Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
12.1 17C226H – Cais llawn i addasu ac ehangu Gernant, Lôn Ganol, Llandegfan.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn groes i argymhellion y Swyddog gan yr ystyriwyd y byddai’r cais yn gwella cyd-destun gweledol yr annedd, rhywbeth y gellir ei gymeradwyo o dan Bolisi 55.
(Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio’n awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rhesymau a roddwyd am gymeradwyo’r cais).
12.2 17C511 - Cais llawn i ddymchwel yr ysgol bresennol, codi pump annedd newydd ynghyd â gwelliannau i’r fynedfa bresennol yn Hen Ysgol, Bro Llewelyn, Llandegfan.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.3 17C512 – Cais llawn ar gyfer dymchwel y neuadd gymunedol, codi pedair annedd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau yn Neuadd Llansadwrn, Llansadwrn.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.4 19C845K – Cais llawn ar gyfer codi ardal sefyll 65 metr o hyd wedi’i chysgodi ar gyfer cefnogwyr yng Nghlwb Pêl-droed Hotspurs Caergybi, Canolfan Hamdden Caergybi.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.5 21C58H – Cais llawn ar gyfer codi 10 o unedau gwyliau ychwanegol ym Mharc Eurach, Llanddaniel Fab.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle a hynny am y rhesymau a roddwyd.
12.6 39LPA1014B/CC – Cais amlinellol ar gyfer codi dwy annedd gyda’r holl faterion wedi’u cadw’n ôl ar yr hen safle yn yr Ysgol Feithrin, Porthaethwy.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.7 39C295B/LB – Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gwneud gwaith trwsio yn Swyddfa Archebu Tocynnau’r Pier, Ffordd Cynan, Porthaethwy.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.8 46C570 - Cais llawn ar gyfer dymchwel y mast presennol a chodi mast newydd 25 metr ar dir yn Ynys Lawd, Caergybi.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.9 47C149 – Cais llawn i ddymchwel rhan o’r ysgol bresennol, newid defnydd yr ysgol yn swyddfa (Dosbarth B1), codi 10 annedd ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau yn Ysgol Gynradd, Llanddeusant.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais a hynny am y rhesymau a roddwyd.
Dyddiad cyhoeddi: 01/02/2017
Dyddiad y penderfyniad: 01/02/2017
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 01/02/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dogfennau Cefnogol: