Manylion y penderfyniad

Exclusion of the Press & Public

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Eglurodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) a’r Swyddog Monitro fod yr adroddiad ar yr eitem ganlynol yn cael ei ystyried yn adroddiad eithriedig am ei fod yn cynnwys cyngor cyfreithiol. Mewn achos felly, nid yw’r Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol. Fodd bynnag, gallai datgelu gwybodaeth o’r adroddiad hefyd o bosib ddatgelu pwy yw unigolyn, sydd felly’n gwneud y mater yn un eithriedig o dan Baragraff 13, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Penderfynwyd o dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar eitem 22 oherwydd y byddai gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu fel caiff ei diffinio yn Atodlen 12A y Ddeddf dan sylw ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd fel y cafodd ei gyflwyno.

Dyddiad cyhoeddi: 21/09/2017

Dyddiad y penderfyniad: 18/09/2017

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 18/09/2017 - Pwyllgor Gwaith