Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig (dadgomisiynwyd 31 Awst, 2017) dogfennau , 16 Hydref 2009

Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig (dadgomisiynwyd 31 Awst, 2017)
Dydd Gwener, 16eg Hydref, 2009

CYD-BWYLLGOR ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd yn Llangefni ar 16 Hydref, 2009  

YN BRESENNOL:

 

Cynghorydd Gwilym O.Jones (Cyngor Sir Ynys Môn) (Cadeirydd)

 

Cyngor Gwynedd

 

Cynghorwyr Mrs Pat Larsen, Dai Rees Jones, Peter Read

 

Cyngor Sir Ynys Môn

 

Cynghorwyr Mrs Fflur Hughes, Barrie Durkin, Kenneth Hughes, P.S.Rogers

 

Yr Eglwys yng Nghymru

 

Y Parch. Lloyd Jones

 

 

 

WRTH LAW:

 

Prif Seicolegydd Addysgol (Mrs Angharad Behnan)

Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd (Mr Dewi Jones)

Swyddog Addysg AAA Ynys Môn (Mrs Mair Read)

Swyddog Addysg AAA Gwynedd (Mrs Orina Pritchard)

Uwch Gyfrifydd Addysg Gwynedd (Mrs Kathy Bell)

Swyddog Pwyllgor (ATH)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Cynghorwyr Mrs Jean Forsyth, Mrs Sylvia Humphreys,

Selwyn Griffiths, Brian Jones (Cyngor Gwynedd),

Mr Rheinallt Thomas (Eglwysi Rhyddion)

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Dr Gwynne Jones (Prif Weithredwr Cwmni Cynnal)

 

Croesawodd y Cadeirydd pawb oedd yn bresennol i Langefni ac estynnodd groeso arbennig i’w cyfarfod cyntaf o’r Cyd-Bwyllgor i’r Cynghorwyr Barrie Durkin a Peter Rogers, a hefyd i’r Parch Lloyd Jones oedd yn bresennol ar ran yr Eglwys yng Nghymru. Bu i’r Cadeirydd hefyd estyn croeso’n ôl i Mrs Angharad Behnan, y Prif Seicolegydd Addysgol yn dilyn cyfnod o absenoldeb mamolaeth a llongyfarchodd hi’n gynnes ar enedigaeth ei merch. Cymrodd y cyfle hwn i ddiolch i Mr Gareth Payne, yr Uwch Seicolegydd Addysgol am gymryd arno gyfran o’r dyletswyddau yn ystod absenoldeb Mrs Behnan.

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd ac arwyddwyd fel rhai cywir, cofnodion cyfarfod blaenorol y Cyd-Bwyllgor a gynhaliwyd ar 12 Mehefin, 2009.

 

3

GWAITH YR UNED DDARPARU ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG

 

 

 

Cyflwynwyd - Adroddiad ar waith yr Uned Ddarparu Anghenion Addysgol Arbennig yn ystod tymor yr Haf, 2009.

 

 

 

Adroddwyd am y prif ystyriaethau fel a ganlyn -

 

 

 

                                                                

 

                                                                 

 

Ÿ

Bu’r cydlynwyr datganiadau a’r tîm gweinyddol yn brysur yn prosesu adolygiadau blynyddol, yn diwygio datganiadau ac yn llunio datganiadau, yn enwedig rhai cyn-ysgol. Ail-edrychodd y cydlynwyr datganiadau ar y ffordd y llunnir datganiadau a chynigiwyd fformat gwahanol, mwy disgrifiadol.

 

Ÿ

Parhawyd i gyflogi Cydlynydd 3* dros dro am ddau ddiwrnod yr wythnos, gan ddefnyddio arian o’r balansau. Mae’r Cydlynydd 3* yn gweinyddu’r ceisiadau a’r adolygiadau ac yn sicrhau bod gwybodaeth gywir a chyflawn yn cael ei chyflwyno i Baneli Cymedroli’r ddau Awdurdod.

 

Ÿ

Anfonwyd llythyrau atgoffa i ysgolion y ddwy sir i’w hatgoffa am yr angen i gynnal adolygiadau statudol a 3* yn nhymor yr Hydref. Yn benodol, atgoffwyd ysgolion am bwysigrwydd cynnal holl adolygiadau disgyblion Blwyddyn 6 cyn diwedd Rhagfyr oherwydd y gofyn statudol i ddiwygio eu datganiadau erbyn y 15 Chwefror mewn da bryd ar gyfer trosglwyddo i’r sector uwchradd.

 

Ÿ

Cyfarfu Bwrdd Rheoli’r Gwasanaeth Cwnsela Ysgolion dwywaith yn ystod y tymor gyda chyfranogiad yr Uwch Swyddog Gweinyddol. Gweinyddir y Gwasanaeth Cwnsela gan y Cyd-Bwyllgor ar ran y ddau Awdurdod.

 

Ÿ

Mewn perthynas â Gwasanaeth Seicoleg Addysgol, parhaodd y trefniadau cyflenwi yn absenoldeb y Prif Seicolegydd a llwyddwyd felly i barhau i ddarparu gwasanaeth llawn i’r ysgolion.

 

Ÿ

Daeth y Prosiect Canolbwyntio ar Ddatrysiad i ben yn yr ysgolion penodedig yng Ngwynedd a Môn. Casglwyd holiaduron a gwblhawyd gan yr ysgolion er mwyn mesur effeithiolrwydd y prosiect a bydd adroddiad gwerthuso ar gael yn nhymor yr Hydref. Gwnaethpwyd cyflwyniad hanner diwrnod ar y prosiect Canolbwyntio ar Ddatrysiad i Gynhadledd AAA CBAC yn Llandrindod. Bu i Seicolegydd dan Hyfforddiant o’r Brifysgol yng Nghaerdydd ddefnyddio’r prosiect fel sail i’w hymchwil doethuriaeth a chasglwyd data ar effaith yr hyfforddiant Canolbwyntio ar Ddatrysiad a roddwyd i ysgolion.

 

Ÿ

Bu i’r Prif Seicolegydd Dros Dro gyfrannu at Gynhadledd Prosiect Dyslecsia Cymru. Cafwyd gwahoddiad i ddarlithio i grwp o athrawon ac arbenigwyr eraill ym Mhrifysgol Aberystwyth ac i sôn am sut mae’r gwasanaeth yn asesu dyslecsia a’r defnyddiau a ddatblygwyd i’r perwyl. Mae’r gwasanaeth hefyd wedi dechrau cyd-weithio gyda’r Gwasanaeth Iechyd meddwl Plant a Phobl Ifanc ynglyn â rhaglen o hyfforddiant mewn ysgolion ar godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd iechyd meddwl a’r cymorth sydd ar gael ar gyfer hyrwyddo hynny. Targedwyd yr hyfforddiant at bobl ifanc ym Mlwyddyn 8. Hefyd, prynwyd defnyddiau sydd wedi cael eu cynhyrchu gan y Gwasanaeth (Profion Glannau Menai) gan Brosiect Letterbox Club, i’w defnyddio gyda phlant mewn gofal ledled Cymru er mwyn asesu a yw eu sgiliau darllen yn codi. Fel rhan o’r prosiect hwn, mae plant mewn gofal yn derbyn pecyn o lyfrau bob wythnos iddynt eu darllen a’u mwynhau.

 

Ÿ

Rhydd rhan 4 yr adroddiad fraslun o weithgareddau’r Gwasanaeth Athrawon Arbenigol ac mae’n cynnig dadansoddiad o’r gwasanaeth a roddwyd i blant â nam clyw; plant â chyflyrrau corfforol/meddygol; plant â nam golwg ynghyd â phlant â nam iaith ac awtistiaeth yn eu tro. Crybwyllir hefyd y cyrsiau hyfforddiant a fynychwyd gan aelodau staff y gwasanaeth a’r gweithgareddau datblygiad proffesiynol pellach yr ymgymerwyd â hwy. Ceir hefyd yn rhan 4 flas ar y math o ddigwyddiadau a chyfarfodydd y bu aelodau staff y Gwasanaeth yn rhan ohonynt ac y bu iddynt gyfrannu iddynt ar lefel broffesiynol;  dygir sylw penodol yn y cyswllt hwn at y ffaith bod aelodau’r timau wedi mynychu nifer fawr o gyfarfodydd adolygu datganiad blynyddol. Yn y fan hyn bu i Brif Weithredwr Cynnal esbonio er mwyn yr aelodau hynny oedd yn newydd i’r Cyd-Bwyllgor sut mae ei wasanaethau wedi’u didoli rhwng yr Uned Ddarparu, y Gwasanaeth Seicoleg Addysgol a’r Gwasanaeth Athrawon Arbenigol ynghyd â beth mae’r Broses 3* a Phroses Gwneud Datganiad yn eu golygu. Dygodd sylw yng nghyswllt gwaith yr athrawon arbenigol, bod yr ystadegau yn rhan 4.1 yr adroddiad yn awgrymu bod y nifer o blant sydd yn dioddef o nam iaith a/neu awtistiaeth yn uchel o’u cymharu â’r namau eraill, ac mae’n wir dweud bod y swyddogion addysg wedi bod yn adrodd am hyn, ac yn enwedig am y cynnydd yn y nifer o blant ifanc gyda nam iaith dybryd ar adegau.

 

Ÿ

Gwelodd diwedd y flwyddyn addysgol ffarwelio’n swyddogol ag un o’r athrawon arbenigol golwg mwyaf profiadol  a diolchir iddi am ei gwaith a’i gwasanaeth ffyddlon a graenus  hyd y blynyddoedd. Yn yr un paragraff fe gyfeirir at newidiadau staff eraill yn y Tîm Athrawon Arbenigol. Rhaid nodi hefyd bod tri disgybl nam golwg o Ysgol Uwchradd Bodedern (categori 9-14 oed), Ysgol Rhosybol ac Ysgol y Borth (categori 4-7 oed) wedi cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Braille RNIB Cymru a byddir an adrodd am ganlyniad y gystadleuaeth pan ddaw i law.

 

 

 

                                                                     

 

Ÿ

Rhydd Rhan 5 yr adroddiad wybodaeth ychwanegol a gesglir gan yr Uned Ddarparu. Ers dechrau Mawrth, 2009, anfonwyd holiadur i rieni gyda datganiad arfaethedig eu plentyn. Hyd yn hyn, cafwyd 8 ymateb gan rieni ar Ynys Môn yn rhoi eu barn ar ansawdd y datganiad o anghenion addysgol arbennig. Gofynnwyd i rieni yn ogystal am sylwadau ynglyn â’r rheolaeth o’r broses asesu statudol a gwnaethpwyd cais iddynt ddynodi, a’r raddfa o 1 i 5 (1 yr isaf, a 5 y gorau), eu lefel o foddhad gyda’r ffordd y rheolwyd y broses asesu statudol. Ym Môn rhoddwyd lefel 5 gan 3 rhiant; rhoddodd 2 riant lefel 4; rhoddodd 2 riant arall lefel 2 ac ni wnaeth 1 rhiant  lenwi’r rhan hwn. Cyflwynir hefyd samplau o’r math o sylwadau a gynigwyd gan rieni a rheini’n mynegi gwerthfawrogiad, a hefyd yn awgrymu lle y gellid fod wedi gwella ar y gwasanaeth.

 

Ÿ

Yng Ngwynedd, cafwyd 4 ymateb gan rieni gyda 2 riant yn rhoi lefel 2 i’r broses asesu statudol a’r 2 arall yn rhoi lefel 4. Mae’r sylwadau a gynigiwyd gan rieni eto’n ganmoladwy.

 

 

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am yr adroddiad a’u cyflwyniadau iddo, ac fe wahoddodd aelodau’r Cyd-Bwyllgor i gynnig unrhyw sylwadau ar y wybodaeth a gyflwynwyd. Bu i’r Cynghorydd Mrs Pat Larsen gyfeirio at raglen deledu yr oedd wedi ei gweld am stâd o dai mewn tref yn Lloegr lle nad oedd y rhan fwyaf o’r preswylwyr yn gallu darllen, a thra roedd yn cydnabod bod yna lawer o bobl yn dioddef o ddyslecsia, roedd clywed am hyn wedi’i brawychu, a gofynnodd a yw’r fath lefel o ddiffyg llythrennedd yn gyffredin, neu a oedd y sefyllfa a gyflwynwyd gan y rhaglen hon yn sefyllfa eithafol. Ymatebodd Prif Weithredwr Cynnal trwy ddweud ei fod am ddod at y broblem o bersbectif gwahanol. Dywedodd bod datblygu sgiliau llythrennedd yn sialens gynyddol i ysgolion oherwydd nid oes yna gymaint o ddiddordeb mewn darllen ar yr aelwyd, ac oherwydd bod dylanwadau eraill megis yr Eglwys a’r Ysgol Sul hefyd wedi pallu; mae’r cyfleoedd i feithrin y sgiliau hyn felly yn brinnach. Fodd bynnag, mae cyrsiau penodol lleol wedi’u llunnio sy’n targedu athrawon cychwynnol newydd gymhwyso yng nghyswllt addysgu darllen, ac mae’r adborth o’r cyrsiau hyn wedi bod yn gadarnhaol. Cytunodd Swyddog Addysg AAA Ynys Môn bod nifer o awdurdodau yn ymwybodol o’r diffyg  o ran sgiliau llythrennedd a rhifedd, a bod nifer o grantiau wedi bod ar gael gan yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol gynt i dargedu’r diffyg hwn. At hynny, mae yna gyd-weithio rhwng y Seicolegwyr Addysgol, Cwmni Cynnal ac athrawon ysgol ar ystod o brosiectau i wella sgiliau sylfaenol. Soniodd Swyddog Addysg AAA Gwynedd am gynllun diddorol gyda’r Brifysgol ym Mangor i weithio gyda’r teulu cyfan yn fam, tad a phlant i godi sgiliau sylfaenol.

 

 

 

Bu i’r Cynghorydd Peter Rogers ddweud ei fod wedi synnu o’r ochr orau gyda’r cynnydd sydd wedi’i wneud gyda phlant y Cyfnod Sylfaen a thrwy ddefnyddio chwarae fel cyfrwng i gyfathrebu gyda phlant. Yr hyn oedd yn ei bryderu fodd bynnag oedd sicrhau bod yna ddilyniant i’r cynnydd hwn a bod y plant yn parhau i ddatblygu  trwy’r cyfnodau dilynol a thrwy gydol eu gyrfa yn yr ysgol uwchradd. Roedd y Cynghorydd Barrie Durkin o’r farn bod dylanwadau allanol wedi cael effaith negyddol ar ddatblygiad plant ifanc a chyfeiriodd at y cyhoeddusrwydd a roddwyd yn y cyfryngau’r wythnos hon i’r awgrymiad na ddylai plant gychwyn ar eu gyrfa tan eu bod yn chwech oed,  ac effaith hynny wedyn ar y plant. Mewn ymateb esboniodd Prif Weithredwr Cynnal mai astudiaeth gan yr Athro Robin Alexander  yn Lloegr oedd hwn, a bod y darn o waith yma yn awgrymu bod i addysg y  blynyddoedd cynnar ormod o ffurfioldeb a bod angen hyrwyddo dysgu trwy chwarae ac i blant ymgymryd â dulliau ffurfiol o ddysgu pan yn aeddfetach ac yn barotach i wneud hynny. Fodd bynnag, cydnabyddir bod yn rhaid gweld pa fath o ddylanwad mae dulliau dysgu’r Cyfnod Sylfaen wedi’i gael ar bobl ifanc y ddwy sir yn hwyrach ymlaen yn eu gyrfa ysgol.

 

 

 

Gofynnodd y Parch.Lloyd Jones yng nghyd-destun y drafodaeth uchod ar effeithiau cymdeithasol ar ddatblygiad plant, a oedd y twf mewn niferoedd wedi digwydd  yng nghyswllt plant gydag anawsterau iaith neu yng nghyswllt plant gydag awtistiaeth. Adroddodd Y Prif Seicolegydd Addysgol ei fod yn wir dweud bod yna gynnydd sylweddol wedi bod mewn niferoedd yn y ddwy garfan ac anodd yw dweud a yw hyn wedi bod yn wir erioed neu a yw wedi dod i’r amlwg am fod dulliau adnabod anhwylderau o’r fath bellach yn well, a bod asiantaethau yn fwy ymwybodol o’r plant yma yn gynt. Mae’r plant y mae eu  hanawsterau iaith yn gysylltiedig â ffactorau cymdeithasol yn tueddu i ddatblygu’n iawn ar ôl cyfnod yn yr ysgol ac felly mater o oediad iaith yw eu problemau hwy yn hytrach nag anawsterau cynhenid hir dymor. Maent yn wahanol iawn i’r garfan honno o blant y mae natur eu hanhwylderau yn golygu nad ydynt yn deall sut i ddefnyddio iaith. Ychwanegodd Swyddog Addysg AAA Ynys Môn y gwelwyd cynnydd mawr yn y rhai hynny sydd â gwir broblem. Yn aml, mae’n anodd dirnad os yw problem iaith yn fater hir dymor neu ag ydyw i’w briodoli i ddiffyg ysgogiad ac mae’n anodd gwybod faint o adnoddau i’w neilltuo i’w cynnal. Sylwodd

 

 

 

                                                                    Prif Weithredwr Cynnal ei bod yn bwysig sylweddoli bod yna oblygiadau cyllidol i waith yr athrawon arbenigol a bod cynifer o blant ifanc yn dod i mewn i’r gyfundrefn yn rhoi pwysau ariannol arni.

 

 

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r aelodau a’r swyddogion am y drafodaeth ar yr adroddiad ac am eu cyfraniadau iddi, a daeth â’r eitem i ben trwy ddiolch i’r aelodau staff hynny oedd yn ymadael â’r gwasanaeth a chan estyn croeso i’r aelodau staff hynny oedd yn ymuno o’r newydd.

 

 

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys.

 

 

 

1

TORIAD I GYLLIDEB Y CYD-BWYLLGOR AAA 2009/10

 

 

 

Cyflwynwyd - Adroddiad ynglyn â gweithredu toriad o 1% ar gyllideb y Cyd-Bwyllgor sy’n gyfwerth â £11,800.

 

 

 

Atgoffodd Prif Weithredwr Cynnal yr aelodau bod y Cyd-Bwyllgor wedi trafod toriad effeithlonrwydd o 1% ar ei gyllideb ers dau neu dri chyfarfod bellach.  Adroddwyd yn ystod y trafodaethau hyn y cyrhaeddwyd pwynt lle’r oedd cwtogiadau staff yn anorfod. Mae swyddogion y Cyd-Bwyllgor ynghyd â swyddogion y ddau Awdurdod Addysg wedi adolygu’r gyllideb ac wedi darganfod arbediad o £9,400 ar sail barhaol (£5,500 ar gyfer 2009/10). Bwriedir dod â swydd weinyddol o fewn Uned Ddarparu’r Cyd-Bwyllgor AAA i ben o 1 Fedi, sef swydd clerc/teipydd (rhan amser 0.5). Cynigiwyd swydd arall i ddeilydd presennol y swydd clerc/teipydd am gyfnod o ddwy flynedd yn y lle cyntaf, sef tra pery’r Grant Cwnsela Ysgolion. Gofynnir i’r Cyd-Bwyllgor gymeradwyo’r toriad uchod.

 

      

 

     Adroddodd Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd tra bod y toriadau ar sail effeithlonrwydd wedi bod yn digwydd ers sawl blynedd bellach, mae cyfnod wedi dod yn awr lle byddir yn gweld gwir doriadau mewn cyllidebau a rheini’n doriadau sylweddol. O safbwynt Cyngor Gwynedd, mae’n rhaid  adnabod arbedion o £16m dros gyfnod o 3 blynedd ac fe ofynnwyd eisoes i’r adrannau ar draws y Cyngor gynnig opsiynau ar gyfer cwtogi. Cynlluniwyd toriadau o £2.5m ar gyllideb ganolog addysg o £22m (mae yna hefyd gyllideb ddatganoledig o £60m) ac o’r gyllideb ganolog hon daw cyfraniad Cyngor Gwynedd o £700k i’r Cyd-Bwyllgor AAA. Oherwydd bod y swm yn un sylweddol o fewn cyllideb ganolog Addysg mae wedi cael ei hadnabod fel ffynhonnell toriad posibl. Dywedodd y Pennaeth Addysg ei fod yn awyddus i aelodau’r Cyd-Bwyllgor fod yn ymwybodol y gall cwtogi ddigwydd i gyfraniad Gwynedd i’r Cyd-Bwyllgor pan ddaw hi’n amser i’r Cyngor  benderfynu ar becyn toriadau ym mis Rhagfyr, ac mae’n bosibl bydd lleihad yn y gyllideb o £100k dros y 3 blynedd nesaf. Mae’n debygol bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn cynnal yr un math o drafodaeth maes o law.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Barrie Durkin yn poeni ynglyn ag effaith y toriadau posibl a dywedodd o gofio fod sefydliad y Cyd-Bwyllgor eisoes yn gweithredu i’w lawn capasiti, ei fod yn gobeithio na fyddai yna effaith ar y gwaith. Dywedodd y Cynghorydd Dai Rees Jones bod rhaid cael gwybod beth yw safbwynt Cyngor Sir Ynys Môn cyn daw’r darlun llawn yn eglur. Mae’r toriadau mae Cyngor Gwynedd yn eu hwynebu yn debygol o gael effaith ar bob agwedd o wasanaethau a sylwodd na fu iddo erioed ddychmygu y byddai’n gweld sefyllfa lle mae gwasanaethau rheng flaen dan fygythiad. Felly tra roedd yn parchu barn y Cynghorydd Barrie Durkin ac yn llawn deall ei bryder ni welai ffordd o osgoi gorfod gweithredu toriadau  yn enwedig o ystyried y sefyllfa y mae Cyngor Gwynedd ynddi.

 

      

 

     Cytunodd y Cadeirydd bod y rhagolygon ariannol yn bur llwm ar draws awdurdodau lleol. Gyda gofid felly bu i aelodau’r Cyd-Bwyllgor dderbyn y toriad gweinyddol a gyflwynwyd uchod.

 

      

 

     Penderfynwyd cymeradwyo gweithredu’r toriad o 1% ar gyllideb y Cyd-Bwyllgor trwy ddileu swydd weinyddol yn unol ag argymhelliad yr adroddiad.

 

      

 

2

ADRODDIAD ARIANNOL

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad ynglyn â’r sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â Chyllideb 2009/10.

 

      

 

     Adroddodd yr Uwch Gyfrifydd Addysg -

 

      

 

                                                                        

 

Ÿ

Dengys adolygiad o’r gyllideb ar hyn o bryd orwariant o oddeutu £16,490 a hynny’n bennaf  ar gyllido swydd y Cyd-lynydd 3* sy’n cael ei chyllido trwy falansau’r Cyd-Bwyllgor. Pery’r cytundeb cyfredol hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol hon.

 

Ÿ

Mae costau cyflenwi mamolaeth seicolegydd wedi cynyddu gwariant a chyfnod mamolaeth athrawes gynhaliol wedi creu arbediad.

 

Ÿ

Mae yna gytundeb rhwng Awdurdodau Addysg Gwynedd ac Ynys Môn i gyfrannu £10,000 yn flynyddol tuag at gefnogi Gwasanaeth Cwnsela o fewn y Cyd-Bwyllgor AAA. Cyllidir y Gwasanaeth Cwnsela trwy grant y Cynulliad am gyfnod o 3 blynedd yn y lle cyntaf.

 

 

 

                                                                  

 

Ÿ

Nid yw’r toriad a argymhellwyd o dan eitem 4 uchod wedi’i gynnwys yn yr adolygiad. Disgwyliwyd am benderfyniad y Cyd-Bwyllgor cyn gweithredu ynglyn â’r argymhelliad.

 

Ÿ

Mae’r sefyllfa ddiweddaraf fel a ganlyn :

 

 

 

Ÿ

Balansau ar 31 Mawrth, 2009           -     £65,336

 

Ÿ

Adolygiad Hydref, 2009               -           -£16,490

 

Ÿ

Amcangyfrif Balansau 31 Mawrth, 2010     -     £48,846

 

 

 

     Dywedodd yr Uwch Gyfrifydd Addysg ei bod yn pryderu bod y Cyd-Bwyllgor yn parhau i gyllido toriadau o’r ddwy flynedd ddiwethaf o’i falansau. At hynny, mae’n rhaid ystyried fel rhan o’r darlun mawr yr arbediad yn deillio o dorri swydd weinyddol y cytunwyd  iddo o dan eitem 4 uchod ynghyd â rhagolygon ar gyfer y dyfodol sy’n gyffredinol ddrwg. Crybwyllwyd hefyd cwtogiad posibl o £100k o du Cyngor Gwynedd gyda thrafodaethau cyffelyb i ddigwydd ym Môn. O edrych ar y sefyllfa gyfansawdd felly, mae’n rhaid gofyn beth fydd patrwm staffio’r Cyd-Bwyllgor ar gyfer y dyfodol, oherwydd y sefydliad staff yw prif gost y Cyd-Bwyllgor ac mae’n edrych yn bur debygol bydd gofyn gwneud penderfyniadau anodd iawn yn y misoedd i ddod.

 

      

 

     I grynhoi’r sefyllfa, dywedodd Prif Weithredwr Cynnal bod yna felly ddiffyg o £7k mae’r Cyd-Bwyllgor yn parhau i’w gario ac at hynny, mae yna arbedion effeithlonrwydd o 1% i ddod sy’n mynd â’r arbedion parhaol i £18k. Dygir sylw’r Cyd-Bwyllgor unwaith eto bod ei wariant mwyaf ar staff ac o’r ffynhonnell hon yn ôl pob tebyg y bydd gofyn ystyried toriadau pellach gan fod gweddill y gyllideb eisoes wedi’i thorri i’r asgwrn.

 

      

 

     Bu i’r Cynghorydd Peter Rogers ddweud bod yna osgoi gwneud penderfyniadau anodd wedi bod yn y degawd diwethaf er enghraifft mewn perthynas â mynd i’r afael â lleoedd gweigion mewn ysgolion a bod yr amser wedi dod lle mae’n rhaid wynebu realaeth a gwneud penderfyniadau caled iawn.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn y diweddariad cyllidol gan ddiolch i’r Uwch Gyfrifydd Addysg am y wybodaeth.

 

      

 

3

HUNAN-ARFARNIAD ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

 

      

 

     Fel rhagarweiniad i’r eitem hon, atgoffodd Prif Weithredwr y Cyd-Bwyllgor bod Estyn am gynnal arolygiad o’r maes Anghenion Dysgu Ychwanegol ym mis Tachwedd ac fel rhan o’r broses honno bydd yr Arolygwyr yn edrych ar waith y Cyd-Bwyllgor. Dros gyfnod y tri chyfarfod diwethaf mae yna waith wedi cael ei wneud i baratoi aelodau ar gyfer y digwyddiad hwn trwy gynnal trosolwg o beth yw dyletswyddau Cyd-Bwyllgor a beth yw’r gofynion yng nghyswllt y Côd Ymarfer. Mae hunan arfarniad y ddau awdurdod bellach wedi’u cwblhau ac yn y cyfarfod hwn byddir yn cyflwyno crynodeb o’r naill a’r llall.

 

      

 

     Bu i Mrs Mair Read, Swyddog Addysg AAA Ynys Môn egluro bod yr arolygiad yn golygu y bydd yna edrych ar berfformiad y Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol ar draws y ddau Awdurdod ac mae paratoi ar gyfer hynny wedi golygu cryn waith. Ar hun o bryd disgwylir ymateb cychwynnol Estyn i’r deunydd a baratowyd eisoes. Ym Môn mae’r Deilydd Portffolio Addysg a Hamdden ynghyd â Chadeirydd y Pwyllgor Trosolwg Polisi Addysg, Iechyd a Lles (sy’n aelod o’r Cyd-Bwyllgor) wedi treulio amser yn mynd trwy’r papurau a baratowyd. Ystyrir ei fod yn fuddiol i aelodau’r Cyd-Bwyllgor fod yn ymwybodol pa rannau o’r hunan arfarniad sy’n berthnasol yn benodol i waith y Cyd-Bwyllgor ac mae’r daflen a gylchredir yn y cyfarfod hwn yn crynhoi’r elfennau pwysicaf.

 

      

 

                                                               

 

     Yn y rhagymadrodd fe grisialir swyddogaeth y Cyd-Bwyllgor, sef darparu cefnogaeth a chyngor i ysgolion er mwyn sicrhau bod disgyblion sydd ag AAA yn cael mynediad at y cyfleoedd addysgol mwyaf addas er mwyn gwneud y cynnydd addysgol gorau. Darperir y Gwasanaeth Seicoleg Addysgol, y Gwasanaeth Athrawon Arbenigol ac Uned Weinyddu Asesiadau statudol a datganiadau gan y Cyd-Bwyllgor.  Crybwyllir fan hyn hefyd y newidiadau sydd wedi digwydd ers 2004 pryd y bu i’r Prif Seicolegydd Addysgol oedd hefyd yn Reolwr yr Uned Ddarparu ymddeol. Nodir bod nifer helaeth o’r nodweddion da a nodwyd yn adroddiad 2004 yn parhau a chynnydd wedi ei wneud yn y meysydd oedd angen sylw. Mae ysgolion yn deall yn llawer gwell sut y caiff cyfrifoldebau ar gyfer AAA eu rhannu rhwng y CBAA , yr AALl a’r ysgolion; cymerwyd camau i sicrhau bod dulliau dyrannu adnoddau ar gyfer ADY yn fwy eglur a thryloyw a rhoddwyd sylw i wella effeithlonrwydd. Sylwir hefyd bod yr Awdurdod wedi gweithredu i gynnal gwelliant ers yr arolwg

 

      

 

                                                                         

 

     diwethaf yn erbyn prif dasgau’r cynllun gwella ôl-arolwg. Mae’r perthnasedd gweithio cadarnhaol gyda swyddogion gwasanaethau ac asiantaethau eraill yn parhau a chyfleoedd yn cael eu hadnabod i gynllunio a datblygu gwasanaethau ar lefel strategol gyda gwasanaethau ac asiantaethau eraill a’r ysgolion. Mae ystod eang o wybodaeth ar ddarparu a chyllido Anghenion Dysgu Ychwanegol  ar gael yn llawer haws.

 

      

 

     Mae’r Awdurdod ym Môn wedi adnabod fel un o ddwy nodwedd ragorol y ffaith bod trefniadau ar y cyd gydag Awdurdod Addysg Gwynedd yn golygu bod yna mewn lle dîm o seicolegwyr addysgol sydd rhyngddynt yn meddu ar ystod eang o arbenigedd mewn gwahanol feysydd o Anghenion Dysgu Ychwanegol. Maent yn cyd-weithio’n dda iawn gyda’r ysgolion mewn ffordd flaengar gan gynnig cyngor ac arweiniad cadarn. Y nodwedd arall o’r gwasanaeth y bernir ei bod yn rhagorol yw’r ffaith bod perfformiad yr Awdurdod wrth lunio datganiadau’n gyflym yn dda iawn, a’r Uned Darparu’n gweithio’n effeithiol i gynnal a chwblhau’r broses o asesu’n statudol o fewn y terfynau amser. Adnabuwyd cyfres o  nodweddion da yn y gwasanaeth hefyd, ac mae’r rhain wedi’u rhestru yn y daflen. O ran meysydd i’w datblygu, bernir bod angen parhau gyda’r gwaith o wella’r defnydd a wneir o ddata perfformiad a miniogi’r drefn o dderbyn adroddiadau am gyflawniad gwahanol garfanau o ddisgyblion gydag anghenion addysgol arbennig gan ysgolion a darparwyr eraill,  a sicrhau bod yr adroddiadau hynny’n cael eu dadansoddi’n rheolaidd. Mae angen hefyd diweddaru’r ffeil AAA a’r ddogfennaeth sydd ar gael yn rhoi arweiniad i ysgolion ar ddarparu ar gyfer grwpiau o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, ac ymestyn y defnyddiau sydd ar gael ar wefan Cynnal a’r Cyd-Bwyllgor. Y neges yn gryno yw tra bod yna drefn sydd yn gweithio yn dda ar y cyfan mae yn sialens hefyd oherwydd bod y gwasanaethau a ddarperir yn rhai sy’n gweithredu ar y ffin; oherwydd bod y Cyd-Bwyllgor yn gweithio i’w gapasiti ac oherwydd bod y gofynion yn gyson uchel. Mae felly’n her o’r mwyaf eu cynnal mewn cyfnod o gynni ariannol a gwneud hynny mewn cyd-destun o ail-strwythuro.

 

      

 

     O du Gwynedd, bu i Mrs Orina Pritchard, y Swyddog Addysg adrodd bod yr hunan-arfarniad wedi dilyn fframwaith Estyn. Gan mai gwaith y Cyngor sy’n cael ei arolygu, ystyriwyd cyfraniad y Cyd-Bwyllgor i waith y Cyngor yn y maes. Daethpwyd at y casgliadau a nodid ar ôl ymgynghori helaeth gyda nifer o bobl, ac mae yna weithgor o aelodau wedi craffu ar y deunydd hefyd. Mae Gwynedd wedi adnabod 5 nodwedd ragorol yn ymwneud â’r drefn adnabod ac ymyrraeth gynnar; ansawdd ac amrediad yr hyfforddiant i ysgolion; darpariaeth arbenigol gynhwysfawr; ansawdd ac amrediad gwasanaethau ADY ynghyd â’r Gwasanaeth Cynnal Ymddygiad. Ymhelaethodd y Swyddog Addysg ar pam y bernir bod yna ragoriaeth yn y meysydd yma. Mae Gwynedd wedi nodi chwe maes hefyd lle credir bod yna nodweddion da,  ac mae tri agwedd wedi’u rhestru y credir bod angen rhoi sylw iddynt , sef wynebu’r her o ailstrwythuro’r gwasanaeth; mireinio a pharhau i ddatblygu’r drefn o fonitro canlyniadau grwpiau penodol o ddisgyblion ac adolygu’r meini prawf AAA.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Dai Rees Jones ei fod yn pryderu ynglyn â diffygion posibl yn y partneriaethau sydd i fod i gynorthwyo plant, er enghraifft CAMHS (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc/ Child and Adolescent Mental Health Services), a bod yna oedi cyn cynnal asesiad sy’n golygu bod y plant yma weithiau yn y system am gyfnod hir cyn eu bod yn cael sylw.

 

      

 

     Ymatebodd Swyddog Addysg AAA Gwynedd bod y cyd-weithio wedi gwella a bod yna brosiectau arloesol mewn lle, rhai ohonynt rhwng yr ysgolion a CAMHS i gynnwys plant, a thra gellir dweud

 

      

 

                                                                        

 

     bod yna waith da hefyd yn digwydd yn bartneriaethol rhwng Addysg, y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gwasanaeth Iechyd, mae yna le i wella o hyd. Cytunodd Swyddog Addysg AAA Ynys Môn bod yna gynnydd sicr wedi bod yn ddiweddar a bod gwell perthynas a dealltwriaeth wedi’i adeiladu gyda CAMHS. Mae’r penderfyniad i leoli’r Gwasanaeth Cwnsela Ysgolion yn y Cyd-Bwyllgor wedi gweithio’n dda o safbwynt ymwneud ag asiantaethau eraill ac yn arbennig CAMHS, ac mae’r gynrychiolaeth ar Fwrdd Rheoli’r Gwasanaeth Cwnsela yn cynnwys y Prif Seicolegydd Addysgol, swyddogion o Wynedd, Ynys Môn a Cynnal ynghyd â Rheolwr CAMHS. Dywedodd  y Cynghorydd Dai Rees Jones ei fod gyda’r cyntaf i gydnabod cyd-weithredu da lle mae hynny’n digwydd er enghraifft rhwng y Gwasanaeth Addysg a GAP, ond roedd yn dal i feddwl bod y ffaith bod rhai plant yn y system am 2 i 3 blynedd yn adlewyrchu diffyg cyd-lyniaeth ac roedd hyn yn ei boeni.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Mrs Fflur Hughes beth yw effaith y sefyllfa ariannol ar y cynlluniau i gyfuno Cynnal a’r Cyd-Bwyllgor.  Adroddodd Prif Weithredwr Cynnal bod paratoi ar gyfer yr arolygiad wedi cael blaenoriaeth dros roi sylw i faterion cyfuno. Fodd bynnag, mae penderfyniad

 

      

 

                                                                           

 

     wedi’i wneud i ddod â’r ddau endid  ynghyd ond rhaid nodi bod cryn waith trafod eto i’w wneud yn

 

     hyn o beth, ac yn y cyfamser gwnaethpwyd ymgais fwriadol i ddod â’r seicolegwyr addysgol a’r ymgynghorwyr addysg ynghyd. Gellir dweud felly bod gwaith hyrwyddo dulliau o gyd-weithio wedi’u wneud ac yn mynd rhagddo, ond heb fod yr ail-strwythuro ffurfiol wedi digwydd. Soniodd Swyddog Addysg AAA Ynys Môn bod yr hunan arfarniad llawn y cafwyd detholiad ohono uchod yn cyfeirio at barhau gyda’r gwaith hwn o adolygu sut y darparir y gwasanaethau yng nghyd-destun cyfuno Cynnal a’r Cyd-Bwyllgor ac yng nghyswllt gweithio mewn dulliau mwy effeithlon.

 

      

 

     Dywedodd y Cadeirydd bod trefniant y Cyd-Bwyllgor wedi llwyddo oherwydd ymroddiad, dyfalbarhad  a mewnbwn swyddogion y ddau Awdurdod yng Ngwynedd ac ym Môn, ac roedd am ddiolch iddynt am eu gwaith a’u hymrwymiad.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn y wybodaeth o hunan arfarniadau’r ddau Awdurdod gan ddiolch i’r swyddogion am y cyflwyniadau.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

                    Cynghorydd Gwilym O.Jones

 

                         Cadeirydd