Manylion y penderfyniad

Development Proposals Submitted by Councillors and Officers

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Statws Penderfyniad : Er Penderfyniad

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

11.1      21C76G – Cais llawn ar gyfer ail-leoli’r sied ardd bresennol, addasu ac ehangu ynghyd â chodi ffens newydd ar y ffin yn 4 Maes y Coed, Llanddaniel

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.  

 

11.2      36C351 – Cais llawn i ddymchwel yr annedd bresennol ynghyd â chodi annedd newydd yn ei lle, codi garej a storfa offer, cau’r fynedfa gerbydau sy’n gwasanaethu’r annedd bresennol, estyniad i’r cwrtil, addasiadau i’r fynedfa amaethyddol bresennol er mwyn gwasanaethu’r annedd arfaethedig a chreu mynedfa amaethyddol newydd i’r cae cyfagos yn Ty Llwyd, Rhostrehwfa.

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd.  

 

11.3      41C99W/LUC – Cais am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon ar gyfer codi estyniad y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar ei gyfer dan Ddosbarth A, Rhan 1 Atodlen 2 o'r Gorchymyn Cynllunio Gwlad A Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2013 yn  Nant y Felin, Bryn Gof, Star.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

Dyddiad cyhoeddi: 20/06/2017

Dyddiad y penderfyniad: 14/06/2017

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/06/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Dogfennau Cefnogol: