Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Statws Penderfyniad : Er Penderfyniad
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfynwyd –
• Nodi'r cyfarfodydd ymgynghori ffurfiol ar y gyllideb ac ystyried yr adborth a gafwyd yn eu sgil ac fel yr amlinellir yn Adran 2, Atodiad 1 ac yn Atodiad 2;
• Nodi'r crynodeb yn Adran 11 ac Atodiad 5 ar oblygiadau’r cynigion cyllidebol o safbwynt cydraddoldebau;
• Cytuno ar fanylion terfynol cyllideb arfaethedig y Cyngor gan gynnwys y cyllid diwygiedig mewn ymateb i’r pwysau ar y gyllideb a’r arbedion arfaethedig fel y dangosir nhw yn Adran 10 Atodiad 1 ac Atodiad 3;
• Bod yr arbedion ar gyllidebau ysgolion dirprwyedig a ohiriwyd o 2017/18, yn cael eu dyrannu ar draws y 3 sector ysgol ar sail lefel y balansau ysgolion ar 31 Mawrth, 2017(ffigwr olaf). Byddai hyn yn dyrannu’r arbedion fel â ganlyn: £399,940 i’r sector cynradd; £53,460 i’r sector uwchradd; £36,600 i’r sector ysgolion arbennig.
• Nodi argymhelliad y Swyddog Adran 151 bod o leiaf £6.5m yn cael ei gadw ym malansau'r Gronfa Gyffredinol ar gyfer 2018/19;
• Nodi’r sylwadau a wnaed gan y Swyddog Adran 151 ar gadernid yr amcangyfrifon a wnaed fel y cânt eu hamlinellu yn Adran 8, Atodiad 1.
• Argymell cyllideb net ar gyfer y Cyngor Sir a’r cynnydd yn lefel y Dreth Gyngor o ganlyniad, gan nodi y bydd penderfyniad ffurfiol yn cynnwys y Praeseptau i Heddlu Gogledd Cymru a'r Cynghorau Cymuned, yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor ar 28 Chwefror, 2018.
• Awdurdodi'r Swyddog Adran 151 i wneud unrhyw newidiadau a all fod yn angenrheidiol cyn cyflwyno’r cynigion terfynol i'r Cyngor.
• Cytuno fod unrhyw gyllidebau a arweinir gan y galw ac y bydd pwysau annisgwyl arnynt yn ystod y flwyddyn ariannol yn gallu tynnu ar gyllid o’r cyllidebau hapddigwyddiadau cyffredinol.
• Gofyn i’r Cyngor awdurdodi’r Pwyllgor Gwaith i ryddhau hyd at £250k o’r balansau cyffredinol os bydd y gyllideb hapddigwyddiadau gyffredinol wedi’i hymrwymo’n llawn yn ystod y flwyddyn.
• Dirprwyo i’r Swyddog Adran 151 y pwer i ryddhau hyd at £50k o’r gronfa hapddigwyddiadau gyffredinol ar gyfer unrhyw un eitem. Ni chaniateir cymeradwyo unrhyw eitem dros £50k heb gael caniatâd ymlaen llaw gan y Pwyllgor Gwaith;
• Argymell cynnydd o 4.8% yn y Dreth Gyngor i'r Cyngor.
Dyddiad cyhoeddi: 19/02/2018
Dyddiad y penderfyniad: 19/02/2018
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/02/2018 - Pwyllgor Gwaith
Dogfennau Cefnogol: