Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
12.1 VAR/2019/14 – Cais dan Adran 73A i ddileu amod (08) (lefel llawr gorffenedig) ac amrywio amod (11) (cynlluniau a gymeradwywyd dan gais am y materion a gadwyd yn ôl rhif 15C48J/FR/DA) o gais cynllunio amlinellol rhif 15C48H (cais amlinellol ar gyfer codi annedd ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau) er mwyn galluogi diwygio gosodiad a dyluniad yr annedd a’r modurdy ar wahân a gymeradwywyd yn flaenorol, ynghyd â chodi wal amddiffyn llifogydd perimedr newydd yn Cae Eithin, Malltraeth
Penderfynwyd ymweld â’r safle am y rheswm a roddwyd.
12.2 FPL/2019/98 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd yr ystafell gymunedol bresennol yn eiddo preswyl fforddiadwy yn Nhŷ’r Warden, Awel y Môr, Rhosneigr
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag adroddiad ac argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.3 HHP/2019/129 – Cais llawn i godi garej ar wahân yn Tŷ Arfon, Lôn Refail, Llanfairpwll
Penderfynwyd ymweld â safle’r cais yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rheswm a roddwyd.
12.4 FPL/2019/146 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir gwag i fod yn le chwarae sy’n cynnwys gosod offer chwarae yn Parc Peibio, Morawelon, Caergybi
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag adroddiad ac argymhelliad y Swyddog gyda’r amod sydd wedi’i gynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Dyddiad cyhoeddi: 03/07/2019
Dyddiad y penderfyniad: 03/07/2019
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 03/07/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dogfennau Cefnogol: