Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfynwyd –
· Bod argymhelliad yr adroddiad ar yr ymgynghori anstatudol yn ardal Seiriol yn cael ei weithredu.
· Awdurdodi Swyddogion y Gyfadran Dysgu Gydol Oes i fynd allan i ymgynghori’n statudol ar y cynigion dan sylw fel a ganlyn :
· Cau Ysgol Biwmares ac i rieni’r disgyblion sydd ar y gofrestr ar yr adeg pan fydd y Pwyllgor Gwaith yn gwneud y penderfyniad ddatgan eu dewis am naill ai Ysgol Llandegfan neu Ysgol Llangoed yn unol â’r polisi mynediad ysgolion.
· Adolygu dalgylchoedd presennol y dair ysgol gyda’r bwriad o weithredu unrhyw newidiadau pan fydd Ysgol Biwmares yn cau.
· Adnewyddu Ysgol Llangoed ac Ysgol Llandegfan; ac
· Ystyried ffederaleiddio Ysgol Llangoed ac Ysgol Llandegfan ar ddiwedd y broses hon.
Dyddiad cyhoeddi: 30/10/2017
Dyddiad y penderfyniad: 30/10/2017
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 30/10/2017 - Pwyllgor Gwaith
Dogfennau Cefnogol: