbennig yn gymesur â’r gwariant ar ddisgyblion eraill, ac a yw adnoddau yn cael eu dyrannu’n deg rhwng y cyfan o’r disgyblion, gan gofio bod yna ddisgyblion sydd ag anghenion dwys sy’n gofyn am fewnbwn ychwanegol. Mae’n rhaid edrych ar safle Môn yn y Tabl o awdurdodau addysg lleol a gofyn a yw gwariant ar lefel mor uchel yn tystio at ddarpariaeth dda a chynhwysfawr neu a yw’n adlewyrchu darpariaeth sy’n ymateb i’r rhai hynny sy’n gwneud yr achos cryfaf dros eu plant.

 

Mae’r Comisiwn Archwilio wedi cyhoeddi adroddiad ar faes Anghenion Addysgol Arbennig a sut caiff ei gyllido a’r pwynt sylfaenol yw bod cost llunio datganiad yn feichus, a’i fod yn tynnu ar adnoddau y gellir eu defnyddio’n well. Derbynnir bod datganiad yn ofynnol ar gyfer y disgyblion hynny sydd ag anghenion dwys, ond gellir diwallu anghenion y mwyafrif trwy gyfrwng y Cynllun 3* sydd yn lleihau’r fiwrocratiaeth a’r costau ynghlwm wrth hynny. Bydd Ynys Môn yn edrych yn ofalus ar adroddiad y Comisiwn Archwilio er mwyn arfarnu a yw darpariaeth y Sir yn cwrdd â’r gofynion yn y ffordd fwyaf effeithiol.

 

 

 

Ystyriaeth arall yw bod datganiad o anghenion addysgol arbennig yn cael ei weld bellach gan rai rhieni fel drws sy’n agor ar ddarpariaeth ychwanegol  ar gyfer eu plentyn. Mae yna ymdrech i geisio newid y meddylfryd hwn a rhoi ffocws ar y Cynllun Addysg Unigol a cheisio cynorthwyo ysgolion i sicrhau bod ganddynt gynlluniau safonol sy’n wir ymateb i anghenion disgyblion.

 

 

 

Rhoddwyd arweiniad diweddar gan Estyn y dylai datganiad gael ei lunio ar gyfer y disgyblion hynny y mae eu hanghenion addysgol arbennig gyda’r dwysaf ac y byddent yn cael eu lleoli mewn unedau arbennig. Mae meini prawf diwygiedig y ddau awdurdod ar gyfer mynediad at ddarpariaeth addysgol ychwanegol yn adlewyrchu’r arweiniad cenedlaethol yma.

 

 

 

Daethpwyd â’r drafodaeth ar yr adroddiad i ben gyda sylw mewn perthynas ag ymrwymiad ac ymdrechion staff yr Uned Ddarparu, yn seicolegwyr ac yn athrawon arbenigol, a sylwyd bod parodrwydd staff i ddatblygu’n broffesiynol a’u lwyddiannau wrth wneud hynny yn nodwedd o’r adroddiad a’i fod yn rhywbeth i ymfalchio ynddo ac i gydnabod yn ffurfiol.

 

 

 

Penderfynwyd -

 

 

 

Ÿ

Derbyn yr adroddiad ar waith yr Uned Ddarparu yn ystod tymor yr Haf, 2007, a nodi ei gynnwys;

 

Ÿ

Cofnodi diolchiadau’r Cyd-Bwyllgor i staff yr Uned Ddarparu, y Gwasanaeth Seicolegol, a’r Gwasanaeth Athrawon Arbenigol am eu cyfraniad a’u gwaith ymroddgar trwy gydol y cyfnod.

 

 

 

4

ADRODDIAD ARIANNOL

 

 

 

Cyflwynwyd - Adolygiad o gyllideb y Cyd-Bwyllgor gogyfer 2007/08.

 

 

 

Cyfeiriwyd at y prif ystyriaethau fel a ganlyn -

 

 

 

Ÿ

Yng nghyllideb wreiddiol y Cyd-Bwyllgor ar gyfer 2007/08, adnabuwyd arbedion parhaol o 1% (£10,910) yr oedd angen eu darganfod yn ystod y flwyddyn. Trwy adolygu sefydliad staff y Tîm Seicoleg Addysg i adlewyrchu’r sefyllfa gyfredol, darganfuwyd arbediad parhaol o 1%.

 

Ÿ

Gan bod costau cynhaliaeth staff y Cyd-Bwyllgor ynghlwm wrth hyfforddiant, mae’r gyllideb gynhaliaeth o £2,760 wedi’i throsglwyddo i bennawd Hyfforddiant o fewn y gyllideb.

 

Ÿ

Dengys yr adolygiad uchod o’r gyllideb orwariant o £5,110, sef -

 

 

 

Ÿ

£8,540 - Staff Gweinyddol  - costau cyflenwol darpariaeth 3*;

 

Ÿ

£6,860 - Lleihad mewn incwm yn sgîl llai o ddarpariaeth hyfforddiant allanol;

 

Ÿ

£2,430 - Hyfforddiant staff y Cyd-Bwyllgor a chostau eraill.

