Manylion y penderfyniad

Draft Revenue Budget 2018/19

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

 

     Bod swm o £125k yn cael ei gynnwys yn y gyllideb derfynol i gyllido’r Tîm Ynys Ynni a bod y swm hwn yn cael ei gadw yn y gyllideb am y cyfnod y bydd angen y Tîm fel y nodir ym mharagraff 3.2 yr adroddiad.

 

     Bod y grantiau sydd wedi eu hymgorffori yn y Cyllid Allanol Cyfun (AEF) a'r cyllid ychwanegol ar gyfer cyfrifoldebau newydd yn cael eu dyrannu i'r cyllidebau priodol fel y caniatawyd ar gyfer hynny yn y gyllideb ddisymud yn unol â pharagraffau 5.4 a 5.5 yr adroddiad;

 

     Cadarnhau bod angen cyllideb wrth gefn o £600k i dalu unrhyw gostau tâl ychwanegol (fel y caniatawyd ar ei gyfer yn y gyllideb ddisymud). Adolygu gwerth y gronfa wrth gefn hon cyn penderfynu ar y cynigion ar gyfer y gyllideb derfynol (paragraff 6.1 yr adroddiad);

 

     Ymgynghori gyda’r cyhoedd ynghylch cynnydd ychwanegol o 1% yn y Dreth Gyngor uwchlaw’r cynnydd o 4% sydd wedi ei bennu yn y Cynllun Ariannol Tymor Canol a bod y cyllid yn cael ei roi o’r neilltu i gyllido'r pwysau ychwanegol sydd ar y Gwasanaethau Cymdeithasol yn unol â pharagraff 6.5 yr adroddiad;

 

     Cymeradwyo’r gyllideb ddisymud o £132.337m ar gyfer 2018/19 ac y dylai hyn fod yn sail ar gyfer cyllideb refeniw 2018/19 (paragraff 7.1 yr adroddiad);

 

     Bod y swm a neilltuwyd i brosiectau tai drwy’r premiwm ar gyfer tai  gwag ac ail gartrefi yn aros ar yr un lefel â 2017/18 yn unol â pharagraff 9.2 yr adroddiad);

 

     Y dylai'r Pwyllgor Gwaith geisio gwneud digon o arbedion yn 2018/19 i gydbwyso'r gyllideb refeniw heb orfod defnyddio cronfeydd wrth gefn cyffredinol ac er mwyn sicrhau bod yr arbedion y mae angen eu gwneud yn 2019/20 yn gyraeddadwy (paragraff  9.6 yr adroddiad);

 

     Bod y Pwyllgor Gwaith yn ceisio barn y cyhoedd ar yr arbedion arfaethedig ac yn gofyn am awgrymiadau ar gyfer cynhyrchu incwm.

 

     Bod y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn ei  ymateb i’r datganiad ar y setliad refeniw dros dro yn gofyn am eglurhad gan Lywodraeth Cymru ynghylch y swm a fydd yn cael ei ddyrannu i Ynys Môn o’r £42m a’r £62m sydd wedi ei neilltuo ar gyfer Cymru gyfan ar gyfer cynyddu’r ddarpariaeth ar gyfer ysgolion a gofal cymdeithasol yn y drefn honno.

 

     Bod Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i fynegi pryderon y Pwyllgor Gwaith ynghylch diffyg tryloywder mewn perthynas â’r gostyngiad mewn rhai grantiau cyfalaf a fydd yn cael sgil-effaith ar y gyllideb refeniw, e.e. gwastraff a thrafnidiaeth ynghyd â diffyg eglurder o ran y cynnydd yn y ddarpariaeth ar gyfer elfennau ysgol a gofal cymdeithasol y cyfeirir atynt uchod.

Dyddiad cyhoeddi: 06/11/2017

Dyddiad y penderfyniad: 06/11/2017

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 06/11/2017 - Pwyllgor Gwaith

Dogfennau Cefnogol: