Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
PENDERFYNWYD :-
· Dyrannu’r swm o £221,257 o gronfeydd wrth gefn i alluogi ymestyn contractau staff asiantaeth am dri mis pellach. (Bydd swydd un Rheolwr Gwasanaeth yn cael ei hymestyn tan 2018 a thair swydd Gweithiwr Cymdeithasol yn cael eu hymestyn tan ddiwedd mis Rhagfyr 2017); 3 o Weithwyr Cymdeithasol a Rheolwr Tîm i gael eu recriwtio i swyddi gweigion diweddar ac ar gyfer absenoldeb salwch;
· Bwrw ymlaen â’r ail gam yng nghynllun ailstrwythuro y Gwasanaethau Plant (costau ychwanegol a ailraddio swyddi yn Teulu Môn), lle bydd angen gwariant ychwanegol o £17,000 (gellir ariannu hyn o’r gyllideb staffio ar gyfer y Gwasanaethau Plant;
· Rhoi’r hyblygrwydd i Bennaeth y Gwasanaethau Plant ddefnyddio peth o’r gyllideb sydd heb ei dyrannu (£93,957) ar ôl yr ailstrwythuro er mwyn cynorthwyo i weithredu’r Cynllun Gwella Gwasanaeth dros yr ychydig fisoedd nesaf.
Dyddiad cyhoeddi: 17/07/2017
Dyddiad y penderfyniad: 17/07/2017
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 17/07/2017 - Pwyllgor Gwaith
Dogfennau Cefnogol: