Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfynwyd bod cyfnod o ymgysylltu yn cael ei gynnal yn lleol yn ardal Seiriol yn ystod Tachwedd, 2017 mewn perthynas â’r materion canlynol:
· Datblygu tai gofal ychwanegol yn ardal Seiriol er mwyn darparu o leiaf 39 o fflatiau hunan-gynhaliol yn unol â modelau darpariaeth a gymeradwywyd yn genedlaethol.
· Y safle sy’n cael ei ffafrio ar gyfer y datblygiad hwn yw safle cyfredol Ysgol Biwmares naill ai wedi ei gyd-leoli gydag ysgol wedi’i haddasu neu fel yr unig ddefnydd ar gyfer y tir hwn.
· Bod y Cyngor yn mynd ar ôl opsiynau i gyllido’r datblygiad drwy’r Cyfrif Refeniw Tai fel bod y datblygiad yn cael ei ychwanegu at y stoc dai yn y sir gan ddarparu llety hanfodol ar gyfer pobl hŷn.
Dyddiad cyhoeddi: 30/10/2017
Dyddiad y penderfyniad: 30/10/2017
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 30/10/2017 - Pwyllgor Gwaith
Dogfennau Cefnogol: