Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
10.1 36C344B/VAR - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (01)(Cynlluniau a gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio rhif 36C344A/DA(Cais am faterion a gadwyd yn ôl ar gyfer codi annedd) er mwyn ymestyn yr ystafell haul a chodi garej ar wahân ar dir ger Ysgol Henblas, Llangristiolus.
PENDERFYNWYD: -
10.2 46C402F/VAR - Cais o dan Adran 73 A i ddiwygio amodau (05) (mynediad i'r safle presennol), (06) (ffordd y stad a llwybrau troed), (09) (system ddraenio) a (10) (cadw man glaswelltog) o ganiatâd cynllunio rhif 46C402D (cais llawn i godi 13 o dai, cau’r fynedfa bresennol i Pendorlan a gwella fynedfa i Fflatiau’r Cliff) er mwyn caniatáu mynediad i gerddwyr/beicwyr oddi ar Lôn Isallt, creu mynediad i erddi cefn tai A1 i A4, cwblhau ffordd y stad a’r llwybrau fesul dipyn a chwblhau’r system ddraenio fesul dipyn wedi i’r gwaith gychwyn ar y safle yn Pendorlan, Lôn Isallt, Trearddur.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
10.3 47C149B/VAR - Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amodau (02) (defnydd allanol), (04) (cynllun draenio), (05) (cynnal a chadw ffordd y stad a'r system draenio), (07) (manylion mynedfa), (09) (llygredd), (10) (gwaith coed a gwrychoedd) a (11) (rhaglen o waith archeolegol) o caniatâd Cynllunio rhif 47C149 (ddymchwel rhan o'r ysgol presennol, newid defnydd yr ysgol i swyddfa, codi 10 annedd ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau) er mwyn cyflwyno'r manylion ar ôl i waith ddechrau ar y safle yn Hen Ysgol Gynradd Llanddeusant, Llanddeusant.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad a chwblhau cytundeb cyfreithiol ar gyfer darpariaeth tai fforddiadwy wedi i’r cyfnod ymgynghori mewn perthynas â chynllun diwygiedig ddod i ben.
Dyddiad cyhoeddi: 04/04/2018
Dyddiad y penderfyniad: 04/04/2018
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 04/04/2018 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dogfennau Cefnogol: