Manylion y penderfyniad

Gweddill y Ceisiadau

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

12.1 14C47R/ENF -  Cais ôl-weithredol ar gyfer codi porth car yn 19 Cae Bach Aur, Bodffordd.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd.

 

 

12.2 19LPA1023B/CC - Cais llawn ar gyfer codi 10 uned busnes (Dosbarth B1, B2 a B8) ar dir ar hen Safle’r Heliport, Stad Diwydiannol Penrhos, Caergybi.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Yn amodol ar dderbyn datganiadau fel a nodwyd.

 

 

12.3 46C88K/AD -  Cais i leoli dau arwydd heb eu goleuo ynghyd â gosod dau fesurydd parcio yng

Nghanolfan Ymwelwyr RSPB, Ffordd Ynys Lawd, Caergybi.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd.

 

12.4 46C612A/AD - Cais i leoli arwydd heb ei oleuo ynghyd â gosod mesurydd parcio ym maes parcio Tŵr Elin, Ynys Lawd, Caergybi.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd.

 

Dyddiad cyhoeddi: 04/04/2018

Dyddiad y penderfyniad: 04/04/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 04/04/2018 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Dogfennau Cefnogol: