Manylion y penderfyniad

Gweddill y Ceisiadau

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

12.1  FPL/2019/1 – Cais llawn ar gyfer newid adeilad allanol yn saith fflat ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau yn Capel Carmel, Lôn Capel, Amlwch

 

Ar gais yr Aelod Lleol, PENDERFYNWYD ymweld â’r safle.

 

12.2  DIS/2019/84 - Cais i ryddhau amod (11) (Cynllun rheoli traffig adeiladwaith) o ganiatâd cynllunio FPL/2019/9 ym Maes y Coed, Porthaethwy

 

          PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3  FLP/2019/79 - Cais llawn i newid defnydd ystafell gymunedol bresennol i annedd 1 ystafell wely yn Waun Dirion, Benllech

 

          PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.4  FPL/2018/55 – Cais llawn ar gyfer newid adeilad allanol yn llety gwyliau ynghyd â gosod gwaith trin carthffosiaeth yn Penrhyn Owen, Caergybi

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais gydag amodau ychwanegol parthed gofynion i greu llefydd pasio ar y briffordd gyfagos a chyflwyno manylion y gwaith mewn perthynas â waliau terfyn ac i roi’r hawl i’r Swyddog weithredu ar ôl i’r cyfnod ymgynghori statudol ddod i ben.

Dyddiad cyhoeddi: 04/09/2019

Dyddiad y penderfyniad: 04/09/2019

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 04/09/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Dogfennau Cefnogol: