Manylion y penderfyniad

Datganiad o Ddiddordeb

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

Bu i’r Cynghorydd Bryan Owen ddatgan diddordeb personol ond nid un a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag unrhyw fater a gyfyd yn gysylltiedig â chartrefi grwpiau bach yr Awdurdod (Cartrefi Clyd) ar y sail bod yr Awdurdod wedi prynu eiddo i’w ddefnyddio fel cartref grŵp bach yn agos i’w gartref.

Bu i’r Cynghorydd Aled Morris Jones ddatgan diddordeb personol ond nid diddordeb rhagfarnllyd ar y sail bod yr Awdurdod yn y broses o brynu’r eiddo drws nesaf iddo i’w drosi’n gartref grŵp bach (Cartref Clyd).

Bu i’r Cynghorydd Dylan Rees ddatgan diddordeb mewn perthynas ag eitem 3 ar yr agenda, am iddo fod wedi gwirfoddoli gyda Bwyd Da Môn; bu i’r Cynghorydd Alun Roberts hefyd ddatgan diddordeb mewn perthynas ag eitem 3 am ei fod yntau wedi gwirfoddoli yn ystod y pandemig ond dywedodd ei fod yn deall nad oedd hyn yn ei atal rhag cymryd rhan yn y drafodaeth.

 

Dyddiad cyhoeddi: 18/10/2021

Dyddiad y penderfyniad: 18/10/2021

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 18/10/2021 - Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol