Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfynwyd –
· Cymeradwyo Opsiwn 2, sef adeiladu ysgol newydd ar gyfer ysgolion Bodffordd a Corn Hir a pharhau i gynnal darpariaeth addysgol yn Llangristiolus naill ai drwy gynnal Ysgol Henblas ar ei ffurf gyfredol neu fel ysgol aml-safle [h.y. uno Henblas gyda’r ysgol newydd a chreu un ysgol ar ddau safle]. Byddai rhaid i’r penderfyniad hwn fod yn gysylltiedig â chael sicrwydd mewn blwyddyn [h.y. erbyn diwedd blwyddyn ysgol 2018/19] bod safonau yn Ysgol Henblas yn codi, bod cyflymder cyfredol y gwelliant yn cynyddu a bod y rhagolygon o ran niferoedd disgyblion yn parhau’n gyson neu yn codi.
· Bod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda Chyngor Cymuned Bodffordd a chyda cymuned Bodffordd er mwyn diogelu a chadw’r neuadd gymuned. Y trafodaethau hynny i gychwyn yn ystod y 6 wythnos nesaf.
Dyddiad cyhoeddi: 30/04/2018
Dyddiad y penderfyniad: 30/04/2018
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 30/04/2018 - Pwyllgor Gwaith
Dogfennau Cefnogol: