Manylion y penderfyniad

Gweddill y Ceisiadau

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

12.1  FPL/2019/162 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol yn gae chwarae ar gyfer yr ysgol, codi Ystafell ddosbarth symudol, codi ffensys a waliau terfyn ynghyd â gwaith tirlunio medal a chaled yn Ysgol Gynradd Morswyn, Ffordd Cyttir, Caergybi

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais a rhoi hawl i weithredu i’r Swyddogion wedi i’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus statudol ddod i ben.

 

12.2  FPL/2019/161 – Cais llawn ar gyfer codi ystafell ddosbarth symudol yn Ysgol Gynradd Pencarnisiog, Pencarnisiog

 

          PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig a bod amod ychwanegol yn cael ei osod bod Cynllun Rheoli Traffig yn cael ei gyflwyno yn ystod y cyfnod adeiladu.

 

12.3  FLP/2019/171 – Cais llawn ar gyfer dymchwel y ffens presennol ynghyd a codi ffens newydd yn Maes Awyr Môn, Ffordd Minffordd, Caergeiliog

 

          PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cymmwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.4  FPL/2019/50 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu ynghyd a creu lle chwarae treftadaeth a tirlunio cysylltiedig yn Parc Gwledig y Morglawdd, Caergybi

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cymmwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.5  OP/2019/6 – Cais amlinellol gyda’r holl faterion wedi eu cadw’n ôl ar gyfer dymchwel cyn weithle cemegol ynghyd a chodi 7 uned defnydd busnes (Dosbarth B1), defnydd diwydiannol cyffredinol (Dosbarth B2) a defnydd warws a dosbarthu (Dosbarth B8) yn yr hen safle Peboc, Llanefni

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cymmwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 24/07/2019

Dyddiad y penderfyniad: 24/07/2019

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 24/07/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Dogfennau Cefnogol: