Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfynwyd awdurdodi’r Pennaeth Gwasanaeth (Rheoleiddio a Datblygu Economaidd) a’r Pennaeth Gwasanaeth (Tai) i –
• Gymryd rhan yn y broses o baratoi Strategaeth Adfywio Ranbarthol gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC) ar gyfer ei chyflwyno i
Lywodraeth Cymru;
• Trafod dyraniadau ariannol a chyflwyno ceisiadau am arian o’r Rhaglen TRIP i Lywodraeth Cymru, ar yr amod bod y Swyddog A151 yn cytuno;
• Derbyn a gwario’r arian TRIP a gymeradwywyd, gan gynnwys dyfarnu grantiau i eraill ar gyfer prosiectau cymwys, ar yr amod bod y Swyddog A151 yn cytuno;
• Ceisio denu cymaint o gyllid TRIP ag sy’n bosibl i Ynys Môn, a pharatoi prosiectau yn barod ar gyfer cyfleon posib i sicrhau cyllid ychwanegol;
• Lobïo i geisio creu cronfa adfywio sydd wedi ei dylunio i gynorthwyo prosiectau adfywio mewn trefi llai ac ardaloedd gwledig.
• Trafod a dod i gytundeb gyda chynghorau sir eraill yng Ngogledd Cymru ble mae angen hynny er mwyn ymgeisio am neu dderbyn cyllid TRIP, yn amodol ar gytundeb y Swyddog A151 a Swyddog Monitro’r Cyngor
Dyddiad cyhoeddi: 26/03/2018
Dyddiad y penderfyniad: 26/03/2018
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 26/03/2018 - Pwyllgor Gwaith
Dogfennau Cefnogol: