Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig (dadgomisiynwyd 31 Awst, 2017) dogfennau , 12 Mawrth 2010

Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig (dadgomisiynwyd 31 Awst, 2017)
Dydd Gwener, 12fed Mawrth, 2010

CYD-BWYLLGOR ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd yng Nghaernarfon ar 12 Mawrth, 2010  

 

YN BRESENNOL:

 

Cynghorydd Gwilym O.Jones (Cyngor Sir Ynys Môn) (Cadeirydd)

 

Cyngor Gwynedd

 

Cynghorwyr Mrs Jean Forsyth, Brian Jones, Mrs Pat Larsen

 

Cyngor Sir Ynys Môn

 

Cynghorwyr Mrs Fflur Hughes, Kenneth P.Hughes

 

Yr Eglwys

 

Mr Rheinallt Thomas (Yr Eglwysi Rhyddion)

 

Aelod Di-Bleidlais

 

Cynghorydd G.O.Parry, MBE (Aelod Portffolio Addysg a Hamdden Cyngor Sir Ynys Môn)

 

 

 

WRTH LAW:

 

Prif Seicolegydd Addysgol (Mrs Angharad Behnan)

Swyddog Addysg AAA Ynys Môn (Mrs Mair Read)

Swyddog Addysg AAA Gwynedd (Mrs Orina Pritchard)

Uwch Gyfrifydd Addysg Gwynedd (Mrs Kathy Bell)

Swyddog Pwyllgor (ATH)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Cynghorwyr Selwyn Griffiths, Mrs Sylvia Humphreys, Dai Rees Jones, Peter Read (Cyngor Gwynedd), Cynghorydd Peter Rogers (Ynys Môn), Parch. Lloyd Jones (Yr Eglwys yng Nghymru), Mr R.P.Jones (Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden Ynys Môn) Mr Dewi Jones (Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd)

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Dr Gwynne Jones (Prif Weithredwr Cwmni Cynnal), Mrs Delyth Molyneaux (Ymgynghorydd Anghenion Dysgu Ychwanegol)

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso cynnes i bawb oedd yn bresennol.

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd ac arwyddwyd fel rhai cywir, cofnodion cyfarfod blaenorol y Cyd-Bwyllgor a gynhaliwyd ar 16 Hydref, 2009.

 

3

GWAITH YR UNED DDARPARU ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG

 

 

 

Cyflwynwyd - Adroddiad ar waith yr Uned Ddarparu Anghenion Addysgol Arbennig yn ystod tymor yr Hydref, 2009.

 

 

 

Adroddwyd ynglyn â’r prif bwyntiau fel a ganlyn -

 

 

 

 

 

Ÿ

Gweinyddu Prosesau Asesu ac Adolygu

 

 

 

Ÿ

Bu’r cydlynwyr datganiadau a’r tîm gweinyddol yn brysur yn prosesu adolygiadau disgyblion Blwyddyn 6 er mwyn eu cyflwyno i’r Paneli Cymedroli Blwyddyn 6 ddechrau tymor y Gwanwyn.

 

Ÿ

Paratowyd llythyrau i atgoffa ysgolion o’r angen i gynnal adolygiadau blynyddol statudol a 3* yn ystod tymor y Gwanwyn.

 

Ÿ

Cychwynnwyd ar y gwaith o baratoi tuag at uwchraddio’r modiwl anghenion addysgol arbennig o fewn y bas data One i fersiwn 4 yng Ngwynedd, gydag ymweliadau gan ymgynghorydd o’r cwmni CAPITA  a chyfarfodydd rheolaidd rhwng yr uwch swyddog gweinyddol a swyddogion perthnasol. Yn Ynys Môn, bydd y gwaith o uwchraddio i fersiwn 4 yn cychwyn dros y misoedd nesaf. Mae bod mewn sefyllfa i gael mynediad at y systemau technolegol diweddaraf yn hollbwysig i’r Uned Ddarparu yn nhermau rheoli gwybodaeth a data. Bydd yr uwchraddio yn caniatau rhagor o hyblygrwydd o ran cynhyrchu adroddiadau ar sail y wybodaeth a fwydir i mewn i’r system.

 

Ÿ

Cyfrannodd y staff gweinyddol i’r gwaith paratoi tuag at yr Arolygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol yn y ddwy sir a hefyd i’r archwiliad mewnol o’r gyllideb integreiddio yng Ngwynedd.

 

 

 

Ÿ

Gwasanaethau

 

 

 

Ÿ

Cyfranogwyd mewn cyfarfodydd grwpiau aml-asiantaethol yn cynnwys y Grwp Cyswllt Iechyd-Addysg a’r Grwp Gweithredol Gwasanaethau Arbenigol Plant.

 

 

 

Ÿ

Y Gwasanaeth Seicoleg Addysgol

 

 

 

Ÿ

Roedd y gwasanaeth wedi’i staffio’n llawn yn ystod tymor yr Hydref gyda dychweliad y Prif Seicolegydd i’w gwaith yn dilyn cyfnod o absenoldeb mamolaeth.

 

Ÿ

O ran gweithgareddau’r Gwasanaeth mae gwerthusiad o ddulliau Canolbwyntio ar Ddatrysiad (CAD) fel modd o greu newid cadarnhaol mewn ysgolion y maent wedi bod yn weithredol mewn rhai o’r ysgolion yng Ngwynedd a Môn dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi amlygu llwyddiant y prosiect. Dengys o’r holiaduron a dderbyniwyd gan ysgolion y prosiect eu bod, wedi’r hyfforddiant a gwaith cynhaliol/dilynol gan y seicolegwyr, yn medru defnyddio dulliau CAD i nifer o ddibenion. O safbwynt y rhai a atebodd oedd yn adrodd eu bod yn defnyddio dulliau CAD,  roedd 93% yn eu defnyddio ar gyfer ymyrraeth ymddygiadol, 74 % ar gyfer gwella cyfathrebu a 31% ar gyfer hyrwyddo lles. Roedd canran llai yn defnyddio’r dulliau ar gyfer newid polisïau ysgol gyfan; hyrwyddo dysgu, hyrwyddo presenoldeb a datrys gwrthdrawiad.

 

 

 

Bu i’r gwerthusiad hefyd amlygu’r gwahaniaeth mae dulliau CAD wed’i wneud i’r staff fu’n ymwneud â’r prosiect gyda 92% yn dweud bod defnyddio’r dulliau wedi gwneud gwahaniaeth o ran newid agwedd neu ffordd o feddwl; 86% yn dweud bod defnyddio’r dulliau wedi gwneud gwahaniaeth o ran sgiliau a strategaethau sydd ar gael ac 83% yn dweud bod gwneud defnydd o’r dulliau wedi codi hyder personol.

 

 

 

At hynny, roedd 90% o’r rhai a atebodd yn teimlo bod gweithredu dulliau CAD wedi cael effaith gadarnhaol ar gymhelliad disgyblion, ac 85% yn teimlo bod eu gweithredu wedi cynyddu cyd-weithrediad disgyblion.

 

 

 

Ÿ

Mae dau brosiect CAD llai wedi’u gweithredu yn ystod y tymor yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Ysgol Bodedern ac Ysgol y Berwyn. Hefyd, fe wahoddwyd y tîm o seicolegwyr oedd yn gyfrifol am y prosiectau CAD i adrodd am waith y ddau Awdurdod mewn cynhadledd fawreddog BRIEF yn Llundain, ac fe gawsant dderbyniad ac adborth positif iawn.

 

Ÿ

Mae’r gwasanaeth eto wedi derbyn myfyrwraig doethuriaeth ar leoliad o’r Brifysgol yng Nghaerdydd.

 

Ÿ

Mae dwy o’r seicolegwyr wedi derbyn hyfforddiant fel hyfforddwyr mewn dulliau ELKLAN i ddatblygu sgiliau iaith a chyfathrebu ac maent wedi trosglwyddo’r hyfforddiant i nifer o athrawon a chymorthyddion dysgu ar draws Gwynedd ac Ynys Môn. Mae’r Gwasanaeth Seicoleg Addysgol hefyd wedi derbyn hyfforddiant cychwynnol yn y dulliau hyn.

 

 

 

 

 

Ÿ

Y Gwasanaeth Athrawon Arbenigol

 

 

 

Ÿ

Ym mis Medi croesawyd aelod o staff newydd i’r Tîm fydd yn gweithio rhan amser i’r Cyd-Bwyllgor ac sydd newydd gymhwyso mewn Diploma Proffesiynol mewn Namau Aml-Synhwyrol. Diolchir iddi am ei chyfraniad brwdfrydig i’r tîm wrth gyd-weithio gyda’r athrawon eraill a derbyn oriau gwaith ychwanegol i lenwi’r bwlch o fewn y tîm y tymor hwn.

 

Ÿ

Gan nad oedd yn bosibl croesawu aelod newydd arall o staff yn llawn amser i’r tîm tan ar ôl y Nadolig, diolchir hefyd i’r athrawes nam golwg am gytuno i weithio’n rhan amser i’r Cyd-Bwyllgor yn dilyn ei hymddeoliad ym mis Awst, 2009. Mae’r athrawes yn cynorthwyo’r tîm golwg wrth gefnogi disgybl sydd yn astudio TGAU, ac sydd angen arebnigedd mewn amryw o godau ac ieithoedd Braille. Rhagwelir y byddir yn gofyn am gael parhau gyda’r gwasanaeth am beth amser er mwyn gallu ymateb yn llawn i anghenion academaidd disgyblion hyn y ddwy sir.

 

Ÿ

Gwnaed trefniadau i aelodau o’r tîm ychwanegu at eu horiau gwaith yn ystod tymor hwn a newid eu hamserlenni’n sylweddol oherwydd y sefyllfa staffio. Diolchir iddynt am eu parodrwydd i gynorthwyo’r gwasanaeth er lles disgyblion Môn a Gwynedd.

 

Ÿ

Llongyferchir tri phlentyn dall a fu’n cystadlu mewn cystadleuaeth ysgrifennu creadigol cenedlaethol Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol ar gyfer y Dall. Roedd un disgybl ifanc blwyddyn 3 o Ynys Môn yn fuddugol, gyda dau arall hefyd o Fôn yn ennill gwobrau a thystysgrifau am gystadlu. Mae’n glod i’r disgyblion, yr ysgolion, eu hathrawon ac yn arbennig eu hathrawes arbenigol am wneud y trefniadau a’u hannog i gystadlu.

 

Ÿ

Bu aelodau’r tîm yn ymwneud â datblygiad proffesiynol a Hyfforddiant mewn Swydd a  buont hefyd yn cymryd rhan mewn cyflwyniadau, cyfarfodydd a digwyddiadau eraill yn ôl yr arfer. Trefnwyd i rai o’r athrawon gael eu cyfweld gan arolygwyr Estyn ym mis Tachwedd, gan adrodd ar eu rôl a’u gwaith wrth asesu, darparu gwasanaeth a monitro ansawdd ar draws Gwynedd a Môn. Fodd bynnag, nodir ei bod yn siomedig mai prin iawn oedd y cyfeiriad yn adroddiad arolwg terfynol Estyn at y Gwasanaeth Athrawon Arbenigol a’r hyn mae ei gyflawni.

 

 

 

Ÿ

Gwybodaeth Ystadegol

 

 

 

Ÿ

Dengys Tabl 1 yr adroddiad y nifer o ddisgyblion sydd yn derbyn cymorth ychwanegol ar Ynys Môn. Gwelwyd cynnydd bychan yn niferoedd y disgyblion sydd gyda datganiad o AAA ac yn y nifer sy’n derbyn cymorth ychwanegol trwy’r Cynllun AAA 3*. Roedd 380 o blant gyda datganiad yn Ynys Môn ym mis Ionawr 2010 o gymharu â 375 ym mis Ionawr, 2009. Roedd 178 o blant yn derbyn cymorth tryw’r Cynllun 3* o gymharu â 170 ar yr un pryd yn 2009 yn rhoi cyfanswm o 558 o blant oedd yn derbyn cymorth ychwanegol ym Môn trwy’r naill ddull neu’r llall yn Ionawr, 2010, sef 5.8% o’r boblogaeth ysgol (o gymharu â 5.6% yn Ionawr, 2009).

 

Ÿ

O du Gwynedd, mae’r nifer o ddisgyblion gyda datganiad wedi gostwng, ond mae’r nifer o ddisgyblion sy’n derbyn cymorth trwy’r Cynllun AAA 3* yn parhau i godi. Ym mis Ionawr, 2010 roedd  525 o ddisgyblion gyda datganiad yng Ngwynedd o gymharu â 545 ym mis Ionawr y flwyddyn gynt . Roedd 657 o ddisgyblion yn derbyn cymorth trwy’r Cynllun 3* o gymharu â 612 yn Ionawr, 2009 yn rhoi cyfanswm o 1,182 o blant oedd yn derbyn cymorth ychwanegol yng Ngwynedd trwy’r naill ddull neu’r llall yn Ionawr, 2010, sef 6.7% o’r boblogaeth ysgol (o gymharu â 6.6% yn Ionawr, 2009).

 

Ÿ

Mae’r Cyd-Bwyllgor yn gyfrifol felly am weinyddu 1,740 o achosion datganiad a 3* ar ran y ddau Awdurdod Addysg Lleol (i’w gymharu â 1,702 ar yr un pwynt yn 2009). Yn ogystal, gweinyddwyd 16 asesiad statudol yng Ngwynedd a 5 yn Ynys Môn lle penderfynwyd peidio â llunio datganiad.

 

Ÿ

O safbwynt cymhariaeth gyda’r sefyllfa genedlaethol, mae’r canran o ddisgyblion gyda datganiad wedi gostwng yn y blynyddoedd diweddar ac maent yn agosach at gyfartaledd Cymru bellach, gyda  Gwynedd yn sefyll ar 3% yn Ionawr, 2010 ac Ynys Môn yn sefyll ar 3.94% yn Ionawr 2010 o gymharu â 3.1% ar lefel Cymru (2009). Mae nifer o asesiadau statudol sydd ar y gweill ar y dyddiad ciplun wedi codi’n ddiweddar yn enwedig yn Ynys Môn. Roedd 33 o ddisgyblion gydag asesiad statudol ar y gweill ym Môn ar 31 Rhagfyr, 2009 tra roedd y ffigwr ar gyfer Gwynedd yn 19.

 

 

 

Pwysleisiodd Prif Weithredwr Cynnal yng nghyswllt yr ystadegau uchod mai’r duedd mae’r ffigyrau yn ei hawgrymu sydd yn bwysig yn hytrach na’r ffigyrau absoliwt.

 

 

 

Diolchodd y Cadeirydd yn fawr iawn i’r swyddogion am yr adroddiad uchod a gwahoddodd yr aelodau i gyflwyno unrhyw sylwadau yn ei gylch.

 

 

 

Dywedodd Swyddog Addysg AAA Ynys Môn y carai egluro’r rhai o’r ffigyrau o du Môn. Mewn perthynas â’r 33 asesiad statudol oedd ar y gweill ym Môn ar 31 Rhagfyr, 2009, sylwodd bod yna oedi wedi bod o ran dod ag asesiadau statuodol i ben eu taith yn brydlon gan gynnwys oedi o ran cael mewnbwn y Gwasanaeth Iechyd, a phe bai’r drefn brosesu wedi gweithio’n gyflymach, byddai’r ffigwr hwnnw yn nes at 20. Hefyd, mae nifer o ddisgyblion wedi symud i mewn i’r sir yn ystod mis Medi’r  llynedd a rhai ohonynt gydag anghenion dwys, ac mae nifer o blant ifanc gydag anghenion arbennig wedi dod i mewn i’r gyfundrefn sydd wedi cyfrannu at chwyddo’r ystadegyn  mewn perthynas â nifer o asesiadau statudol ar y gweill. Bu yna leihau’r ganran o blant sy’n derbyn cymorth ychwanegol trwy drefn a reolir yn ganolog i 5.5% yn 2008 yn sgîl newid y drefn mewn perthynas â phlant sy’n cael cymorth ar lefel uwchradd a welodd yr ysgol ei hun yn gweinyddu’r achosion yma fel na bônt felly’n taro systemau’r Cyd-Bwyllgor.

 

 

 

Gofynnodd Aelod Portffolio Addysg a Hamdden Ynys Môn am ddiweddariad ynglyn â’r sefyllfa mewn perthynas â Therapyddion Lleferydd. Ymatebodd Swyddog AAA Gwynedd o safbwynt y sir honno bod gan Wynedd pum uned anhwylderau iaith gyda phlant ifanc yn cael mewnbwn arbenigol yn CA1. Mae’r Therapydd Iaith yn gweithio’n ddyddiol ond am y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r Awdurdod Addysg wedi gorfod ei chyflogi o’r gyllideb addysg. Hyderir y gellir negydu cytundeb gyda’r Gwasanaeth Iechyd am y ddarpariaeth hon unwaith bydd y gweithdrefnau priodol yn eu lle ar ôl yr ad-drefnu ym maes Iechyd, ond rhaid dweud bod y sefyllfa’n mynd yn gynyddol anodd ei chynnal yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni. Dywedodd Swyddog Addysg AAA Ynys Môn bod yna gyd-weithredu da gyda Therapyddion Iaith trwy brosiect ELKLAN ond y bydd hi’n anodd parhau gyda’r dull yma o weithio os bydd yna leihau staff. Mae’r Therapyddion Iaith wedi bod yn darparu hyfforddiant i athrawon a chymorthyddion yn ystod y blynyddoedd diweddar a hynny’n ddi-gost. Mae’r Gwasanaeth Iechyd ei hun o dan bwysau ac wedi ymdrechu i geisio cyfiawnhau rhyddhau staff ar y sail ei fod yn gostwng lefelau aros. Soniodd Aelod Portffolio Addysg a Hamdden Ynys Môn y carai dderbyn y wybodaeth hon ar bapur a dywedodd ei fod yn tystio at ymroddiad y Gwasanaeth Iechyd hefyd. Ychwanegodd parthed plant yn dod i mewn i’r sir a chanddynt anghenion arbennig bod hynny wedyn yn rhoi pwysau ar wasanaethau a bod darparu ar eu cyfer ag oblygiadau i’r Gwasanaeth Iechyd hefyd. Cwestiynodd o gofio’r wasgfa gyllidol daer mae cyrff cyhoeddus yn ei wynebu, onid oes lle i ofyn a yw’r Awdurdod ym Môn yn rhy hael ei ymagwedd i ddatganiadau, ac a oes yna ddadl dros dynhau’r meini prawf yn hyn o beth. Cytunodd y Cynghorydd Mrs Fflur Hughes gyda’r hyn a ddywedwyd, a gwnaeth y sylw bod safon uchel y ddarpariaeth ym Môn a Gwynedd yn ddeniadol i unigolion o’r tu allan i’r ddwy sir y mae ganddynt blant ag anghenion addysgol arbennig sydd angen eu diwallu. Yn anffodus, trwy geisio cyfarfod â’r anghenion hyn yn ôl y gofyn mae’r ddau Awdurdod wedyn  yn cael eu beirniadu am fynd i sefyllfa o orwario.

 

      

 

     Bu i Swyddog Addysg AAA Gwynedd gydnabod y pwynt a wnaed uchod a dywedodd bod Cyngor Gwynedd wedi cynnal archwiliad mewnol o’r gyllideb integreiddio a bod yna  argymhelliad wedi deillio o hwnnw y dylid ail-edrych ar y meini prawf ar gyfer mynediad at wasanaethau anghenion addysgol arbennig. At hynny, cafwyd adroddiad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ynglyn â phlant mewn gofal a nododd yr adroddiad hwnnw ei bod yn haws cael mynediad at ddatganiad o anghenion addysgol arbennig yng Ngwynedd. Mae’n fwriad felly i edrych eto ar y meini prawf gan gofio mai gwneud y gorau dros y plant yw’r amcan pennaf yn y pen draw. Sylwodd Swyddog Addysg AAA Ynys Môn mai’r broblem greiddiol yw nid maint y cymorth a roddir ond yn hytrach sut y strwythurir y gwasanaethau sy’n rhoi’r ddarpariaeth. Teg dweud bod yna le i edrych ar natur y gwasanaethau ac ar y posibiliadau o ran eu cynllunio mewn  ffordd wahanol, a hefyd ar sut y cyd-weithir gyda gwasanaethau tu allan i’r ysgolion er mwyn arbed rhag ychwanegu at achosion all-sirol sy’n gostus iawn eu cynnal. Yr ystyriaeth bwysig yw bod gofyn edrych ar y darlun cyfansawdd yn hytrach nag elfennau unigol ohono.

 

      

 

     Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Eglwysi Rhyddion at y ffaith mai trwy hyblygrwydd a chyd-weithrediad y staff y llwyddwyd i gynnal y gwaith mor dda yn ystod y cyfnod hwn, a bod aelodau yn nodi bod staff wedi gweithio dros y gofyn a’u bod yn gwerthfawrogi’r ymroddiad.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn yr adroddiad ar waith yr Uned Darparu Anghenion Addysg Arbennig yn ystod tymor yr Hydref, 2009 gan nodi ei gynnwys a’r pwyntiau a wnaed yn ystod y drafodaeth arno.

 

4

AROLYGIAD ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

 

      

 

     Bu i Swyddogion Addysg AAA  Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Sir Gwynedd adrodd ar gasgliadau arolwg Estyn o’r Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol yn y ddwy sir a gynhaliwyd fel rhan o arolwg ehangach ar Ansawdd ym mis Tachwedd, 2009.

 

      

 

Ÿ

Ynys Môn

 

 

 

Cyfeiriodd Swyddog Addysg AAA Ynys Môn at y prif bwyntiau fel a ganlyn -

 

 

 

Ÿ

Bu i’r Arolygwyr ddyfarnu bod nodweddion da yn gorbwyso diffygion yn y gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ym Môn, a bod rhagolygon y gwasanaeth ar gyfer  gwella’n dda, heb unrhyw rwystrau pwysig.

 

Ÿ

Prin iawn yw’r sylwadau neilltuol am wasanaethau’r Cyd-Bwyllgor.

 

Ÿ

Nodir bod swyddogion ac ymgynghorwyr yn darparu cyngor, cymorth a darpariaeth broffesiynol effeithiol ac o ansawdd uchel a bod gan swyddogion yr Awdurdod a’r Cyd-Bwyllgor berthynas gadarnhaol gyda rhieni sy’n cael ei adlewyrchu gan y nifer isel o apeliadau gan rieni i’r Tribiwnlys AAA.

 

Ÿ

Mae swyddogion yn monitro cynnydd disgyblion sy’n cael cymorth ychwanegol yn drylwyr.

 

Ÿ

Mae’r rhan fwyaf o staff yn defnyddio ystod o flaengareddau priodol yn dda ac fe roddir sylw penodol i ganolbwyntio ar ddatrysiad.

 

Ÿ

Gwna’r Paneli Cymedroli defnydd da o’r meini prawf ADY ynghyd â’r wybodaeth sydd ganddynt am ysgolion.

 

Ÿ

Mae Strategaeth yr Awdurdod ar gyfer cymorth heb ddatganiad yn dechrau cael effaith ac maent wedi gostwng nifer y datganiadau a wnaed dros y pum mlynedd diwethaf yn sylweddol.

 

Ÿ

Er bod data o ansawdd da ar gael am berfformaid disgyblion ADY ni wneir digon o ddefnydd ohono. Nid yw’r gwasanaeth yn arfarnu cost y gwasanaeth ac yn cysylltu hyn â deilliannau grwpiau o ddisgyblion ADY er mwyn dangos effaith y gwaith.

 

Ÿ

Nid yw’r systemau sy’n cefnogi’r gwasanaeth yn cynnig i swyddogion y wybodaeth gynhwysfawr y mae ei hangen arnynt i gysylltu data am gyflawniad disgyblion ag adnoddau er mwyn gwella atebolrwydd ariannol. Nid yw rheolaeth y gyllideb ADY yn effeithiol a chaiff symiau sylweddol o’r gyllideb eu gorwario’n rheolaidd. Bernir nad oes digon o gynnydd wedi ei wneud ers yr arolygiad diwethaf o ran mynd i’r afael â’r materion sy’n arwain at y gorwario hwn.

 

Ÿ

Er na wneir unrhyw argymhelliad penodol ynglyn â’r gwasanaethau ADY yn yr adroddiad arolwg, mae’r Awdurdod yn credu bod “gwella gweithdrefnau a’r defnydd ar ddata i arfarnu effeithiolrwydd y cymorth a’r gwasanaethau ar berfformiad ysgolion a dysgwyr” yn argymhelliad sy’n berthnasol iawn i’r Gwasanaeth ADY, a byddir yn pwyso’n drwm ar wasanaethau’r Cyd-Bwyllgor wrth weithredu ar yr argymhelliad hwn ac ail-edrych ar y systemau cefnogol, gan geisio mynd i’r afael â’r materion sy’n arwain at y gwariant uchel ar ddarpariaeth.

 

 

 

Ÿ

Gwynedd

 

 

 

Crynhodd Swyddog Addysg AAA Gwynedd rhai o’r prif gasgliadau fel a ganlyn -

 

 

 

Ÿ

Barn yr arolygwyr oedd bod perfformiad y Gwasanaeth ADY yng Ngwynedd yn deilwng o radd 2 (nodweddion da a dim diffygion pwysig) a bod y rhagolygon ar gyfer gwella perfformiad hefyd yn radd 2.

 

Ÿ

Dywed yr arolygwyr bod gan y gwasanaeth arweinyddiaeth strategol effeithiol sy’n gosod gweledigaeth glir ac sy’n cael ei chefnogi’n dda gan bolisïau priodol sy’n cysylltu’n dda ag arweiniad Llywodraeth y Cynulliad ar ADY a Chynhwysiad.

 

Ÿ

Mae swyddogion ac ymgynghorwyr yn sicrhau bod darpariaeth dda ar gael ac yn rhoi cyngor a chymorth proffesiynol o ansawdd uchel i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.

 

Ÿ

Mae’r Awdurdod yn bodloni gofynion statudol Deddf AAA ac Anabledd (2001).

 

Ÿ

Mae’r Awdurdod yn ennill hyder rhieni i ddarparu ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig yn effeithiol heb fynd trwy’r broses fiwrocrataidd a drud o baratoi datganiad.

 

Ÿ

Mae cyfathrebu da rhwng swyddogion yr Awdurdod, y Cyd-Bwyllgor AAA, rhieni, ysgolion a SNAP.

 

Ÿ

Mae strategaeth yr Awdurdod ar gyfer gwella cymorth i ddisgyblion heb ddatganiad yn dechrau cael effaith.

 

Ÿ

Ers yr arolygiad diwethaf mae’r Awdurdod wedi egluro’r cyfrifoldebau ar gyfer ADY ac erbyn hyn, mae gan ysgolion ddealltwriaeth dda o’u cyfrifoldebau. Mae gan yr Awdurdod feini prawf ac arweiniad clir ar gyfer dyrannu adnoddau ychwanegol.

 

Ÿ

Nid yw rheolwyr yn rheoli’r gyllideb ADY yn effeithiol. Caiff y gyllideb ei gorwario’n rheolaidd o symiau mawr. Yn aml, deillia’r gorwario o ofynion y ddarpariaeth 3* i roi cymorth i ddisgyblion heb ddatganiadau.

 

Ÿ

Un o gryfderau penodol y gwasanaeth yw dadansoddi data ar berfformiad disgyblion unigol ag ADY. Fodd bynnag, mae aneffeithlonrwydd yn y systemau TGCh yn golygu nad yw rheolwyr a staff yn defnyddio digon ar y data hwn i arfarnu cost y gwasanaeth, nac yn cysylltu hyn â deilliannau grwpiau o ddisgyblion ag ADY. Oherwydd hynny, ni all rheolwyr ddangos effaith gwaith y gwasanaeth yn llawn.

 

Ÿ

Mae’r Awdurdod yn cyd-weithio’n dda â’i bartneriaid i feithrin gallu’r staff mewn ysgolion prif ffrwd i adnabod a bodloni anghenion dysgu ychwanegol disgyblion.

 

Ÿ

Mae cynlluniau ar gyfer llunio darpariaeth amgen ar gyfer Ysgol Coed Menai yn araf yn cael eu datblygu ac mae ansicrwydd o hyd ynghylch patrwm y ddarpariaeth, adnoddau ariannol a’r amserlen. Er mwyn adeiladu ar y gwaith da presennol, dylai’r Awdurdod “adolygu’r cynlluniau ar gyfer Ysgol Coed Menai a chadarnhau’r ddarpariaeth, yr adnoddau a’r amserlen ar gyfer rhoi’r rhain ar waith.”

 

 

 

     Diolchodd y Cadeirydd yn fawr iawn i’r ddau swyddog am eu cyflwyniadau ac estynnodd y diolchiadau hynny hefyd i bawb fu’n ymhel â’r gwaith paratoadol ar gyfer arolwg Estyn. Yn gyffredinol roedd aelodau’r Cyd-Bwyllgor wedi’u siomi gan ba mor gynnil oedd y cyfeiriadau yn yr adroddiad arolwg at wasanaethau’r Cyd-Bwyllgor, ac roedd yna deimlad bod y gwasanaethau yn haeddu cydnabyddiaeth mwy teilwng.

 

      

 

     Penderfynwyd nodi casgliadau adroddiad arolwg Estyn mewn perthynas â’r Gwasanaeth ADY yn y ddau Awdurdod gan ddiolch i’r ddau Swyddog Addysg AAA am gyflwyno’r wybodaeth a hefyd i bawb oedd yn rhan o’r gwaith paratoi ar gyfer yr arolygiad.

 

      

 

5

PROSIECT DARPARIAETH A DEILLIANNAU ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

 

      

 

     Bu i’r Ymgynghorydd Anghenion Dysgu Ychwanegol gyflwyno braslun o bwrpas ac amcanion y prosiect uchod.

 

      

 

     Adroddodd yr Ymgynghorydd Dysgu Ychwanegol y gobeithir trwy’r  prosiect Darpariaeth a Deilliannau Anghenion Dysgu Ychwanegol ateb cwestiynau megis beth yw’r ddarpariaeth ADY; i bwy mae; sut y gwneir y ddarpariaeth ac am faint; beth yw cost y ddarpariaeth ac ydyw’n gweithio. Mae’r rhain yn gwestiynau perthnasol ac maent yn cysylltu cynnydd y plentyn unigol gyda sicrhau hynny mewn ffordd gost-effeithiol.

 

      

 

     Mae’r prosiect yn amserol iawn gan fod Estyn wedi nodi dros gyfnod bod angen gwell gwybodaeth am beth sy’n gweithio, costau a chyfle cyfartal a gwell tracio i ddeall effeithiolrwydd darpariaethau. Yn 2007, roedd  Estyn yn dweud bod gan AALlau ac ysgolion lawer o waith i’w wneud o hyd i fonitro ac arfarnu effeithiolrwydd a gwerth am arian darpariaeth AAA boed hynny gyda datganiad, neu heb ddatganiad. Fodd bynnag, mae Estyn yn yr arolwg a gynhaliwyd yn Nhachwedd, 2009 ac y cyfeiriwyd ato yn yr eitem flaenorol yn cydnabod bod gan y ddau awdurdod gynlluniau ar y gweill i wella cynhwysedd ysgolion i ymateb eu hanghenion ac i sicrhau eglurder am gostau darpariaeth.

 

      

 

     Ym Medi, 2010, daw Fframwaith Arolygu newydd Estyn yn weithredol ac o dan y drefn newydd mae’r gofynion arolygu yn grymuso ac yn miniogi o ran tracio cynnydd grwpiau penodol ADY a dod i farn am ansawdd eu cynnydd; dod i farn am effeithiolrwydd y ddarpariaeth i’r grwpiau yma a defnyddio’r wybodaeth hunan arfarnu fel sail i gynllunio a sicrhau gwelliant. Didolwyd y prosiect yn dri set o dasgau. Mae tasgau’r prosiect 1 yn ymwneud â mesur a thracio cynnydd disgyblion AAA/ADY trwy edrych ar y dulliau mwyaf effeithiol a hylaw o wneud hynny (pa ddulliau/profion ayyb a defnyddio TGCh/SIMS)  a gwneud argymhellion a chynnig arweiniad i ysgolion a’r AALlau.  Mae’r ail set o dasgau yn canolbwyntio ar gynnig arweiniad ar yr arferion gorau o ran darpariaethau effeithiol yn bennaf ar gyfer datblygu llythrennedd a rhifedd, a sgiliau cymdeithasu yn y cynradd a’r uwchradd ynghyd â mapio darpariaethau a rhannu arferion da. Arweinia hyn at dasgau’r prosiect 3 sef defnyddio gwybodaeth am gynnydd a darpariaeth i gynllunio gwelliant. O weithredu’r prosiect hwn hyderir y gellir sefydlu trefn hylaw ar gyfer cofnodi darpariaeth, mesur cynnydd a dod i benderfyniad ar effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd ymyrraeth, a threfn fydd yn gymorth i gyfarfod ag anghenion awdurdod a’r Fframwaith Arolygu diwygiedig.

 

      

 

     Sylwodd Prif Weithredwr Cynnal y gwelir gosod y prosiect uchod yn ei le fel modd o gyfarfod â’r sylw a wnaed gan Estyn yn yr adroddiad arolygiad parthed bod angen cael gwell gafael ar yr hyn sy’n digwydd mewn ysgolion o ran sicrhau ei fod yn effeithiol ac yn gost-effeithiol. Bydd hefyd yn gymorth i ysgolion baratoi ar gyfer y fframwaith arolygu newydd.

 

      

 

     Penderfynwyd nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd mewn perthynas â’r Prosiect Darpariaeth a Deilliannau Anghenion Dysgu Ychwanegol gan ddiolch i’r Ymgynghorydd ADY am y cyflwyniad.

 

 

 

6

ADRODDIAD ARIANNOL

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad gan Bennaeth Gwasanaeth Cyllid Cyngor Gwynedd ynglyn â chyllideb 2010/11.

 

      

 

     Adroddodd Uwch Gyfrifydd Addysg Gwynedd parthed cyllideb gyfredol 2009/10 ei bod wedi adrodd wrth y Cyd-Bwyllgor ym mis Hydref, 2009 y rhagwelwyd gorwariant o oddeutu £16k ar gyllideb y Cyd-Bwyllgor i’w briodoli i’r ffaith y cynhelir swydd rhan amser y Cydlynydd 3* o’r balansau. Ers adrodd diwethaf, mae yna newidiadau wedi bod gan gynnwys torri swydd weinyddol fel y cytunwyd gan y Cyd-Bwyllgor yn ei gyfarfod diwethaf ac mae hynny wedi lleihau’r gorwario. Rhagwelir yn awr sefyllfa gytbwys ar ddiwedd y flwyddyn ariannol gyfredol.

 

      

 

     Mewn perthynas â chyllideb 2010/11, mae’r gyllideb yn ymgorffori cytundebau cyflog, incrementau cyflogau, cost blwyddyn gyfan asesiad proffesiynol strwythuredig (SPAs), chwyddiant cyflogau a chwyddiant ar weddill penawdau’r gyllideb am 2010/11. Mae darpariaeth wedi’i gynnwys am yr elfennau canlynol -

 

      

 

Ÿ

Sefydliad y Cyd-Bwyllgor yn cynnwys 8.7 seicolegwyr, 7.8 athrawon cynhaliol a 6.0 staff gweinyddol (yn dilyn toriad swydd 0.5)

 

Ÿ

Amcangyfrif cytundeb cyflog seicolegwyr 1% ym Medi, 2009 ac 1% ym Medi 2010.

 

Ÿ

Amcangyfrif cytundeb cyflog athrawon 2.3% o Fedi, 2010.

 

Ÿ

Amcangyfrif cytundeb cyflog staff gweinyddol 1% o Ebrill, 2010.

 

Ÿ

Mae Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn yn ddiweddar wedi cadarnhau gweithredu toriad o 1% ar gyllideb y Cyd-Bwyllgor ar gyfer 2010/11 sy’n gyfwerth â £11,900.

 

Ÿ

Mae’r arbedion parhaol sydd angen eu darganfod yn £7,210 am 2009/10 ynghyd â thoriad £11,900 2010/11 sy’n rhoi cyfanswm o £19,110.

 

Ÿ

Mae swyddogion y Cyd-Bwyllgor ynghyd â swyddogion y ddau awdurdod yn adolygu’r gyllideb i ddarganfod yr arbedion yn barhaol.

 

Ÿ

Mae balansau’r Cyd-Bwyllgor yn ddigonol i ymdopi gyda’r gwahaniaeth yn y tymor byr, ond nid yw hynny’n ateb parhaol i’r sefyllfa.Yn wyneb y rhagolwg cyllidol mae’n debyg y bydd y ddau awdurdod yn gweithredu toriadau pellach dros y blynyddoedd i ddod ac felly mae’n hanfodol bod y toriad yn cael ei ddarganfod yn barhaol yn fuan.

 

 

 

     Sylwodd Prif Weithredwr Cynnal er bod canfod toriad o 1% neu £12,000 yn ymddangos yn fychan, oherwydd natur cyllideb y Cyd-Bwyllgor a’r ganran sylweddol ohono sy’n mynd ar wariant staff, mae’r dasg yn sialens. Mae staff  y Cyd-Bwyllgor wedi’u cymhwyso i gefnogi gweithgareddau rheng flaen ac anodd iawn yw cwtogi yn y maes hwn.

 

      

 

     Penderfynwyd mabwysiadu’r gyllideb am 2010/11 fel y’i cyflwynwyd.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

7

CYFARFODYDD Y CYD-BWYLLGOR AM Y FLWYDDYN I DDOD

 

      

 

     Nodwyd bod cyfarfodydd y Cyd-Bwyllgor wedi cael eu rhaglennu ar y dyddiadau a’r amseroedd a ganlyn am y flwyddyn i ddod -

 

      

 

     Dydd Gwener, 11 Mehefin, 2010 am 10:30 a.m. yn Llangefni

 

     Dydd Gwener, 19 Tachwedd, 2010 am 10:30 a.m. yng Nghaernarfon

 

     Dydd Gwener, 11 Mawrth, 2011 a, 10:30 a.m. yn Llangefni

 

      

 

     Cyn cau’r cyfarfod, dywedodd y Cynghorydd Gwilym O.Jones mai dyma ei gyfarfod olaf fel Cadeirydd y Cyd-Bwyllgor gan fod ei dymor dwy flynedd yn y swydd honno yn dod i ben. Carai fanteisio ar y cyfle hwn felly i ddiolch i’r holl swyddogion am eu harweiniad clir a phendant ac i’r aelodau am eu cefnogaeth.

 

      

 

     Ar ran y swyddogion, diolchodd Prif Weithredwr Cynnal yntau i’r Cynghorydd Gwilym O.Jones am osod arweiniad clir i’r Cyd-Bwyllgor o’r Gadair ac am ei gefnogaeth barod bob amser.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

        Cynghorydd G.O.Jones

 

                 Cadeirydd