 

 

 

Llai

 

 

 

Ÿ

£8,370 - wedi ymdopi gydag arbediad o 1% sef £10,910; cynhwysa’r gwariant ôl-daliadau ar gyfer SPAs, honorariwm a chyfnod mamolaeth aelod o  staff;

 

Ÿ

£4,350 - arbediad ar athrawon cynhaliol - athrawes gyflenwol

 

 

 

Ÿ

Roedd gan y Cyd-Bwyllgor falansau o £77,299 ar 31 Mawrth, 2007; awgryma’r adolygiad uchod y bydd lleihad o oddeutu £5,000 yn y balansau gan adael swm wrth gefn o  oddeutu £72,000 erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol.

 

 

 

     Diolchwyd i’r Uwch Gyfrifydd am y wybodaeth a  gofynnwyd a ystyrir bod sefyllfa ariannol y Cyd-Bwyllgor yn iach.

 

     Adroddwyd mewn ymateb mai trosiant staff yn bennaf sydd wedi creu’r amgylchiadau ar gyfer balans uchel, a thra rhydd yr arian wrth gefn rhyw gymaint o sgôp i’r Cyd-Bwyllgor yn y tymor byr, nid yw’n caniatau datblygiadau parhaol.

 

      

 

     O edrych ar y ffigyrau moel, ymddengys bod sefyllfa’r Cyd-Bwyllgor yn gymharol iach ond dygir sylw aelodau at y gorwariant o dan y  pennawd Gweinyddol yn deillio o gostau cynnal gwaith y Cyd-lynydd 3* a gyllidir yn bresennol o’r balansau. Rhaid nodi nad yw’r gwaith hwn yn debygol o ddiflannu a rhaid ystyried felly sut y bwriedir cyllido’r ddarpariaeth yma yn y tymor hir.

 

      

 

     Gofynnwyd onid ystyrir bod y costau swyddfa megis costau post a theithio yn  uchel?

 

      

 

     Adroddwyd mewn ymateb bod natur y gwasanaeth lle disgwylir i Seicolegwyr Addysgol gynnal gwaith mewn ysgolion ac i Athrawon Arbenigol ymgymryd â gwaith mewn awdurdodau eraill yn gyrru costau teithio i fyny. Fodd bynnag, achubir ar bob cyfle i wneud defnydd o’r dechnoleg ddiweddaraf megis cynnal cyfarfodydd trwy we-gynadledda ac mae’n faes y byddir yn parhau i’w adolygu er mwyn canfod ffyrdd mwy effeithlon o weithredu.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn yr adroddiad gan nodi bydd diweddariad pellach yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Cyd-Bwyllgor.

 

      

 

5

AIL-STRWYTHURO CYNNAL A’R CYD-BWYLLGOR AAA

 

      

 

     Atgoffwyd y Cyd-Bwyllgor am y sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â phroses cyfuno’r ddau sefydliad uchod fel y cofnodwyd yn y cyfarfod blaenorol, ac adroddwyd oherwydd absenoldeb salwch yn y Cwmni Cyfreithiol a gomisiynwyd i oruchwylio cyfreithlondeb a phriodoldeb y broses, ni ellir adrodd ymhellach ar hyn o bryd. Fodd bynnag, hyderir byddir mewn sefyllfa i rannu gwybodaeth erbyn cyfarfod nesaf y Cyd-Bwyllgor.

 

      

 

     Holwyd a fyddai llithriad yn yr amserlen o’r herwydd ac a fyddai yna oblygiadau ariannol i hyn.

 

      

 

     Adroddwyd mewn ymateb mai’r amserlen oedd bod mewn sefyllfa i allu cadarnhau symud ai peidio ar gyfuno erbyn Ebrill, 2008. Gwelir bellach bod gallu rhoi sylw i’r holl ystyriaethau ynghlwm wrth y cyfuno erbyn hynny bellach yn ofyn mawr a bod llawer o waith i’w gyflawni eto.

 

      

 

     Un o’r prif resymau dros gyfuno’r ddau sefydliad yn wreiddiol oedd galluogi gwneud darpariaeth gost-effeithiol yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni. Byddai endid cyfansawdd yn arwain at ostyngiad mewn gorbenion ac yn caniatau marchnata ar sail fwy eang. Os yw’r amserlen yn llithro yna bydd rhaid ymagweddu tuag at y realiti cyllidol o doriadau llymach fydd yn debygol o ddod i ran y ddau awdurdod yn 2008/09. Fodd bynnag, os nad yw’r cyfuno’n digwydd yn ffurfiol erbyn y flwyddyn ariannol nesaf, nid yw hynny’n rhwystro parhau i geisio ffyrdd o gyd-weithio’n agosach a thrwy hynny, darganfod arbedion yn y tymor byr. Ni ddylid colli ar unrhyw gyfle i gael cyfundrefn fwy cost-effeithiol.

 

      

 

     Cydnabuwyd y pwynt uchod fel un dilys.

 

      

 

     Penderfynwyd nodi’r sefyllfa mewn perthynas ag ail-strwythuro Cynnal a’r Cyd-Bwyllgor AAA.

 

      

 

6

CYFARFOD NESAF Y CYD-BWYLLGOR

 

      

 

     Nodwyd bod cyfarfod nesaf y Cyd-Bwyllgor wedi’i raglennu am 10:30 a.m. ar ddydd Gwener, 14 Mawrth, 2008, yng Nghaernarfon.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Cynghorydd Arwel Jones

 

               Cadeirydd