Manylion y penderfyniad

Materion Eraill

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Statws Penderfyniad : Er Penderfyniad

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

13.1      12C49P/DEL - Cais dan Adran 73 i dynnu amod (09) (cyfyngu oedran y preswylydd) o ganiatâd cynllunio rhif 12C49M/VAR (codi 35 o fflatiau preswyl) yn Casita, Biwmares.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·         Darganfod yn y lle cyntaf a yw’r Cynghorydd Lewis Davies (cyn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ac Aelod Lleol) yn fodlon cyfrannu at yr apêl ar ran y Cyngor ar y cyd â’r Cynghorydd John Griffiths.

 

·         Y bydd Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion  yn cyfrannu at yr apêl ar y cyd â’r Cynghorydd John Griffiths os nad yw’r Cynghorydd Lewis Davies ar gael.

 

13.2      Gorchymyn Rheoli Traffig ar gyfer Niwbwrch a Phenlon.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cynnig diwygiedig sydd yn yr adroddiad a mynd ati i gadarnhau’r Gorchymyn Rheoli Traffig a’r Cynllun yn seiliedig ar Adran 3.1 ac Atodiad 3 o’r Adroddiad.

 

Dyddiad cyhoeddi: 01/11/2017

Dyddiad y penderfyniad: 01/11/2017

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 01/11/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Dogfennau Cefnogol: