Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Statws Penderfyniad : Er Penderfyniad
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
6.1 20C313A - Cais llawn ar gyfer codi 14 o dai fforddiadwy, creu mynedfa newydd a ffordd fewnol ynghyd â gorsaf bwmpio carthffosiaeth ar dir oddi ar Ffordd y Felin, Cemaes.
PENDERFYNWYD o ganlyniad i natur a graddfa’r cais, y dylid cynnal ymweliad safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
6.2 20C310B/EIA/RE Cais llawn ar gyfer adeiladu fferm arae solar 49.99MW ynghyd ag offer ac isadeiledd cysylltiedig a gwaith ategol ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag
argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad
ysgrifenedig.
6.3
25C242 - Cadw pwll, ynghyd â gwaith draenio yn
Tyn Cae, Coedana, Llannerch-y-medd.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y
Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad
ysgrifenedig.
6.4 34C304K / 1 / EIA / ECON - Cais Hybrid am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer canolfan beirianneg newydd, maes parcio, ardal chwarae i blant a gwaith cysylltiedig ac am ganiatâd cynllunio amlinellol gyda rhai materion wedi'u cadw’n ôl ar gyfer datblygiad preswyl o 157 o anheddau, gwesty a chyfleuster bwyd a diod, ynghyd â maes parcio cysylltiedig a gwaith ar dir yn Coleg Menai, Ffordd y Coleg, Llangefni.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Dyddiad cyhoeddi: 01/02/2017
Dyddiad y penderfyniad: 01/02/2017
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 01/02/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dogfennau Cefnogol: