Manylion y penderfyniad

Ceisiadau Economaidd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

8.1         34LPA1034/CC/ECON – Cais amlinellol gyda’r holl faterion wedi eu cadw’n ôl ar gyfer dau blot, sef defnydd busnes (Dosbarth B1), defnydd diwydiannol cyffredinol (Dosbarth B2) ac i’w defnyddio fel warws ac i ddosbarthu (Dosbarth B8) fel estyniad i’r parc busnes ar dir Stad Ddiwydiannol Bryn Cefni, Llangefni.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd ag amod ychwanegol mewn perthynas â gwarchod rhywogaethau ar y tir ac y cynhelir asesiad anghenion o ran llygredd a draeniad y tir.   

 

8.2   45LPA1029A/CC/ECON – Cais llawn ar gyfer codi ysgol gynradd newydd ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger

         Morawelon, Niwbwrch.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd. 

 

Dyddiad cyhoeddi: 14/06/2017

Dyddiad y penderfyniad: 14/06/2017

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/06/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Dogfennau Cefnogol: