Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
10.1 17C5O3B/VAR – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (04) (gwaith datblygu i gael ei wneud yn gwbl unol â’r cynllun(iau) a gyflwynwyd ar 01/12/2015 a 19/01/2016 a’r arolwg o rywogaethau a ddiogelir dyddiedig 21/06/2015) o ganiatâd cynllunio rhif 17C503 (cyfnewid, addasu ac ehangu tŷ fferm adfail) er mwyn diwygio’r cynlluniau yn Rhos Bella, Llansadwrn
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig ac yn dilyn derbyn arolwg a chamau lliniaru diweddar a derbyniol ar rywogaethau a ddiogelir ac amodau ychwanegol sy’n nodi bod yn rhaid i’r mesurau lliniaru hynny gael eu gweithredu cyn i unrhyw waith addasu gael ei wneud yn unol â gofynion trwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru.
10.2 25C259B/VAR – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (11) o ganiatâd Cynllunio rhif 25C259 (newid adeilad allanol i annedd) er mwyn diwygio dyluniad yr annedd ar dir gyferbyn â Bryn Gollen Newydd, Llanerchymedd
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Dyddiad cyhoeddi: 10/01/2018
Dyddiad y penderfyniad: 10/01/2018
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 10/01/2018 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dogfennau Cefnogol: