Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Statws Penderfyniad : Er Penderfyniad
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
12.1 19LPA1025E/CC/VAR – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amodau (02) (rhestr waith) a (04) (cynllun rheoli traffig) o ganiatâd cynllunio rhif 19LPA1025/CC (newid defnydd cyn neuadd y farchnad yn llyfrgell, swyddfa a siop goffi ategol) er mwyn gallu cyflwyno'r manylion yn raddol ar adegau y cytunwyd arnynt yn Neuadd y Farchnad, Stryd Stanley, Caergybi.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 31C79H – Cais llawn ar gyfer newid defnydd siop (dosbarth defnydd A1) yn siop prydau poeth parod (dosbarth defnydd A3) yn 3 Mulcair House, Llanfairpwll
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.3 37C197B – Cais llawn ar gyfer newid defnydd y cyfleusterau cyhoeddus yn gaffi yng Nghyfleusterau Cyhoeddus, Brynsiencyn.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig, ynghyd ag amod ychwanegol ar y caniatâd sy’n nodi manylion y cyfleuster echdynnu arogl y mae angen ei osod cyn i’r cyfleuster agor.
12.4 37C198 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn Fodol, Llanedwen.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.5 39LPA1036/CC – Cais llawn i gael gwared ar y ffens bresennol, codi ffens newydd diogelwch 2.1m o uchder ynghyd â thorri a gwneud gwaith ar goed sydd wedi eu diogelu gan Orchymyn Diogelu Coed yng Nghronfa Ddŵr Porthaethwy, Porthaethwy.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig, ynghyd ag amod ychwanegol er mwyn sicrhau mesurau osgoi rhesymol er mwyn gwarchod madfallod dŵr cribog ar y safle.
12.6 44C340 – Cais llawn i ddymchwel yr annedd bresennol ynghyd â chodi annedd newydd ym Mhlas Main, Rhosybol
Nodi fod y cais wedi’i dynnu’n ôl gan yr ymgeiswyr.
Dyddiad cyhoeddi: 14/06/2017
Dyddiad y penderfyniad: 14/06/2017
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/06/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dogfennau Cefnogol: