Manylion y penderfyniad

Growth Vision and Strategy for the Economy of North Wales: Governance Agreement

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

 

·                Nodi a chroesawu’r cynnydd ar ddatblygu’r Bid Bargen twf.

 

·                    Bod cam cyntaf y Cytundeb Llywodraethiant yn cael ei gymeradwyo, ar yr amod bod y Cyngor yn cymeradwyo’r trefniadau Anweithredol h.y. y trefniadau sgriwtini.

 

·                    Bod y Cyngor Llawn yn cael drafft terfynol o’r Bid Bargen Twf ar gyfer ei adolygu a’i gymeradwyo ym Medi/Hydref 2018 cyn iddo gyrraedd cam y Penawdau Telerau gyda’r ddwy Lywodraeth.

 

·                    Argymell bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i’r Prif Weithredwr a’r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro mewn cyd-weithrediad â’r Arweinydd i gwblhau amodau’r Cytundeb Llywodraethiant yn unol i raddau helaeth â’r drafft sydd ynghlwm yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

·                    Argymell bod y trefniadau Gweithredol sydd wedi eu cynnwys yn y Cytundeb Llywodraethiant yn cael eu cynnwys yn y Cyfansoddiad a gofyn i’r Cyngor gynnwys y trefniadau Anweithrdol yn ymwneud â Sgriwitni yn y Cyfansoddiad.

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 16/07/2018

Dyddiad y penderfyniad: 16/07/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 16/07/2018 - Pwyllgor Gwaith

Dogfennau Cefnogol: