Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
13.1 11LPA101N/1/LB/CC – Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gosod drysau newydd a drysau tân yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch
PENDERFYNWYD nodi y bydd y cais yn cael ei anfon ymlaen at Weinidogion Llywodraeth Cymru i'w benderfynu yn unol â Rheoliad 13 Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.
13.2 34C614/ECON – Cais amlinellol i ddymchwel yr adeilad presennol a chodi adeilad defnydd cymysg sy'n cynnwys defnyddiau A1, A2, A3, ynghyd â 45 o fflatiau preswyl yn Burgess Cyf, Stryd y Bont, Llangefni
Nodi bod y cais wedi'i dynnu'n ôl gan yr asiant.
13.3 36C351B/MIN – Mân newidiadau i'r cynllun a gymeradwywyd yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio 36C351 er mwyn diwygio gorffeniad yr annedd, ynghyd â gosod ffenestri ychwanegol yn y garej yn Tyn Llwyd, Rhostrehwfa
PENDERFYNWYD nodi'r wybodaeth.
13.4 45C467D/MIN – Mân newidiadau i'r cynllun a gymeradwywyd yn flaenorol dan ganiatâd cynllunio 45C467B/DA er mwyn diwygio gorffeniad yr annedd o bren i rendr ar dir ger Pen Parc, Penlon
PENDERFYNWYD nodi'r wybodaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 06/12/2017
Dyddiad y penderfyniad: 06/12/2017
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 06/12/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dogfennau Cefnogol: