Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Statws Penderfyniad : Er Penderfyniad
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
7.1
14C171J/ENF – Cais ôl-weithredol ar gyfer
cadw a chwblhau llety gwyliau newydd ynghyd â newid defnydd
tir i ddibenion marchogaeth cysylltiedig yn Stryttwn Farm,
Tynlon.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y
Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad
ysgrifenedig.
7.2 15C30H/FR – Cais llawn i newid defnydd tir amaethyddol er mwyn ymestyn y maes carafanau presennol i leoli 14 o garafanau symudol ychwanegol ynghyd â gosod tanc septig ar dir yn Pen y Bont Farm Touring & Camping, Malltraeth.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.
7.3 23C280F - Cais ôl-weithredol ar gyfer sied amaethyddol a pharlwr godro ynghyd â chreu phwll slyri a gwaith cysylltiedig ym Mhlas Llanfihangel, Capel Coch.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais o ganlyniad i dderbyn lluniadau diwygiedig yn hwyr ar 31 Ionawr, 2017 ar gyfer Seilos ar y safle. Bydd angen ymgynghori gyda’r cyhoedd mewn perthynas â’r lluniadau.
7.4 34C681 – Cais amlinellol ar gyfer codi 8 annedd a 2 annedd fforddiadwy gyda’r holl faterion wedi’u cadw’n ôl ynghyd â chreu mynedfa newydd a gwaith cysylltiedig ar dir tu ôl i Stad Tyn Coed, Llangefni.
PENDEERFYNWYD cadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i wrthod y cais.
7.5 45C468 - Cais llawn i newid defnydd adeilad allanol yn annedd, creu mynedfa i gerbydau, gosod system trin carthffosiaeth ynghyd â chodi strwythur lliniaru ecoleg yn Bodrida Bach, Brynsiencyn.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn unol â’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Dyddiad cyhoeddi: 01/02/2017
Dyddiad y penderfyniad: 01/02/2017
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 01/02/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dogfennau Cefnogol: