Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
12.1 10C118J/VAR - Cais dan Adran 73 i amrywio’r amod sy’n manylu ar y cynlluniau a gymeradwywyd dan gais rhif 10C118H\MIN er mwyn diwygio’r cynllun a gymeradwywyd eisoes dan gais rhif 10C118A\RE sy'n cynnwys newidiadau i is-orsafoedd, adeilad monitro offer, gwrthdroyddion, trawsnewidyddion, adeilad 'switchgear', mesuriadau diogelwch i gynnwys Camerâu Goruchwylio a newidiadau i ffensys diogelwch ar dir ger Bryn yr Odyn, Soar.
CYMERADWYWYD
12.2 14C171H/ENF- Cais ôl-weithredol ar gyfer codi llety gwyliau newydd yn Ffarm Stryttwn, Ty’n Lôn.
CYMERADWYWYD YN GROES I ARGYMHELLIAD Y SWYDDOG
(Yn unol â’r gofynion yng Nghyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio’n awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi i Swyddogion y cyfle i baratoi adroddiad ar y rhesymau a roddwyd dros gymeradwyo’r cais)
12.3 19C1147A - Cais llawn ar gyfer dymchwel yr adeilad presennol ynghyd â chodi chwe annedd a chreu mynedfa i gerbydau a maes parcio ar dir ym Mhriordy Dewi Sant, Ffordd Llanfawr, Caergybi
CYMERADWYWYD
12.4 28C116U – Cais dan Adran 73 i amrywio rhag-amodau (05), (06), (11), (12), (13), (14), (15) ar benderfyniad apêl rhif cyfeirnod APP\6805\A\07\2053627 fell y gellir eu tynnu ar ôl cychwyn gwaith ar y safle ynghyd â dileu amod (16) yng Nghanolfan Arddio Maelog, Llanfaelog.
GWRTHODWYD YN GROES I ARGYMHELLIAD Y SWYDDOG
(Yn unol â’r gofynion yng Nghyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio’n awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi i Swyddogion y cyfle i baratoi adroddiad ar y rhesymau a roddwyd dros gymeradwyo’r cais)
Dyddiad cyhoeddi: 03/02/2016
Dyddiad y penderfyniad: 03/02/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 03/02/2016 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dogfennau Cefnogol: