Manylion y penderfyniad

Departure Applications

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Statws Penderfyniad : Er Penderfyniad

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

10.1 15C29M/VAR - Cais dan Adran 73 i amrywio amod (02) (cyflwyno manylion am y modd y bwriedir trin y ffiniau, dulliau amgáu a marcio cyn cychwyn defnyddio’r safle yn hytrach na cyn i’r gwaith ddatblygu gychwyn ynghyd â chaniatáu i’r gwaith gael ei gwblhau cyn pen  12 mis i gychwyn ei ddefnyddio) o benderfyniad apêl cyfeirnod APP/L6805/A/12/2194277 (troi adeilad allanol yn annedd) yn Hen Feudy, Fferam Bailey, Trefdraeth

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2  21C38G/VAR - Cais o dan Adran 73 ac Adran 73A ar gyfer amrywio amod (16) (cynlluniau a gymeradwywyd) yng nghaniatâd cynllunio cyfeirnod 21C38D (codi 4 annedd a mynediad newydd i gerbydau) er mwyn diwygio dyluniad y 4 annedd ar dir hen Ganolfan Fusnes Daniel, Llanddaniel

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.3  43C195F/VAR - Cais o dan Adran 73A ar gyfer amrywio amodau (02) (cofnod ffotograffig), (03) (cael gwared ar ddŵr wyneb) a (04) (y dull arfaethedig o drin y ffiniau) yng nghaniatâd cynllunio cyfeirnod 43C195D (newid defnydd o adeilad allanol i greu annedd) er mwyn caniatáu cyflwyno manylion ar ôl i'r gwaith ddechrau yn Y Granar, Rhoscolyn

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig ac amod ychwanegol ynghylch gwneud y gwaith ar y ffiniau.

 

Dyddiad cyhoeddi: 07/02/2018

Dyddiad y penderfyniad: 07/02/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 07/02/2018 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Dogfennau Cefnogol: